Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Nodyn: **NEWID LLEOLIAD - CYFARFOD RHITHIOL**
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 1af o
Chwefror, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Paratoi Adroddiad Blynyddol ar
weithrediad y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a’i gyflwyno i’r Cabinet a’r
Pwyllgor Craffu er mwyn craffu a monitro’r trefniadau ar gyfer delio’n
effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u
cynrychiolwyr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi
ei bod yn braf gweld y diolchiadau, a bod y pwyllgor yn craffu Adroddiad
Blynyddol y Weithdrefn Cwynion, Ymholiadau a Diolchiadau ar gyfer 2023-24 pan
fydd yn barod yn y misoedd nesaf. |
|
GWASANAETH EGWYL FER (TÎM INTEGREDIG DERWEN) PDF 238 KB Er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb sydd angen y
gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad gan ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Egwyl Fer, a
mynegi gobaith y bydd y cyllid ar gael i barhau i gynnig y gwasanaeth i bawb
sydd ei angen fel mae amser yn mynd yn ei flaen. |
|
GRŴP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH PDF 235 KB I gyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn
canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen. b) Gofyn
i’r gwasanaeth:- ·
gynnal awdit o
sefyllfa hyfforddiant staff proffesiynol sy’n gweithio yn y maes fel cam
cyntaf. ·
Yna ystyried gosod targed ar gyfer cyflawni
hyfforddiant gan anelu i’w cynnwys ar y rhaglen hyfforddiant craidd fel a
ganlyn:- a) staff sy’n gweithio neu’n dod i gyswllt
gyda phobl ag awtistiaeth (fesul adran a chan gynnwys ysgolion) a b) hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ymhlith
holl staff y Cyngor. ·
adeiladu
ar yr hyfforddiant i staff mewn ysgolion a meddygfeydd ynghylch cyfeirio at y
Tîm Niwro-ddatblygiadol mewn achosion nad ydynt yn
gymwys. ·
annog
yr holl Gynghorwyr i ddilyn yr e-fodiwl hyfforddiant Ymwybyddiaeth o
Awtistiaeth a mynychu dyddiau agored ar draws y Sir sy’n galluogi pawb i gael
profiad ar y bws awtistiaeth. c) Argymell fod y Pwyllgor Craffu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yn cysylltu
gyda’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i sicrhau mewnbwn gan y Gwasanaeth Anghenion
Dysgu Ychwanegol i ddatblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw
ysgol i’r dyfodol er mwyn ei gwneud yn addas i unigolion gydag awtistiaeth e.e.
gofod tawel, gallu lleihau’r golau ayyb.
Byddai’n fuddiol sefydlu’r egwyddor o sicrhau mewnbwn gan y Tîm
Awtistiaeth (Adran Plant ac Oedolion) ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd neu
addasiad i unrhyw adeilad arall gan y Cyngor. ch) Yn sgil pryder fod y cynllun yn cael ei ariannu trwy grant yn gyfredol, bod y Pwyllgor Craffu Gofal yn gofyn am ddiweddariad ymhen 12 mis pellach o weithredu i sicrhau fod cynnydd yn parhau i ddigwydd, gan ofyn am fewnbwn Addysg ac Iechyd unwaith eto. |