skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Cai Larsen yn eitem 9 ar y rhaglen oherwydd ei fod yn eistedd ar Fwrdd Cymdeithas Tai Adra

 

b)    Y Cynghorydd Dewi Roberts, yn eitem 10 ar y rhaglen oherwydd bod ei wraig yn gweithio gyda Dementia yn ardal Dwyfor.

 

Nid oeddynt yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 91 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 o Dachwedd 2019 fel rhai cywir.

 

5.

Y FFRAMWAITH MAETHU CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 67 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd diweddariad ar y Fframwaith Maethu Cenedlaethol oedd yn cynnwys gwybodaeth lawn a swmpus ar ofynion y Fframwaith ynghyd a’r bwriad o ddatblygu’r Fframwaith yn genedlaethol a rhanbarthol. Cyfeiriwyd at y prif ffrydiau gwaith sydd yn gysylltiedig â rhaglen waith y Fframwaith ynghyd a’r blaenoriaethau rhanbarthol. Yn ychwanegol i’r blaenoriaethu rhanbarthol adroddwyd bod y Gwasanaeth yng Ngwynedd yn adolygu ei strwythur mewn ymateb i ofynion y Gwasanaeth ar geisio cael gwell cydbwysedd wrth asesu a chefnogi gofalwyr maeth carennydd a gofalwyr maeth cyffredinol.

 

          Anogwyd yr Aelodau i fynychu dyddiau gweithgareddau i rieni maeth sydd wedi eu trefnu ar y cyd rhwng y Cyngor a’r Bartneriaeth Rhieni Maeth er mwyn craffu’r berthynas a cheisio gwell dealltwriaeth o’r gwaith.

 

          Diolchwyd am y wybodaeth a llongyfarchwyd y staff ar eu gwaith caled o fewn maes pwysig iawn

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:-

·         Pryder diffyg cefnogaeth gan Llywodraeth Cymru i ariannu’r angen

·         Bod rhagweld yr angen am 180 o ofalwyr maeth cyffredinol newydd dros y 3 blynedd nesaf yn uchelgeisiol

·         Angen marchnata yn well – rhai awdurdodau yn fwy arloesol nac eraill

·         Pryder y bydd y sector breifat yn cael mwy o ddylanwad

·         Angen sicrhau bod plant sydd yn siarad Cymraeg yn cael eu lleoli gyda theuluoedd Cymraeg

·         Bod yr adroddiad yn rhy gyffredinol –angen mwy o wybodaeth am y sefyllfa yng Ngwynedd

·         Pryder os bydd dau dîm yn cael ei sefydlu y byddai rhai materion yn disgyn ‘rhwng dwy stôl’

·         Pryder bod pobl yn tynnu allan o’r broses oherwydd bod y broses yn rhy gymhleth ac anodd - awgrym i holi’r Maethwyr sydd yn tynnu allan am resymau

 

         

Mewn ymateb i gwestiwn am y gwaith ychwanegol sydd wedi ei greu drwy ddyfodiad y rhaglen waith cenedlaethol, nodwyd bod cydweithio cadarnhaol rhanbarthol eisoes yn bodoli ar draws y rhanbarthau ac nad oedd gymaint o symudiad / addasiadau oherwydd hyn.

 

Mewn ymateb i sylw pam bod pobl yn tynnu allan o’r broses, amlygwyd bod y rhesymau yn amrywio ond y mwyafrif oherwydd newid mewn amgylchiadau personol yn hytrach nag anfodlonrwydd gyda'r Gwasanaeth. Mynegwyd bod rhaid sicrhau proses gadarn gyda rheolau a chanllawiau diogel; y gofynion a’r meini prawf yn uchel oherwydd natur y maes.

 

Ategwyd bod ail frandio’r Gwasanaeth ar draws Cymru i ddenu pobl i mewn i’r Gwasanaeth yn un o brif ffrydiau gwaith y Fframwaith. Nodwyd bod cais i’r Llywodraeth am arian ychwanegol i frandio a recriwtio yng Ngwynedd wedi ei gyflwyno. Yn draddodiadol, nid oedd marchnata yn rhan o ofynion swydd o fewn model maethu Gwynedd ond erbyn hyn, y Gwasanaeth yn hyderus y byddai sefydlu swydd benodol ar gyfer marchnata a recriwtio yn welliant sylweddol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen am 180 o ofalwyr maeth cyffredinol ychwanegol, newydd dros y 3 blynedd nesaf, amlygwyd bod y ffigwr yma un rhanbarthol a bod Gwynedd yn rhagweld yr angen am 30 o ofalwyr dros y tair blynedd nesaf. Er derbyn bod hyn yn uchelgeisiol, pwysleisiwyd yr angen i sicrhau rhaglen waith i Wynedd ar yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GWASANAETH MABWYSIADU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 82 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwyd diweddariad ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Atgoffwyd yr Aelodau o’r gwaith a wnaed gan yr Awdurdodau Lleol yn y Gogledd i weithio mewn partneriaeth a chreu gwasanaeth rhanbarthol drwy gyfuno adnoddau a bod yn effeithlon wrth leoli plant. Daeth y Gwasanaeth yn weithredol yn Ebrill 2010 a phum mlynedd yn ddiweddarach sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Cyfeiriwyd at Adroddiad Blynyddol (2018 – 2019) y Gwasanaeth Mabwysiadau Cenedlaethol oedd wedi ei atodi gyda’r adroddiad

 

          Eglurwyd mai Cyngor Sir Fwrdeistrefol Wrecsam yw’r Awdurdod Lletya ar gyfer y Gwasanaeth a bod y staff, ers 2010 wedi eu secondio i’r Gwasanaeth ond yn parhau i weithio o fewn eu hawdurdodau gwreiddiol. Amlygwyd bod perfformiad holl ranbarthau Cymru yn cael eu casglu gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac ar gyfer Gogledd Cymru roedd pedwar prif gyrhaeddiad wedi ei adnabod ar gyfer 2018 - 2019;

 

·         Penodi Swyddog Cydlynu Cyswllt sy’n cynnig ymateb cyson a chefnogaeth i fabwysiadwyr a rhieni biolegol o ran cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol.

·         Gweithio gyda’r arbenigwr Richard Rose, i weithredu’r Fframwaith Hanes Bywyd.

·         Ehangu’r Cynllun Cyfaill i Fabwysiadwyr.

·         Buddsoddi mewn cynyddu sgiliau’r Swyddog Hyfforddi

 

Yn dilyn adolygiad o’r Gwasanaeth yn 2017-2019 adnabuwyd nad oedd capasiti digonol ar lefel gweithredol a strategol i reoli a datblygu’r gwasanaeth ac felly aed ati i ail fodelu’r strwythur drwy symud tuag at Wasanaeth sydd yn cael ei reoli yn llawn gan Gyngor Wrecsam. Nodwyd y byddai holl staff presennol yn trosglwyddo i gyflogaeth Cyngor Wrecsam yn 2020 ond yn parhau i weithio o’u hawdurdodau lleol presennol. Adroddwyd bod cyllid ychwanegol ar gael yn genedlaethol ar gyfer datblygu gwasanaethau cefnogi mabwysiadu ynghyd a chyllid gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Gwasanaeth TESSA.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

·         Bod llawer o ffrydiau gwaith y Gwasanaeth yn ddibynnol ar grantiau neu arian ychwanegol - hyn yn creu pryder o orfod dibynnu ar grantiau. Angen ystyried cynlluniau ariannu wrth gefn.

·         Risg y gellid cynlluniau gael eu tynnu yn ôl oherwydd diffyg cyllideb

·         A ddylai Cyngor Gwynedd ystyried opsiwn prynu tŷ ar gyfer cadw plant o’r un teulu gyda'i gilydd?

·         Bod angen marchnata'r Gwasanaeth yn well ynghyd a gwella dulliau cyfathrebu

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyllidebau parhaol, nododd yr Aelod Cabinet ei ddymuniad o sicrhau bod trafodaethau agored yn cael eu cynnal pan fydd unrhyw gynllun, sydd yn cael ei ariannu drwy grant sydd yn llwyddiannus ac effeithiol, yn parhau.

 

Mewn ymateb i sylw bod y data a gyflwynwyd gyda’r adroddiad yn amlygu bod Gwynedd yn ymddangos yn isel iawn mewn niferoedd ymholiadau, mabwysiadwyr ar gael, plant a leolwyd yn 2018 a’r nifer sydd yn aros am leoliad, nodwyd nad oedd rhesymau penodol am y lefelau isel. Derbyniwyd bod angen sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir a bod angen marchnata’r gwasanaeth yn well a chwalu’r darlun hanesyddol o ofynion mabwysiadwyr. Ategwyd bod modd trafod a chydweithio drwy unrhyw sefyllfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os yw plant sydd yn cael eu maethu yn symud ymlaen i gael eu mabwysiadau gan y teulu,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DATBLYGIAD Y TIM YMDDYGIAD RHYWIOL NIWEIDIOL A PHROBLEMUS pdf eicon PDF 115 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn hysbysu’r Aelodau o ddatblygiad a disgwyliadau allweddol y Tîm Ymddygiad Rhywiol Niweidiol a Phroblemus a gafodd ei sefydlu ar gyfer Gwynedd yn Medi 2019. Pwrpas sefydlu tîm integredig amlasiantaethol oedd darparu cefnogaeth i gydlynu achosion o ymddygiad rhywiol niweidiol a phroblemus mewn ymateb i ofynion Fframwaith ac Archwiliad Ymddygiad Rhywiol Niweidiol. Nodwyd yn yr Archwiliad, er bod gwaith da yn cael ei wneud, mai ychydig iawn o ymyrraeth gynnar oedd ar gael.

 

Tynnwyd sylw at y rhesymeg dros sefydlu’r tîm ynghyd a’r modd y mae’r tîm yn cael ei ariannu drwy Gronfa Gofal Integredig. Amlygwyd bod tîm Gwynedd (sydd bellach yn cael ei alw yn Dîm Emrallt) yn cynnwys pedwar aelod ac wedi ei leoli gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid lle mae’n elwa o’r strwythurau partneriaethol ar rwydweithiau traws sector sydd eisoes wedi eu sefydlu.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

·         Pryder bod y broblem yn cynyddu

·         Bod angen annog  / galw ar rieni i gymryd cyfrifoldeb

·         Bod angen sicrhau ymyrraeth gynnar

·         Pryder bod y prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Gofal Integredig - angen sicrhau bod y prosiect yn cael arian parhaol

·         Annog pob Cynghorydd a Llywodraethwr i ddefnyddio / ymgyfarwyddo eu hunain gyda 'Myconcern' (adnodd defnyddiol i gofnodi pryderon diogelu ar gyfer ysgolion)

·         Annog pobl i godi ffôn a thrafod / amlygu pryderon – angen atgyfnerthu’r neges

·         Angen sicrhau bod negeseuon yn cael eu rhannu gyda Swyddogion Lles yr ysgolion a’r Heddlu

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sicrhau bod y prosiect yn cael ei ariannu yn barhaol amlygwyd nad oedd arwydd bod arian parhaol ar gyfer y prosiect yma.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

 

8.

ARIAN TRAWSNEWID CYMRU IACHACH (PLANT) pdf eicon PDF 72 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar gynnydd gweithredu Rhaglen Trawsnewid Cymru Iachach (Plant) yng Ngwynedd. Atgoffwyd yr Aelodau mai Cynllun Hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw Cymru Iachach a gyhoeddwyd yn 2018 mewn ymateb i Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn gysylltiedig â’r Cynllun Cymru Iachach ceir cynllun gweithredu sydd wedi ei drefnu ar ffurf rhaglen drawsnewid genedlaethol ac wedi ei gefnogi gan Gronfa Drawsnewid. Ategwyd bod Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru wedi ymateb i Cymru Iachach gan sicrhau adnoddau o’r gronfa trawsnewid ar gyfer 4 maes gwaith. Amlygwyd mai un o’r meysydd hynny oedd Trawsnewid Ymyrraeth Gynnar Integredig a Chymorth Dwys i Blant a Phobl Ifanc - rhoddwyd diweddariad ar brif ffrydiau gwaith y rhaglen.

 

-       Peilota Model “Amddiffyn Plant yn Effeithiol” - peilot yn weithredol yng Ngwynedd yn unig  i geisio sicrhau bod ymarfer amddiffyn plant yn effeithiol. Rhanbarthau eraill y gogledd yn awyddus gweld os bydd yn brosiect yn llwyddo

-       Tîm Aml-ddisgyblaethol Cymorth Dwys - sefydlu tîm ar draws Gwynedd a Môn i sicrhau cefnogaeth  i ganran fechan o deuluoedd fyddai’n elwa o ymyrraeth ddwys oherwydd anghenion cymhleth

-       Hwb Cymorth Cynnar – parhau i ddatblygu’r Hwb sydd eisoes wedi tynnu ynghyd Tîm Derbyn Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a’r Tîm o Amgylch y Teulu. Byddai’r hwb yn defnyddio un drefn derbyn, asesu a chyfeirio ac yn adwy ar gyfer gwybodaeth, cymorth cynnar, gwasanaethau ataliol, gofal a diogelu.

-       Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - ffrwd gwaith yn cael ei arwain gan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Cyfarfod cyntaf y Grŵp Llywio a oedd wedi ei  drefnu ar gyfer mis Ionawr wedi ei ohirio.

