Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH / Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R. Medwyn Hughes, Linda Ann Jones ac Einir Wyn Williams yn ogystal â’r Cynghorydd Elin Walker Jones (Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd). 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol ar gyfer eitem 6 gan y Cynghorydd Rheinallt Puw a nododd fod ei ferch yn gweithio yn y Gwasanaeth Ieuenctid. Nid oedd y buddiant hwn yn un oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod. 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Caderiydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Dim i’w nodi. 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 341 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor han a gynhaliwyd ar y 29ain o Fedi, 2022 fel rhai cywir.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Medi, 2022 fel rhai cywir.  

5.

CYFLWYNIAD GAN Y GWASANAETH AMBIWLANS

I dderbyn cyflwyniad gan Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu i’r cyfarfod. Darparwyd cyflwyniad i’r Aelodau oedd yn adrodd ar berfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. 

 

Manylwyd ar ystadegau megis yr amseroedd ymateb i alwadau coch (galwadau bywyd mewn perygl) Betsi Cadwaladr gan nodi bod canran ymateb i’r galwadau brys hyn o fewn 8 munud wedi lleihau ers Hydref 2020 o 62% i 47% erbyn Hydref 2021 ac wedi sefydlogi i fod o gwmpas 45% erbyn Medi 2022. Cydnabuwyd bod hyn yn golygu bod rhai cleifion yn aros yn llawer rhy hir am ambiwlans 

 

Nodwyd mai’r prif reswm dros y gostyngiad mewn amser ymateb yw’r cynnydd sylweddol mewn oriau coll wrth drosglwyddo i’r ysbyty sy’n effeithio ar y gallu i fedru ymateb i alwadau brys yn amserol. Nodwyd bod yr oedi yma wrth drosglwyddo wedi cynyddu dros amser ac ar ei waethaf ym mis Medi 2022. Manylwyd hefyd ar heriau eraill megis salwch ac absenoldebau staff yn cynyddu sydd wedi arwain at broblemau capasiti â’r heriau yn ymwneud a denu staff a llenwi swyddi. 

 

Soniwyd am ddiogelwch cleifion a digwyddiadau adroddadwy gwladol oedd yn manylu ar y marwolaethau â’r niwed difrifol y gellir bod wedi eu hosgoi gan gymharu sefyllfa Betsi Cadwaladr efo gweddill Cymru. Roedd y niferoedd yn is i gymharu efo Cymru gyfan ond ar gyfartaledd roedd 2 o faterion diogelwch cleifion yn cael eu cofnodi pob mis a’r rhain oherwydd oediadau hir iawn, gwallau clinigol a chleifion yn aros mewn ambiwlans tu allan i’r ysbytai. 

 

Cafwyd gwybodaeth am adolygu’r galw a’r capasiti sy’n digwydd ar hyn o bryd o fewn y gwasanaeth a manylwyd ar yr hyn sy’n cael ei wneud i geisio gwella’r sefyllfa megis recriwtio a hyfforddi mwy o staff, adolygu rhestr dyletswyddau a newidiadau i drefniadau megis cerbydau ymateb cyflym e.e. eu staffio gan uwch barafeddygon. Credwyd y byddai’r mesuryddion hyn yn helpu’r problemau amser ymateb 

 

I gloi rhedwyd drwy fodel ymateb y dyfodol oedd yn canolbwyntio ar weddnewid y gwasanaethau meddygol brys drwy rhoi mwy o bwyslais ar ymgynghori, trin ac atgyfeirio yn hytrach na chludo cleifion i’r ysbytai.  

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- 

 

·           Diolchwyd am y cyflwyniad gan wneud sylw ei fod yn cyfleu darlun llwm o’r gwasanaeth ambiwlans ac i bobl sy’n byw yn Ngogledd Cymru yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig.  

·           Gofynnwyd am eglurhad o rôl yr ymatebwyr cyntaf gan nodi bod eu gwasanaeth yn hanfodol i ardaloedd gwledig y Sir fel Tywyn, yn enwedig o gysidro sefyllfa a thrafodaethau presennol am y gwasanaeth ambiwlans awyr.  

