skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint), Cyng. Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan y Cyng. Llinos Medi Huws  (Cyngor Sîr Ynys Môn) ar gyfer eitem 8 gan ei bod fel Arweinydd yn mynychu Bwrdd Menter Môn, ond nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly roedd modd iddi gymryd rhan yn y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 394 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2020-21 pdf eicon PDF 261 KB

Dafydd L Edwards a Sian Pugh i ddarparu sefyllfa alldro terfynol 2020/21 i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a chael cymeradwyaeth i'r Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw'r Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21.

 

Cymeradwywyd Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2021. Roedd y Ffurflen Flynyddol wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan y Swyddog Cyllid Cyfrifol, sef Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Statudol y Cydbwyllgor.  Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi’r Ffurflen Flynyddol er mwyn cadarnhau fod y Cyd-bwyllgor wedi cymeradwyo’r datganiadau ariannol arno.

 

Cymeradwywyd y trosglwyddiad o’r tanwariant o £241,023 i’r gronfa wrth gefn.

 

Clustnodwyd £4,953 o’r llog a dderbyniwyd ar y grant o £16m yn erbyn costau benthyca yn y dyfodol. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Statudol Statudol – Awdurdod Lletya) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau).

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw'r Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21.

 

Cymeradwywyd Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cydbwyllgor ar gyfer 2020/21 (amodol ar  Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2021. Roedd y Ffurflen Flynyddol wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan y Swyddog Cyllid Cyfrifol, sef Pennaeth  Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Statudol y Cydbwyllgor. Awdurdodwyd y Cadeirydd i lofnodi’r Ffurflen Flynyddol er mwyn cadarnhau fod y Cydbwyllgor wedi cymeradwyo’r  datganiadau ariannol arno.

 

Cymeradwywyd y trosglwyddiad o’r tanwariant o £241,023 i’r gronfa wrth gefn.

 

Clustnodwyd £4,953 o’r llog a dderbyniwyd ar y grant o £16m yn erbyn costau benthyca yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen i’r Cydbwyllgor fod yn ymwybodol o’i sefyllfa ariannol ar gyfer 2020-21 a chydymffurfio â’r gofynion statudol yn nhermau cwblhau Ffurflen Flynyddol Swyddogol Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef yr arferiad priodol ar gyfer adroddiad cyfrifon cydbwyllgorau ag incwm a gwariant sy’n llai na £2.5 miliwn

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai eleni fydd y flwyddyn olaf y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cymeradwyo'r Ffurflen Flynyddol Swyddogol gan y bydd yr incwm a gwariant yn codi dros y trothwy o £2.5m, ac felly bydd angen i ddatganiadau mwy manwl. Nodwyd fod grant wedi ei dderbyn cyn diwedd y flwyddyn ariannol ar gyfer 2021/22 ac felly wedi ei nodi fel credydwyr yn adroddiad. Mynegwyd fod yr adroddiad yn debyg iawn i’r adroddiad monitro a dderbyniwyd yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Nodwyd fod tanwariant o £641mil i’w gweld yn y Swyddfa Rheoli Rhaglen sydd yn gynnydd bychan ers yr adolygiad trydydd chwarter gan esbonio ei fod o  ganlyniad i ad-daliad a dderbyniwyd gan Gyngor Conwy ar gyfraniad y Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol a lleihad yng ngwariant ar y pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau. Nodwyd fod tan wariant o £29mil dan y pennawd Gwasanaethau Cefnogol o ganlyniad i ostyngiad yn y gwariant ar wasanaethau cefnogol y Corff Atebol.

 

Mynegwyd fod yr incwm ar gyfer 2020/21 yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grantiau ESF a grantiau bychan eraill. Yn ychwanegol, esboniwyd fod ad-daliad Tîm Ymgysylltu ar gyfer 2019-20 wedi ei dderbyn a llog ar falansau a oedd yn cynnwys bron i £5mil o log ar y grant cyfalaf o £16m a dderbyniwyd ganol Mawrth. Eglurwyd fod y grant cyfalaf hwn yn cael ei ddangos fel credydwr ar y Datganiad o Falansau ar y Ffurflen Flynyddol ac y bydd ar gael i ariannu’r rhaglen gyfalaf yn 2021/22 unwaith mae’r achosion busnes terfynol wedi eu cymeradwyol

 

Nodwyd fod hyn yn gadael sefyllfa ariannol derfynol ar gyfer 2020/21 yn danwariant o £241mil. Esboniwyd fod yr arian wedi ei drosglwyddo i’r gronfa werth gefn i  roi balans o £738mil. Ategwyd fod £415mil o’r gronfa eisoes wedi ei glustnod fel rhan o gyllideb 2021/22 fel y cymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais yn ôl ym mis Mawrth. Eglurwyd y bydd hyn yn gadael balans o £323 o filoedd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD CHWARTER 4 AC ADRODDIAD BLYNYDDOL pdf eicon PDF 387 KB

Alwen Williams i gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ion-Mawrth) y Cynllun Twf, Cofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolio ar gyfer 2020-21.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 4, Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolio ar gyfer 2020/21.

