Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines, Rheinallt Puw a Gareth Coj Parry

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu bod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·       Y Cynghorydd Gwynfor Owen yn eitem 5 a 6 ar y rhaglen gan fod ei fab yn awtistig. Roedd yr Aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 232 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Chwefror 2023 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2023 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD AR GYNLLUN AWTISTIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 254 KB

Aelodau Cabinet: Cynghorydd Elin Walker Jones a’r Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

I ystyried diweddariad ar y cynnydd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod

 

b)    Sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i drafod gweithredu’r Cynllun gyda’r tîm newydd gan sicrahu cynrychiolaeth o’r Adran Addysg a’r Bwrdd Iechyd

 

c)    Derbyn adroddiad cynnydd ymhen 6 mis

 

Cofnod:

Amlygodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr adroddiad yn un ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Oedolion a’r Gwasanaeth Plant i sicrhau bod y cynllun Awtistiaeth yn cael ei ymgorffori yn llyfn i’r ddau wasanaeth. Nododd, fel Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (sydd yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth i wella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i bobl awtistig a’u teuluoedd neu ofalwyr), bod y Cynllun yn cael sylw blaenllaw.

 

Ategodd y Cyng Elin Walker Jones (Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc) bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud gan Cyngor Gwynedd ers i’r Cod Ymarfer ar gyfer Cyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth ddod i rym yn Medi 2021. Cyfeiriwyd at y bid llwyddiannus a wnaed fyddai’n golygu y gellid cynyddu adnoddau staffio ar gyfer datblygu gwasanaethau Awtistiaeth ar draws y Sir, datblygu modiwlau E-ddysgu i godi ymwybyddiaeth staff Awdurdodau Lleol, y Bwrdd Iechyd a’r Heddlu a chyfeirio at y Tim Awtistiaeth Cenedlaethol sydd a rôl gyffredinol yn natblygiad gwasanaethau ledled Cymru ac, wrth gyfarfod yn chwarterol, yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth a diweddariadau perthnasol.

 

Nodwyd bod blaenoriaethau’r 6 mis nesaf yn cynnwys

·       Cynllun sefydlu ar gyfer y tîm newydd a lansiad y gwasanaeth newydd i godi ymwybyddiaeth.

·       Sefydlu prosesau a threfniadau clir i'r tîm weithio ar draws gwasanaethau plant ac oedolion. Cysylltu â fforymau presennol.

·       Cryfhau ymhellach y cysylltiadau gyda’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Rhanbarthol, mynychu eu digwyddiadau gwybodaeth lleol a chwilio am gyfleoedd i weithio ochr yn ochr â’u gweithiwr cyswllt yng Ngwynedd

·       Ymgysylltu ag unigolion awtistig a’u teuluoedd yn ogystal â phartneriaid yn lleol er mwyn symud tuag at gyd-gynhyrchu gwasanaethau lleol

·       Sefydlu perthynas waith gyda’r gwasanaeth niwroddatblygiadol a chynnig cymorth yn ystod camau cynnar asesu a diagnosis.

·       Cwblhau'r diweddariad gweithredu fel rhan o'r asesiad gwaelodlin ar gyfer Gogledd Cymru erbyn diwedd mis Mai.

·       Adolygu cynllun awtistiaeth Gwynedd yn seiliedig ar y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr asesiad gwaelodlin.

Diolchwyd am y cyflwyniad

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·       Canmol y gwaith y mae’r gwasanaeth yn ei wneud

·       Croesawu penodiad Cydlynydd / Swyddog Prosiect ar gyfer datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth

·       Bod angen sicrhau penodiadau Cymraeg fel nad yw plant o aelwyd Cymraeg o dan anfantais

·       Bod angen gweld newid a sicrhau nad cynllun papur yn unig sydd yma

·       Bod y Bws Awtistiaeth yn wych (yn cynnig hyfforddiant arloesol ac ymarferol sydd wedi'i ddatblygu i roi profiad i bobl nad ydynt yn awtistig o'r anawsterau sy’n wynebu pobl ar y sbectrwm awtistiaeth) ac y dylid annog y bws teithiol yma

·       Bod y sbectrwm yn eang a'i bod yn bwysig adnabod pwy sydd wir angen cefnogaeth

·       Bod angen sicrhau cefnogaeth briodol i oedolion a phlant wrth iddynt fynd drwy’r broses asesu

·       Pryder bod plant yn cael eu gwrthod gan y gwasanaeth asesu gan nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf - lle felly fydd y plant yma yn cael sylw? Nodwyd bod angen symleiddio’r gwasanaeth.

