Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Yn Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rhian Davies  01286 679868

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor     hwn am 2021/22.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2021/22

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Angela Russell yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22.

 

Diolchwyd i’r cyn-Gadeirydd, y cyn Is-Gadeirydd, Aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion am eu gwaith caled.

 

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorydd Menna Baines,  Y Cynghorydd Annwen Daniels, Y Cynghorydd Linda Jones, Y Cynghorydd Dafydd Owen ac A Morwena Edwards.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorydd Dewi Roberts ar eitem 7 oherwydd bod aelod o’r teulu yn gweithio yn y maes.  Roedd yr aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Y Cynghorydd  O Cai Larsen ac Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones am eu bod yn eistedd ar Fwrdd Adra. Roedd yr aelodau o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 300 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2021 fel rhai cywir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2021 fel rhai cywir.

7.

CEFNOGAETH I UNIGOLION SYDD A'R CYFLWR DEMENTIA YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 481 KB

Ystyried diweddariad o adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor fis Ionawr 2020 oedd yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr Dementia ac yn rhoi trosolwg o’r hyn sydd a’r waith i gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad a throsolwg o’r hyn sydd ar waith i gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd.

 

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad gan yr Aelod Cabinet am y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion a’r cyflwr dementia yng Ngwynedd, gan amlygu ei bod yn gyfnod hynod brysur. Amlygwyd fod niferoedd a’r cyflwr dementia ar gynnydd ac er bod cyfnod Covid wedi bod yn heriol, eglurwyd fod gwaith datblygol wedi parhau.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion fod y cyfnod Covid wedi gorfodi’r Adran i ail edrych ar sut maent yn cynnig y gwasanaeth i sicrhau eu bod yn cydymffurfio a rheoliadau Covid, ynghyd a chynnig y gwasanaethau angenrheidiol i’r unigolion. Cadarnhawyd fod Asesiad Anghenion Poblogaeth ar y gweill a fydd yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i’r Adran am yr anghenion a’r ddarpariaeth fydd eu hangen yn lleol am y blynyddoedd i ddod. 

 

Cadarnhawyd mai y camau nesaf fydd i ail edrych ar y cynlluniau gwaith sydd yn cynnwys y gwaith sydd yn cael ei wneud gan Dementia Actif, y gwaith cefnogi a’r gwaith addasu cartrefi y Cyngor. Amlygwyd pryderon am gyllid craidd a fydd yn sicrhau y bydd modd ariannu’r gwaith i’r dyfodol. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :

 

O ran argaeledd ac addasrwydd staff, cadarnhawyd bod cyflogi staff addas gyda’r sgiliau cywir yn her, ond bod y Cyngor yn gwneud llawer o ymdrech i ddenu staff addas gan ddatblygu rhaglen hyfforddiant priodol.  Nodwyd bod cynnydd wedi bod yn nifer y staff sydd yn cael eu cyflogi yn y maes, ond bod angen parhau i  ddenu staff i’r maes ar gyfer unrhyw ddatblygiadau y dyfodol. 

 

O ran argaeledd gwlâu preswyl arbenigol i unigolion a Dementia, eglurwyd fod mwyafrif o wlâu cartrefi’r Cyngor yn llawn a bod rhestrau aros yn bodoli. Oherwydd cyfyngiadau Covid, bu’n rhaid oedi agor uned arbenigol dementia gydag 8 gwely mewn un cartref gyda’r gobaith y bydd yn bosib agor yr uned yn raddol yn y dyfodol agos.  

 

Wrth drafod materion ariannol eglurwyd fod yr Adran yn manteisio ar bob cyfle posib am arian o wahanol ffynonellau. Amlygwyd pryderon am arian tymor hir gan fod grantiau’r Llywodraeth yn dueddol o fod am gyfnod o 2 i 3 blynedd.

 

Nodwyd ei bod yn sefyllfa anodd pan mae unigolyn yn gorfod symud o’r ardal i dderbyn gwasanaeth.  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion bod yr Adran yn y broses o gwblhau darn o waith ar leoliadau all sirol sydd yn amlygu i le mae unigolion yn symud i dderbyn gofal. Gall hyn fod o ganlyniad i'r ffaith nad oes darpariaeth addas ar gael yn lleol neu yn ddewis personol.    

 

O safbwynt cynlluniau y Cyngor i gynyddu Unedau Dementia arbenigol yng Ngwynedd, cadarnhawyd bod cynlluniau i ehangu, ynghyd a rhai cynlluniau cyffelyb yn y sector breifat. Amlygwyd Cynllun Hwb Dyffryn Nantlle a Safle Penrhos fel cynlluniau i’r dyfodol gan bwysleisio fod angen rhoi sylw i ardaloedd eraill yn ogystal.  Eglurwyd y bydd y Gwasanaeth yn parhau i weithio ar gynlluniau blaengar gan ail-edrych ar y rhaglen buddsoddi mewn 12-18 mis.

 

PENDERFYNWYD  : Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DARPARIAETH TAI YN Y GYMUNED AR GYFER POBL GYDAG ANABLEDDAU DYSGU pdf eicon PDF 186 KB

I graffu rhaglen y Gwasanaeth Anabledd Dysgu i sicrhau darpariaeth digonol o dai addas yn y gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd Dysgu nawr ac i’r dyfodol.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad yn ogystal â datgan cefnogaeth i gynnwys rhaglen a chamau nesaf y Gwasanaeth Anabledd Dysgu i sicrhau darpariaeth ddigonol o dai addas yn y gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd Dysgu gan ystyried yr heriau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet a chadarnhaodd mai nod y Gwasanaeth yw cynorthwyo unigolion gydag anableddau dysgu i fyw mor annibynnol â phosib. Eglurwyd fod gwaith ymchwil wedi ei wneud sydd yn rhagweld y bydd galw ychwanegol am dai a chefnogaeth yn ystod y blynyddoedd nesaf. Cadarnhawyd bod rhaglen waith cynhwysfawr yn ei lle sydd yn cynnwys llawer o waith ar y cyd i ymdrin â’r niferoedd fydd angen cymorth.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Anableddau Dysgu at yr argyfwng tai ac yr heriau mae hyn yn ei roi i’r unigolion sydd eisiau byw yn annibynnol.  Eglurwyd fod cyfnod Covid wedi amlygu’r angen am ddarpariaeth dai a bod yn Adran yn edrych i roi camau yn ei lle i gyfarch yr angen. Cyfeiriwyd at y system blaenoriaethu anghenion unigolion gan bwysleisio bod y sefyllfa yn newid yn barhaus.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :

 

Cyfeiriwyd at y system blaenoriaethu sydd yn bodoli ar draws y Sir, gan nodi blaenoriaethau

‘Coch’ - yn ddigartref neu angen tŷ ar unwaith, yn sicr dros y flwyddyn ddwy nesaf

‘Amber’ – yn byw gyda rhieni/gofalwyr, neu mewn tŷ, ac angen tŷ addas o fewn y tymor canolig, sef y 3-5 mlynedd nesaf

‘Gwyrdd’ – angen paratoi ar gyfer yr amser pan fydd angen tŷ yn y tymor hir (5+ mlynedd).

 

 

Cadarnhawyd bod cydweithio da rhwng y Cyngor a’r Cymdeithasau Tai, yn enwedig Adra a Cynefin, er bod Gwynedd yn fodlon mynd ar ei liwt ei hun, megis y cynlluniau prynu tai sydd eisoes ar y gweill.

 

Eglurwyd bod angen darn o waith pellach i edrych ar y graddau mae rhagweld anghenion unigolyn yn cael ei ystyried o ran opsiynau tai, er mwyn ‘bandio’ unigolion yn decach.  Adroddwyd ymhellach bod peth gwaith tracio yn digwydd, o oed 15 i 16 yn unig gan nodi’r angen i wneud gwaith pellach gydag ystod oedran iau. 

 

O ran y pryder am brinder byngalos yng nghyd-destun y Grant Cymdeithasol o £9 miliwn, nodwyd bod trafodaethau wedi cychwyn, ond bod angen ei ddatblygu ymhellach.

 

Derbyniwyd y sylw  nad oedd dyddiad targed wedi ei osod yn erbyn y camau gweithredu  yn yr adroddiad a chytunwyd i osod amserlen.

 

Mewn ymateb i’r pwyntiau uchod, adroddodd y  Pennaeth Gwasanaeth bod perthynas dda gyda'r Cymdeithasau Tai a bod eu mewnbwn i’r Strategaeth yn adlewyrchu y galw yn yr asesiad anghenion. 

 

I gloi, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet bod cydweithio da gydag eraill ond bod anghenion pob unigolyn yn wahanol a bod yr awydd a’r parodrwydd yno i wneud beth sydd ei angen.  Nododd y bwriad i droi hwn yn Gynllun Gweithredu a diolchodd am y gefnogaeth i symud i’r camau nesaf.

 

 

PENDERFYNWYD  : Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad yn ogystal â datgan cefnogaeth i gynnwys y rhaglen a chamau nesaf y Gwasanaeth Anabledd Dysgu, i sicrhau darpariaeth ddigonol o dai addas yn y gymuned ar gyfer unigolion gydag Anabledd Dysgu gan ystyried yr heriau.

 

9.

RHAGLEN WAITH DDRAFFT CRAFFU 2021/22 pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwyno rhaglen waith ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith craffu 2021/22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhaglen waith ddrafft yn deillio o’r gweithdy a gynhaliwyd, gan gadarnhau bod modd ei haddasu wrth i amser fynd heibio.

 

PENDERFYNWYD  : Mabwysiadu rhaglen waith craffu 2021/22