 

Adroddwyd bod y Ffrydiau Gwaith sydd yn cael eu cefnogi gan Reolwr Prosiect dynodedig yn adrodd i Grŵp Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc Gogledd Cymru.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

·      Bod gohirio cyfarfod o’r Grŵp Llywio Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn annerbyniol o ystyried bod y maes yn un pwysig

·      Pryder bod rhaid i wasanaethau’r Cyngor lenwi’r bwlch os nad yw’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau

·      Bod angen sicrhau bod y model amddiffyn plant yn effeithiol yn parhau ar  ôl y cyfnod peilot.

 

Mewn ymateb i bryder bod cyfarfod cyntaf Grŵp Llywio Llesiant Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc wedi ei ohirio, nodwyd bod y sefyllfa yn un heriol o ran cael gwasanaeth cywir ar gyfer plant ac mai bwriad y Grŵp Llywio yw cynnal trafodaethau agored gyda’r Bwrdd Iechyd i wella’r ddarpariaeth.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r model amddiffyn plant yn effeithiol nodwyd y byddai’r gwaith yn parhau gan mai trefniadau mewnol gan y Gwasanaeth sydd yn ei arwain, Ategwyd  y bydd Gwynedd yn lansio model ymarfer da ac y byddai’r ymarfer yn cael ei raeadru  i’r gwasanaeth i gyd yn y flwyddyn nesaf.

 

Diolchwyd i’r gwasanaeth am eu gwaith

 

PENDERFYNWYD derbyn diweddariad ymhen 12 mis

 

9.

CYNLLUN GWEITHREDU TAI 2020-2025 pdf eicon PDF 91 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Cynllun Gweithredu Tai 2020 i 2025 gan yr aelod Cabinet a’r pennaeth Adran Tai ac Eiddo. Diben yr adroddiad hwn oedd diweddaru’r Pwyllgor Craffu Gofal o’r gwaith sydd ar droed i ddatblygu datrysiadau penodol i’r heriau tai sy’n wynebu trigolion Gwynedd er mwyn ymgynghori â’r Pwyllgor cyn i’r rhaglen wariant arfaethedig gael ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth y Cabinet yn ddiweddarach ym mis Mawrth eleni. Eglurwyd yn yr adroddiad y prif heriau tai yng Ngwynedd, yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y cynllun tai 2020-2025, a’r rhestr hir o gynlluniau sydd angen eu blaenoriaethu. Pwysleisiwyd mai cam cynnar yn y broses yw hon a’u bod yma i wrando ar fewnbwn a blaenoriaethau aelodau’r Pwyllgor er mwyn cychwyn troi strategaeth tai’r Cyngor mewn i gynllun gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Trafodwyd yr arian sydd ar gael i gyflawni’r cynlluniau yma gan dynnu sylw penodol at y ffynhonnell incwm o dreth Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag. Nodwyd, mewn ymateb i gwestiwn gan yr aelodau, bod y ffigwr yn yr adroddiad o’r incwm a ddisgwylir gael o’r dreth yma yn un rhesymol. Amcangyfrifwyd y bydd £2.7m y flwyddyn yn cael ei gasglu o’r dreth yma ond nodwyd yn y flwyddyn gyntaf fe gasglwyd £2.9m. Trafodwyd yr her o bobl yn defnyddio ffyrdd i osgoi talu’r dreth yma, megis drwy gofrestru’r tŷ fel busnes, gan nodi bod yna drafodaethau wrth law gyda’r Llywodraeth ynglŷn â sicrhau nad yw pobl yn osgoi talu’r hyn sy’n ofynnol arnynt. Esboniwyd hefyd bod gan y Cyngor y gallu i gael benthyciadau ar raddfa ratach na chymdeithasau tai os yw’r Cyngor yn penderfynu bod angen mwy o arian i gefnogi’r cynllun tai.  Pwysleisiwyd, mewn ymateb i gwestiwn am berthynas y Cyngor gyda chymdeithasau tai, mai’r bwriad a’r nod ydi cydweithio gyda’r cymdeithasau tai yn hytrach na chystadlu gyda nhw. Eglurwyd bod cydweithio gyda’r cymdeithasau tai yn gyfle i gyfuno adnoddau, sgiliau a chryfderau mewn meysydd gwahanol, yn enwedig gan fod y Cyngor wedi trosglwyddo ei arbenigedd mewn tasgau fel casglu rhent i Adra.

 

Mewn ymateb i’r aelodau am yr uchelgais, derbyniwyd bod lot o rwystrau, gan gynnwys rhwystrau ariannol, ond pwysleisiwyd eu bod yn uchelgeisiol ac eisiau cyflawni gymaint o’r cynlluniau a phosib. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr aelodau am beth oedd yr Adran Tai ac Eiddo yn ystyried fel y blaenoriaethau fe nodwyd pennaeth yr adran y canlynol: dod a thai gwag nol mewn i ddefnydd oherwydd ei fod yn cyflawni mwy nag un amcan, cynyddu’r opsiynau tai i bobl leol, cynlluniau sy’n ymwneud â gofal a thai cefnogaeth, a chynlluniau sy’n delio gyda materion digartrefedd.

