skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - er mwyn cael mynediad cysylltwch â AnnesSion@gwynedd.llyw.cymru

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint), Cyng. Mark Pritchard (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Yana Williams (Coleg Cambria) a Jane Richardson.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan Dafydd Evans ar gyfer eitem 8 – gan ei fod yn gais sydd yn ymwneud â Grŵp Llandrillo Menai ac felly bu iddo ymatal o’r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr achos busnes.

 

Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan yr Athro Paul Spencer ar gyfer eitem 9 – gan fod y cais yn ymwneud â Prifysgol Bangor, ac felly bu iddo ymatal o’r Cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr achos busnes.

 

Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan Askar Sheibani ar gyfer eitem 9 gan ei fod yn rhan o’r cais ac felly bu iddo ymatal o’r cyfarfod ar y drafodaeth ar achos busnes. 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 191 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 18  Mehefin 2021 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD CHWARTER 1 pdf eicon PDF 301 KB

Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad Chwarter 1 (Mawrth-Mehefin) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei ddiweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans, Rheolwr Gweithrediadau

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyniwyd yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei ddiweddaru.

 

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais a Llywodraethau Cymru a’r DU gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd rheolaidd ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod fformat yr adroddiad yn debyg i’r adroddiadau blaenorol sydd wedi eu cyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais. Rhoddwyd trosolwg o’r cynnydd ar raglenni a prosiectau’r Cynllun Twf. Eglurwyd mai Morlais oedd yr Achos Busnes Amlinellol cyntaf i gael ei ystyried ai gymeradwyo gan y Bwrdd a nodwyd fod y broses sicrwydd wedi ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd fod dau Achos Busnes Amlinellol arall wedi cychwyn y broses gymeradwyo, ac yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd yn hwyrach yn y cyfarfod.

 

Nodwyd fod mwyafrif o’r rhaglenni a prosiectau yn adrodd fel ‘Ambr’ yn yr adroddiad yn dilyn adolygiad ar yr amserlenni datblygu achosion busnes. Tynnwyd sylw at y pedwar sydd yn  adrodd yn ‘goch’ sef Ffibr Llawn mewn safleoedd allweddol, Campws Cysylltiedig, Safle Strategol Bodelwyddan a Porth Caergybi. Eglurwyd eu bod yn adrodd fel ‘coch’ o ganlyniad i risgiau yn sgôp y prosiectau neu oedi sylweddol yn yr amserlenni.

 

Mynegwyd fod nifer o weithgareddau Caffael bellach wedi ei cwblhau a oedd yn cynnwys Astudiaeth i gefnogi prosiect Coridorau Cysylltiedig. O ran cofrestr risg y portffolio nodwyd fod y proffil risg y Cynllun yn sefydlog. Amlygwyd fod risg ar fforddiadwyedd wedi cynyddu o ganlyniad i gynnydd sylweddol mewn costau adeiladu dros y misoedd diwethaf. Eglurwyd fod hyn wedi effeithio Cytundebau Twf a Threfi eraill ac yn cael ei fonitro. Amlygwyd yn ogystal fod rhai risgiau sylweddol yn gysylltiedig a rhai prosiectau unigol ynghyd â diogelu y buddsoddiad sector breifat yn y Cynllun.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nodwyd o ran costau adeiladu yn codi yn y misoedd diwethaf amlygwyd yr angen i amlygu’r problem i’r Llywodraethau cyn i gostau gael eu cadarnhau. Eglurwyd fod y Llywodraethau yn ymwybodol ac fod y cynllun gyda rhywfaint o fantais gyda digon o amser cynllunio sydd yn rhoi cyfle i’r farchnad setlo.

·         Holwyd os ydi statws rhai cynlluniau yn goch, a ddim yn symud i ambr neu wyrdd os oes angen holi os yw’r cynllun yn hyfyw. Eglurwyd fod y cynlluniau yn hyblyg ac eu bod yn cael eu datblygu yn unol a parodrwydd ac nid blaenoriaethau.

 

6.

BRAND A GWEFAN pdf eicon PDF 454 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio i ddiweddaru'r Bwrdd Uchelgais ar y gwaith o ddatblygu'r wefan a'r brand newydd

Penderfyniad:

Cadarnhawyd y brand newydd arfaethedig ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol i addasiadau i’r logo yn dilyn ymgynghoriad gyda’r aelodau yn y cyfarfod nesaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).

