Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Hugh Evans (Cyngor Sir Ddinbych), Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) ac Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint); Yana Williams (Coleg Cambria), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Neil Cockerton (Cyngor Sir y Fflint) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 135 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr, 2022 fel rhai cywir.

 

5.

RHEOLI NEWID – STRWYTHUR Y RHAGLEN DIGIDOL  pdf eicon PDF 972 KB

Stuart Whitfield i gyflwyno cais i newid yn ymwneud â strwythur y Rhaglen Ddigidol a chynnig newid i strwythur cyflawni'r Rhaglen Ddigidol.

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo’r cais i ailstrwythuro tri o brosiectau isadeiledd digidol y Rhaglen Ddigidol i greu dau brosiect newydd.

2.    Nodi’r cynnig i gyfuno'r prosiectau Campysau Cysylltiedig a Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol yn un prosiect i ganolbwyntio ar gyflawni capasiti rhwydwaith ffibr-optig i fodloni amcanion gwario'r ddau brosiect. Yn ddarostyngedig i asesiad pellach o'r gofynion (lle mae gofyn am rwydweithiau ffibr-optig newydd wedi'i adnabod) gallai elfen o'r prosiect Campws Cysylltiedig gael ei chynnwys yn y prosiect newydd hwn. Ni argymhellir newid i'r prosiect Ychydig % Olaf na'r prosiect Ymchwil a Datblygu DSP.

3.    Nodi strwythur cyflawni ac amserlen ddiwygiedig y rhaglen fel y nodir yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

4.    Nodi bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y newid sydd wedi'i gytuno.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol).

 

PENDERFYNWYD

 

(1)       Cymeradwyo’r cais i newid i ailstrwythuro tri o brosiectau isadeiladedd digidol y Rhaglen Ddigidol i greu dau brosiect newydd.

(2)       Nodi’r cynnig i gyfuno’r prosiectau Campysau Cysylltiedig a Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol yn un prosiect i ganolbwyntio ar gyflawni capasiti rhwydwaith ffibr-optig i fodloni amcanion gwario’r ddau brosiect.  Yn ddarostyngedig i asesiad pellach o’r gofynion (lle mae gofyn am rwydweithiau ffibr-optig newydd wedi’i adnabod) gallai elfen o’r prosiect Campws Cysylltiedig gael ei chynnwys yn y prosiect hwn.  Ni argymhellir newid i’r prosiect Ychydig % Olaf na’r prosiect Ymchwil a Datblygu DSP.

(3)       Nodi strwythur cyflawni ac amserlen ddiwygiedig y rhaglen fel y nodir yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

(4)       Nodi bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y newid sydd wedi’i gytuno.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Deilliant y gweithdai Achos Economaidd ar gyfer y prosiect Coridorau Cysylltiedig oedd adnabod opsiwn a ffefrir sy'n cynnwys buddsoddi mewn darpariaeth rhwydwaith ffibr-optig newydd yn y rhanbarth.  Mae prosiect Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol y Rhaglen Ddigidol, sydd ar y cam SOC ar hyn o bryd, hefyd yn targedu darpariaeth rhwydwaith ffibr-optig, gyda'r 'safleoedd allweddol' cyfredol fel arfer yn agos i'r safleoedd 'coridorau' trafnidiaeth sydd o fewn sgôp y prosiect Coridorau Cysylltiedig.  Mae'r ffaith fod y lleoliadau a bellach y ddarpariaeth gwasanaeth yn alinio yn rhoi cyfle i ddod â'r ddau brosiect ynghyd i gyflawni amcanion gwario dan un prosiect yn unig.  Cefnogir yr egwyddor hon gan arferion gorau Trysorlys EM yn ei Ganllaw i Ddatblygu Achos Busnes y Rhaglen (‘Better Business Cases for better outcomes’).