 

Cytunwyd ar ffurf yr adroddiad chwarterol gan amlygu gwelliannau ar gyfer fersiynau’r dyfodol.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Proffilio ar gyfer 2020-21 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 4, Cofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Portffolio ar gyfer 2020/21.

 

Cytunwyd ar ffurf yr adroddiad chwarterol gan amlygu gwelliannau ar gyfer fersiynau’r dyfodol.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 ac Adroddiad Blynyddol y Swyddfa Rheoli Proffilio ar gyfer 2020-21 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd rheolaidd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd yn y rhaglenni a phrosiectau ar gyfer Chwarter 4 yn dilyn arwyddo’r Cytundeb Terfynol yn ôl ym mis Rhagfyr 2020. Esboniwyd fod y ffocws wedi bod i symud i’r cyfnod gweithredu drwy adolygiad Gwaelodlin ym mis Ionawr i adolygu’r holl brosiectau i ail gadarnhau amserlenni ar gyfer datblygu a chyflawni achosion busnes. Ychwanegwyd fod nifer sylweddol o weithdai prosiect wedi eu cynnal er mwyn datblygu achosion busnes yn unol â chanllawiau’r Better Business Cases. Nodwyd yn ystod y cyfnod fod y Llythyr Dyrannu Grant wedi ei arwyddo a bod y dogfennau perthnasol wedi eu cyflwyno. O ganlyniad i hyn, mynegwyd fod y rhandaliad cyntaf o £16m wedi ei dderbyn ym mis Mawrth 2021. 

 

Esboniwyd fod dau brosiect, Prosiect Morlais a Phrosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter, wedi cwblhau eu Hadolygiadau Porth a bellach yn gweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed cyn cyflwyno achosion busnes. Amlygwyd fod dau brosiect ar hyn o bryd yn adrodd yn ‘goch’ – Safle strategol Allweddol Bodelwyddan o ganlyniad i ganiatâd cynllunio amlinellol yn dod i ben, a Phorth Caergybi o ganlyniad gostau cynyddol a’r angen i adolygu’r prosiect.

 

Tynnwyd sylw at y gorfrestr risg gan bwylsesio fod y proffil risg ar y cyfan yn sefydlog a nad oedd unrhyw feysydd arwyddocaol newydd o bryder. Amlygwyd fod risigiau arwyddocaol yn parhau gyda ambell i brosiect unigol ac mae archwaeth ac gallu’r sector  breifat i fuddsoddi yn parhau yn aneglur o ganlyniad i Covid-19. Nodwyd y prif addasiadau i’r gofrestr risg a oedd yn cynnwys:

·         Graddfa risg gros a risg gweddilliol Capasiti wedi gostwng yn dilyn cwblhau yr ymgyrch recriwtio diweddaraf ar gyfer y Swyddfa Rheoli’r Portffolio.

·         Graddfa risg gros a risg gweddilliol Buddsoddiad Sector Gyhoeddus wedi gostwng yn dilyn arwyddo’r Cytundeb Terfynol a Cytundeb Llywodraethu 2.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol a oedd yn edrych yn ôl ar gynnydd yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21 a oedd yn amlygu’r Cynllun Twf a gweithgareddau eraill gefnogir gan y Swyddfa Rhaglen.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nodwyd fod yr adroddiad yn arddangos yr holl waith sydd wedi ei wneud dros y flwyddyn a diolchwyd i’r tîm am ei greu.

·         Pwysleisiwyd yr angen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Paragraph 14 of Schedule 12A of the Local Government act 1972 - Information relating to the financial or business affairs of any particular person (including the authority holding that information).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol fod angen trafod gwybodaeth o’r fath l heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau

Cofnod:

Cytunwyd i gau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol fod angen trafod gwybodaeth o’r fath i heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

8.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL PROSIECT MORLAIS

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Morlais ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod Menter Môn yn rhoi sylw i’r materion wedi’u nodi yn Adran 7 yr adroddiad, bod cais yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd.

 

Nodwyd fod y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac awdurdodwyd Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Bwrdd i gytuno ar y telerau drafft i’w cymeradwyo gan y Bwrdd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) ac Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Morlais ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a’r DU o’r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod Menter Môn yn rhoi sylw i’r materion wedi’u nodi yn Adran 7 yr adroddiad, bod cais yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i’r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r broses caffael a’r broses caniatâd.

 

Nodwyd fod y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn ffurfio sail y Llythyr Cynnig Grant yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac awdurdodwyd Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro’r Bwrdd i gytuno ar y telerau drafft i’w cymeradwyo gan y Bwrdd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yn unol â chytundeb terfynol y Cynllun Twf, caiff achosion busnes eu datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf, yn unol â’r canllawiau ‘Better Business Case’ a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a Thrysorlys EM. Mae angen cymeradwyaeth y Bwrdd i bob achos busnes fel bod modd i’r prosiect symud yn ei blaen i’r wedd nesaf.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.