Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD AM 2019/20 Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Aaron Shotton (Cyngor
Sir y Fflint) yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor am 2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD AM 2019/20 Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor
Gwynedd) yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor am 2019/20. |
|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Cofnod: David Jones (Coleg Cambria). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATER BRYS - PROSES RECRIWTIO AR GYFER CYFARWYDDWR RHAGLEN Penderfyniad: 1.
Dirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr yr Awdurdod Lletya, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor i; (a)
baratoi swydd-ddisgrifiad a manylion person ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen, (b)
cynnal proses arfarnu swyddi yn unol â threfniadau Cyngor Gwynedd ar y
swydd er mwyn gosod y cyflog, (c) symud ymlaen i hysbysebu’r swydd. 2. Bod adroddiad yn argymell y drefn benodi o hynny
ymlaen yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Cyd-Bwyllgor. Cofnod: Cyflwynwyd cais
gan Brif Weithredwr yr Awdurdod Lletya i’r Cyd-bwyllgor drafod cychwyn y broses
recriwtio Cyfarwyddwr Rhaglen oherwydd risgiau cynyddol i’r Prosiect Twf oedi
symud ymlaen. Roedd y Cadeirydd
yn fodlon i’r mater yma gael ei ystyried yn fater brys oherwydd ardrawiad a
risgiau oediad mewn penodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar y Cynllun Twf. PENDERFYNWYD 1. Dirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr yr Awdurdod Lletya, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor i; (a) baratoi swydd-ddisgrifiad a manylion person ar gyfer swydd y
Cyfarwyddwr Rhaglen, (a)
cynnal proses arfarnu swyddi yn unol â threfniadau Cyngor
Gwynedd ar y swydd er mwyn gosod y cyflog, (c) symud ymlaen i hysbysebu’r swydd. 2. Bod adroddiad yn argymell y drefn benodi o hynny ymlaen yn cael
ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Cyd-Bwyllgor. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD O ddilyn y drefn arferol, byddai manylion y broses recriwtio yn cael eu
cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor ym mis Mawrth ac felly’n ychwanegu at yr amserlen yn
erbyn y rhaglen waith. TRAFODAETH Mewn ymateb i
ymholiad, cadarnhaodd y Swyddog Cyllid fod yna rai adnoddau yn y gyllideb
eisoes ac nad oedd problem symud ymlaen gyda’r broses recriwtio yn y cyfamser. |
|
RHAGLEN WAITH GYCHWYNNOL Y BWRDD UCHELGAIS A THREFNIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Cytuno ar y
rhaglen waith lefel uchel ar gyfer y Bwrdd Uchelgais Economaidd dros y 6-9 mis
nesaf. (b) Cytuno ar
amserlen o gyfarfodydd i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd tan ddiwedd y flwyddyn
galendr. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Gyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd. PENDERFYNWYD (a) Cytuno ar y rhaglen waith lefel uchel ar gyfer y Bwrdd Uchelgais
Economaidd dros y 6-9 mis nesaf. (b) Cytuno ar amserlen o gyfarfodydd i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd
tan ddiwedd y flwyddyn galendr. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’n hanfodol bod gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd, fel y’i ffurfir o’r newydd, raglen waith glir i arwain gweithgareddau allweddol dros y 6-9 mis nesaf. Bydd hyn yn caniatáu i’r Bwrdd gomisiynu’r Grŵp Cefnogaeth Weithredol gyda chynllun gwaith pwrpasol er mwyn cydlynu’r gwaith o gyflawni’r Weledigaeth Twf. Bydd hyn yn sicrhau bod cyfeiriad cytûn ar gyfer gweithgareddau’r Grŵp Cefnogaeth Weithredol, gyda cherrig milltir ac amserlenni clir, a fydd yn help wrth reoli disgwyliadau. |