skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ffion Elain Evans  E-bost: ffionelainevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen J. Davies, Medwyn Hughes ac Einir Wyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorwyr Eryl Jones-Williams a Gwynfor Owen fuddiant yn eitem 7 gan eu bod yn ofalwyr di-dal ar gyfer aelodau o’u teulu. Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 198 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 21ain o Fedi, fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar yr 21ain o Fedi 2023, fel rhai cywir.

5.

GWASANAETH GOFAL DYDD pdf eicon PDF 148 KB

Ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

b)     Cefnogi’r bwriad i gynnal adolygiad llawn o’r ddarpariaeth bresennol ac ystyried model amgen.

c)     Gofyn i’r swyddogion sicrhau bod y model newydd yn darparu gwasanaeth cyson ar draws y sir gan gynnwys gwasanaeth i rai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

d)     Gofyn i’r adran gyflwyno adroddiad pellach ar yr adolygiad a’r modelau posib pan yn amserol er mwyn rhoi cyfle i’r craffwyr roi mewnbwn pellach.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro nad yw’r model traddodiadol o ddarparu Gofal Dydd wedi ei adolygu yng Ngwynedd ers blynyddoedd lawer ac nad yw wedi ei addasu i gyfarch anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016. Eglurwyd ei bod hi’n amserol i ail-ystyried y ddarpariaeth yn enwedig o ystyried gwaith diweddar a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’r modd y mae’r pandemig wedi pwysleisio pwysigrwydd cyfleon cymdeithasu a bod yn rhan o gymuned i lesiant unigolion. Nodwyd mai’r gobaith yw y bydd yr adolygiad yn gyfle i ystyried ffyrdd gwahanol, mwy addas a hyblyg o ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau.

 

Esboniwyd bod y Cyngor wedi arfer darparu rhaglen o weithgareddau gofal dydd traddodiadol mewn lleoliadau penodol yn y sir ar gyfer oedolion oedd angen cefnogaeth. Roedd y canolfannau hyn yn galluogi pobl hŷn i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau penodol gan roi cyfle i’r sawl oedd yn gofalu amdanynt o ddydd i ddydd gael ychydig o seibiant.

 

Eglurwyd mai bwriad yr adran yw symud i ffwrdd o’r model traddodiadol o ddarparu gwasanaethau ynghlwm ag adeiladau a chanolbwyntio yn hytrach ar sut y gellid cyfarch a chefnogi llesiant unigolion a gofalwyr mewn amryw o wahanol ffyrdd. Er mwyn cyflawni hyn, nodwyd bod yr adran yn bwriadu cynnal adolygiad ac ymgynghori gyda phobl Gwynedd am drefniadau darpariaeth gofal dydd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y datblygiadau. Mynegwyd gwerthfawrogiad am ba mor onest yw ei gynnwys a’r modd y mae’n cyfaddef nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn llwyddo i gyrraedd pawb.

 

-        Nodwyd bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi dod i rym ers saith mlynedd bellach ac felly holwyd pam mai rŵan y mae’r adran yn bwriadu ail-ystyried y ddarpariaeth?

o   Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adran wedi dechrau ar y gwaith cyn y pandemig ond bod y gwaith wedi gorfod dod i ben oherwydd materion diogelwch. Nodwyd ei bod hi’n amserol i ail-ystyried y mater bellach ond rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith y dylai’r gwaith fod wedi cael ei wneud flynyddoedd yn ôl.

o   Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant fod pwysau enfawr wedi bod ar yr adran a bod hynny’n cyfrannu’n uniongyrchol at yr amser mae wedi cymryd i ail-ymweld â’r gwaith.

 

-        Mynegwyd pryder nad yw’r ddarpariaeth yn cyrraedd ardaloedd gwledig y sir a bod angen cymryd camau i sicrhau gwell darpariaeth ar gyfer yr ardaloedd hyn yn y dyfodol.

o   Mewn ymateb, cytunwyd bod y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig yn bwysig ond na fydd posib cael canolfan ym mhob pentref.

o   Serch hyn, nodwyd bod gweithgareddau cymunedol yn digwydd yn y mwyafrif o gymunedau a bod angen gweld beth sydd ar gael mewn gwahanol ardaloedd a’u defnyddio er mwyn darparu’r gefnogaeth i unigolion.