 

PENDERFYNWYD

 

Cadarnhawyd y brand newydd arfaethedig ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynllun Twf Gogledd Cymru yn amodol i addasiadau i’r logo yn dilyn ymgynghoriad gyda’r aelodau yn y cyfarfod nesaf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Datblygwyd gwefan a brand cyfredol y Bwrdd Uchelgais yn ystod dyddiau cynnar sefydlu'r Bwrdd. Gyda'r Cynllun Twf Terfynol wedi'i lofnodi, a'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn symud i wedd cyflawni prosiectau'r Cynllun Twf, mae'n amserol diwygio ac ail-lansio'r brand a'r wefan.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gwefan a brand gyfredol y Bwrdd Uchelgais wedi ei ddatblygu yn ôl yn nyddiau cynnar sefydlu’r Bwrdd. Nodwyd gyda’r Cynllun Twf Terfynol wedi’i lofnodi a’r Swyddfa Rheoli Proffil yn symud i wedd cyflawni eglurwyd ei bod yn amserol diwygio ac ail-lansio’r brand a’r wefan. Mynegwyd fod y logo wedi dyddio ac nad yw’n adlewyrchu natur uchelgeisiol y Bwrdd yn nhermau trawsffurfio economi’r Gogledd. Ategwyd fod y wefan ar hyn o bryd wedi ei letya gan Busnes Cymru ac ei fod yn profi yn gymhleth i’w ddefnyddio.

 

Comisiynwyd Tinint i ail-frandio a datblygu gwefan newydd yn dilyn proses tendro lwyddiannus. Amlygwyd y briff a osodwyd iddynt i amlygu brand ffres, arloesol, uchelgeisiol a proffesiynol ynghyd â gwefan a fyddai’n lwyfan i hyrwyddo’r rhanbarth, gwaith y Bwrdd Uchelgais ac i rannu cynnydd a gwybodaeth am y Cynllun Twf. Cyflwynwyd y brand mae Tinint wedi gweithio i datblygu gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio, eglurwyd fod yr enw brand wedi addasu i “Uchelgais Gogledd Cymru / Ambition North Wales” a fydd yn enw cyffredinol am y Weledigaeth Twf a beth mae’r bwrdd yn ceisio’i i gyflawni ar gyfer y rhanbarth.

 

Amlygwyd fod ymchwiliad marchnad wedi ei gynnal am y logo a’r brand newydd a cafwyd sampl o 160 unigolyn a oedd yn cael ei rannu i 3 grŵp – Sector Gyhoeddus, Pobl Ifanc a Busnesau. Pwysleisiwyd mai Uchelgais Gogledd Cymru oedd y brand a ffafriwyd yn yr ymchwil i’r farchnad. Cyflwynwyd y Brand, lliwiau a logo a ffafriwyd yn ogystal gan ofyn am gefnogaeth y Bwrdd. 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Amlygwyd cefnogaeth i’r brand ac yr enw ond tynnwyd sylw at broblem gyda’r logo. Nodwyd er ei fod yn logo haniaethol fod 6 adran iddo fel siroedd y rhanbarth ac fod Conwy i’w weld yn llai nac eraill. Eglurwyd nad oedd yn cynrychioli hynny ond awgrymwyd yr angen i ail edrych ar y maint.

·         Dangoswyd cefnogaeth i’r brand a’r wefan gan nodi ei fod yn amlygu fod y cynllun yn llawer mwy  na Cynllun Twf.

·         Derbyniwyd mewn egwyddor i’r brand a’r lliwiau. Gofynnwyd i’r Swyddfa Rheoli Portffolio i fynd yn ôl at Tinint ac efallai addasu’r logo rhyw fymryn ac yna ei ail gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Medi.

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan eu bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Cofnod:

Cytunwyd i gau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan eu bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol(yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

8.

ACHOS AMLINELLOL PROSIECT CANOLBWYNT ECONOMI WLEDIG GLYNLLIFON

Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol Canolbwynt Economi Wledig Glynllifon i'w ystyried gan y Bwrdd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Robyn Lovelock, Rheolwr Rhaglen.

 

TRAFODAETH

 

Derbyniwyd y cyflwyniadau ond ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniad o ganlyniad i ddiffyg cworwm. 

 

9.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL PROSIECT CANOLFAN PROSESU SIGNAL DIGIDOL

Stuart Whitfield, Rheolwr Rhaglen Digidol i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol Canolfan Prosesu Signal Digidol i'w ystyried gan y Bwrdd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Stuart Whitfield, Rheolwr Rhaglen Digidol.

 

TRAFODAETH

 

Derbyniwyd y cyflwyniadau ond ni wnaethpwyd unrhyw benderfyniad o ganlyniad i ddiffyg cworwm.