skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies, Alan Jones Evans, Medwyn Hughes, Elin Walker Jones, Linda Ann Jones.  Hefyd y Cynghorydd W.Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 123 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

(a)        6ed Tachwedd, 2018 – Cyfarfod Arbennig (ynghlwm)

(b)        15fed Tachwedd, 2018 (ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 6ed a’r 15fed o Dachwedd, 2018 fel rhai cywir.

 

 

5.

POBL IFANC SY'N GADAEL GOFAL Y CYNGOR pdf eicon PDF 89 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Derbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*10.30yb – 11.00yb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwydadroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc yn darparu gwybodaeth i’r pwyllgor ar bobl ifanc sy’n gadael gofal, gan gyfeirio’n benodol at:-

 

·         gynnydd y Cyngor yn erbyn adroddiad Breuddwydion Cudd y Comisiynydd Plant;

·         Y Cynllun Pan Fyddai’n Barod;

·         cysylltiad gyda’r Panel Rhiant Corfforaethol;

·         cyrhaeddiad plant mewn gofal; a

·         gwasanaethau allsirol yn Gymraeg.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau. 

 

Amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Amlygir llwyddiant y gwasanaeth a gynigir i bobl ifanc rhwng 21 a 25 oed gan y ffaith bod 38 o’r 40 achos sy’n agored wedi dewis parhau i dderbyn y gefnogaeth.

·         Croesawyd y ffaith bod y cynghorwyr personol yn cynorthwyo’r bobl ifanc i hawlio’r gefnogaeth ariannol sydd ar gael iddynt.

·         Mynegwyd cefnogaeth i’r trefniadau cydweithio gyda’r prifysgolion sydd bellach yn rhoi cydnabyddiaeth i sefyllfa pobl ifanc sy’n gadael gofal, e.e. drwy ganiatáu ymestyn hyd eu cwrs.

·         Nodwyd ei bod yn amlwg bod dealltwriaeth yr adran o ddatblygiad y bobl ifanc wedi gwella a’u bod felly’n gallu rhoi’r gefnogaeth briodol iddynt ar yr adeg iawn.

·         Awgrymwyd bod geiriad llythyr y gwasanaeth at ymadawyr gofal (a gynhwyswyd yn yr atodiad i’r adroddiad) yn hir ac yn gymhleth ac y gallai fod yn fwy cynhwysol.  Er hynny, cydnabyddid yr anhawster oherwydd y disgwyliad i’r llythyr gyd-fynd ag adroddiad y Comisiynydd Plant.

·         Roedd yn dda gan yr aelodau ddeall bod grŵp brwdfrydig o bobl ifanc a gweithwyr yn awyddus i ail sefydlu grŵp llety a chefnogaeth pobl ifanc a chroesawyd y bwriad i ymgysylltu â’r bobl ifanc hynny drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

·         Pwysleisiwyd mai’r hyn sy’n bwysig yw bod yr unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial, ac er bod hynny’n cael ei fesur gan yr adran, nid yw’n cael ei arddangos yn ystadegau’r Llywodraeth ar ganlyniadau TGAU plant mewn gofal.

 

I grynhoi, diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am yr wybodaeth a’r atebion i’r cwestiynau, gan nodi ei bod yn amlwg bod y gwasanaeth yn gwneud eu gorau dros bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

 

Nododd yr Aelod Cabinet ei fod yntau’n dymuno achub ar y cyfle i ddiolch i’r Tîm Ôl-16 am fynd y filltir ychwanegol yn cynorthwyo’r bobl ifanc hyn.

 

Gadawyd copïau o astudiaeth achos unigolyn a dderbyniodd gymorth gan gynllun ADTRAC (cynllun i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Ngogledd Cymru sy’n wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag mynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant) gyda’r aelodau ar ddiwedd y cyfarfod.

 

6.

TALIADAU TAI DEWISOL pdf eicon PDF 110 KB

Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Craig ab Iago a Peredur Jenkins

 

Derbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*10.30yb – 11.00yb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwydadroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid a’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant yn ateb ymholiadau’r pwyllgor yn eu cyfarfod blaenorol am wariant y Cyngor ar y Cynllun Taliadau Tai Dewisol.

