skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal am y flwyddyn 2022/23.

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal am y flwyddyn 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Linda Ann Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal am y flwyddyn 2022/23.

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Linda Ann Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal am y flwyddyn 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R. Medwyn Hughes ac Einir Wyn Williams.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cynghorydd Linda Ann Jones ei bod hi’n gyfarwyddwr ar gwmni Seren. Nid oedd hwn yn fuddiant oedd yn rhagfarnu felly ni adawodd y cyfarfod.

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 263 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 17eg o Fawrth, 2022 fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.

 

7.

CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD pdf eicon PDF 179 KB

I enwebu aelodau o’r Pwyllgor i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Enwebu'r Cynghorwyr canlynol i fynychu cyfarfodydd Herio Perfformiad:

 

  • Maes gwaith Oedolion Iechyd a Llesiant: Y Cynghorwyr Sasha Williams a Meryl Roberts.
  • Maes gwaith Plant a Chefnogi Teuluoedd: Y Cynghorydd Gwynfor Owen gyda’r ail enwebiad i’w gadarnhau yng nghyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor hwn.

·         Maes gwaith Tai ac Eiddo: Y Cynghorwyr Dewi Jones a Menna Baines.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad byr yn egluro’r trefniadau Herio Perfformiad ac yn gofyn i’r Aelodau enwebu cynrychiolwyr i fynychu’r cyfarfodydd Herio Perfformiad. Esboniwyd bod angen dau gynrychiolydd i bob maes gwaith a bydd angen i gynrychiolwyr y Pwyllgor Craffu Gofal fynychu cyfarfodydd dwywaith y flwyddyn. Ychwanegwyd y bydd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i dderbyn diweddariadau ar brosiectau blaenoriaeth ac yn gyfle i herio a dod a materion i sylw’r Pwyllgor Craffu.

 

PENDERFYNWYD:

Enwebu'r Cynghorwyr canlynol i fynychu cyfarfodydd Herio Perfformiad:

·         Maes gwaith Oedolion Iechyd a Llesiant: Y Cynghorwyr Sasha Williams a Meryl Roberts.

·         Maes gwaith Plant a Chefnogi Teuluoedd: Y Cynghorydd Gwynfor Owen gyda’r ail enwebiad i’w gadarnhau yng nghyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor hwn.

·         Maes gwaith Tai ac Eiddo: Y Cynghorwyr Dewi Jones a Menna Baines.

 

8.

CRAFFU TREFNIADAU GOFAL IECHYD CANOLBARTH CYMRU pdf eicon PDF 199 KB

I enwebu tri aelod i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cyd-Bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Enwebu'r Cynghorwyr John Pughe, Linda Ann Jones ac Eryl Jones-Williams i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru.

Cofnod:

Gofynnwyd i’r Pwyllgor am dri enwebiad i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Gofal a'r Grŵp Craffu Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru. Darparwyd gwybodaeth am gefndir y Grŵp a’i nod yn ogystal â’i rôl, sy’n cynnwys edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghanolbarth Cymru a materion sy’n effeithio ar bobl sy’n byw yn yr ardaloedd perthnasol.

 

PENDERFYNWYD:

Enwebu'r Cynghorwyr John Pughe, Linda Ann Jones ac Eryl Jones-Williams i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cydbwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru.

 

9.

ADRODDIAD SEFYDLOGRWYDD MARCHNAD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 350 KB

I ddarparu trosolwg o Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru 2022 ac i geisio cefnogaeth y Pwyllgor i gymeradwyaeth yr Adroddiad gan y Cabinet a’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth.

b)    Mynegi cefnogaeth y Pwyllgor i gymeradwyaeth yr adroddiad gan y Cabinet a’r Cyngor.

 

Cofnod:

Derbyniwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn nodi pwysigrwydd y ddogfen hon a pha mor ddefnyddiol ydyw. Adroddwyd bod yr adroddiad yn mynd law yn llaw a’r Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru gafodd ei graffu nôl ym mis Chwefror gan y Pwyllgor oedd yn edrych ar yr anghenion gofal a chymorth. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn ymateb i’r Asesiad Anghenion trwy fesur beth sydd eisoes mewn lle yng Ngogledd Cymru i ymateb i’r gofynion ac yn cwestiynu os yw’r ddarpariaeth sydd mewn lle yn ddigonol.

 

Adroddwyd y bydd yr Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru yn mynd i’r Tîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet cyn mynd i’r Cyngor Llawn ar gyfer cymeradwyaeth. Ychwanegwyd ei bod yn ddogfen ranbarthol sydd yn dangos tueddiadau ar draws y Gogledd yn ogystal â negeseuon lleol i Wynedd. Diolchwyd i swyddogion yr Adran am eu gwaith caled o fewn amserlen dynn gan nodi y bydd yr adroddiad yn parhau i fod yn ddogfen fyw fydd yn cael eu haddasu ac o ganlyniad yn ddogfen ddefnyddiol iawn. Cymerwyd y cyfle hefyd i longyfarch y Cynghorydd Eryl Jones-Williams ar dderbyn Cadeiryddiaeth y Pwyllgor hwn.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Tîm Prosiectau Oedolion, Iechyd a Llesiant gan nodi bod yr Adroddiad yn un eang iawn sy’n ymdrin â’r gwasanaethau i oedolion ac i blant gyda negeseuon pwysig yn cael eu cyfleu. Mae’r adroddiad yn ymdrin â nifer o themâu meis gofal preswyl a nyrsio, mabwysiadu, maethu a gwasanaethau gofal cartref, yn ogystal ag agweddau yn ymwneud a darpariaeth llety diogel. Nodwyd bod yr adroddiad hefyd yn sôn am wasanaethau arbedol a’n cydnabod eu pwysigrwydd er mwyn lleihau pwysau ar y gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio.

 

Eglurwyd ei bod yn ofynnol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i lunio’r adroddiad ac y bydd yn cael ei ddiweddaru dros y misoedd nesaf a’i gadw’n gyfredol. Ymhelaethwyd ar y negeseuon am Wynedd sydd wedi eu nodi yn rhan 5 o’r Adroddiad a’r rhagfynegiadau am y cynnydd fydd ei angen yn y gofal a’r ddarpariaeth sydd ar gael dros y blynyddoedd nesaf. I gloi nodwyd bod yr hyn a gyflwynwyd yn ymgais i grynhoi'r prif negeseuon sy’n berthnasol i Wynedd ac y bydd yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yn cael ei gyhoeddi yng Ngogledd Cymru ar ôl cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn ym mis Hydref.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Mynegwyd diolch a gwerthfawrogiad i’r Swyddogion oedd wedi llwyddo i gwblhau’r adroddiad yn erbyn terfyn amser tynn.

·         Nodwyd ei bod yn ddiddorol gweld yn yr adroddiad sut mae Cynghorau unigol y Gogledd yn delio â phroblemau.

·         Holiwyd am ddiweddariad ynghylch taliadau uniongyrchol gan nodi nad oedd gwybodaeth am Wynedd yn yr adroddiad.

·         Gwnaethpwyd sylw bod tueddiad i gyffredinoli’r maes Oedolion fel gwasanaeth ar gyfer yr henoed yn unig; teimlwyd bod tueddiadau i sôn am yr henoed wrth drafod cartrefi cefnogol gan anghofio am eraill sy’n derbyn y ddarpariaeth. Mewn ymateb nododd y Pennaeth Adran bod hyn yn adlewyrchu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.