skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Yn Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rhian Davies  01286 679868

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorydd Anwen Daniels,  Y Cynghorydd Anwen J Davies, Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones,  Y Cynghorydd Linda Morgan a’r Cynghorydd Elwyn Jones (aelod ex-officio).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorydd Cai Larsen ar eitem 5 gan ei fod yn eistedd ar Fwrdd Adra.

 

Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams ar eitem 5 gan  ei fod yn denant i Adra.

 

Y Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones ar eitem 7 oherwydd bod aelod o’r teulu yn derbyn gofal yn un o Gartrefi Nyrsio Gwynedd.

 

Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams ar eitem 7 oherwydd bod ei wraig yn derbyn gwasanaeth gofal cartref yng Ngwynedd.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 215 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2021 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

SIOP UN STOP TAI pdf eicon PDF 240 KB

Canfod barn a mewnbwn y Pwyllgor Craffu ynglŷn â’r cysyniad o sefydlu Siop Un Stop Tai ac adnabod y camau nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ynglŷn â’r cysyniad o sefydlu Siop Un Stop Tai ac adnabod y

camau nesaf, gan ofyn i’r Adran roi sylw i’r pwyntiau a godwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad Siop Un Stop gan y Pennaeth Adran, gyda chais am fewnbwn Aelodau y Pwyllgor ar gychwyn y broses ymgynghori, gan gyfeirio at y Siop Un Stop fel mynedfa i drigolion Gwynedd i gael cymorth gyda eu hanghenion tai.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet bod cael gwybodaeth o bersbectif Cynghorwyr yn bwysig iawn o ran deall anghenion lleol, ynghyd a chael cartrefi unigolion yn y llefydd cywir.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a chydnabuwyd ei bod wedi bod yn gam positif i adnabod y broblem, gan fod ymdeimlad ymysg aelodau bod nifer o dai cymunedol mewn rhai wardiau a nifer o unigolion ar restrau aros.  Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :

 

O ran y pryder bod pobl sydd eisoes yn fregus yn cael problemau megis cwblhau ffurflenni, ddim yn siŵr a phwy i gysylltu pan fo amgylchiadau yn newid a ddim yn derbyn diweddariad, nodwyd balchder y bydd y drefn Siop Un Stop yn symleiddio ac ymateb i’r pryderon hyn. Cadarnhawyd y bwriad i’r Siop Un Stop fod yn rhagweithiol gan gadw gwell cyswllt, ac yn ôl Y Pennaeth Tai ac Eiddo yn gafael yn llaw trigolion a cheisio datrys problemau mewn un man.

 

Holiwyd am fanylder y 33 prosiect y cyfeirir atynt yn yr Adroddiad gan gwestiynu y bwriad mewn ardaloedd penodol a’r amserlen.  Cadarnhaodd y Pennaeth Tai ac Eiddo bod llawer o waith yn digwydd yn y cefndir, megis ar dir sydd yn berchen i’r Cyngor, gan gadarnhau y bydd adroddiad gerbron Tîm Arweinyddiaeth y Cyngor maes o law, fydd yn cynnwys amserlen ddrafft. 

 

Nodwyd bod yr egwyddor o Siop Un Stop yn wych a chadarnhawyd y bydd  popeth ar gael ar lein/yn electroneg  ac y bydd unrhyw ddiweddariadau i gais yn cael eu gwneud yn electroneg fydd, o ganlyniad, yn gwella y cyfathrebu.

 

Adroddwyd bod y Trydydd Sector yn awyddus i fod yn rhan o drefniant o’r math.

Soniwyd eto am gymhlethdod y drefn bresennol, ond nodwyd pryder am yr ymdeimlad bod prinder llefydd i unigolion fyw, ac y byddai gwneud y llwybr ymgeisio yn haws iddynt yn werthfawr, ond os nad oes tai iddynt, yna mae hon yn broblem arall.  Cadarnhawyd y bydd y Cynllun Gweithredu Tai wrth gwrs yn ymateb rhywfaint i’r sefyllfa,  ond bod llawer o waith cydgordio i’w wneud rhwng y Cyngor a Chymdeithasau Tai.  Gan fod y nifer sydd yn ddigartref yn uchel iawn cwestiynwyd y trefniant i ddod ac eiddo  gwag yn ôl i ddefnydd, gan nodi dymuniad Aelodau i gael gwybod am unrhyw dai gweigion yn eu Wardiau. 

