skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21.

Cofnod:

Bu i Cyng. Dyfrig Siencyn gael ei ethol yn gadeirydd ar gyfer 2020/21.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21.

Cofnod:

Bu i Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn is-gadeirydd ar gyfer 2020/21.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam) ac Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 237 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir.

 

7.

CYTUNDEB TERFYNOL pdf eicon PDF 794 KB

Alwen Williams i gyflwyno y pecyn o’r dogfennau allweddol sydd eu angen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU ac Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

¾    Cymeradwywyd cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.

¾    Cytundwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾    Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn “Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾    Cymeradwywyd y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad).

¾    Cytunwyd bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

¾    Cymeradwywyd ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr Portffolio.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen.

 

PENDERFYNWYD

 

¾     Cymeradwywyd cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.

¾     Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾     Cytunwyd bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn “Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾     Cymeradwywyd y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad).

¾     Cytunwyd bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

¾     Cymeradwywyd ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr Portffolio.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yn 2016, mabwysiadodd partneriaid y Bwrdd Uchelgais Weledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru. Yn seiliedig ar Strategaeth y Weledigaeth Twf, yn Hydref 2018 cytunwyd ar y Cynllun Twf gan holl bartneriaid y Bwrdd Uchelgais drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r sector breifat.

 

 Yn Nhachwedd 2019 cytunodd y Bwrdd Uchelgais a’r ddwy Lywodraeth i Benawdau’r Telerau, gyda Chytundeb Terfynol i’w gwblhau yn 2020.

 

Mae’r Bwrdd Uchelgais wedi ymrwymo i gyrraedd Cytundeb Terfynol gyda’r ddwy Lywodraeth cyn diwedd Rhagfyr 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn garreg filltir yn nhaith y Bwrdd Uchelgais. Tynnwyd sylw tuag at yr argymhellion oedd yn cael ei amlygu ar ddechrau’r adroddiad.  Amlygwyd yr amserlen gan nodi fod llawer wedi digwydd o fewn y 10 mis diwethaf.

 

Nodwyd fod y swyddfa raglen wedi bod yn gweithio yn ddiwyd ar y dogfennau perthnasol, ac y bydd y cytundeb Terfynol yn cael ei ddiogelu ar sail Achos Busnes Portffolio ac 5 Achos Busnes Rhaglen. Mynegwyd fod yr Achos Busnes Portffolio yn amlygu’r prif amcanion yn rhoi crynodeb o’r cynnig ariannu ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru, ar gyfer cynnwys yn y Cytundeb Terfynol. Pwysleisiwyd fod yr achosion busnes yn rhai byw sydd yn cael eu hadolygu yn gyson. Tynnwyd sylw at bob achos busnes yn unigol.

 

Amlygwyd y Cynllun Busnes Cyffredinol gan bwysleisio ei fod yn gosod allan y trefniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER pdf eicon PDF 520 KB

Dafydd L Edwards i darparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail Chwarter y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2020/21.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Cyllid Statudol – Awdurdod Lletya.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail Chwarter y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mynegwyd fod angen darparu manylion y gwariant a’r incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2020/21 i’r Bwrdd uchelgais ynghyd a rhagamcaniad o’r alldro blwyddyn lawn yn erbyn y gyllideb flynyddol.  

           

Er mwyn gweithredu’n effeithiol mae angen i’r Cydbwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant a rhagamcan yn erbyn ei gyllideb flynyddol gymeradwy.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi er y pandemig fod y sefyllfa gyllidebol yn dderbyniol. Amlygwyd fod £78mil o danwariant gan nodi fod hyn yn bennaf o ganlyniad i  oedi cyn penodi rhai swyddi o ganlyniad i’r panedemig. Er hyn nodwyd ei fod yn dderbynion ac nad yw’r Bwrdd Uchelgais mewn unrhyw drafferthion ariannol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·    Diolchwyd i’r staff yr adran gyllid am ei gwaith caled.

·         Nodwyd ymwybyddiaeth o gyllideb iach.