·           Cyfeiriwyd at ddiffyg staff cyflenwi a gofynnwyd os oedd modd cynyddu niferoedd y staff yn ardal Tywyn. Mynegwyd edmygedd dros y staff presennol sy’n gweithio dan straen. Cyfeiriwyd at staff oedd wedi ymuno a Thywyn yn ddiweddar ond y tueddiad iddynt gael eu trosglwyddo i leoliadau eraill gan adael Tywyn heb staff digonol. Ychwanegwyd fod y gwasanaeth ambiwlans yn bwysig iawn i’r ardal o ystyried nad oes llawer o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GWASANAETH IEUENCTID pdf eicon PDF 357 KB

I ddiweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiadau’r Gwasanaeth Ieuenctid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu diweddariad ar ddatblygiadau’r Gwasanaeth Ieuenctid.

b)   Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ystyried sylwadau’r Pwyllgor am bwysigrwydd y Gwasanaeth Ieuenctid gan sicrhau y bydd yn derbyn sylw haeddiannol o dan yr Adran Addysg wedi i’r Gwasanaeth drosglwyddo i’r Adran hon yn fuan.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Gwasanaeth Ieuenctid. Derbyniwyd trosolwg o’r prif bwyntiau yn ogystal â’r cefndir o ailfodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid yn dilyn penderfyniad y Cabinet nol yn 2018. Sefydlwyd y model newydd ym mis Medi 2018 ac adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi bod yn adrodd ar gynnydd yr ail-fodelu a’r perfformiad drwy’r drefn Herio Perfformiad.  

 

Nodwyd bod y Gwasanaeth wedi cyflwyno Adroddiad Cynnydd ar flwyddyn gyntaf yr ail fodelu i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Ionawr 2020 ond yn fuan wedyn daeth cyfyngiadau Covid i rym. Mynegwyd bod gwybodaeth yn yr adroddiad am effaith y pandemig ar yr ail-fodelu yn ogystal â sefyllfa bresennol y gwasanaeth. 

 

Soniwyd am strwythur cyfredol y Gwasanaeth Ieuenctid ac ychwanegwyd bod llais pobl ifanc yn ganolog i’r Gwasanaeth. Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at adborth pobl ifanc am y Gwasanaeth yn ogystal â beth mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei wneud i ymateb i’r adborth yma. 

 

Adroddwyd bod gwybodaeth i’w weld yn yr adroddiad am themâu strategol y Gwasanaeth sydd yn ffocysu ar Iechyd a Llesiant ar draws yr holl brosiectau, yr Iaith Gymraeg, cydraddoldeb a chynhwysiad. Amlygwyd y gwaith sy’n digwydd gyda phartneriaid a sefydliadau trydydd sector i ddiwallu anghenion pobl ifanc. I gloi cyfeiriwyd at yr heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth yn y dyfodol sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad megis recriwtio ac anghenion cymhleth a dwys pobl ifanc sydd wedi amlygu eu hunain dros y blynyddoedd diwethaf. 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- 

 

·           Gwnaethpwyd sylw bod y clybiau ieuenctid yn cael eu hariannu drwy’r Cynghorau Cymuned a Thref ar hyn o bryd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad sy’n nodi bod y clybiau sydd mewn bodolaeth ar hyn o bryd yn llwyddiannus gyda niferoedd uchel yn mynychu. Nodwyd mai nid clybiau newydd yw’r rhain ond hen glybiau yn ail agor ers 4 mlynedd o fod wedi cau gan y Cynghorau Cymuned a Thref 

·           Credwyd bod cryfderau i’r strwythur newydd ond cwestiynwyd os ydyw wedi bod yn fethiant mewn un elfen o ystyried yr uchod. 

·           Mynegwyd bod cysondeb a sefydlogrwydd yn bwysig i bobl ifanc a cwestiynwyd os oes lle i’r Cyngor ail edrych ar ei ddarpariaeth. Ychwanegwyd bod darparu gofod i’r ifanc deimlo’n ddiogel ac yn perthyn yn bwysig a holwyd beth yw rôl y Cyngor i ddarparu clybiau sefydlog parhaol yn hytrach na chefnogi Cynghorau Cymunedau a Thref.  

·           Croesawyd y prosiectau sy’n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Ieuenctid gan nodi bod rhai hynod o lwyddiannus mewn rhai ardaloedd. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r Gweithwyr Ieuenctid o fewn y Cyngor sydd yn gwneud gwaith gwych a mynegwyd gwerthfawrogiad am y gwaith yma. 

·           Mynegwyd y byddai’n braf cael cadw’r model newydd ond dod a’r hen fodel o glybiau yn ôl hefyd er yn deall bod hyn yn anodd o ran y sefyllfa gyllidebol. Credwyd bod yr ifanc angen y ddarpariaeth sefydlog o glwb ond yn sicr bod lle i barhau efo’r elfen prosiectau.  

·           Adroddwyd pryder o ran cysondeb ar draws y Sir  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

POLISI GOSOD TAI pdf eicon PDF 249 KB

Cyflwyno adroddiad interim i’r Pwyllgor ar gynnydd y Polisi Gosod Tai ers ei weithrediad ddwy flynedd yn ôl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

b)    Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ar newidiadau arfaethedig i’r Polisi Gosod Tai yn y flwyddyn newydd er mwyn rhoi cyfle i’r aelodau roi mewnbwn.  

Cofnod:

Derbyniwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo a gyfeiriodd at y pwyslais cynyddol ar gartrefu pobl leol yn y Polisi Gosod Tai newydd. Mynegwyd balchder yn y niferoedd o bobl leol sy’n derbyn eiddo oddi ar y Gofrestr Tai Cyffredin. 

 

Cymerwyd y cyfle i atgoffa’r Pwyllgor o’r sefyllfa digartrefedd yn y Sir gan nodi bod yr amser aros am eiddo cymdeithasol yn gallu bod yn flynyddoedd. Nodwyd bod hyn yn annheg ac yn adlewyrchu’r realiti nad oes digon o dai cymdeithasol yn y Sir. Adroddwyd ei bod yn cymryd blynyddoedd i gynyddu’r stoc, ac er bod gwelliannau wedi digwydd yn y maes yma nid oes digon o eiddo ar gael i gwrdd â’r galw am dai cymdeithasol.  

 

Mynegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo bod yr adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor yn adroddiad interim gyda’r bwriad i adrodd yn llawn i’r Pwyllgor nes ymlaen yn y flwyddyn newydd. Nodwyd bod hyn o ganlyniad i newidiadau posib sydd ar y gweill o ganlyniad i newidiadau mewn polisi a deddfwriaeth gan y Llywodraeth a disgwyliadau ar Awdurdodau Lleol i fod yn blaenoriaethu agweddau penodol yn y maes digartrefedd.  

 

Darparwyd trosolwg o’r cynnydd ers dechrau gweithredu’r Polisi Gosod Tai newydd ddwy flynedd yn ôl gan yr Arweinydd Tîm Opsiynau Tai. Eglurwyd fod y drefn newydd o flaenoriaethu ymgeiswyr yn seiliedig ar osod ceisiadau mewn Band blaenoriaeth, sydd wedi cymryd lle’r hen system o ddyfarnu pwyntiau i geisiadau. Nodwyd bod y system yma yn symleiddio’r broses ac yn gyfuniad o raddfa anghenion yr ymgeiswyr yn ogystal â chysylltiad efo Gwynedd.  

 

Adroddwyd bod y tîm Opsiynau Tai yn gweithio’n agos efo’r Cymdeithasau Tai ac yn gosod oddeutu 600-650 o eiddo mewn blwyddyn. Eglurwyd bod y galw yn sylweddol uwch na’r cyflenwad o dai sy’n dod yn wag. Ychwanegwyd o ganlyniad i newid y Polisi bod 96.5% o osodiadau wedi ei gwneud i’r ceisiadau oedd efo cysylltiad â Gwynedd o gymharu a 90% cyn gweithredu’r Polisi newydd.  