 

Nodwyd pwysigrwydd staffio Siop Un Stop Tai yn briodol, gyda gwybodaeth yn cael ei gadw mewn un man.

 

Cadarnhawyd bod mewnbwn nid yn unig yr Aelodau ond Aelodau Seneddol Cymru a’r DU yn hanfodol ar gychwyn y broses, gan fod unigolion hefyd yn cysylltu gyda eu Aelodau Seneddol. 

 

Rhoddwyd cefnogaeth y Pwyllgor ar y ffordd ymlaen a diolchwyd i’r Swyddogion am y gwaith.

 

PENDERFYNWYD : Derbyn yr adroddiad ynglŷn a’r cysyniad o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 110 KB

Cyflwyno’r dull ar gyfer paratoi Asesiad Anghenion Poblogaeth 2022-2027 ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad i’w graffu gan y Pwyllgor.

. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar y dull paratoi ar gyfer cwblhau yr Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwynedd gan y Rheolwr Tîm Prosiectau.  Nododd bod yr amserlen yn heriol oherwydd bod materion yn ymwneud a’r pandemig wedi gorfod cymryd blaenoriaeth a bod swyddogion wedi eu dargyfeirio.  Pwysleisiodd pwysigrwydd yr adroddiad gan nodi ei bod angen adlewyrchu yn glir a chywir ofynion pobl, a bod y dogfennau yn gallu bod yn sail i geisiadau am grantiau.  Adroddodd ymhellach bod gofyn yn y Ddeddf i gyhoeddi adroddiadau ar sail rhanbarth, ac o ganlyniad bod angen bwydo gwybodaeth Gwynedd i mewn i adroddiad y rhanbarth.  Yn sgil yr amserlen dynn, cynigwyd bwydo cymaint o wybodaeth a phosib i’r adroddiad erbyn diwedd Hydref 2021, gan ddefnyddio y wybodaeth sydd yn wybodus eisoes, ac yna parhau gyda y gwaith.  Cadarnhawyd bod y Llywodraeth yn trin y ddogfen fel dogfen barhaus.

 

Atgyfnerthodd yr Uwch Reolwr Busnes ei bod yn amserlen heriol iawn, ond bod cwblhau yr Asesiad yn ofyn statudol.  Nododd bod adrodd fel rhanbarth yn heriol, gan fod y 6 Awdurdod gyda nodweddion gwahanol iawn, ond mai un Bwrdd Iechyd oedd ar gyfer y 6 Rhanbarth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :

 

Nodwyd pryder bod yr Asesiad Anghenion yn holi am lawer o faterion pwysig ar gyfer y dyfodol a’r amserlen ar gyfer ymateb yn dynn.  Cadarnhawyd bod ymateb yn Ofyn Statudol yn ôl Ddeddf Llesiant 2021 a bod yr asesiad cyntaf wedi ei gyhoeddi yn 2017.  Cadarnhawyd bod  yr Adran wedi bod yn gweithio arno ers 6 mis erbyn hyn gan nodi ei bod yn bwysig cadw golwg ar y dyfodol hir dymor.

 

Cadarnhawyd nad oedd ffigyrau poblogaeth ar gael ar hyn o bryd gan mai cyflwyno y dull o gwblhau yr Asesiad Anghenion yn unig oedd y papur.  Nodwyd bod cydweithio gyda y Bwrdd Iechyd weithiau yn gallu bod yn sialens, ond bod cysylltiadau mewn lle ar gyfer y darn hwn o waith.

 

Nodwyd y pryder am y diffyg gwlâu gofal nyrsio yng Ngogledd Cymru a chynlluniau rhyddhau o’r ysbyty yn sgil y ffaith bod pobl yn byw yn hyn, ynghyd a gallu y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd i ymateb i’r Asesiad Anghenion a materion Covid ac ar ben hyn materion iechyd meddwl.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet am y sylwadau defnyddiol, gan gyfeirio at y themâu yn y sylwadau o ran pa mor anodd yw gwneud y gwaith o rhagweld 10 mlynedd.  Nododd bod rhai materion  sydd angen ymchwil pellach, a bod rôl ehangach yma i geisio crynhoi profiadau gwahanol o un rhan o’r sir i’r llall. 

 

PENDERFYNWYD  :  Derbyn y dull a gyflwynwyd ar gyfer paratoi Asesiad Anghenion Poblogaeth 2022-2027, gan gydnabod yr heriau sydd yr ynghlwm a’r amserlen.

 

7.

