skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol Zoom

Cyswllt: Einir Rhian Davies  01286 679868

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y Flwyddyn 2020-21

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ail etholwyd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2020/21.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi W Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2020/21.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y Flwyddyn 2020-21

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd Beth Lawton yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2020/21.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2020/21.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Menna Baines, Linda A Jones a Linda Morgan

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd y datganiadau o fuddiant personol fel a ganlyn :

 

          Cyng. R Medwyn Hughes – Aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

          Cyng. Eryl Jones-Williams – Perthynas yn defnyddio cadair olwyn

          Cyng. Rheinallt Puw – Cyflogedig gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr          

          Cyng. Dewi W Roberts – Aelod o’r Gweithgor

          Cyng. Angela Russell – Aelod o‘r Gweithgor

 

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 444 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 30 Ionawr, 2020 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Ionawr, 2020 fel rhai cywir.

7.

ADRODDIAD CYNNYDD AR ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU : CEFNOGI POBL ANABL GWYNEDD (GWASANAETH CADEIRIAU OLWYN) pdf eicon PDF 412 KB

I Dderbyn Adroddiad Cynnydd ar Argymhellion Ymchwiliad Craffu: Cefnogi Pobl Anabl Gwynedd (Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi y sylwadau

Gofynnwyd am sicrwydd bod y Gwasanaeth yn cadw golwg ar yr hyn sydd yn mynd ymlaen

 

Cofnod:

Diolchwyd am yr adroddiad cynnydd, yn dilyn cyflwyno y mater i’r Pwyllgor Craffu yn Medi 2019. Gofynnwyd am sylwadau ar y gweithredoedd yn sgil yr argymhellion, a nodwyd fel a ganlyn :

 

Cadarnhawyd bod yr Aelod Cabinet wedi ysgrifennu at Vaughan Gething yn 2019 yn tynnu sylw at yr adroddiad, ond nododd nad oedd ymateb wedi dod i law, ond teimlwyd mai materion ar gyfer gweithrediad lleol oedd yn codi o’r argymhellion.  Nododd bod y gwaith wedi amlygu y cydweithio rhwng y Cyngor a’r Gwasanaeth Iechyd a theimlwyd fod nifer o argymhellion yr Adroddiad ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.  Yn sgil hyn, nodwyd pwysigrwydd cadw y cyfathrebu yn fyw gyda’r Gwasanaeth Iechyd.  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant  bod ymateb gan y Gwasanaeth Iechyd i’r argymhelliad yn yr adroddiad.

 

Adroddwyd ar faterion penodol i’r Gwasanaeth Iechyd isod, gan ddangos symudiad yn y materion, ond wrth gwrs mae cynnydd wedi arafu oherwydd COVID.

 

Cadarnhawyd nad yw’r Gweithgor Partneriaeth Ranbarthol wedi ei sefydlu eto, ond fod trefniadau lleol wedi eu sefydlu rhwng y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd a Chyngor Gwynedd i wella cydweithio.

 

Mae penodiad Arweinydd Therapi Galwedigaethol ar gyfer Cyngor Gwynedd wedi hwyluso cyfathrebu a chydweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd.

 

Mae dogfennau cyfeirio electroneg yn cael eu treialu gan y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd, ac mae bwriad cyflwyno trefn gyfeirio electroneg yn fuan.

 

Mae hyfforddiant ar y cyd yn digwydd rhwng y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd a Thimau Adnodd Cymunedol Gwynedd.

 

Nodwyd pryder bod arafwch o ran asesiad amgylchedd y cartref ynghyd a phryder bod y therapyddion galwedigaethol heb hyfforddiant a chwestiynwyd tybed a oedd hyn wedi ei ddatrys?  Cadarnhawyd mai cyfrifoldeb therapyddion galwedigaethol y Cyngor ydy cynnal asesiad amgylchedd yn y cartref, a bod cyfrifoldeb ar therapydd galwedigaethol y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd i gwblhau asesiadau ar gyfer offer arbenigol. Nid oes datblygiadau pellach ynghylch cytundeb gan y Gwasanaeth Iechyd i Therapyddion Galwedigaethol o Awdurdodau Lleol dderbyn yr hyfforddiant arbenigol. Serch hyn, mae cynnydd wedi bod yn yr ymweliadau ar y cyd rhwng therapyddion yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd sydd yn gwella cydweithio ac yn lleihau oedi mewn sicrhau offer addas yn amserol.  Cadarnhawyd y byddai unrhyw ddatblygiadau yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.

 

Cadarnhawyd bod aelodau y gweithgor wedi siarad gyda rhai cleifion am yr effaith/diffygion a chafwyd cadarnhad bod y Gweithgor wedi gallu gwella y gwasanaeth a bod y Bwrdd Iechyd wedi symud ymlaen, a bod llawer wedi newid, er gwell, tra roedd yr ymchwiliad ar y gweill.

