Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines ac Anwen J. Davies

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu bod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Eryl Jones Williams yn eitem 5 ar y rhaglen oherwydd  bod ei wraig yn derbyn gofal gan Wasanaethau Cyngor Gwynedd. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem

 

·         Y Cynghorydd Rheinallt Puw yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan fod ei ferch yn gweithio i’r Gwasanaeth Oedolion. Roedd yr Aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod

 

·         Y Cynghorydd Gwynfor Owen yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan fod ei fab yn derbyn gofal allsirol. Roedd yr Aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod

 

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 281 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10fed o Dachwedd, 2022 fel rhai cywir.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD ARCHWILIAD AROLYGAETH GOFAL CYMRU - ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 347 KB

I ddiweddaru’r Pwyllgor ar ganfyddiadau’r Arolygaeth Gofal a rhaglen waith yr Adran i  ymateb iddynt. Bydd Huw ap Tegwyn a Myfanwy Moran o Arolygaeth Gofal Cymru yn mynychu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chanfyddiadau’r Arolygaeth Gofal gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Derbyn rhaglen waith yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i’r ymateb

 

Cofnod:

Amlygodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod Arolygaeth Gofal Cymru wedi cynnal arolwg ar berfformiad Gwasanaethau Oedolion y Cyngor yn ystod Medi 2022. Ategodd bod yr Adran yn ymwybodol o’r materion a gafodd eu hadnabod.

 

Croesawyd Myfanwy Moran a Huw ap Tegwyn (Arolygaeth Gofal Cymru) i’r cyfarfod. Darparwyd cyflwyniad i’r Aelodau oedd yn adrodd ar ganfyddiadau Arolygiad Gwerthuso Perfformiad  Gwasanaethau Oedolion Cyngor Gwynedd, Medi 2022. Cyfeiriwyd at bedwar maes roedd yr arolygaeth yn eu hymchwilio ac at gryfderau’r Cyngor wrth ymateb i’r gofynion hynny. Amlygwyd bod disgwyl i Gyngor Gwynedd ystyried y meysydd a nodwyd i’w gwella gan gymryd camau gweithredu priodol i fynd i’r afael â’r meysydd hynny. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy weithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda’r Awdurdod Lleol.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·         Llongyfarch yr Adran am eu gwaith

·         Nad oedd dim byd trawiadol wedi ei ganfod a bod hyn yn galonogol

 

Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

·         Wrth ymgynghori gyda defnyddwyr a gofalwyr fe adolygwyd sampl o ffeiliau gan gynnal trafodaethau a grwpiau ffocws oedd yn cynnwys gweithwyr ym maes gofal, defnyddwyr y Cyngor a defnyddwyr cwmnïau preifat. Ategwyd bod llawer wedi cael ei wneud i geisio cynnwys llais defnyddwyr.

·         Nad oedd cyfeiriad at Wasanaethau Cefnogol na Gweithwyr Cefnogol a hynny oherwydd natur a ffiniau’r arolwg. Nodwyd bod yr elfenmaes’ a ‘lleoliad penodolddim yn berthnasol i’r arolwg yma gan mai edrych ar y gwasanaeth yn gyflawn oedd y gwaith. Yng nghyd-destun elfennau Gwasanaethau Cefnogol byddai hyn wedi ei gasglu drwy adolygu’r ffeiliau. Ategwyd bod yr Arolygwyr wedi trafod gyda grwpiau ffocws, Gwasanaethau Cefnogol yn y trydydd sector a’r Cyngor. Mewn ymateb, amlygwyd os yw Gwasanaethau Cefnogol y Cyngor yn comisiynu Gwasanaeth Cefnogol yna dylai gael ei ymgorffori fel rhan o’r adroddiad

·         Gyda diffyg mewn capasiti staff a chynnydd yn y galw, nodwyd bod yr arolwg wedi adnabod y diffyg ac wedi tynnu sylw at y mater fel un sydd angen ei wella. Ategwyd bod cyllid ychwanegol wedi ei adnabod ar gyfer 2022/23 i gefnogi’r gwaith ond mai anodd yw denu gweithwyr cymwys i weithio contractau tymor byr Er hynny, derbyniwyd bod angen bod yn fwy creadigol wrth gyfarch hyn i’r dyfodol.

·         Wrth dderbyn bod llawer o waith recriwtio wedi ei wneud drwy gyhoeddi fideos a hysbysebion, a bod y broblem recriwtio yn un genedlaethol, gofynnwyd os oedd yr Arolygaeth wedi gweld llwyddiant recriwtio mewn ardaloedd eraill ynteu arian oedd yn gyrru’r broblem? Rhoddwyd ymateb drwy nodi bod rhai ardaloedd gyda chynlluniau gwahanol. Awgrymwyd ystyried moderneiddio gwasanethau ac ystyried esiamplau o arfer da gan Awdurdodau eraill - mentrau cymdeithasol yn engraifft dda..

·         Er nad oedd sicrwydd bod y sefyllfa recriwtio wedi gwella nodwyd bod adolygiadau yn cael eu gwneud yn rheolaidd.