 

Er mwyn lleihau'r effaith i'r amserlenni ar gyfer datblygu achosion busnes prosiectau a gymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais, bydd angen gweithredu newidiadau i strwythur y rhaglen cyn gynted â phosibl.  Bydd angen gwneud newidiadau i gwmpas yr achosion amlinellol strategol nesaf cyn comisiynu cymorth ymgynghori pellach.

 

Bydd angen i'r broses o gaffael cymorth ymgynghori i gwblhau Achosion Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiectau Coridorau Cysylltiedig, Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol a Champws Cysylltiedig ddechrau'r chwarter nesaf ac ni ellir cadarnhau cwmpas y gwaith hwn hyd nes y gwneir penderfyniad ar strwythur y rhaglen.  Mae Trysorlys EM yn argymell adolygiadau rheolaidd o Achos Busnes y Rhaglen i gyfrif am newidiadau yn yr achos strategol a chanlyniadau diweddar gweithdai prosiect, ac mae gweithgarwch y farchnad a'r Llywodraeth yn awgrymu bod digon o newidiadau wedi digwydd i fod angen eu hadolygu.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nododd y Cadeirydd fod hwn yn ymddangos yn gam rhesymegol ymlaen, a phetai yna obaith o leihau’r strwythur llywodraethiant, bod hynny i’w groesawu’n fawr, a bod y buddion o gaffael hefyd yn glir yma.

 

Codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd i’r Cyfarwyddwr Portffolio, y Rheolwr Rhaglen Digidol a’r tîm am eu gwaith caled.

·         Gofynnwyd i’r mater ddod yn ôl i’r Bwrdd petai’r amserlen yn llithro.

·         Nodwyd bod y cais yn synhwyrol ac yn gymesur, a chroesawyd y parodrwydd i addasu, petai angen, wrth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNNIG I GYFLAWNI CYNLLUNIAU YNNI ARDALOEDD LLEOL YNG NGOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 382 KB

Henry Aron i geisio cytundeb i Uchelgais Gogledd Cymru gyflawni Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol (LAEPs) yng Ngogledd Cymru. 

Penderfyniad:

 

1.    Cytuno i fabwysiadu dull cydgysylltiedig, rhanbarthol o ddarparu'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol ar draws awdurdodau lleol y Gogledd dan arweiniad y Swyddfa Rheoli Portffolio (drwy Gyngor Gwynedd fel y Corff Atebol).

2.    Cytuno i recriwtio rheolwr prosiect a dau swyddog prosiect i gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol i'w hariannu gan Lywodraeth Cymru a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ar y cytundebau ariannu grant a gweithredu'r cynnig.

3.    Nodi, yn amodol ar gytundeb ariannu grant, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i dalu costau cyflawni'r cynlluniau ac ar gyfer adnoddau rheoli'r prosiect.

4.    Nodi y caiff y trefniadau llywodraethu prosiect priodol eu rhoi ar waith ym mhob awdurdod lleol ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo’r cynlluniau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni).

 

PENDERFYNIAD

 

(1)       Cytuno i fabwysiadu dull cydgysylltiedig, rhanbarthol o ddarparu'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol ar draws awdurdodau lleol y Gogledd dan arweiniad y Swyddfa Rheoli Portffolio (drwy Gyngor Gwynedd fel y Corff Atebol).

(2)       Cytuno i recriwtio rheolwr prosiect a dau swyddog prosiect i gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol i'w hariannu gan Lywodraeth Cymru a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ar y cytundebau ariannu grant a gweithredu'r cynnig.

(3)       Nodi, yn amodol ar gytundeb ariannu grant, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i dalu costau cyflawni'r cynlluniau ac ar gyfer adnoddau rheoli'r prosiect.

(4)       Nodi y caiff trefniadau llywodraethu prosiect priodol eu rhoi ar waith ym mhob awdurdod lleol ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo’r cynlluniau.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cytundeb i Uchelgais Gogledd Cymru gyflawni Cynlluniau Ardaloedd Lleol (LAEPs) yng Ngogledd Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi Cynllunio Ynni Ardal Leol (LAEP) ledled Cymru ac wedi cynnig dull rhanbarthol cydgysylltiedig o gyflawni.  Mae Prif Weithredwyr awdurdodau lleol Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu cefnogaeth i'r dull hwn ac i'r gwaith cyflawni gael ei gydlynu gan Swyddfa Rheoli Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Gan gyfeirio at y penderfyniadau a geisid, gofynnodd y Rheolwr Rhaglen Ynni i’r Bwrdd ystyried gwneud y penderfyniad ychwanegol a ganlyn, yn dilyn ymgysylltu gyda’r prif weithredwyr:-

 

Nodi y caiff trefniadau llywodraethu prosiect priodol eu rhoi ar waith ym mhob awdurdod lleol ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo’r cynlluniau.”

 

Gofynnodd y Swyddog Monitro i’r Bwrdd ystyried addasu penderfyniad 2 fel a ganlyn, er mwyn caniatáu sefydlu trefniadau grant rhwng Gwynedd a’r cynghorau unigol hefyd, petai eu hangen.

 

“Cytuno i recriwtio rheolwr prosiect a dau swyddog prosiect i gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol i'w hariannu gan Lywodraeth Cymru a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ar y cytundebau ariannu grant a gweithredu'r cynnig.

 

Codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod Cyngor Conwy wedi mynd drwy’r broses, a bod yr adborth yn dangos bod yr ymarferiad wedi bod yn un buddiol, oedd yn feincnod o lle rydym wedi cyrraedd, ac yn gosod llwybr ar gyfer lle’r ydym angen bod.  Credid ei bod yn synhwyrol gweithredu’n rhanbarthol, oherwydd er bod rhai pethau’n berthnasol i siroedd penodol, byddai’n rhaid i’r prif gynlluniau, megis hydrogen, morlynnoedd llanw a thrafnidiaeth, gael eu gwneud yn rhanbarthol.

·         Mewn ymateb i gais am fwy o eglurder ynglŷn â’r diwygiad i benderfyniad 2, eglurodd y Swyddog Monitro, er bod y grantiau yn cael eu derbyn gan y Bwrdd, bod elfen o’u gweithredu yn nwylo’r awdurdodau unigol, ac felly bod angen sicrhau’r mecanwaith ar gyfer sefydlu’r llinell atebolrwydd rhwng gweithredu ac arwyddo’r grant, petai angen hynny.

 

7.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2022/23 pdf eicon PDF 626 KB

Dewi A Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh, frifydd Grŵp yr Awdurdod Llety i gynnig Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2022/23 ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd Uchelgais). 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2022/23 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau unwaith ac am byth o £85,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth gefn a glustnodir.

2.    Cymeradwyo cyfraniadau ariannu yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a chyfraniadau llog partneriaid.

3.    Cymeradwyo cais y Bwrdd Cyflawni Busnes bod y tanwariant o £20,000 yn erbyn eu cyllideb 2021/22 yn cael ei gario ymlaen i 2022/23 i roi cyfanswm cyllideb o £40,000 iddynt.

4.     Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau).

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2022/23 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau unwaith ac am byth o £85,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth gefn a glustnodir.

2.    Cymeradwyo cyfraniadau ariannu yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a chyfraniadau llog partneriaid.

3.    Cymeradwyo cais y Bwrdd Cyflawni Busnes bod y tanwariant o £20,000 yn erbyn eu cyllideb 2021/22 yn cael ei gario ymlaen i 2022/23 i roi cyfanswm cyllideb o £40,000 iddynt.

4.    Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn gweithredu'n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb

flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd i’r Swyddog Cyllid Statudol a’r Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau am y gwaith a’r cyflwyniad clir.

·         Eglurwyd fod y gyllideb gwariant Hyfforddiant yn cyfeirio at hyfforddiant penodol y bydd staff y Bwrdd Uchelgais ei angen yn ystod y flwyddyn.

·         Mewn ymateb i gwestiwn am y gwariant yswiriant o £2,980, eglurwyd ei fod yn cyfeirio at gostau yswiriant atebolrwydd cyflogwr ac atebolrwydd cyhoeddus sy’n cael ei drefnu fel rhan o waith yr awdurdod lletya ac fel rhan o bolisi yswiriant Cyngor Gwynedd.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â pham na chafodd cyllid y Bwrdd Cyflawni Busnes ei wario yn y flwyddyn ddiwethaf, nodwyd nad oedd y Bwrdd hwn yn siŵr ble i wario’r arian yn flaenorol. Hyderwyd y bydd yr arian sy’n cael ei gario drosodd pe caniateir y penderfyniad yn cael ei wario’n ddoeth a’n gynhyrchiol yn y flwyddyn i ddod ynghyd a’r arian o’r gyllideb 2022/23. Ychwanegwyd fod amseru wedi bod yn broblem; dylid defnyddio’r gyllideb hon tuag at dargedu a denu buddsoddiadau i’r rhanbarth; adroddwyd ei bod yn anodd cyflawni hyn nes oedd y brand newydd yn ei le. Bellach mae gan y Bwrdd Uchelgais lawer mwy o eglurder a nod cadarn ynglŷn â ble i fynd a beth i’w gyflawni o ran denu buddsoddiadau. Diolchwyd i’r Bwrdd Cefnogi Busnes am eu cefnogaeth.

·         Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyfraddau llog o 2.2% yn parhau heb eu newid ers Hydref 2020, cytunwyd ar hyn yn dilyn derbyn barn cwmni ymgynghorol trysorlys annibynnol. Bydd cronfa ar wahân yn cael ei greu ar gyfer y llog sy'n cael ei glustnodi fel ei fod yn cael ei ddangos ar wahân.

·         Mewn ymateb i sylw y bydd pwysau chwyddiant cynyddol ar yr holl brosiectau, eglurwyd y bydd pob prosiect wrth fynd drwy’r broses ddatblygu yn cael gwiriad trylwyr ynghylch fforddiadwyedd; bydd mwy o ffocws yn cael ei roi ar yr elfen hon ynghyd ag adolygu rheolaidd. Ychwanegwyd fod materion chwyddiant a chyfraddau llog wedi derbyn ystyriaeth lawn a bod trafodaethau rheoli  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

SWYDDFA RHEOLI PORTFFOLIO - STRWYTHUR A CHONTRACTAU pdf eicon PDF 337 KB

Alwen Williams Cyfarwyddwr Portffolio  a Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno cynnig a sail resymegol i'r Bwrdd ar gyfer ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio.

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo'r egwyddor o ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio hyd at 31 Mawrth 2024 a gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio weithredu hyn ar unwaith.

2.    Nodi y telir costau'r ymestyniad hwn o ffynonellau ariannu presennol (yn cynnwys cronfeydd wrth gefn) ac ni fydd yn arwain at unrhyw ofynion ariannol ychwanegol gan bartneriaid.

3.    Nodi bod awdurdod dirprwyedig wedi'i roi yn flaenorol [Ionawr 2020] i'r Cyfarwyddwr Portffolio i wneud newidiadau i strwythur y Swyddfa Rheoli Portffolio mewn ymgynghoriad â Phrif Weithredwr yr Awdurdod Lletya a'r Swyddog Cyllid Statudol i ddiwygio'r strwythur fel sydd angen o fewn yr amlen ariannu.