o   Nodwyd mai un o’r ffydd gorau o gefnogi pobl ydi parhau i adael iddyn nhw fod yn rhan o’r gymuned, yn enwedig mewn achosion ble mai cwmnïaeth yw’r broblem ac felly  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

TREFNIADAU RHEOLI A CHYNNAL CARTREFI GOFAL pdf eicon PDF 136 KB

Ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad, croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr archwiliadau cyntaf a diolch i staff y cartrefi gofal am eu gwasanaeth.

b)    Datgan pryder am heriau staffio cartrefi gofal a’r problemau a ddaw yn sgil hynny megis anhawster cwblhau hyfforddiant.

c)     Gofyn i’r adran berthnasol ystyried sut y gellir sicrhau bod pob cartref yn cyrraedd lefel sicrwydd uchel yn y dyfodol.

d)    Gofyn am wahoddiad i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo trafodaethau am adroddiadau archwilio mewnol cartrefi gofal.

e)    Hysbysu aelodau y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o sylwadau a phenderfyniadau aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan esbonio bod gan Gyngor Gwynedd 13 cartref gofal sy’n cefnogi a gofalu am oedolion ar draws y sir a’u bod yn cael eu harchwilio’n gyson gan ystod eang o archwilwyr mewnol ac allanol. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn rhoi sylw’n benodol i archwiliadau sydd wedi’u cynnal gan Wasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor a’u bod wedi archwilio tri chartref gofal yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23. Y cartrefi hynny oedd cartrefi Plas Gwilym, Hafod Mawddach a Bryn Blodau. Eglurwyd mai bwriad yr archwiliadau oedd sicrhau bod trefniadau addas mewn lle ar gyfer rheoli a chynnal y cartrefi yn briodol ac yn unol â rheoliadau a safonau perthnasol.

 

Eglurwyd bod yr archwiliadau wedi dod i’r casgliad mai cyfyngedig oedd lefel sicrwydd y cartrefi dan sylw ac felly bod angen cymryd camau er mwyn gwella cydymffurfiaeth â’r rheolaethau ac er mwyn lliniaru’r risgiau a amlygwyd. Mewn ymateb, esboniwyd bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i weithredu camau ar gyfer lliniaru’r risg a amlygwyd a darparwyd rhestr o’r camau hynny yn yr adroddiad.

 

Nodwyd bod archwiliadau dilynol wedi’u cynnal yn y tri chartref dan sylw ym mis Hydref 2023 er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth / cartref wedi gweithredu ar y camau gweithredu ymrwymwyd iddynt. Cadarnhawyd bod gwelliant wedi’i weld ym mhob cartref ond bod camau pellach i’w cymryd er mwyn lliniaru’r risg ymhellach. Eglurwyd bod nifer o’r materion sy’n parhau i fod angen sylw yn ymwneud â materion staffio, megis hyfforddiant a goruchwyliaeth. Nodwyd bod y sefyllfa’n heriol ac yn amrywio rhwng cartrefi. Cadarnhawyd y bydd y sefyllfa a’r cartrefi unigol yn parhau i gael eu monitro er mwyn sicrhau bod y camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr archwiliadau cyntaf.

 

-        Diolchwyd i holl staff y cartrefi gofal am eu gwaith a’u hymroddiad i’w cleientiaid. Nodwyd bod y ganmoliaeth gan bobl Gwynedd i’r cartrefi yn dda iawn a bod hynny werth ei nodi.

 

-        Tynnwyd sylw at y ffaith bod adroddiadau archwilio mewnol cartrefi gofal yn mynd gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio cyn y Pwyllgor Craffu Gofal a chynigiwyd y dylai cynrychiolwyr o’r pwyllgor hwn fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo trafodaethau am adroddiadau archwilio mewnol cartrefi gofal.

 

-        Mynegwyd pryder am y ffaith mai dim ond tri chartref sy’n cael eu harolygu’n flynyddol a holwyd sut y mae sicrhau’r safon mewn cartrefi sydd ddim yn cael eu harolygu’r flwyddyn honno?

o   Mewn ymateb, eglurwyd bod Archwilio Mewnol yn dewis tri chartref ar hap bob blwyddyn i’w archwilio a bod archwiliadau eraill yn digwydd hefyd, boed yn rhai allanol neu’n rhai mewnol gan y gwasanaeth.

o   Nodwyd bod y gwasanaeth yn ceisio dysgu o bob archwiliad a bod unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am welliannau yn cael eu rhoi ar waith ym mhob cartref.

 

-        Anogwyd yr aelodau i ymweld â chartrefi gofal y sir gan y byddai’r staff  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CEFNOGAETH I OFALWYR DI-DAL pdf eicon PDF 322 KB

Ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad a datgan cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dal gan gynnwys y cynllun taliadau uniongyrchol.

b)    Gofyn am gyflwyniad a gwybodaeth pellach i aelodau am y cynllun taliadau uniongyrchol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro bod yr adroddiad yn un ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd gan fod cefnogi gofalwyr di-dâl yn faes pwysig a heriol sy’n berthnasol i’r ddwy adran. Eglurwyd mai gofalwyr di-dal sy’n darparu’r mwyafrif helaeth o ofal a chefnogaeth i unigolion bregus, anabl a sâl yn y gymdeithas ac felly bod angen sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael ar eu cyfer. Nodwyd bod 8.9% o boblogaeth Gwynedd yn adnabod eu hunain fel gofalwyr di-dal yn ôl cyfrifiad 2021 ond bod y ffigwr gwirioneddol yn llawer uwch na hynny.

 

Esboniwyd bod cefnogi gofalwyr di-dal wedi’i adnabod fel un o’r amcanion o fewn y maes blaenoriaeth ‘Gwynedd Ofalgar’ yng nghynllun y Cyngor 2023-28. Nodwyd bod y Cyngor yn awyddus i gydweithio gyda’u partneriaid i ddatblygu Cynllun Gofalwyr grymus ac uchelgeisiol ar gyfer Gwynedd a bod y blaenoriaethau a’r pethau y gellid mynd i’r afael â nhw wedi’u rhannu’n bedair thema:

 

1.     Adnabod a gwerthfawrogi gofalwyr di-dal

2.     Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth

3.     Help i fyw yn ogystal â gofalu

4.     Cefnogi gofalwyr di-dal mewn addysg ac yn y gweithle

 

Tynnwyd sylw at ap newydd ‘AiDi’ sydd wedi’i ddatblygu ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn helpu gofalwyr ifanc ddarganfod gwybodaeth a chefnogaeth. Mae’r ap yn caniatáu i ofalwyr ifanc gael gostyngiadau mewn degau o siopau lleol ac yn eu galluogi i gysylltu’n sydyn gyda'r ysgol neu’r coleg os ydynt yn rhedeg yn hwyr oherwydd eu cyfrifoldebau. Nodwyd bod 61 o ofalwyr ifanc wedi ymaelodi hyd yma.

 

Eglurwyd mai’r gobaith yw ehangu’r gefnogaeth sydd ar gael ar i ofalwyr di-dal ar hyn o bryd gyda’r bwriad o sicrhau cefnogaeth a chydnabyddiaeth deg ac amserol ar eu cyfer.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad ac am yr holl waith a wneir gan y tîm i gefnogi gofalwyr di-dal.

 

-        Canmolwyd holl waith caled y gofalwyr di-dal ar draws Gwynedd. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd y gwaith a wneir ganddynt gan ei fod yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at ysgafnhau pwysau mewn meysydd eraill.

 

-        Mynegwyd diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am daliadau uniongyrchol er mwyn i’r Cynghorwyr ddod yn ymwybodol o sut mae’r system yn gweithio.

o   Mewn ymateb, nodwyd bod taliadau uniongyrchol wedi’i weld fel mater dyrys yn y gorffennol ond bod gymaint o botensial i’w defnyddio i dalu am ystod eang o wahanol bethau.

o   Eglurwyd fod ansicrwydd ynglŷn sut i gyflwyno’r mater ymysg y staff ac felly bod angen gweithio ar gynyddu eu hyder a’u hymwybyddiaeth hwy.

o   O ystyried hyn, cytunwyd y byddai’n fuddiol i’r Cynghorwyr dderbyn rhagor o wybodaeth am daliadau uniongyrchol. Ategwyd bod cynyddu ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dal yn gwbl allweddol ac anogwyd yr aelodau i ledaenu’r neges.

o   Awgrymwyd mai cyflwyniad fyddai’r ffordd fwyaf addas o ddarparu’r wybodaeth i’r Cynghorwyr a chynigiwyd y byddai’n fuddiol petai’n cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb.

 

-        Nodwyd bod angen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.