skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Maria Hinfelaar (Prifysgol Glyndŵr), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Yana Williams (Coleg Cambria), Annwen Morgan (Cyngor Sir Ynys Môn) ac Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 243 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2020 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 12 Mehefin, 2020 fel rhai cywir.

 

5.

RHEOLI RISG pdf eicon PDF 437 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a) Mabwysiadu’r Fframwaith Rheoli Risg sydd ynghlwm i’r adroddiad ac fel yr amlinellir yn Atodiad 1, gan ofyn i’r Swyddfa Rhaglen addasu y fformat yn unol â’r pwyntiau a nodwyd yn y drafodaeth, a datblygu Strategaeth Rheoli Risg yn unol â’r egwyddorion yn y fframwaith fel rhan o’r pecyn terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

(b) Nodi y bydd adroddiad yn adolygu cynnwys y gofrestr risg yn unol â’r fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r Fframwaith Rheoli Risg sydd ynghlwm i’r adroddiad ac fel yr amlinellir yn Atodiad 1, gan ofyn i’r Swyddfa Rhaglen addasu y fformat yn unol â’r pwyntiau a nodwyd yn y drafodaeth a datblygu Strategaeth Rheoli Risg yn unol â’r egwyddorion yn y fframwaith fel rhan o’r pecyn terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

(b)     Nodi y bydd adroddiad yn adolygu cynnwys y gofrestr risg yn unol â’r fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen i’r Swyddfa Rhaglen osod trefniadau rheoli risg effeithiol er mwyn sicrhau y gellir cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn llwyddiannus.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn diweddaru Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar drefniadau rheoli risg er mwyn cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.  

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Eglurwyd bod hwn yn adroddiad ar y Fframwaith Rheoli, ac nid ar y risgiau eu hunain, ac y byddai’r risgiau yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf.  Nodwyd mai’r ddau risg mwyaf oedd capasiti a chefnogaeth y sector preifat, a hynny oherwydd effeithiau Cofid-19.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd bod y Fframwaith Rheoli Risg i’w ganmol, ond awgrymwyd ychwanegu’r canlynol at y templed:-

 

·         Colofn tueddiad risg (gwell, gwaeth neu statig);

·         Colofn yn nodi pa mor sydyn y bydd risgiau na liniarwyd yn cael adrawiad (yn syth, yn y tymor byr neu’r tymor canolig). 

·         Ail golofn goleuadau traffig yn dangos lefel y risg yn sgil gweithredu camau i wella’r sefyllfa.

 

Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid gweithio ar dempled diwygiedig fyddai’n cynnwys sgorau a thueddiadau risgiau a liniarwyd, gan hefyd ymgorffori’r awgrymiadau uchod.

 

Nodwyd nad oedd Atodiad 2 yn gwneud unrhyw gyfeiriad at newid cyfeiriad y Llywodraeth.  Mewn ymateb, nodwyd mai’r fframwaith yn unig oedd dan ystyriaeth yn y cyfarfod hwn, ac y byddai’r gofrestr risg yn cael ei thrafod yn y cyfarfod nesaf.

 

Cytunwyd â’r fframwaith gyda’r sylwadau a nodwyd, gan dderbyn y bydd yna adroddiad ar y sefyllfa risg i’r cyfarfod nesaf.

 

6.

CYTUNDEB LLYWODRAETHU 2 pdf eicon PDF 480 KB

Adroddiad gan Iwan G. D. Evans, Swyddog Monitro – Awdurdod Lletya.

Penderfyniad:

Cymeradwyo yr amserlen.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan G.D.Evans, Swyddog MonitroAwdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo yr amserlen.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae cytundeb y bartneriaeth yn allweddol i gytuno ar Gytundeb Llywodraethu 2 cynhwysfawr (“GA2”).  Adroddwyd i’r cyfarfod blaenorol ar y materion yma.  Mae’r adroddiad hwn yn diweddaru'r amserlen ar gyfer y gwaith.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn cyflwyno Cynllun GA2 wedi’i ddiweddaru i’r Bwrdd ac yn adrodd ar ddeilliannau’r Gweithdy Llywodraethu.

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol, yr amserlen, goblygiadau cyfreithiol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nodwyd y bwriedid adrodd ar fodelau arfaethedig a dogfennaeth derfynol i bwyllgorau craffu yn ystod ail hanner mis Hydref; i’r Cabinet yn ystod ail hanner mis Tachwedd ac i gyfarfodydd Cyngor o fewn hanner cyntaf Rhagfyr. 

 

Eglurwyd fod gwaith penodol i’w gwblhau o amgylch sefydlu ymrwymiadau ariannol y partneriaid ar gyfer y cytundeb GA2 a’r Cynllun Twf yn benodol.  Roedd hyn yn allweddol o ran symud ymlaen i gael argymhellion i’r cynghorau eu mabwysiadu yn unol â’r amserlen.  Bwriedid cynnal gweithdy swyddogion ym mis Awst, fyddai’n cynnwys swyddogion y Grŵp Gweithredol, ynghyd â Chyfarwyddwyr Cyllid y partneriaid o’r cynghorau a’r colegau i ddechrau cyrraedd safbwynt ar broffilio gwariant y prosiectau a’r fframwaith ariannol yn GA2.  Yn dilyn hynny, byddai angen cynnal y gweithdy a nodwyd yn y rhaglen waith i gynrychiolwyr ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais i drafod canlyniad y gweithdy swyddogion ac i ddod i safbwynt ar y ffordd ymlaen, ond hynny ym mis Medi.  Pwysleisiwyd bod yna falans i’w daro rhwng yr awch i symud yn gynnar gyda’r prosiectau, ac effaith cost hynny o ran llif arian.  Nodwyd y comisiynwyd gwaith arbenigol dros y pythefnos nesaf fyddai’n dod â gwybodaeth gerbron y gweithdy swyddogion, gyda ffrwyth hynny’n cael ei gyflwyno i’r gweithdy aelodau yn ei dro.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod yr Arweinyddion yn rhan o’r gweithdai i’w cynnal gydag aelodau’r cynghorau i gefnogi’r Cynllun.

 

7.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - YMGYSYLLTU A'R SECTOR PREIFAT pdf eicon PDF 617 KB

Adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.

Penderfyniad:

(a) Nodi statws y perthnasau a’r sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r Sector Preifat.

(b) Nodi bwriad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

(c) Nodi Cylch Gorchwyl drafft a gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro’r Awdurdod, ar y diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y Bwrdd Uchelgais.

(ch) Cadarnhau’r camau a’r gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella ymgysylltu a dealltwriaeth y sector preifat.

(d) Gohebu â Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad i gefnogi Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad llawer mwy manwl ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r cyfarfod nesaf.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Nodi statws y perthnasau a’r sianeli ymgysylltu cyfredol gyda’r Sector Preifat.

(b)     Nodi bwriad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl fel partner i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

(c)     Nodi Cylch Gorchwyl drafft a gyflwynir gan Gadeirydd dros dro’r Grŵp Cyflawni Busnes a gofyn am adroddiad pellach gan y Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya, ar y diwygiadau arfaethedig i gylch gorchwyl y Grŵp Cyflawni Busnes a fabwysiedir gan y Bwrdd Uchelgais.

(ch)   Cadarnhau’r camau a’r gweithredoedd nesaf arfaethedig i wella ymgysylltu a dealltwriaeth y sector preifat.

(d)     Gohebu â Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i weld oes modd i Lywodraeth Cymru wneud cyfraniad i gefnogi Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, a chyflwyno adroddiad llawer mwy manwl ynglŷn â threfniadaeth ymgysylltu â’r sector preifat i’r cyfarfod nesaf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen penderfyniad er mwyn galluogi i’r Swyddfa Rhaglen fuddsoddi mewn dylunio a chyflawni mecanweithiau ar gyfer gwella ymgysylltu gyda’r sector preifat yn y Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn:-

 

·         Cyflwyno trosolwg o’r berthynas a’r sianeli ymgysylltu cyfredol rhwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r sector preifat yn y Gogledd (Atodiad 1).

·         Cyflwyno diweddariad i’r aelodau ar statws Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy fel partner i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Atodiad 2).

·         Cyflwyno Cylch Gorchwyl drafft arfaethedig a gyflwynwyd i’r ystyried gan Gadeirydd dros dro'r Grŵp Cyflawni Busnes (Atodiad 3).

·         Cynnig y camau nesaf a’r dull o gryfhau perthynas, ymgysylltiad ac ymglymiad y sector preifat yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru (Atodiad 4).

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol, goblygiadau cyfreithiol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy i dynnu’n ôl o’r Bwrdd Uchelgais, a rhannwyd llythyr ymddiswyddo’r Cyngor Busnes yn ei gyfanrwydd gyda’r aelodau.  Diolchwyd yn arbennig i Ashley Rogers am ei gyfraniad dros y blynyddoedd i waith y Bwrdd wrth ddatblygu prosiectau a symud yr holl gynllun yn ei flaen.  Nodwyd y cydnabyddid, yn yr hinsawdd sydd ohoni, bod rhaid i brif ffocws y Cyngor Busnes fod ar y busnesau maent yn eu cynrychioli.  Fodd bynnag, er bod y sefyllfa’n un drist, gallai hyn agor y drws i’r Bwrdd ail-edrych ac atgyfnerthu ei berthynas â’r sector preifat drwy greu rhywbeth newydd ac arloesol, fyddai’n cynnig cyfraniad sylweddol gan y sector preifat eto.  Ychwanegwyd y bydd y sector preifat yng Ngogledd Cymru yn gefnogol i amcanion y Cynllun Twf, a chroesawyd y ffaith bod yna rywbeth cadarnhaol yn dod allan o sefyllfa ddigon anodd.

 

Nodwyd ymhellach y cynhaliwyd cyfarfod eisoes gydag Ashley Rogers a Jim Jones o’r Cyngor Busnes i drafod eu syniadau ar gyfer cydweithio gyda’r Bwrdd yn y dyfodol.  Nodwyd eu bod yn fudd-ddeiliaid gyda chyfraniad i’w wneud, a bod rhai syniadau da iawn wedi’u crybwyll eisoes.

 

Nodwyd,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif am y prosiectau. Mae hyn yn berthnasol i sefyllfa y cynghorau ond yn benodol y partïon sydd yn ceisio, neu yn bartneriaid ar gyfer prosiectau o fewn y Rhaglenni Cynllun Twf.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif am y prosiectau.  Mae hyn yn berthnasol i sefyllfa y cynghorau, ond yn benodol y partïon sydd yn ceisio, neu yn bartneriaid ar gyfer prosiectau o fewn y Rhaglenni Cynllun Twf.

 

9.

ADOLYGIAD GWAELODLIN PROSIECTAU

Adroddiad i’w gylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig.

Penderfyniad:

(a) Nodi cynnwys yr adroddiad adolygiad gwaelodlin a’r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod, a pharhau i ddatblygu prosiectau er mwyn cynorthwyo i sicrhau’r Cytundeb Twf Terfynol ar y cyfle cyntaf bosib’.

(b) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Diwydiannau’r Tir a Thwristiaeth’ yn Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth.

(c) Cadarnhau ailenwi’r ‘Rhaglen Gweithgynhyrchu Uwch’ yn Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Nodi cynnwys yr adroddiad adolygiad gwaelodlin a’r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod, a pharhau i ddatblygu prosiectau er mwyn cynorthwyo i sicrhau’r Cytundeb Twf Terfynol ar y cyfle cyntaf bosib’.

(b)     Cadarnhau ailenwi’rRhaglen Diwydiannau’r Tir a Thwristiaethyn Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth.

(c)     Cadarnhau ailenwi’rRhaglen Gweithgynhyrchu Uwchyn Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Diweddaru Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar sefyllfa pob rhaglen a phrosiect fel rhan o’r broses o gyrraedd Cytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Derbyn cymeradwyaeth y Bwrdd i ailenwi dwy o’r rhaglenni fel eu bod yn adlewyrchu eu cylch gorchwyl perthnasol yn fwy cywir.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.