4.    Nodi y bydd gofynion adnoddau'r Swyddfa Rheoli Portffolio i gyflawni'r Cynllun Twf wedi Mawrth 2024 yn rhan o adolygiad o adnoddau rhanbarthol i'w wneud gan y Grŵp Swyddogion Gweithredol a fydd hefyd yn ystyried goblygiadau ehangach y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, y Gronfa Ffyniant Cyffredin a ffynonellau ariannu eraill a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r adnoddau sydd eu hangen ar lefel awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni prosiectau a rhaglenni datblygu economaidd ac adfywio lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cymeradwyo’r egwyddor o ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio hyd at 31 Mawrth 2024 a gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio weithredu hyn ar unwaith.

2.    Nodi y telir costau'r ymestyniad hwn o ffynonellau ariannu presennol (yn cynnwys cronfeydd wrth gefn) ac ni fydd yn arwain at unrhyw ofynion ariannol ychwanegol gan bartneriaid.

3.    Nodi bod awdurdod dirprwyedig wedi'i roi yn flaenorol [Ionawr 2020] i'r Cyfarwyddwr Portffolio i wneud newidiadau i strwythur y Swyddfa Rheoli Portffolio mewn ymgynghoriad â Phrif Weithredwr yr Awdurdod Lletya a'r Swyddog Cyllid Statudol i ddiwygio'r strwythur fel sydd angen o fewn yr amlen ariannu.

4.    Nodi y bydd gofynion adnoddau'r Swyddfa Rheoli Portffolio i gyflawni'r Cynllun Twf wedi Mawrth 2024 yn rhan o adolygiad o adnoddau rhanbarthol i'w wneud gan y Grŵp Swyddogion Gweithredol a fydd hefyd yn ystyried goblygiadau ehangach y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, y Gronfa Ffyniant Cyffredin a ffynonellau ariannu eraill a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r adnoddau sydd eu hangen ar lefel awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni prosiectau a rhaglenni datblygu economaidd ac adfywio lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwyno cynnig a sail resymegol i’r Bwrdd ar gyfer ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio.

 

Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb i sicrhau bod adnoddau digonol yn eu lle i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

Sefydlwyd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn wreiddiol ym mis Ionawr 2020 gyda thîm bychan o staff. Yn sgil cais llwyddiannus am grant Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (ESF), ehangwyd y tîm a recriwtiwyd i'r strwythur cyfredol dros y 18 mis diwethaf.

 

Mae'r grant ESF sydd wedi'i sicrhau tan ddiwedd mis Mehefin 2023 ac mae rhan fwyaf y staff o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio ar gontractau tymor penodol hyd at 30 Mehefin 2023.

 

Mae hyn risg sylweddol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio gan fod staff sy'n allweddol i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn tynnu am flwyddyn olaf eu contractau a gallent geisio am gyfleoedd eraill sydd â mwy o sicrwydd cytundebol.

 

O ganlyniad i nifer o ffactorau yn cynnwys y pandemig, oedi wrth ddatblygu prosiectau a heriau recriwtio, mae'r Cynllun Twf tua blwyddyn ar ei hôl hi o gymharu â'r amserlen gyflawni wreiddiol. Gydag un prosiect eisoes yn cael ei gyflawni, mae'r 24 mis nesaf yn hanfodol yn nhermau symud gweddill y prosiectau ymlaen i'r wedd cyflawni pan fyddwn yn dechrau gwireddu'r buddion i'r Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Gan gyfeirio at y penderfyniadau a geisid, gofynnodd y Rheolwr Gweithrediadau i’r Bwrdd ystyried gwneud yr ychwanegiad a ganlyn i ddiwedd pwynt 2.4:- 

 

“.. a’r adnoddau sydd eu hangen ar lefel awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni prosiectau a rhaglenni datblygu economaidd ac adfywio lleol.”

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd am y cyflwyniad a chredwyd fod y cais yn un rhesymol a rhesymegol.

·         Cydnabyddwyd bod risg sylweddol i golli aelodau o’r tîm ynghyd a’u gwybodaeth a’u profiadau.  Mynegwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.