Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon/ Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Jina Gwyrfai a Sasha Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 325 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2023 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 3 2022-23 pdf eicon PDF 124 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Arweinydd a swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd ar berfformiad Chwarter 3 2022-23 Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn unol â chais y pwyllgor.

 

Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun drwy gyflwyno diweddariad byr ar waith y Cynllun Twf, rhywfaint o’r cefndir i sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ynghyd â manylion y gwahanol gynlluniau sy’n berthnasol i Wynedd.  Yna rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau drosolwg o’r Cynllun Twf a phrif uchafbwyntiau 2022-23.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd sut y bwriadai’r Bwrdd Uchelgais ffurfio polisi iaith ar gyfer prosiect Trawsfynydd er mwyn sicrhau na fydd y datblygiad a’r gweithlu yn Seisnigeiddio’r ardal.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod hwn yn brosiect sy’n llwyr ddibynnol ar fuddsoddiad Llywodraeth y DG, ac nad oedd yna unrhyw bendantrwydd ynglŷn â hynny.

·         O safbwynt polisi iaith, y byddai cwmni Egino yn cynnal gweithdy yn fuan i edrych ar y buddion cymdeithasol, gan gynnwys y buddion ieithyddol.

 

Nodwyd mai’r risg mwyaf o ran cyflawni amcanion y Cynllun Twf yw sicrhau buddsoddiad sector gyhoeddus a phreifat, a holwyd pa gamau y bwriedid eu cymryd petai capasiti’r sectorau hynny i fuddsoddi yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf oherwydd y sefyllfa ariannol sydd ohoni.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod amgylchiadau economaidd wedi newid yn ddirfawr ers i’r Cynllun Twf gael ei gytuno yn 2020, a bod yr argyfwng ariannol yn her sy’n cael ei osod o’n blaenau yn gyson lle mae cyfraniad gan y sector breifat.

·         Bod y Bwrdd Cyflawni Busnes, sydd â chynrychiolwyr o’r sector breifat, yn cyfarfod i drafod prosiectau yn gyson, dan arweiniad Askar Sheibani, sy’n rhedeg ei fusnes digidol rhyngwladol ei hun ac sy’n hynod frwdfrydig dros Ogledd Cymru gyfan.

·         Mai’r unig sicrwydd y gellid ei roi ar hyn o bryd oedd bod hwn yn fater sy’n cael sylw, a chredid bod yna awydd ymysg y sector breifat i fuddsoddi, cyhyd â bod yr amgylchiadau’n iawn.

·         Bod Swyddfa Rhaglen Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’r sector breifat ar brosiectau penodol, a bod y sector yn edrych i fuddsoddi ar hyn o bryd. 

·         Y cydnabyddid bod risg y gallai’r capasiti i fuddsoddi newid dros y blynyddoedd i ddod, ac roedd y Swyddfa Rhaglen yn gweithio’n agos iawn gyda’r 2 Lywodraeth ar hyn.  O bosib’ y byddai angen mwy o fuddsoddiad sector gyhoeddus petai’r buddsoddiad sector preifat ddim yna, ond ar hyn o bryd, roedd y sefyllfa’n edrych yn weddol bositif.

·         Bod y Swyddfa Rhaglen yn datblygu strategaeth gyda’r Bwrdd Cyflawni Busnes i sicrhau bod modd dod â’r strategaeth yma ymlaen, ac un o’r pethau penodol a wnaethpwyd fel rhan o’r galw am brosiectau newydd i’r gronfa £30m oedd rhoi pwyslais cryf ar allu busnesau i fuddsoddi fel rhan o’r broses yma.

