Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2023/2024

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 / 2024

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2023/2024.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2023/2024.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2023 / 2024

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2023 /2024

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Linda Anne Jones yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2023/2024.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Rheinallt Puw, Gwynfor Owen, Einir Wyn Williams, Richard Medwyn Hughes, Sasha Williams, John Pughe, Anwen Jane Davies ac Angela Russell.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023 fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR WASANAETH IECHYD MEDDWL GWYNEDD pdf eicon PDF 315 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad a chefnogi cynlluniau’r adran i sefydlu model gwaith newydd ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Meddwl
  2. Gofyn i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant gysylltu gyda Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru i egluro bwriad i greu model gwaith newydd a'r rhesymau tu ôl i hynny
  3. Croesawyd adroddiad cynnydd a chyfathrebiad cyson rhwng swyddogion yr Adran â’r Pwyllgor Craffu Gofal ar ddatblygiad y Gwasanaeth Iechyd Meddwl.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad ar Wasanaeth Iechyd Meddwl Gwynedd. Atgoffwyd yr aelodau gan yr Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl bod y Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn dîm integredig ers 1996, a bod y Bwrdd Iechyd yn arwain ar y gwasanaeth. Manylwyd bod y gwaith yn cael ei arwain gan Strategaeth ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella darpariaeth iechyd meddwl sydd ar gael i gefnogi unigolion yng Nghymru.

 

Eglurwyd bod y gwasanaeth wedi ei rannu i gynnig cefnogaeth o fewn gwasanaethau cynradd i achosion lefel isel, a gwasanaethau eilradd i achosion mwy dwys. Cadarnhawyd bod cyfeiriadau yn cael eu derbyn gan feddygon teulu, cyn cael eu craffu’n ddyddiol er mwyn ystyried os oes gwybodaeth ddigonol i wneud penderfyniad am addasrwydd i dderbyn asesiad iechyd meddwl. Nodwyd bod y cyfeiriadau yn cael eu cyfeirio’n ôl i’r meddygon teulu gydag eglurhad, os nad ydynt yn addas i’w cyfeirio ymlaen i’r gwasanaeth perthnasol.

 

Esboniwyd bod cyfrifoldebau clir o fewn y bartneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd. Gan mai’r Bwrdd Iechyd sy’n arwain ar y gwasanaeth, mae’r ffocws ar ddiagnosis a meddyginiaeth ar eu rhan nhw - yr elfen feddygol. Cadarnhawyd mai rôl Cyngor Gwynedd fel awdurdod lleol yw canolbwyntio ar elfennau cymdeithasol. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd hefyd yn arwain ar y gwaith o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Pwysleisiwyd mai gweithwyr yw prif adnodd y gwasanaeth gan eu bod yn cynnig therapi a chefnogaeth i unigolion ymdopi a goresgyn eu salwch.

 

Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn cyflogi staff mewn nifer o rolau gwahanol er mwyn cynnig y gwasanaeth hwn, gan gynnwys:

 

·       2 Arweinydd Ardal (Gogledd a De Gwynedd)

·       12.5 Gweithiwr Cymdeithasol

·       9 Gweithiwr Cefnogol er mwyn gweithio’n fwy dwys gydag unigolion ar gynlluniau gofal a thriniaeth (gyda chyfraniad ariannol i’w cyflogi gan y Bwrdd Iechyd).

 

Bwriedir ailfodelu’r cynllun aml asiantaeth iechyd meddwl presennol sydd gan Gyngor Gwynedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn ymgynghoriad â Phennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Iechyd Meddwl a’r ddau Arweinydd Ardal ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Amlygwyd yr angen i adolygu rôl y Gweithwyr Cefnogol o fewn y gwasanaeth a’r angen i adolygu lleoliadau all-sirol er mwyn sicrhau ein bod yn deall dyheadau unigolion i ddychwelyd i’r ardal neu beidio.

 

Adroddwyd bod trafferthion yn codi ar draws Gwynedd a gweddill Cymru pan mae awdurdodau lleol yn cydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn integreiddio Gofal a Iechyd Cymdeithasol, gan gynnwys:

 

·       Diffyg eglurder am ddeilliannau

·       Galw rhywbeth yn ‘bartneriaeth’ er mwyn gwneud iddo swnio’n well

·       Diffyg eglurder am ysgogwyr sefydliadol

·       Diffyg eglurder am ysgogwyr sydd heb eu datgan

·       Bod yn afrealistig a gor-uchelgeisiol;

·       Dim digon o sylw i fanylion ymarferol.