·         I wella a datblygu systemau i sicrhau ansawdd a gwybodaeth am berfformiad ymhellach nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH OEDOLION GWYNEDD pdf eicon PDF 274 KB

Cyflwyno’r Asesiad Anghenion drafft i’w graffu ac i argeisio cefnogaeth y Pwyllgor i’r Asesiad cyn ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor i’w gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Nodyn:

 

  • Tabl ‘Nifer o dai gwarchod fesul Ardaloedd Llesiant Gwynedd’ - angen cynnwys gwybodaeth am Ardal Llesiant Llŷn

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad drafft gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant. Atgoffwyd yr Aelodau bod  Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2022. Nodwyd bod yr asesiad hwnnw wedi ei lunio yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mynegwyd bod yr adroddiad a’r asesiad yn galluogi’r Gwasanaeth i weld y persbectif lleol ar anghenion gofal a chymorth poblogaeth oedolion Gwynedd. Ategwyd, yn ogystal â’r agweddau statudol a gafodd eu cynnwys yn yr adroddiad ar Ogledd Cymru, bod yr asesiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl am anghenion pobl Gwynedd yn benodol fyddai’n cynorthwyo’r Adran i gynllunio gwasanaethau yn lleol, gwneud penderfyniadau ar flaenoriaethau, a datblygu a thrawsnewid gwasanaethau i’r dyfodol

 

Gwaned cais i’r Pwyllgor gyflwyno sylwadau ar yr asesiad cyn ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor i’w gymeradwyo.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Er derbyn yr angen i recriwtio a chynyddu cyflogau gofalwyr, nodwyd mai un rhan o’r ateb yw cyflogau.. Mae’n rhaid hefyd ceisio sicrhau patrwm gwaith teg a modd o ddatblygu gyrfa yn y maes. Cydnabuwyd bod bwlch mawr angen ei gyfarch gyda rhai o elfennau’r broblem recriwtio tu hwnt i allu’r Awdurdodau Lleol a bod angen arweiniad a phenderfyniadau ar lefel cenedlaethol.

·         Mewn ymateb i sylw am gynlluniau i Gartrefi Nyrsio yn Ne Meirionnydd, nodwyd bod bwlch gwelyau nyrsio yn Ne Meirionnydd a Phenllyn ond bod cyfleoedd yn codi mewn rhai ardaloedd i wella’r sefyllfa. Amlygwyd bod De Meirionnydd yn edrych ar barhau gyda’r gwasanaeth o addasu gwelyau preswyl ar gyfer gofal dwys gan ystyried y posibilrwydd o ddarparu gofal nyrsio mewn rhai unedau i’r dyfodol - Bryn Blodau yn cael ei ystyried fel un lleoliad. Er nad oedd amserlen bendant ar gyfer y gwaith, nodwyd bod angen sicrhau bod y gallu i ddarparu gwasanaeth wedi ei sefydlu mewn egwyddor ond bod angen cryfhau’r berthynas gyda’r Bwrdd Iechyd a chwblhau gwaith cyfreithiol sydd ynghlwm. Y bwriad wedi ei adnabod fel cyfle sydd yn hyfyw, yn faes blaenoriaeth ac yn gynwysedig yng Nghynllun y Cyngor – a bod disgwyliadau felly i gyflawni.

·         Wrth ymgynghori gyda gofalwyr defnyddiwyd y wybodaeth gyfredol o’r gwaith asesu y mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr y 3ydd sector yn ei gasglu ynghyd a gwybodaeth gan y Swyddog Materion Gofalwyr. Er derbyn bod y diffiniadgofalwryn un eang ac nad oedd modd ymgynghori gyda phawb, wedi derbyn y sylwadau, cyflwynwyd casgliadau’r asesiad gyda’r defnyddwyr am sylwadau pellach.

·         Yng nghyd-destun awtistiaeth, amlygwyd siom nad oedd Cydlynydd / Swyddog Prosiect wedi ei benodi ar gyfer datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth er bod bwriad hysbysebu’r swydd yn yr wythnosau nesaf.

·         Croesawyd y bwriad i sicrhau y dylai bob aelod staff sydd yn gweithio’n  uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth ASA, er mai ar lefel gyffredinol oedd hyn. Pwysleisiwyd bod rhaid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2022/23 pdf eicon PDF 399 KB

I’r Pwyllgor flaenoriaethu eitemau ar gyfer cyfarfod 20 Ebrill 2023 a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Addasu’r rhaglen waith er mwyn blaenoriaethu eitemau ar gyfer cyfarfod Ebrill 2023 o’r Pwyllgor Craffu Gofal a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig.

 

Cofnod:

Darparwyd adroddiad byr i’r Aelodau yn dangos rhaglen waith diweddaraf y Pwyllgor dros y misoedd nesaf. Eglurwyd y bydd angen addasu’r rhaglen waith o ganlyniad i eitemau yn llithro. Gyda thair eitem eisoes wedi eu rhaglennu ar gyfer cyfarfod mis Ebrill, awgrymwyd bod ‘Recriwtio a chadw staff yn y maes gofal (Adran Plant a Theuluoedd)’ a ‘Cynllun Gweithredu yn cael eu  hail raglennu  ar gyfer Mehefin 2023.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Addasu’r rhaglen waith er mwyn blaenoriaethu eitemau ar gyfer cyfarfod Ebrill 2023 o’r Pwyllgor Craffu Gofal a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig.