Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cynghorydd Charlie McCoubrey, Cynghorydd Ian B Roberts, Yana Williams (Coleg Cambria), Iwan Davies (Cyngor Conwy) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol gan Maria Hinfelaar, Prifysgol Glyndwr ac Askar Sheibani fel aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndwr, a’r Athro Iwan Davies, Prifysgol Bangor, ar gyfer eitem 9 gan fod prosiectau mewn perthynas â Phrifysgol Bangor a Glyndwr yn cael eu trafod, nodwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod.

 

Ar gyfer eitem 10 derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol gan yr Athro Iwan Davies fel cynrychiolydd Prifysgol Bangor, roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 313 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar  22 Hydref, 2021 fel rhai cywir.

5.

FFRAMWAITH ECONOMAIDD RHANBARTH GOGLEDD CYMRU - DRAFFT pdf eicon PDF 426 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, i gyflwyno i'r bwrdd y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol (REF) drafft ar gyfer Gogledd Cymru..

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell y drafft ‘Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru’ i’w fabwysiadau gan bob awdurdod lleol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio)

 

PENDERFYNWYD

 

Argymell y drafft ‘Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru’ i’w fabwysiadau gan bob awdurdod lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Sefydlodd Cynllun Gweithredu Economaidd, Llywodraeth Cymru'r sylfaen ar gyfer gweithio rhanbarthol, gan gynnwys ymrwymiad i ddarparu llais rhanbarthol cryfach trwy fodel datblygu economaidd â ffocws rhanbarthol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu timau rhanbarthol a datblygu Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol (REFs).

 

Mae REFs wedi'u bwriadu fel cyfrwng i helpu i hyrwyddo cynllunio a darpariaeth ranbarthol gydweithredol ymhlith partneriaid sector cyhoeddus, preifat a trydydd. Bydd y cyflawni yn canolbwyntio ar un weledigaeth a rennir ar gyfer pob rhanbarth a'i chefnogi gan gyfres o flaenoriaethau ac egwyddorion rhanbarthol.

 

 Bydd datblygu REFs yn allweddol wrth lywio a dylanwadu ar gyflawni blaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Cynllun Gweithredu Economaidd, Llywodraeth Cymru, wedi sefydlu sylfaen ar gyfer gweithio’n rhanbarthol, sydd yn cynnwys sefydlu timau rhanbarthol a datblygu Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol. Eglurwyd fod datblygu’r fframweithiau yn rhan hanfodol i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Fodel Datblygu Economaidd. Eglurwyd wrth ddatblygu’r fframweithiau fod angen ystyried yr adferiad Covid-19 ynghyd â dyheadau hir dymor y rhanbarth.

 

Mynegwyd fod y fframweithiau yn helpu i hyrwyddo cynllunio a darpariaeth ranbarthol gydweithredol ymhlith partneriaid yn y sector gyhoeddus, preifat a trydydd sector. Eglurwyd bydd y fframwaith yn canolbwyntio ar un weledigaeth drwy gyfres o flaenoriaethau ac egwyddorion rhanbarthol. Pwysleisiwyd fod y fframweithiau yn allweddol wrth lywio a dylanwadu ar gyflawni blaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru.

 

Mynegwyd fod cyfnod ymgysylltu wedi ei gynnal ar y fframweithiau ac fod y tîm wedi targedu ystod o randdeiliad rhanbarthol i gyd-ddylunio’r dull hwn o ddatblygu economaidd. Nodwyd y blaenoriaethu o dan brif themâu: Economi Lles Cymdeithasol a Chymunedol, Economi Profiad a Economi Carbon Isel ac Allyriadau Isel. Eglurwyd fod y blaenoriaethau yn rhai hyblyg a fydd yn caniatáu i’r rhanbarth addasu dros y ugain mlynedd nesaf.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

¾     Holwyd tuag at pwy oedd y ddogfen hon wedi ei hanelu. Nodwyd fod y ddogfen wedi ei chreu ar gyfer y rhanbarth er mwyn cael pwrpas clir ac i amlygu blaenoriaethau. Mynegwyd y bydd y ddogfen bartneriaethol hon yn ganllaw ar gyfer derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.

¾     Mynegwyd gyda blaenoriaethau i’w gweld yn y Cytundeb Twf, Cydbwyllgorau Corfforedig ac yn y Fframweithiau yma yn ogystal holwyd sut y bydd modd cadw’r rhain i gyd i gyd-fynd a’i gilydd. Eglurwyd fod y ddogfen yn un cyffredinol o ran blaenoriaethau, ac o ganlyniad yn dangos yn glir fod y Bwrdd Uchelgais yn llwyddiannus yn gweithredu yn erbyn y Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol. Mynegwyd y bydd y Fframweithiau yn cyd-fynd a blaenoriaethu sydd i’w gweld yn barod ond ei fod yn rhoi fframwaith hir dymor i’r rhanbarth. 

¾     Nodwyd fod y penderfyniad yn nodi yr angen i Awdurdodau Lleol dderbyn y fframwaith – holwyd os y bydd angen i’r partneriaid wneud yn ogystal. Eglurwyd fod rhanddeiliad wedi cael cyfle i gyfrannu at y fframwaith ac y dylai gael ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Y STRATEGAETH FUDDSODDI pdf eicon PDF 638 KB

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Porffolio, i roi diweddariad i'r Bwrdd ynghylch y gwaith o ddatblygu strategaeth i roi sylw i'r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y Cynllun Twf.

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad ar y gwaith o ddatblygu strategaeth fuddsoddi.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd y diweddariad ar y gwaith o ddatblygu strategaeth fuddsoddi.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Bob blwyddyn, mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cychwyn Adolygiad Porth annibynnol fel rhan o’i broses sicrwydd a llywodraethu. Amlygodd Adolygiad Porth y Portffolio ym mis Awst 2021 gradd hyder cyflawni Ambr/Gwyrdd sydd yn cydnabod bod cyflawni’n llwyddiannus yn ymddangos yn debygol. Fodd bynnag, nodwyd yr angen rhoi sylw parhau i sicrhau nad yw risgiau yn troi mewn i faterion mawr a fyddai’n fygythiad.

 

Un o argymhellion y panel adolygu oedd y dylid datblygu a mabwysiadu strategaeth ar lefel Portffolio i ddenu a sicrhau buddsoddiad sector breifat ac arall.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nod pob blwyddyn fod y Cynllun Twf yn cychwyn Adolygiad Porth annibynnol fel rhan o broses sicrwydd a llywodraethu. Cynhaliwyd yr adolygiad ym mis Awst 2021, a cyflawnwyd gradd hyder cyflawni o Ambr/Gwyrdd a oedd yn cydnabod fod cyflawni’n llwyddiannus yn edrych yn debygol. Eglurwyd fod y panel adolygu yn argymell y dylid datblygu a mabwysiadu strategaeth ar lefel Portffolio er mwyn denu a sicrhau buddsoddiad sector breifat ac arall.

 

Eglurwyd fod y Cynllun Twf yn seiliedig ar gyflawni prosiectau ar draws pum rhaglen a rhagwelir y bydd cyfanswm gwariant cyfalaf hyd at £1.1biliwn. O’r cyfanswm hwn, ategwyd fod £240miliwn wedi’i ymrwymo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a nodwyd fod disgwyliad i £179.2miliwn o gyfalaf o ffynonellau sector gyhoeddus eraill a £722miliwn yn cael ei ymrwymo gan y sector breifat. Mynegwyd fod y buddsoddiad yn cyfrannu at dwf economaidd y rhanbarth dros dymor o ddeg i bymtheg mlynedd ac fod y buddsoddiad wedi’i dargedu at y sectorau sy’n bwysig yn strategol drwy bum rhaglen portffolio.