 

Cadarnhawyd bod y peryglon cyffredin hyn yn cael eu nodi fel rhwystrau creiddiol gan arweinwyr iechyd meddwl, sy’n eu hatal rhag cyflawni eu dyletswyddau statudol yn effeithiol. Nodwyd bod lefel y risgiau hyn wedi cynyddu ac yn cael effaith ar lesiant y staff gan wneud iddynt deimlo’n ynysig a ddim yn rhan greiddiol o’r bartneriaeth.

 

Manylwyd ar risg arall  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

GWEITHLU GWASANAETH PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 300 KB

 

·         I ystyried a derbyn yr adroddiad

·         Cefnogi bwriad y Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teulueodd

·         Cydnabod fod y gwaith o edrych ar y materion yma eisoes wedi cychwyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd gan nodi’r prif bwyntiau canlynol.

 

Cadarnhawyd bod yr adroddiad yn ddiweddariad i’r hyn gyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Tachwedd 2022 ar faterion sy’n effeithio Gwasanaeth Plant mewn perthynas â denu, recriwtio a chadw staff proffesiynol. Eglurwyd bod y Gwasanaeth wedi profi trafferthion yn y maes yma yn y flwyddyn 2020/21 yn sgil Pandemig Covid-19 a bod staff yn penderfynu gadael i fynd i swyddi eraill, neu gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Pwysleisiwyd bod y sefyllfa wedi gwella erbyn hyn ac nid oes unrhyw swydd wag o fewn y gwasanaeth ar hyn o bryd.

 

Datganwyd bod pedwar maes i weithredu arnynt er mwyn ymateb i’r heriau sy’n ymddangos yn y gwasanaeth, sef:

 

·       Cyflogau

·       Denu a chadw staff

·       Buddsoddi mewn gweithwyr newydd

·       Datblygu lles staff

Eglurwyd mai cyflogau yw’r prif fater sy’n effeithio ar ddenu a chadw staff. Yn sgil hyn, gwelwyd bod staff yn gadael i weithio i awdurdodau eraill er mwyn cymryd mantais o delerau gwaith hyblyg. Nodwyd bod nifer o swyddi yn cael eu hysbysebu sawl gwaith cyn penodi staff, a bod angen diwygio’r raddfa gyflog yn aml cyn denu ymgeiswyr.

 

Soniwyd bod yr Adran yn ceisio adnabod talent o fewn y gweithlu presennol  ac yn rhoi cyfle i unigolion gael cymwysterau i ddatblygu eu gyrfa. Nodwyd bod y staff sy’n derbyn y gefnogaeth hon yn aros i weithio gyda’r adran am gyfnod maith. Hefyd, cadarnhawyd bod hyn yn gymorth i’r Adran i sicrhau bod y staff yn ddwyieithog.

 

Ymfalchïwyd bod yr Adran bellach yn denu ymgeiswyr wrth hysbysebu swyddi. Rhannwyd enghraifft o Swyddi Awtistiaeth a hysbysebwyd yn ddiweddar ble derbyniwyd 20 ymgais ar gyfer 4 swydd.

 

Esboniwyd bod yr Adran yn ceisio osgoi defnyddio staff asiantaeth ble mae’n bosibl. Nodwyd bod trafferthion yn gallu codi wrth eu defnyddio oherwydd dim ond un wythnos o rybudd sydd angen ei nodi cyn iddynt orffen gweithio i’r Adran. Yn ogystal, nodwyd bod y mwyafrif o staff asiantaeth yn ddi-gymraeg a bod eu cyflogau tua 40-70% yn fwy na’r gyfradd arferol. Er hyn, cadarnhawyd bod uchafswm bellach wedi cael ei osod ar gyflogau staff asiantaeth. Cadarnhawyd nad oes staff asiantaeth wedi gweithio i’r Adran ers tua 7 mlynedd oherwydd eu llwyddiant gyda llenwi swyddi.

 

Nodwyd bod yr adran yn awyddus i barhau i roi anogaeth ac i roi sylw brys i faterion pwysig wrth ysbrydoli ac arwain. Eglurwyd bod tri opsiwn strategol posibl i’w ddilyn, sef:

 

1.     Parhau ar yr un trywydd a chynnal y ‘status quo’.

2.     Dewis arddull drawsnewidiol, uchelgeisiol.

3.     Dewis arddull rhagweithiol tuag at welliant parhaus.

Cadarnhawyd bod yr Adran yn ffafrio’r trydydd opsiwn uchod  gan ei fod yn opsiwn gyraeddadwy i ddatrys heriau’r Adran. Cadarnhawyd eu bod angen cefnogaeth y Cyngor i weithredu’r opsiwn hwn yn y dyfodol oherwydd bod y nifer o geisiadau sy’n cyrraedd yr Adran wedi cynyddu’n fawr dros y blynyddoedd diwethaf. Eglurwyd bod 7175 o geisiadau wedi cyrraedd ymmlwyddyn ariannol 2022/23 o’i gymharu a 2500 ymmlwyddyn ariannol 2019/20.

 

Mewn ymateb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADBORTH ADOLYGIAD DIOGELU GAN AROLYGAETH GOFAL CYMRU pdf eicon PDF 267 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol.

 

Cadarnhawyd bod Adolygiad Ymarfer Plant wedi cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2022 gan ganolbwyntio ar Weithdrefnau Diogelu Cymru, Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Manylwyd bod yr adolygiad yn ceisio pennu i ba raddau roedd strwythurau a phrosesau presennol yn sicrhau bod plant yn cael eu gosod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ac hefyd yn cael eu tynnu oddi arni pan yn ddiogel i wneud hynny. Pwysleisiwyd hefyd ei fod yn gyfle i ddysgu ar y cyd, adnabod arferion da a systemau cadarnhaol o weithredu.

 

Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn un o bum awdurdod lleol a ddewiswyd i dderbyn yr adolygiad hwn. Nodwyd bod yr adolygiad wedi cymryd lle rhwng y 26ain a’r 29ain o Fawrth 2023 a bod adborth llafar wedi cael ei rannu gyda Phennaeth yr Adran a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Eglurwyd nad oes adroddiad penodol ar gyfer Gwynedd yn cael ei gyhoeddi, ond bydd adroddiad cyfansawdd ar gyfer yr adolygiad yn ei gyfanrwydd yn cael ei gyhoeddi pan fydd yr adolygiad wedi dod i ben.

 

Rhannwyd nifer o ganfyddiadau’r arolwg a oedd yn berthnasol i Wynedd, gan gynnwys:

 

·       Bod plant yng Ngwynedd yn elwa o asiantaethau gwahanol yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol.

·       Bod ffocws clir ar asesu risg a rhoddir sylw penodol i’r trothwy os ydi’r plentyn wedi, neu yn debygol o ddioddef niwed arwyddocaol,

·       Bod penderfyniadau clir yn cael eu gwneud yn gyson ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

·       Bod ymarfer da ar waith a bod llais a phrofiadau bywyd plant yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau am ddiogelwch.

·       Sylwyd bod angen gwneud gwaith pellach i weld sut gellid datblygu cyfleoedd i blant gymryd rhan mewn cynadleddau.

·       Soniwyd bod rôl yr ymarferydd gofal cymdeithasol yn adnodd gwerthfawr.

·       Nodwyd bod cyfathrebu clir efo rhieni yn enwedig pan fo staff yn ceisio esbonio i’r rhieni pam yr ystyriwyd bod eu plant mewn perygl o niwed arwyddocaol.

·       Eglurwyd bod rôl cadeiryddion cynadleddau achos yn greiddiol bwysig o ran atgoffa aelodau o amcanion cynhadledd achos a gynhelir yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Diolchwyd i’r Adran am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn a nodi’r adroddiad.

 

10.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2023-24 pdf eicon PDF 493 KB

I ystyried a mabwysiadu blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2023 /24

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2023/24.

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2023/24 gan yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu yn dilyn penderfyniadau’r Aelodau yng ngweithdy blynyddol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 9fed Mai 2023.

 

Nodwyd bod dwy eitem ar ôl i’w rhaglennu ar gyfer y flwyddyn, sef:

 

·       Briff Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth

o   Ystyriwyd bydd yr eitem yma yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi.

·       Adroddiad Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth

o   Nodwyd and oes dyddiad wedi cael ei gadarnhau pryd bydd yr eitem hon yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor a'i fod yn ddibynnol ar gyfarfodydd pellach.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Blaen raglen yn ddogfen fyw ac felly mae modd diwygio’r  flaenraglen os bydd materion ychwanegol yn codi yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadwyd rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2023/24.