 

Ymhelaethodd y swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.  Gan gyfeirio at baragraff 32 o’r adroddiad, nodwyd bod y swm sy’n weddill i’w wario yn y flwyddyn ariannol hon wedi gostwng o £47,446.91 i ychydig dan £23,000 ers paratoi’r adroddiad a bod dros 1,500 o geisiadau wedi derbyn cymorth.

 

Amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Croesawyd y ffaith bod Gwynedd yn derbyn yr ychwanegiad gwledig yn sgil lobïo gan awdurdodau lleol, yn cynnwys Gwynedd.

·         Gan i’r Llywodraeth ymrwymo arian yn 2015 ar gyfer y cynllun Taliadau Tai Dewisol dros gyfnod o 5 mlynedd yn unig, mynegwyd pryder ynglŷn â beth fyddai’n digwydd petai’r arian yn dod i ben yn 2020/21, yn enwedig o ystyried yr oedi sydd wedi digwydd o ran cyflwyno’r trefniadau credyd cynhwysol newydd.  Croesawyd y ffaith bod unedau o fewn y Cyngor wedi adnabod a chychwyn edrych ar hyn a bod yna waith lobïo’n digwydd eisoes a nodwyd hefyd bod lle i’r Cyngor weithio ar y cyd o ran lobïo gyda’r cynghorau eraill yng Nghymru sy’n derbyn yr ychwanegiad gwledig.

·         Roedd yr aelodau yn fodlon bod gwir wariant y Cyngor wedi bod yn agos iawn i’r swm a ddyrennir gan y Llywodraeth ar gyfer Taliadau Tai Dewisol ym mhob blwyddyn.  Hefyd, oherwydd natur y gwariant, lle mae angen ymrwymo gwariant am flwyddyn gyfan, a chadw arian wrth gefn i ddelio â cheisiadau newydd sy’n dod i mewn yn ystod y flwyddyn, credid bod y perfformiad blynyddol o safbwynt yr amrywiant rhwng y gyllideb a’r gwir wariant o fewn y terfynau disgwyliedig.

 

I grynhoi, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr esboniad llawn a chlir o’r sefyllfa

7.

DIWEDDARIAD YMCHWILIAD CRAFFU CEFNOGI POBL ANABL GWYNEDD pdf eicon PDF 65 KB

Derbyn adroddiad y Gweithgor ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*11.30yb – 12.00yp

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwydadroddiad cynnydd ar waith yr Ymchwiliad Craffu Cefnogi Pobl Anabl Gwynedd yn:-

 

·         atgoffa’r aelodau o gefndir a nod yr ymchwiliad;

·         manylu ar gefndir y ddarpariaeth brosthetig a chadeiriau olwyn sydd ar gael ar hyn o bryd a thystiolaeth defnyddwyr y gwasanaeth; ac yn

·         amlinellu’r camau nesaf.

 

Ymhelaethodd Cadeirydd y Gweithgor, y Cynghorydd Dewi Roberts a’r swyddog ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.  Nodwyd bod tystiolaeth gan 8 defnyddiwr gwasanaeth arall i law ers paratoi’r adroddiad, a bod pob un ohonynt yn cael trafferthion ac yn feirniadol o’r gwasanaeth a dderbyniwyd.

 

Amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd cael y gadair olwyn iawn oherwydd y gall wneud gwahaniaeth mawr i fywyd yr unigolyn.

·         Mynegwyd pryder nad oes yna arbenigwr yn Wrecsam ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn actif, megis pobl ifanc sydd wedi cael damwain.

·         Nodwyd mai un o’r problemau ar hyn o bryd yw’r diffyg cyfathrebu ar wahanol lefelau.

·         Awgrymwyd bod yna ganfyddiad gwahaniaeth yn safon y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan wahanol ganolfannau Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd (“GYCS”) ar draws Cymru a phwysleisiwyd yr angen i ymchwilio i hyn ymhellach.

 

I grynhoi, nododd y Cadeirydd ei bod yn amlwg bod y Gweithgor yn edrych i mewn i’r maes hwn mewn manylder a gofynnodd i’r Ymchwiliad barhau â’i waith gan gyflwyno argymhellion i’r pwyllgor hwn pan fydd y darlun yn gyflawn.