skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rhian Davies  01286 679868

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorydd R Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Peter Reid

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Derbyniwyd y datganiadau o fuddiant personol isod, gan fod yr unigolion/eu teuluoedd  wedi ymwneud a’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn eu bywydau personol :  

Y Cynghorydd Menna Baines 

Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams 

Y Cynghorydd Cai Larsen 

Y Cynghorydd Linda Morgan 

Y Cynghorydd Angela Russell 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 308 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2020 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2020 fel rhai cywir. 

5.

GWASANAETH THERAPI GALWEDIGAETHOL, GWASANAETHAU CYMDEITHASOL GWYNEDD pdf eicon PDF 256 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad a diolchwyd i’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aled Davies, Mari W Jones a Matthew Hawes a’r tim am eu gwaith caled iawn. Cytunwyd i gadw golwg ar effaith Covid-19 ar y galw am y gwasanaeth therapi galwedigaethol ac effaith hynny ar y gwasanaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Arweinydd Therapi Galwedigaethol (ATG) er mwyn rhoi trosolwg o waith y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn ogystal â’r heriau yn sgil Covid-19. 

 

Nodwyd bod Covid wedi cael effaith aruthrol ar y Gwasanaeth, a bod y rhagolygon yn awgrymu y bydd cynnydd mawr   yn y gofyn am y gwasanaeth.  Ategwyd bod y cynnydd o ganlyniad i’r nifer sydd wedi bod yn cysgodi dros y cyfnod Covid a ddim wedi bod yn cysylltu â’r gwasanaeth yn amserol ac effaith hir dymor Covid ar iechyd unigolion. Nodwyd bod angen i’r gwasanaeth ddatblygu i fod yn fwy rhagweithiol er mwyn cyflawni yr hyn sydd yn bwysig i’r unigolyn. Nodwyd hefyd y byddai rhoi cefnogaeth ataliol yn fwy cost effeithiol i’r Cyngor. 

 

Cyflwynodd yr arweinydd ATG ei hun i’r cyfarfod. Mae wedi ei benodi i’r rôl ers cyfnod o flwyddyn. Nododd yr ATG ei fod wedi cael cyfle dros y  flwyddyn ddiwethaf i adolygu y gwasanaeth therapi galwedigaethol a nodi blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf i sicrhau gwasanaeth mwy effeithiol, gyda phwyslais ar wasanaethau arbedol, a chynnal ac adennill sgiliau. Ychwanegodd nad yw aros yn llonydd yn opsiwn ac mai’r peth pwysig yw cael gwasanaeth o safon sydd yn cynnig gwerth am arian i’r unigolyn  a’r Cyngor.  Ymhelaethodd bod bylchau wedi bod yn y gwasanaeth o ran staff o ganlyniad i ymddeoliad dau swyddog profiadol iawn a nifer i ffwrdd a'r gyfnod mamolaeth ond eu bod wedi llwyddo i recriwtio i’r swyddi i gyd.    

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-  

 

·                Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch llwybr unigolyn  o’r ysbyty a’r cydweithio

rhwng Iechyd a’r Cyngor nododd yr ATG mai yr ysbyty sydd yn cychwyn y gwaith gyda’r unigolyn.  Un broblem o ganlyniad i Covid yw’r pwysau sydd ar ysbytai i ryddhau cleientiaid, gan gynnwys rhai gydag anghenion cymhleth.  Mae gwaith yn cael ei gynnal i adolygu mewnbwn Therapi Galwedigaethol i gefnogi rhyddhau o’r ysbyty yn effeithiol. 

 

·                Mae’r cyfnod Covid wedi bod yn gyfle i  ddysgu ac addasu, ac o edrych yn ôl

mae’n bosib gweld ein bod wedi methu cyfleoedd i atal unigolion rhag gorfod cael mynediad i’r ysbyty. 

 

·                Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhaodd yr ATG bod digon o staff o ran

Therapyddion Galwedigaethol i gyflawni dyletswyddau hanfodol ac eu bod yn gwneud eu gwaith yn arbennig o dda, ond nad yw’r capasiti ganddo i wneud digon o’r gwaith ataliol a rhagweithiol gyda’r tîm presennol.   

 

·                Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â recriwtio, cadarnhaodd yr  ATG bod

recriwtio i swyddi Therapi Galwedigaethol o fewn y Cyngor wedi bod yn anodd yn y gorffennol. Mae y cyfle i weithio yn y maes iechyd, addysg a’r sector preifat i gyd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.  Nododd bod yn rhaid gwneud i weithio i’r Cyngor edrych yn fwy deniadol.  Adroddodd ei fod erbyn hyn yn cydweithio yn agos gyda'r Brifysgol i roi cyfleoedd addysgu i fyfyrwyr Cymraeg a denu staff i’r Cyngor.  Ategodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth yr uchod, gan gadarnhau bod nifer o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.