 

Ymhelaethodd yr aelod Cabinet a’r pennaeth Adran Tai ac Eiddo ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau a sylwadau gan yr aelodau. Datganwyd eu bod yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am eu gwaith, eu bod yn gwerthfawrogi’r berthynas dda, a’u bod yn awyddus i’r Pwyllgor gynyddu ei rôl yn y dyfodol. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Cymeradwywyd pob un  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DEMENTIA pdf eicon PDF 89 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad dementia er gwybodaeth ac i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr dementia gan roi trosolwg i aelodau o’r hyn sydd ar waith yng Ngwynedd i sicrhau cefnogaeth a gwasanaethau i unigolion sydd yn byw gyda dementia. Yn 2015 roedd gan 1,927 o bobl 65 oed a throsodd dementia yng Ngwynedd. Erbyn 2035 rhagwelir y bydd 2,923 o bobl Gwynedd efo dementia. Nodwyd yn yr adroddiad ei fod yn anodd cael data cywir ynghylch gwir nifer yr unigolion sydd yn byw gyda dementia neu amhariad ar y cof yng Ngwynedd gan fod nifer fawr sydd yn dod i’n sylw ddim wedi derbyn asesiad na diagnosis swyddogol. Datganwyd yn yr adroddiad mai’r weledigaeth yw darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth amserol i unigolion â dementia yng Ngwynedd. Nodwyd bod ystod o gefnogaeth ar gael i unigolion sydd â diagnosis o ddementia sydd yn amrywio o wybodaeth a chefnogaeth gymunedol yn ystod arwyddion cynnar o’r clefyd, gwasanaethau prif lif megis gwasanaethau gofal cartref a gofal dydd i ofal arbenigol dwys ar gyfer cyfnodau olaf y salwch. Nodwyd bod y Cyngor yn awyddus i sicrhau fod pobl gyda dementia yn derbyn y gofal mwyaf addas mor lleol ag sy’n bosib. 

 

Datganwyd yr adroddiad y bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i ymrwymo i gyflawni gofynion Cynllun Gweithredu Cymru ar Gyfer Dementia trwy gydweithio gydag unigolion, eu teuluoedd, a’n partneriaid yn y trydydd sector a’r Bwrdd Iechyd. Nodwyd bod y gwasanaethau yn ddibynnol ar arian dros dro i gefnogi nifer fawr o’r datblygiadau yn y ddarpariaeth gofal i unigolion a dementia. Nodwyd fel rhan o broses bidio blwyddyn ddiwethaf, bod yr adran wedi cyflwyno cais ar gyfer pontio bwlch Cynllun Dementia Go a’r her yw sicrhau arian hir dymor i sicrhau cynaladwyedd a datblygiad pellach y gwasanaeth hwn.

 

Ymhelaethodd yr aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau a sylwadau gan yr aelodau. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Diolchwyd i’r aelod Cabinet a’r swyddogion am yr adroddiad. Nodwyd ei fod yn anodd craffu popeth o fewn yr adroddiad o fewn un sesiwn a nodwyd y gellid adnabod maes penodol o dan y teitl dementia er mwyn ei graffu mewn dyfnder os oes angen.

·         Cydymdeimlwyd gyda’r bobl sy’n byw efo dementia neu sy’n gofalu am bobl efo dementia a chydnabuwyd ei fod yn broblem sy’n effeithio mwyfwy o bobl o fewn ein cymunedau. Nodwyd bod nifer o deuluoedd yn wynebu sefyllfa anodd o fethu gofalu am berson sy’n byw efo dementia ac yn gorfod dibynnu ar wasanaeth gofal.

·         Codwyd pryder am ffioedd cartrefi preswyl a nyrsio, yn enwedig y ffioedd ychwanegol o fewn y gwasanaeth y mae disgwyl i bobl dalu, gan nodi bod y ffioedd yn gyffredinol tu hwnt i allu rhai pobl eu fforddio. Cydnabuwyd bod hwn yn fater sy’n gysylltiedig â'r adroddiad dementia a’i fod yn fater gynyddol broblemus. Nodwyd ei fod yn adlewyrchiad o’r sefyllfa gyffredinol ar draws y sector gofal. Cadarnhawyd bod y cyngor yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn edrych ar ffioedd cynaliadwy, ond  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.