·         Bod hyn yn ganran fawr o beth fydd yr asesiad fel bod modd sicrhau bod unrhyw brosiectau sy’n dod ymlaen yn gallu symud yn gyflym i gyflawni.  Gobeithid y byddai hynny’n lleihau rhai o’r risgiau, ond y risg mwyaf i allu cyflawni buddion y Cynllun Twf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADDYSG A'R GYMRAEG: GWELEDIGAETH NEWYDD AR GYFER CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI TUAG AT 2032 A THU HWNT pdf eicon PDF 508 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg, ar gais y pwyllgor, yn cyflwyno gwybodaeth gefndirol am weledigaeth y gyfundrefn addysg drochi, ynghyd â darparu atebion i gwestiynau a dderbyniwyd ymlaen llaw gan y craffwyr ynglŷn â threfniadau’r ddarpariaeth addysg drochi yng Ngwynedd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi fod y ddau gynllun yn ardal Bangor, sef Prosiect Trochi Cyfnod Sylfaen Dalgylch Bangor a Phecyn Cefnogi Dysgwyr Blynyddoedd 5 a 6 i’w hannog i ddewis dilyn llwybr Addysg Gymraeg wrth drosglwyddo i’r Uwchradd yn nalgylch Bangor, yn ddarnau o waith pwysig a phellgyrhaeddol i blant yr ardal honno.  Mynegodd ei hedmygedd o’r gwaith yn y canolfannau iaith, a diolchodd yn swyddogol i’r staff am y gwaith.

 

Dangoswyd fideo byr i’r aelodau yn rhoi blas o’r Cynllun ABERWLA.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd ar ba sail y daethpwyd i’r casgliad ei bod yn llesol i beidio trochi plant yn gynnar, ac awgrymwyd bod dod â’r plant sy’n cael eu trochi yn ôl i’r fam ysgol am ddiwrnod bob wythnos yn dadwneud y trochi sy’n digwydd yn y ganolfan iaith am y 4 diwrnod arall.

 

Mewn ymateb nodwyd:-

·         Bod pennaeth ar y fideo ABERWLA yn sôn am fanteision amlwg cael y plant yn dychwelyd i’r fam ysgol am ddiwrnod yr wythnos.

·         Bod y pandemig wedi amlygu pwysigrwydd lles, gan fod plant wedi bod am gyfnodau hir heb gael cymysgu â’u cyfoedion.  Casglwyd y byddai’n syniad da i’r plant sy’n cael eu trochi gael y cyfle i ddal i fyny â’u cyfoedion yn yr ysgolion ar un diwrnod o’r wythnos, ac roedd y trochi’n digwydd mewn cyd-destun gwahanol i raddau yn y fam ysgol, a hynny wedyn yn gynyddol wrth i’r plentyn fynd drwy’r drefn.

·         Bod penaethiaid uwchradd bellach yn adrodd ei bod yn haws perswadio rhieni i anfon eu plant i ganolfannau trochi oherwydd bod y plant hynny yn cadw rhywfaint o gyswllt hefo’u cyfoedion.

·         Mai prosiect newydd yw’r 5ed diwrnod yn yr ysgol, ac yn ogystal â’r manteision yng nghyd-destun llesiant, bod yna fanteision addysgiadol hefyd.

·         Bod y berthynas rhwng staff yr ysgolion a staff y canolfannau sy’n mynychu’r fam ysgol yn wythnosol wedi cryfhau ymhellach o ganlyniad i rannu arferion trochi, rhannu adnoddau a thrafod sut i oresgyn unrhyw heriau mae’r plant yn wynebu yn ôl yn yr ysgol.

·         Bod yr ymweliadau â’r fam ysgol yn amrywio, gyda rhai athrawon yn dymuno i staff y ganolfan aros yn y dosbarth i gefnogi’r gweithgarwch.  Roedd hynny’n annog trafodaeth ar gyrchu dulliau trochi effeithiol, ac roedd yna sefyllfaoedd hefyd lle mae plant yn derbyn sylw un i un, neu mewn grŵp bychan, a bod y plant eraill yn elwa o’r profiad hefyd.

·         Er y manteision, y cydnabyddid bod yna heriau hefyd, ac wrth ddod i ddiwedd tymor cyntaf y drefn newydd, bwriedid casglu barn rhanddeiliaid, gan bwyso a mesur a gwerthuso’r drefn newydd, ac adolygu’r trefniadau os oes angen.

·         Bod dau riant sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUNIO'R GWEITHLU pdf eicon PDF 407 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Jones

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a swyddogion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i’r cyfarfod.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol grynodeb o gynnwys yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o sefyllfa’r Cyngor mewn perthynas â recriwtio a chadw staff, yn cyfeirio at yr heriau dros y misoedd diwethaf a’r camau sydd eisoes yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa, ac yn rhoi trosolwg o amcanion hirdymor y Cyngor ar gyfer cynllunio’r gweithlu.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd a roddid blaenoriaeth i lenwi swyddi statudol dros swyddi eraill.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod yna elfen o flaenoriaethu yn sicr, a bod honno’n drafodaeth gyson rhwng y Gwasanaeth Adnoddau Dynol a’r adran sy’n cyflogi. 