Y GWASANAETH SICRWYDD ANSAWDD O FEWN YR UNED DIOGELU pdf eicon PDF 282 KB

I ddarparu trosolwg o waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1)      Derbyn yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

2)    Nodi pryder am ddiffyg capasiti staff yr uned a’r risgiau allai godi o ran diogelwch a lles unigolion sy’n derbyn gofal, cynaliadwyedd y farchnad a risgiau i’r Cyngor o ganlyniad i hynny.

3)    Y byddai’r Cadeirydd yn anfon e-bost at aelodau’r Cabinet er mwyn cyfleu pryder y pwyllgor am y diffyg capasiti staff a’r angen i sicrhau capasiti staff digonol er mwyn cynnig cefnogaeth addas a monitro ansawdd gwasanaethau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar y Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Uned Diogelu gan yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd.  Bwriad yr eitem oedd manylu ar y ffordd mae y Cyngor yn monitro darpariaethau gofal oedolion y Sir, sydd yn cynnwys ystod o sefydliadau.  Rhoddwyd trosolwg o waith y tîm.  Nodwyd y pryder bod y Gwasanaeth yn gyfrifol am fonitro nifer o sefydliadau ond dim ond wedi llwyddo i fonitro nifer cyfyngedig a heb fedru ymweld â’r gwasanaeth gofal cartref na gofal dydd.  Yn ychwanegol, yn ystod cyfnod Covid nodwyd nad yw’r ymweliadau dirybudd wedi gallu digwydd fel y byddai yn arferol ond yn hytrach, bod y staff wedi gwneud cysylltiadau ffon gyda’r darparwyr.

 

Adroddwyd bod pum cartref wedi mynd o dan y drefn Pryder Cynyddol dros y 18 mis diwethaf.  Mae’r Tim Sicrwydd Ansawdd wedi gweithio gyda pob un i baratoi a gweithredu rhaglenni gwella er goresgyn problemau a gwella ansawdd gwasanaethau gofal. Un o effeithiau posib y broses yw gosod embargo ar rai mynediadau, sydd yn ei dro yn cael effaith ar unigolion a’u teuluoedd ac wrth gwrs diffyg arian yn dod i mewn i gynnal y busnes.  Adroddwyd hefyd bod tri cartref yng Ngwynedd wedi cau dros y 2 flynedd diwethaf.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd at Adroddiad ‘Winterbourne View’, ac adroddwyd bod diffyg monitro yn ffactor yma, ynghyd a diffyg trosolwg gan y Comisiynwyr.

 

Cadarnhawyd mai pob tua dwy flynedd mae yr ymweliadau i safleoedd yn cymryd lle ar hyn o bryd, ond yn ddelfrydol mae angen ymweld pob chwe mis.  Nodwyd pan mae problem yn codi, mae ymweliadau yn cymryd lle i geisio atal safle rhag mynd o dan y drefn Pryderon Cynyddol. Tra mae hyn yn gwbl angenrheidiol mae yn cael effaith ar allu’r tîm i fonitro gwasanaethau eraill.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :

 

Nodwyd pryder bod pum gwasanaeth wedi bod dan y drefn pryderon cynyddol, ynghyd a’r gwahaniaeth enbyd rhwng amlder ymweliadau Cyngor Gwynedd ac awdurdod cyfagos.

Cwestiynwyd a oes ffordd i ddargyfeirio mwy o adnoddau, bo hynny yn arian neu adnodd arall i gryfhau’r gwasanaeth.  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd, yn dilyn achos o bryderon cynyddol, mai llunio cynllun datblygu gan roi cyfle i’r gwasanaeth sicrhau gwelliannau oedd y cam nesaf.  Nododd ei bod yn rhannu y pryder am y diffyg adnoddau a chyfeiriodd at y bid aflwyddiannus a wnaethpwyd yn 2020/21 am gyllideb i gyflogi staff ychwanegol. Nododd y bydd y cais yn cael ei ail gyflwyno eleni. 

 

Nododd Aelod arall ei bod yn sefyllfa anodd, a bod y ffigyrau yn debyg iawn i’r sefyllfa cyn 2016, ond nododd yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd mai y gwahaniaeth erbyn hyn oedd y berthynas dda gyda darparwyr a thimau ardal a’r swyddogion.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth bod y mater ynglŷn â capasiti yn un sylweddol, er ei fod yn derbyn bod rhannu adnoddau i bob gwasanaeth sydd dan bwysau yn heriol.  Nododd ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.