 

Yn unol ag argymhellion y panel adolygu nodwyd fod drafft cychwynnol o’r Strategaeth wedi ei gyflwyno i’r Bwrdd Portffolio ar 26 Tachwedd i’w ystyried. Gofynnodd y Bwrdd Portffolio am amser ychwanegol i ystyried a rhoi mewnbwn i’r ddogfen. Nodwyd fod y strategaeth yn nodi saith amcan allweddol i fynd i’r afael â’i nodau’n effeithiol ynghyd ag annog cydweithio rhanbarthol a cheisio adnabod cyfleoedd a bygythiadau posib sy’n gysylltiedig a sicrhau buddsoddiad. Ategwyd y bydd cyflawnir amcanion yn llwyddiannus yn sicrhau ymagwedd gydlynol i sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen.

 

Tywyswyd drwy’r saith amcan o fewn y Strategaeth Buddsoddi. Eglurwyd y bydd cydweithio parhaus gyda’r rhan ddeiliaid rhanbarthol i adeiladu yr ymagwedd sydd wedi ei amlinellu a nodwyd y bydd diweddariad yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y Strategaeth ar yr 14 Rhagfyr 2021.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd pryder fod yr elfen leol ar goll o’r strategaeth ac fod yr elfen o drafodaeth leol yn cael ei dynnu o’r rhanbarth. Eglurwyd nad oes bwriad i’r ddogfen deimlo fod yr ymdeimlad lleol yn cael ei golli gan nodi fod y ddogfen yn llawn yn datgelu llawer yn fwy. Mynegwyd pwysigrwydd o edrych yn lleol am fuddsoddiad ac i ymestyn ymhellach i ddenu buddsoddiad pellach. Nodwyd mai bwriad y strategaeth oedd i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).  Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

8.

RHEOLI NEWID - DIWEDDARIAD

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau (adroddiad wedi’i gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

Nodwyd y diweddariad ar y ceisiadau i newid. 

 

.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd y diweddariad ar y ceisiadau i newid. 

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2020, fe gytunwyd ar y Cytundeb Twf ar gyfer Cynllun Twf y Gogledd. Nodwyd fod gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newid posib i sgôp y Cynllun Twf a’r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny’n berthnasol ei hystyried gan y Bwrdd.

 

Caiff ceisiadau i newid eu hasesu gan y Swyddfa Rheoli Portffolio a'u hystyried gan y Bwrdd Portffolio cyn gwneud unrhyw argymhelliad i'r Bwrdd. 

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

9.

PROSIECT CANOLFAN PROSESU SIGNALAU DIGIDOL - ACHOS BUSNES LLAWN

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau a Stuart Whitfield, Rheolwr y Rhaglen Ddigidol (adroddiad wedi’i gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Prosesu Signalau Digidol, ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Bangor er mwyn cyflawni'r prosiect, yn ddarostyngedig ar i Brifysgol Bangor yn rhoi sylw i'r materion sy'n weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad ac yn sicrhau'r holl gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.  

 

Nodwyd y bydd gwedd 2 a 3 y prosiect yn ddarostyngedig i Brifysgol Bangor yn cynhyrchu Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob gwedd gwario.  

 

Dirprwywyd y Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol ar gyfer gwedd 2 a 3 y prosiect lle mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau) a Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol).

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Prosesu Signalau Digidol, ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-Gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i gytuno ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Bangor er mwyn cyflawni'r prosiect, yn ddarostyngedig ar i Brifysgol Bangor yn rhoi sylw i'r materion sy'n weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad ac yn sicrhau'r holl gymeradwyaeth mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.  

 

Nodwyd y bydd gwedd 2 a 3 y prosiect yn ddarostyngedig i Brifysgol Bangor yn cynhyrchu Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob gwedd gwario.  

 

Dirprwywyd y Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol ar gyfer gwedd 2 a 3 y prosiect lle mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynwyd. 

 

            TRAFODAETH

 

            Trafodwyd yr adroddiad.