·         Na chredid mai pris y farchnad yw’r ateb i bob problem, ond byddai cost yn dod yn rhan anochel o hynny os oes yna nifer o swyddi statudol i’w llenwi.

 

Nododd yr aelod ei fod yn derbyn bod y sefyllfa’n anodd, ond bod methu cyflogi, e.e. swyddogion gorfodaeth, yn arwain at sefyllfa lle mae’r gwaith yn ôl-gronni dros gyfnod o amser.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod adnabod y swyddi blaenoriaeth hefyd yn gweithio drwodd i’r Rhaglen Prentisiaethau, sy’n edrych ar ble mae’r bylchau wedi bod, ac yn annog prentisiaid yn y meysydd hynny i’r dyfodol.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn un cryno, i bwrpas a gonest, sy’n dangos yn glir lle mae’r diffyg.  Gofynnwyd am enghreifftiau o ddulliau creadigol o ddenu gweithwyr, gwybodaeth ynglŷn â faint o brentisiaid sydd wedi aros gyda Chyngor Gwynedd, a beth sydd wedi gweithio, a ddim wedi gweithio, o ran y Cynllun Profiad Gwaith.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         O ran beth sydd wedi gweithio, a ddim wedi gweithio, mai’r hen ffordd o weithio oedd meddwl bod un ateb yn ateb pob cwestiwn a bod un dull yn gallu taclo pob problem.  Sylweddolwyd bellach bod angen cyfathrebu gyda gwahanol gynulleidfaoedd mewn ffyrdd gwahanol, e.e. mwy fyth o ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol gyda rhai carfanau, a mwy o ddefnydd o recriwtio’n lleol neu o ddefnyddio’r wefan gyda charfanau eraill.

·         Bod y Cyngor yn datblygu gwefan recriwtio newydd ar hyn o bryd, a bod yna dipyn mwy o esblygiad yng nghynnwys y wefan yna na’r hyn sydd yna ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o ddwyn ar brofiadau staff presennol, a cheisio defnyddio eu profiadau hwy fel dull o werthu’r Cyngor.

·         O ran y Cynllun Profiad Gwaith, mai’r bwriad oedd ceisio agor llygaid plant a phobl ifanc i’r hyn sydd gan y Cyngor i’w gynnig fel cyflogwr, a rhoi profiadau gwerth chweil i unigolion.

·         Bod yna lawer o waith ymateb a dysgu am wahanol ddulliau oherwydd bod pob cyflogwr yn chwilio am yr ateb gorau ar y pryd.

·         Bod y gwahanol gynlluniau prentisiaethau a hyfforddeion yn sicr yn gynlluniau creadigol, a bod llawer o gefnogaeth yn cael ei roi i’r unigolion sydd ar y cynlluniau hynny er mwyn iddyn nhw fedru datblygu’n llawn yn eu rolau a datblygu gyrfaoedd gyda’r Cyngor.

 

Awgrymwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD CYLLID pdf eicon PDF 196 KB

Enwebu cynrychiolydd i fynychu Cyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran Gyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Enwebu’r Cynghorydd Paul Rowlinson i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Gyllid, a chysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i holi am gynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn lle’r Cynghorydd Paul Rowlinson.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu yn gwahodd y pwyllgor i enwebu cynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Gyllid yn lle’r Cynghorydd Elin Hywel, oedd wedi sefyll i lawr o fod yn aelod o’r pwyllgor.

 

Cynigiwyd enw’r Cynghorydd Paul Rowlinson.  Nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson y byddai’n fodlon cael ei enwebu, cyn belled â bod y pwyllgor yn enwebu cynrychiolydd arall i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn ei le.

 

Gan fod sawl aelod wedi gadael y cyfarfod, ac eraill yn absennol, awgrymwyd cysylltu â holl aelodau’r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod i holi am gynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, ac enwebu’r aelod hwnnw yn ffurfiol yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Paul Rowlinson i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Gyllid, a chysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i holi am gynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn lle’r Cynghorydd Paul Rowlinson.