·       Bod cymariaethau rhwng Awtistiaeth a Dementia ac y dylid annog adnabod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CEFNOGAETH I UNIGOLION SYDD Â DEMENTIA YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 162 KB

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

I ystyried diweddariad ar ddatblygiadau newydd yng Ngwynedd i gefnogi unigolion â dementia

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant. Amlygodd mai prif bwrpas yr adroddiad oedd amlinellu’r datblygiadau newydd sydd yn Ngwynedd i gefnogi unigolion gyda Dementia.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion mai gweledigaeth y Sir yw cefnogi unigolion sy’n byw gyda dementia er mwyn eu galluogi i fyw gartref mor annibynnol â chyn hired ag sydd bosib gyda’r angen i sicrhau’r ddarpariaeth gofal a chefnogaeth gywir, amserol, yn y lle iawn i gwrdd ag amrediad o anghenion.  Eglurodd bod swydd Cydlynydd Dementia Gwynedd wedi’i chreu yn ddiweddar er mwyn arwain ar y maes o fewn y Cyngor drwy gydweithio ag unigolion sydd wedi’u heffeithio â dementia, y Bwrdd Iechyd a’r Trydydd Sector. Bydd y cydlynydd yn gyfrifol am greu gweledigaeth a strategaeth Dementia Gwynedd i ymateb i’r llwybr safonau gofal. Swydd dros dro yw hon wedi’i hariannu o’r Gronfa Integredig Rhanbarthol (RIF).

 

Cyfeiriwyd at y camau nesaf gan adrodd bod y Gwasanaeth yn ddibynnol ar arian dros dro i gefnogi nifer fawr o ddatblygiadau yn y ddarpariaeth gofal i unigolion â dementia. Yr her fydd sicrhau arian hir dymor i sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad pellach y gwasanaethau hyn. Bydd gwaith yn cael ei wneud i ragweld effaith y galw ar gyllidebau dros y blynyddoedd nesaf a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o ran ail flaenoriaethu adnoddau os na fydd cyllideb ychwanegol ar gael.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·       Croesawyd datblygiad Cartref Gofal Penyberth, Penrhos, cyfeiriad mae’r Cyngor yn dyheu i’w ddilyn a sydd yn llywio cyfeiriad gofal i’r dyfodol a gweddnewid y gwasanaeth

·       Bod y Gwasanaeth Dementia Actif Gwynedd yn gwneud gwaith arbennig iawn sydd wedi ei gydnabod ar draws Cymru – yn llongyfarch y tim

·       Bod cynnwys y teulu mewn asesiadau gofal yn hanfodol i gefnogaeth dementia

·       Bod rhaid cadw pobl yn eu cymunedau

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

·       Mewn ymateb i sylw nad oes darpariaeth nyrsio arbenigol ar gael i unigolion sydd yn byw yn ardaloedd Llyn a Meirionnydd a’r awgrym y dylid mynnu darpariaeth ddigonol drwy ddylanwad, nodwyd nad ydyw wedi bod yn bosib i Awdurdodau Lleol ddarparu gofal nyrsio ond bod y Cyngor bellach yn ymyrryd mwy yn y farchnad fel mae bylchau mewn gwasanaethau yn ymddangos yn yr ardaloedd. Nodwyd bod modd datrys rhai elfennau o’r ddarpariaeth ond nad oes gorfodaeth ar y Bwrdd Iechyd na cwmniau annibynnol i ddarparu Gwasanaeth gofal nyrsio arbenigol dementia ym mhob rhan o’r Sir – gellid er hyn annog a dylanwadu ar benderfyniadau busnes.  Er yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd yn cael ei wneud rhaid ymateb i’r angen ac felly mae’r Cyngor yn ystyried effeithlonrwydd darparu gwasanaeth yn hytrach na phrynu gwasanaeth (mewn rhai sefyllfaoedd). Nodwyd bod angen sicrhau darpariaeth hafal ar draws y Sir - bydd posibiliadau yn cael eu hystyried ar safle Penyberth i’r dyfodol.

·       Bod Llys Cadfan Tywyn yn cynnig 33 o welyau gyda 15 yn welyau dementia arbenigol - er hynny gwelir rhai unigolion yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.