Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD penodi y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2023/24.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2023/24.

 

Cofnod:

Cynigiwyd dau enw ar gyfer yr Is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorwyr Paul Rowlinson a Richard Glyn Roberts, ond gofynnodd y Cynghorydd Richard Glyn Roberts i’w enw gael ei dynnu nôl gan na fyddai ganddo amser digonol i ymgymryd â’r rôl.

 

Tynnodd y cynigydd ei chynnig yn ôl.

 

PENDERFYNWYD penodi y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2023/24.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 440 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

 

7.

GWASANAETH CYNLLUNIO ARGYFWNG RHANBARTHOL pdf eicon PDF 435 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Trenholme

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a chynrychiolydd Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r trefniadau ar waith mewn perthynas â Chynllunio Argyfwng o fewn y Cyngor, ac yn benodol:-

 

·         Sut mae’r gwasanaeth rhanbarthol yn cyfrannu at wydnwch a diogelwch cymunedau yng Ngwynedd?

·         Beth yw rhaglen waith y gwasanaeth ar hyn o bryd?

·         Beth yw’r strwythur o fewn Cyngor Gwynedd i ymateb i sefyllfa frys neu argyfwng?

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd a oedd yna gynllun argyfwng llygredd yr arfordir penodol i Wynedd, gan ei bod yn hollbwysig bod y sir ei hun yn rhan allweddol o unrhyw gynllun adfer yn dilyn achos o lygredd.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod yna gynllun drafft a arferai gael ei ddefnyddio ar gyfer Gwynedd flynyddoedd yn ôl, a bod adolygu’r Cynllun Gweithredu’r Arfordir yn un o flaenoriaethau’r Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng eleni. 

·         Bod y Gwasanaeth yn edrych ar yr ymarfer gorau ar draws Lloegr a Chymru gyda’r nod o greu templed sy’n addas ar gyfer Gwynedd.

 

Mynegwyd pryder bod patrwm yng Ngwynedd o beidio glanhau cyrsiau dŵr nac o garthu o gwmpas pontydd, a nodwyd y dymunid gweld pwysau yn cael ei roi ar Gyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd.  Nodwyd mai problem adnoddau oddi fewn i Gyfoeth Naturiol Cymru oedd hyn yn ei hanfod, ond roedd yn hanfodol bod y gwaith yn cael ei gyflawni gan fod problemau bychain yn mynd yn broblemau mawr, os nad oes lle i’r dŵr fynd.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod yna gyfrifoldebau penodol yn perthyn i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd yn y cyd-destun hwn.

·         Y credid bod y Strategaeth Llifogydd, fydd yn cael ei gyflwyno yn yr Hydref, yn rhoi llawer o bwyslais ar gydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod Sir y Fflint yn cyfrannu llai na’u siâr yn ôl poblogaeth at y Gwasanaeth Rhanbarthol oherwydd eu bod yn lletya’r cynllun.

 

Nodwyd yr angen i gywiro’r cyfeiriadau at ‘Fforwm Gwydnwch Gogledd Cymru’ a ‘Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru’ yn yr adroddiad i ddarllen ‘Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd’.

 

Nodwyd mai un o’r risgiau sy’n cael ei adnabod yn yr adroddiad yw’r Pandemig Cofid-19, a holwyd pa mor gydnerth oedd ein paratoadau ar gyfer argyfwng o’r fath; pa mor effeithiol oedd ein hymateb yng Ngwynedd ac ar draws y Gogledd, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i ddysgu o’r profiad ac i wella ein hymateb yn y dyfodol o ran cydnerthedd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Mae’n debyg ei bod yn wir i ddweud bod Gwynedd mor barod ar gyfer y pandemig ag unrhyw sir arall, ac na fyddai neb wedi rhagweld y math o argyfwng a gododd yn ystod y cyfnod hynny.

·         Bod yna gynllun rhanbarthol i ymateb i bandemig, a chynhaliwyd ymarfer rhanbarthol ychydig fisoedd cyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CANOL TREFI GWYNEDD pdf eicon PDF 403 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a chael diweddariad ar y mater ymhen tua blwyddyn.

 

Cofnod:

Croesawyd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi, y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned a’r Rheolwr Rhaglenni Adfywio i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor i ystyried y canlynol yng nghyd-destun y ffaith mai elfen o’r prosiect “Adfywio cymunedau a chanol tref” yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 yw paratoi cynlluniau gweithredu Canol Tref/Dinas ar gyfer trefi unigol:-

 

·         Y trefniadau ar gyfer paratoi cynlluniau gweithredu

·         Pwy sydd yn cael ei gynnwys wrth eu datblygu?

·         Sut y bwriedir mesur effaith y cynlluniau gweithredu?

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac ymhelaethodd y Rheolwr Rhaglenni Adfywio ar gynnwys yr adroddiad.  Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gofynnwyd beth oedd y trefniadau ar gyfer monitro bod yr holl gynlluniau aml-haenog a thrawsadrannol hyn yn gweithio’n effeithiol ac yn amserol, a holwyd a oedd gan y Cyngor gapasiti digonol ar gyfer ymgymryd â’r gwaith?  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y bu’r Cyngor yn gweithio drwy fforwm trawsadrannol dros y 2-3 blynedd ddiwethaf yn dod â materion canol tref at ei gilydd, a dyna’r bwriad o ran y cynllun hwn, fel bod yna fewnbwn a chynrychiolaeth gan wahanol adrannau.

·         Bod yr hyn fyddai’n cael ei fonitro yn ddibynnol iawn ar gynlluniau gweithredu unigol o fewn canol trefi, a chredid bod lle ymhob canol tref yng Ngwynedd i naill ai ddatblygu neu ddiweddaru cynllun canol tref er mwyn adnabod y blaenoriaethau, a monitro’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau hynny.

·         Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, y gwelwyd yr angen i gryfhau’r data a gedwir ar gyfer ardaloedd canol trefi.  Roedd peth data hanesyddol ar gael, ond credid bod lle i osod data ychydig cryfach ar gyfer trefi unigol, yn hytrach nag yn sirol, fel bod hynny’n fodd o fonitro’r tueddiadau.

 

Holwyd beth fyddai’n digwydd petai cynlluniau’n llithro.  Mewn ymateb, nodwyd bod y ffrwd gwaith yma wedi’i adnabod fel un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ac y byddai’n rhan bwysig o drefniadau rheoli perfformiad yr Adran dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Holwyd pa mor hyderus oeddem fod yna gyllid digonol ar gael o’r rhaglen Trawsnewid Trefi i wireddu’r hyn y ceisir ei gyflawni, sy’n eithaf uchelgeisiol?  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Ein bod ym mlwyddyn 2 o’r rhaglen 3 blynedd Trawsnewid Trefi ar hyn o bryd, a byddai’n rhaid cynllunio ymlaen ar y sail y bydd yna raglen adfywio ddilynol.

·         Bod arian Llywodraeth Prydain, sef yr arian Ffyniant Bro a Ffyniant Cyffredin, wedi profi i fod yn arian sylweddol uwch na’r hyn sydd gan y rhaglen Trawsnewid Trefi i’w gynnig, ond y gwelwyd dros y 2 flynedd ddiwethaf o raglenni Llywodraeth Prydain fod angen i gynlluniau fod bron yn barod i gychwyn er mwyn bod yn gymwys am yr arian.

·         Bod angen rhagbaratoi’r cynlluniau a cheisio rhagdybio beth sy’n mynd i ddigwydd o ran rhaglenni presennol Llywodraeth Prydain, gan gymryd bod y ffocws yn mynd i barhau ar ganol trefi.

·         Bod Gwynedd, ar y cyd â sefydliadau eraill, megis Hwb Caernarfon, wedi cychwyn gweithredu rhaglen Trefi Smart Llywodraeth Cymru  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2023/24 pdf eicon PDF 579 KB

Cyflwyno blaenraglen ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 i’w mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd - blaenraglen y pwyllgor ar gyfer 2023/24.

 

Cytunwyd i:-

 

·         Adnabod eitemau dros gyfnod o 18 mis, er mwyn hwyluso paratoi ar gyfer cyfarfodydd cyntaf 2024/25;

·         Rhaglennu diweddariad ar yr eitem Canol Trefi Gwynedd o gwmpas yr adeg hon y flwyddyn nesaf;

·         Ychwanegu Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y prif lif ac ysgolion arbennig fel eitem bosib’ ar y flaenraglen.

 

Gofynnwyd i’r Ymgynghorydd Craffu drafod y flaenraglen gyda’r Cadeirydd a chyflwyno’r flaenraglen ddiwygiedig i’r cyfarfod nesaf, neu cyn hynny drwy e-bost i’r aelodau.

 

Yna cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau mewn perthynas â threfniadau’r cyfarfodydd:-

 

Awgrymwyd bod y pwyllgor hwn yn cael ei ddominyddu gan eitemau addysg, a holwyd a fyddai’n bosib’ sefydlu trefn o gael un cyfarfod i graffu materion addysg, a chyfarfod dilynol i graffu materion mwy economaidd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y ceisid lledaenu’r materion ar draws y flwyddyn gyfan fel nad yw’r holl bwysau yn disgyn ar un adran ar gyfnod penodol.

·         Y gellid rhoi’r eitemau economi yn gyntaf ar y rhaglen, ond bod yr aelodau cyfetholedig yn mynychu ar gyfer yr eitemau addysg yn benodol, er bod croeso iddynt aros drwy gydol y cyfarfod.

 

Awgrymwyd nad oedd presenoldeb yr aelodau cyfetholedig ar gyfer yr eitemau addysg yn unig yn ddigon o reswm i roi’r eitemau economi / corfforaethol yn olaf ar y rhaglen bob tro, a bod angen sefydlu trefn am-yn-ail, gan roi gwybod i’r aelodau cyfetholedig pan mae’r drafodaeth ar y materion addysg ar fin cychwyn.

 

Nododd aelod ei bod yn cofio cais yn cael ei wneud i wahanu materion addysg ac economi, a bod hynny wedi ei wneud yn dwt yn y blaenraglen, ond bod angen rhoi ystyriaeth i gael cydbwysedd o ran trefn yr eitemau ar raglenni cyfarfodydd Pwyllgor.  Ymhelaethodd y byddai’n well ganddi weld dau bwyllgor craffu cwbl ar wahân, y naill ar gyfer craffu materion addysg, a’r llall ar gyfer craffu materion economi / corfforaethol, oherwydd y llwyth gwaith.  Awgrymodd aelod arall y dylai materion economi gael eu craffu gan y Pwyllgor Cymunedau gan fod yna lawer o orgyffwrdd rhwng y ddau faes, a bod llwyth gwaith y pwyllgor hwnnw yn ysgafnach.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd:-

 

·         Yn sgil yr adolygiad o effeithiolrwydd craffu yng Ngwynedd, a chyfweliadau gyda rhai aelodau, y disgwylid adroddiad drafft gan Archwilio Cymru yn fuan.

·         Y rhoddwyd addewid adeg yr etholiad llynedd, pan sefydlwyd y drefn bresennol o rannu cyfrifoldebau rhwng y 3 phwyllgor craffu, y byddai’r drefn honno’n cael ei hadolygu ymhen 18 mis.

·         Bod bwriad, felly, yn yr Hydref, i adolygu’r drefn bresennol, ynghyd â’r hyn fydd yn cael ei argymell yn adroddiad Archwilio Cymru, a byddai gan yr aelodau fewnbwn i unrhyw newidiadau fyddai’n deillio o hynny.

 

Nododd aelod nad oedd yn ymwybodol bod cyfle wedi bod i’r aelodau roi sylwadau i Archwilio Cymru, gan ddatgan y byddai’n falch petai cyfle eto i’r cynghorwyr roi sylwadau yn unigol.  Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid ymgynghori â’r craffwyr o ran yr adolygiad mewnol o’r drefn graffu, a byddai’r aelodau yn cael eu hysbysu o’r trefniadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD CEFNOGAETH GORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL pdf eicon PDF 200 KB

Enwebu cynrychiolydd i fynychu Cyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Gwasanaeth Cyfreithiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu yn gwahodd y pwyllgor i enwebu cynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Gwasanaeth Cyfreithiol, yn lle’r Cynghorydd Paul Rowlinson, oedd bellach wedi’i enwebu i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Gyllid.

 

PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd Cai Larsen i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Gwasanaeth Cyfreithiol.