 

Cyfeiriwyd at y sialensiau sydd wedi eu profi o ganlyniad i Covid, costau byw cynyddol a’r cynnydd sylweddol yn niferoedd sy’n wynebu digartrefedd yn y Sir. Arweiniodd hyn at gynnydd yn y gofrestr gyda dros 3,300 o geisiadau bellach yn aros am eiddo cymdeithasol. Ategwyd nad yw’r cyflenwad wedi cynyddu mor gyflym sy’n dangos y glaw am eiddo cymdeithasol. 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- 

 

·           Diolchwyd am yr adroddiad 

·           Gofynnwyd pa newidiadau sydd ar y gweill o ganlyniad i newid mewn Polisi’r Llywodraeth ac a fydd y rhain yn effeithio’r elfen cysylltiad â Gwynedd yn y Polisi. 

·           Mynegwyd pryder y bydd y newid i’r Polisi yn annog pobl i symud fewn i’r ardal ac yna i dderbyn blaenoriaeth am eu bod nhw’n ddigartref.  

·           Holwyd os yw pobl o du allan i’r Sir yn cyflwyno’n ddigartref yma.  

·           Cyfeiriwyd at achosion ble roedd pobl yng nghategori neu fand 2 ond bod teimlad gan Aelodau y dylen fod ym mand 1. Croesawyd yr Aelodau i godi materion am unigolion penodol efo’r Arweinydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2022/23 pdf eicon PDF 399 KB

I’r Pwyllgor flaenoriaethu eitemau ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Addasu’r rhaglen waith er mwyn blaenoriaethu eitemau ar gyfer cyfarfod Chwefror o’r Pwyllgor Craffu Gofal a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig.

Cofnod:

Darparwyd adroddiad byr i’r Aelodau yn dangos rhaglen waith ddiweddaraf y Pwyllgor dros y misoedd nesaf. Eglurwyd y bydd angen addasu’r rhaglen waith o ganlyniad i eitemau yn llithro ac eitem newydd wedi dod i sylw’r Pwyllgor. Nodwyd bod yr eitem Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwynedd wedi llithro a cais iddo gael ei gynnwys yng nghyfarfod mis Chwefror o’r Pwyllgor. Hefyd bod Arolygaeth Gofal Cymru yn awyddus i ddod i gyfarfod mis Chwefror o’r Pwyllgor i gyflwyno canfyddiadau’r adroddiad.  

 

O ganlyniad bydd yr agenda Chwefror ac Ebrill yn drwm felly awgrymwyd blaenoriaethu eitemau ar gyfer y ddau bwyllgor yma yn ogystal ag ystyried eitemau ar gyfer mis Mehefin. Argymhellwyd cynnwys yr Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwynedd, yr adroddiad Arolygaeth Gofal Cymru, yr adroddiad Recriwtio a chadw staff yn y maes gofal (Adran Plant a Theuluoedd) ac yr adroddiad Cynllun Gweithredu Tai fel eitemau at gyfarfod mis Chwefror o’r Pwyllgor. 

 

Awgrymwyd hefyd gofyn am adroddiad drwy e-bost ar gyfer rhai eitemau er pwrpas diweddaru’r Pwyllgor ac yna ar ôl derbyn yr adroddiad gan yr Adrannau gweld os oes angen dod a’r eitem i’w graffu neu beidio. Cytunwyd gwneud hyn efo’r eitemau Siop Un Stop a Lleoliadau Plant Mewn Gofal. 

 

Cadwyd pethau fel ag y maent ar gyfer cyfarfod Ebrill ar hyn o bryd gan weld beth fydd y canlyniad ar ôl derbyn yr adroddiadau diweddariad eraill drwy e-bost.  

 

Gwnaethpwyd sylw i Adrannau geisio cadw eu cyflwyniadau yn fyr; cadarnhawyd y bydd y neges yma yn cael ei gyfleu i’r Adrannau.  

 

PENDERFYNIAD 

Addasu’r rhaglen waith er mwyn blaenoriaethu eitemau ar gyfer cyfarfod Chwefror o’r Pwyllgor Craffu Gofal a mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig.