Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Annwen Morgan (Cyngor Sir Ynys Mon) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 233 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar  10 Rhagfyr 2021  fel rhai cywir.

 

5.

ADOLYGIAD ARIANNOL CHWARTER 3 pdf eicon PDF 80 KB

Dewi A. Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2021/22 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ynghyd â rhagamcaniad o'r alldro blwyddyn lawn yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd yr adolygiad trydydd chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22.

 

Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2021/22 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau)

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd a nodwyd yr adolygiad trydydd chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22. Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2021/22 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodwyd tanwariant a ragwelir o £297,140 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2021/22. Mynegwyd y gellir trosglwyddo unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i'r gronfa wrth gefn sydd wedi'i chlustnodi. Mynegwyd fod llithriad bach pellach ar y rhaglen gyfalaf o ganlyniad i oedi gydag achos busnes terfynol un o'r prosiectau.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi diolch i’r Cyd-Bwyllgor am eu croeso i’r Pennaeth Cyllid newydd yng Nghyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd i adrodd ar gyllideb ar gyfer chwarter 3 gan nodi y gwir wariant yn erbyn y gyllideb.

 

Nodwyd fod yr Adran Gyllid yn amcanu tanwariant o £197k ar gyfer y Swyddfa Rheoli Rhaglen. Mynegwyd fod hyn wedi cynyddu £69k ers y chwarter diwethaf, yn bennaf oherwydd bod gwariant is bellach yn cael ei amcanu ar gyfer y pennawd Gwariant Gweithwyr a’r pennawd Caffael a Chefnogaeth Allanol Trafnidiaeth. Amlygwyd fod tanwariant o £18k yn parhau o dan bennawd y Cyd-Bwyllgor.

 

O ran prosiectau mynegwyd fod rhaid i’r gwariant yma gael ei ystyried yn nghyd-destun y grant datgarboneiddio o £500k a’r gronfa adfywio cymunedol o £80k a ddangoswyd o dan y gyllideb incwm gyfatebol ac a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn. Amlygwyd fod penawdau datblygu achosion busnes, cefnogaeth gyfreithiol allanol a sicrwydd hefyd yn cynyddu mewn tanwariant yn sgil llithriad ar y rhaglen gyfalaf. Eglurwyd fod yr Adran Gyllid yn ail ymweld â’r costau benthyca a gyfrifwyd yn ôl yn Hydref 2020 a bydd yn adrodd yn ôl ar hynny yn y cyfarfod nesaf.

 

Eglurwyd fod y ffynonellau incwm ar gyfer 2021/22 yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, Grant Datgarboneiddio, Cronfa Adfywio Cymunedol a’r gronfa wrth gefn. Mynegwyd fod yr adran yn amcanu tanwariant o £297k ar gyfer 2021/22 a bydd o £620k o filoedd yn y gronfa wrth gefn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

O ran yr adolygiad cyfalaf nodwyd fod 2 newid wedi bod ers yr adolygiad diwethaf, sef mân addasiad yn y prosiect Canolfan Prosesu Signalau Digidol i gytuno i’r Achos Busnes Terfynol a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr ynghyd â llithriad a ragwelir ar brosiect Morlais. Amlygwyd fod llithriad o £16.81miliwn yn 2021/22, £41.39miliwn yn 2022/23 a £18.93miliwn yn 2023/24. Mynegwyd y bydd grant Cynllun Twf y Gogledd yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r Rhaglen Gyfalaf am y ddwy flynedd gyntaf a ni fydd angen benthyca’n allanol tan 2023/24.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

¾     Mewn ymateb i gwestiwn am gostau llog prosiectau, nodwyd fod yr Adran Gyllid wedi paratoi rhagolwg yn 2020 ar gyfer incwm grant a gwariant cyfalaf er mwyn adnabod y costau benthyca.  Erbyn hyn mae’r sefyllfa  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 3 pdf eicon PDF 240 KB

Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad Chwarter 3 (Hydref - Rhagfyr) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd fod Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

 

Cymeradwywyd i gyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd fod Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru. Cymeradwywyd i gyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd rheolaidd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn adrodd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Twf yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf dros y chwarter diwethaf. Eglurwyd yn dilyn  ystyriaeth y Bwrdd caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraethau y DU a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Amlygwyd uchafbwyntiau’r chwarter gan nodi fod Cynllun Busnes Llawn cyntaf y Cynllun Twf wedi ei gymeradwyo yn ôl ym mis Rhagfyr, sef Canolfan Prosesu Signal Digidol gyda Prifysgol Bangor. Nodwyd fod dau brosiect arall wedi cwblhau eu hadolygiadau sicrwydd Porth 2 yn llwyddiannus sef prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych ynghyd a Fferm Sero Net Llysfasi.

 

Mynegwyd fod diweddariad ar Achos Busnes Portffolio 2021 wedi ei gyflwyno i’r ddwy Lywodraeth fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid blynyddol. Amlygwyd fod y brand newydd ‘Uchelgais Gogledd Cymru’ wedi ei lansio ynghyd a’r wefan newydd. Nodwyd fod gweithgareddau recriwtio wedi ei gwblhau yn ogystal gyda tair swydd olaf yn y tîm wedi cychwyn ym mis Ionawr 2022.

 

Tywyswyd drwy’r projectau ran roi diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud dros y chwarter diwethaf. Amlygwyd fod y gofrestr risg wedi  ei ddiweddaru yn llawn gyda nifer o addasiadau wedi ei cofnodi yn y dogfennau a oedd yn cynnwys disgrifiadau risg wedi ei diwygio, sgorio a camau lliniaru diwygiedig. Tynnwyd sylw at dri gradd risg gweddillio a oedd wedi newid y cyntaf - risg capasiti wedi lleihau nawr bod gweithgareddau recriwtio'r PMO wedi eu cwblhau, yr ail -  buddsoddiad sector cyhoeddus ac y trydydd -  amcanion gwario. Mynegwyd fod yr ail a trydedd wedi codi yn sgil y ffaith bod nifer o geisiadau i newid prosiectau yn cael eu hystyried.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd fod ffosffad yn cael effaith ar nifer o gynlluniau yn benodol yn Fflint ac yn Wrecsam a holwyd beth yw effaith hyn ar gynlluniau eraill. Pwysleisiwyd fod nifer o prosiectau dan fygythiad, nodwyd fod angen iddo gael ei nodi fel risg ar gyfer y portffolio ac angen trafodaeth ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

¾     Mynegwyd fod angen edrych ar risgiau llifogydd, gan fod goblygiadau i’r holl gynlluniau, o ganlyniad fod angen mapio allan yr holl gynlluniau.

¾     Diolchwyd am y gwaith da sydd wedi ei wneud gyda Prifysgol Bangor yn gwthio y cynllun Canolfan Prosesu Signal Digidol yn ei blaen.