 

Nodwyd balchder wrth ddarllen yr argymhellion ond nodwyd y gwahaniaeth sylweddol rhwng Gogledd a De Cymru.  Nodwyd ei bod yn bwysig peidio ag anghofio yr argymhellion, dal i dderbyn diweddariadau a dal i wella er mwyn symud ymlaen.  Cadarnhawyd bod yr asesiadau yn well yn y De a bod lle i wella y Gwasanaeth yn y Gogledd a bo hwn angen sylw y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Iechyd.

 

Cwestiynwyd y cyfarpar oedd yn cael ei roi allan i’r cleifion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

PLANT A PHOBL IFANC MEWN GOFAL pdf eicon PDF 268 KB

I Ystyried Adroddiad ar Blant a Phobl Ifanc Mewn Gofal

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd y sylwadau. 

 

Cofnod:

Nodwyd bod yr adroddiad yn cael ei chyflwyno gyda balchder yn y staff a’r rhieni maeth.  Adroddwyd ar sut roedd y Gwasanaeth wedi ymateb i barhau gyda y Gwasanaeth yn y cyfnod anodd hwn ac wedi ymateb i’r gofyn yn ystod y cyfnod clo.

 

          Cadarnhawyd bod 294 o blant mewn gofal ar ddiwedd Medi 2020, ac mewn gofal am resymau amrywiol.  Nodwyd mai y dewis olaf un yw gosod plentyn mewn gofal, ond weithiau nid oes dewis.

 

Cyfeiriwyd at y ffigyrau o 27 plentyn mewn gofal am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod Ebrill i Fedi - hynny yw, nad oeddynt yn wybyddus i’r Cyngor cyn y cyfnod hwn, tra bo derbyn cyfeiriadau dienw wedi cynyddu i 71%.  Ar y llaw arall, cadarnhawyd bod 24 wedi gadael y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hefyd.  Cadarnhawyd o ran y plant sydd yn destun Gorchymyn Llys bod cydweithio wedi bod gyda rhieni.

 

          Cyfeiriwyd at yr atodiad sydd yn manylu o ran niferoedd a lleoliadau, gan nodi bod rhai plant adref gyda theulu neu aelodau estynedig y teulu.

 

          O ran yr adnoddau maethu, nodwyd bod 72 o leoliadau wedi eu cofrestru a oedd gyda’r capasiti i gynnig lleoliadau i 139 o blant, ynghyd a 60 lleoliad maeth arall  drwy deulu estynedig.  Cadarnhawyd bod llefydd ychwanegol wedi eu cofrestru yn ystod y cyfnod, a bod y ffordd o gynnal cyfarfodydd wedi newid a bod ymgyrch recriwtio wedi cymryd lle.

 

          Cadarnhawyd ei bod yn anodd cael lleoliadau i ganran fach, sydd yn gyfrifoldeb y Cyngor, ac mai yr opsiwn olaf un yw eu gosod mewn lleoliadau anrheoledig.  Cadarnhawyd, yn y 5 mlynedd diwethaf, bod 7 trefniant o’r math wedi cymryd lle am gyfnod o 3 wythnos ar yr hiraf.

 

          Cyfeiriwyd at bolisi Llywodraeth Cymru i leihau nifer y plant mewn gofal.  Atgoffwyd y Pwyllgor bod y cyfeiriad polisi yn cael y flaenoriaeth uchaf rhai blynyddoedd yn ôl a hysbyswyd y Llywodraeth bryd hynny na fyddai Gwynedd yn gosod targed, ac osgoi targedau a fu : nid oedd hwn yn safbwynt hawdd.

 

          Nodwyd y daeth Covid a heriau newydd a bod y gweithlu wedi bod yn anhygoel wrth newid yn sydyn, ac wedi ymdrin â materion megis:

 

          Parhau i wneud Asesiadau

          Parhau i gadw cyswllt gyda rhieni

          Cau Hafan y Sêr

          Cydweithio gyda yr Adran Addysg

A dolygiadau Rhithiol ar gyfer Plant mewn Gofal

Sefydlu Llinell Gymorth

Cymorth i gael mynediad at ddeunydd megis ffisig a bwyd i fabanod

 

Yn ddiweddarach ymdriniwyd â materion megis

Ail agor Hafan y Sêr

Ail gychwyn trefniadau cyswllt plant a rhieni (mewn PPE wrth gwrs)

Parhau i weithio o adref

 

Nodwyd pryder am staff a nodwyd bod y Gwasanaeth yn gweithredu eu cyfrifoldebau yn llawn, ond mewn ffordd wahanol.

 

O ran y staff nodwyd bod

Trefniadau Iechyd a Diogelwch yn dynn

Rheolwyr yn cysylltu yn gyson

Y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.