Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom (I gael mynediad cyhoeddus i'r cyfarfod, cysylltwch a ni)

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Apologies were received from Professor Iwan Davies (Bangor University), Yana Williams (Coleg Cambria), Iwan Evans (Monitoring Officer - Host Authority), Dafydd Gibbard (Gwynedd Council), Alwen Williams (Portfolio Director) and Sheryl Le Bon (Senior Executive Officer).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 301 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Mehefin, 2022 fel rhai cywir  (i ddilyn).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2022, fel rhai cywir.

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 1 pdf eicon PDF 352 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd ac ystyried yr  Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei ddiweddaru.  

Nodwyd y waith i ail-broffilio’r cynllun cyflawni fel rhan o ddiweddariad Achos Busnes y Portffolio ac y bydd y wybodaeth ar gael yn adroddiad Chwarter 2.  

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.  

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

PENDERFYNWYD

Nodwyd ac ystyried yr Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 a Chofrestr Risg y Portffolio a oedd wedi ei ddiweddaru.

Nodwyd y gwaith i ail-broffilio’r cynllun cyflawni fel rhan o ddiweddariad Achos Busnes y Portffolio ac y bydd y wybodaeth ar gael yn adroddiad Chwarter 2.

Cymeradwywyd cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Mae adrodd chwarterol a blynyddol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi uchafbwyntiau’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn. Cychwynnwyd gyda’r Rhaglen Ddigidol gan nodi fod hawliad cyntaf ar gyfer Prosiect DSP ar fin ei gyflwyno. Eglurwyd fod Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer y prosiect Cysylltu'r Ychydig % Olaf yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd heddiw.

Amlygwyd yn y Rhaglen Ynni Carbon Isel fod cais am newid rhaglen Morlais wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Rhaglen ar yr amod bod cyfyngiadau cytundebol ynghlwm gyda arian WEFO Morlais yn cael ei cyfarch yn briodol.. O ran cynllun Egni nodwyd fod Prifysgol Bangor wedi gwneud cais i oedi amserlen yr achos busnes er mwyn caniatáu adolygiad y prosiect. Wrth amlygu uchafbwyntiau’r Rhaglen Tir ac Eiddo eglurwyd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cymeradwyo cyllid i ddatblygu Uwch gynllun ar gyfer safle Prosiect Porth y Gorllewin. Yn ogystal a hyn nodwyd fod mecanwaith cyflawni wedi ei gytuno arno ar gyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych a oedd yn rhannu’r risg o ddatblygu gyda datblygiad tri cham mewn egwyddor.

O ran y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth nodwyd fod Grŵp Llandrillo Menai wedi cadarnhau strwythur y Rhwydwaith Talent Twristiaeth rhwng y coleg a phartneriaid yn y sector breifat, ac eu bod yn paratoi i gyflwyno cais cyn-cynllunio ar gyfer Hwb Economi Gweledig Glynllifon.

Amlygwyd fod pedwar prosiect yn adrodd yn goch ar hyn o bryd sydd yn lleihad o un a adroddwyd arno diwedd y flwyddyn ariannol diwethaf. Yn gyntaf nodwyd fod Prosiect Canolfan Ragoriaeth Ynni Carbon Isel (Egni) yn cael ei adolygu gan Brifysgol Bangor yn sgil y newidiadau arfaethedig i ragamcanion cyfalaf a refeniw a’r oedi gyda’r adolygiad prosiect.. Eglurwyd fod caniatâd cynllunio amlinellol ar Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan wedi dod i ben, ac mae cais wedi ei wneud am wybodaeth ychwanegol ar sefyllfa polisi cynllunio tebygol y safle i Gyngor Sir Ddinbych. Nodwyd o ran cynllun Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, fod angen caniatâd cynllunio angen ei sicrhau ac amlygwyd posibilrwydd o flwch ariannol yn sgil costau cyfalaf adeiladu yn cynyddu. Mynegwyd o ran cynllun Fferm Sero Net Llysfasi fod oedi yn dilyn angen i ymgorffori adborth adolygiad Porth 2.

O ran y gofrestr risg, eglurwyd fod y proffil risg wedi parhau’n sefydlog ac amlygwyd fod fforddiadwyedd yn parhau i fod y risg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DATGANIAD O GYFRIFON Y BUEGC AM 2021-22 pdf eicon PDF 512 KB

Adroddiad gan Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grwp).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd Ddatganiad o Gyfrifon drafft y Bwrdd Uchelgais (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2021/22.   

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol – Awdurdod Lletya).

PENDERFYNIAD

Derbyniwyd a nodwyd Ddatganiad o Gyfrifon drafft y Bwrdd Uchelgais (yn amodol ar

archwiliad) ar gyfer 2021/22.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Nid oes gofyn statudol i’r Bwrdd gymeradwyo’r fersiwn ddrafft o Ddatganiad o Gyfrifon y Cyd-Bwyllgor, ond ystyrir ei gyflwyno fel datganiad drafft er gwybodaeth yn arfer da i’w ddilyn.

Nodwyd y bydd angen i’r Bwrdd gymeradwyo'r fersiwn terfynol ym mis Hydref ar ôl derbyn adroddiad Archwilio, ond eglurwyd fod cyflwyno’r fersiwn ddrafft yn gyfle i aelodau’r Bwrdd ystyried y cynnwys ac arfogi eu hunain gyda’r wybodaeth berthnasol.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi am y tro cyntaf eleni fod y Bwrdd wedi paratoi set gyflawn o ddatganiadau cyfrifon, yn hytrach na’r ffurflen swyddogol a ddefnyddiwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Eglurwyd fod hyn oherwydd fod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) yn nodi fod corff awdurdod lleol yn “gorff perthnasol mwy” pan fo’r incwm neu wariant blynyddol dros £2.5m.

Mynegwyd fod y Datganiad Cyfrifon blynyddol wedi eu paratoi yn unol â’r Cod Ymarfer ar Gyfrifyddu mewn Awdurdod Lleol. Eglurwyd fod y Bwrdd Uchelgais wedi derbyn y wybodaeth mewn ffordd llawer mwy defnyddiol pan gyflwynwyd Sefyllfa Alldro Refeniw a Chyfalaf y Bwrdd yn ôl ym mis Ebrill. Nodwyd y penderfyniad a wnaethpwyd yn ystod y cyfarfod hwnnw. Amlygwyd fod y ffigyrau sydd yn ymddangos yn y datganiad yn gyson gyda’r adroddiad yn ôl ym mis Ebrill.

Pwysleisiwyd mai eleni  yw’r flwyddyn gyntaf ble mae’r adran wedi paratoi adroddiad ar y ffurf yma, o ganlyniad maent wedi gorfod mynd yn ôl ac ail-osod sefyllfa 2020/21 er mwyn ei roi yn y ddogfen er cymhariaeth. Nodwyd fod yna reserfau yn ymddangos na ellir eu defnyddio, eglurwyd fod y rhain yn ymdrin â materion megis ymrwymiadau pensiwn yn y dyfodol. Mynegwyd fod y Swyddog Cyllid Statudol wedi arwyddo’r cofnodion o’r cyfrifon yn ôl ym mis Mehefin ac wedi  tystio ei fod o’r farn fod y Datganiad o'r Cyfrifon wedi ei baratoi yn unol â'r ymarfer priodol fel a osodir yn y Còd Ymarfer CIPFA/LASAAC ar Gyfrifo ar gyfer Awdurdodau Lleol. Nodwyd ei fod yn credu fod y Datganiad yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Cyd-Bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar 31 Mawrth 2022 ac incwm a gwariant y Cyd Bwyllgor am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny.

Eglurwyd y bydd y datganiadau yn mynd ymlaen i gael eu hadolygu gan Archwilio Cymru, sef archwilwyr allanol y Bwrdd Uchelgais, a bydd y cyfrifon terfynol, ynghyd ag adroddiadau yr archwiliwyd, yn cael ei cyflwyno yn ystod yr hydref.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd i’r adran am eu gwaith yn partio’r dogfennau ac i ychwanegu y gair drafft i’r penderfyniad.                 

7.

CYNLLUN ARCHWILIO 2022 - CYD-BWYLLGOR BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 313 KB

Cyflwyniad gan Archwilio Cymru.

Penderfyniad:

Derbyniwyd adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun Archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2022.  

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sioned Owen (Archwilio Cymru)

PENDERFYNIAD

Derbyniwyd adroddiad Archwilio Cymru a oedd yn amlygu cynllun Archwilio’r Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2022.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Er bod Cyd-bwyllgor Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Cyd-bwyllgor) wedi bod yn paratoi Ffurflen Flynyddol Cyd-bwyllgorau Llai yn flaenorol, hon fydd y flwyddyn gyntaf i’r Cyd-bwyllgor baratoi datganiadau ariannol llawn. Bydd Archwilio Cymru yn archwilio’r datganiadau ariannol i wneud yn siŵr y rhoddir cyfrif yn briodol am arian cyhoeddus.

Roedd y ddogfen hon yn nodi’r gwaith y bydd Archwilio Cymru yn bwriadu ei wneud yn ystod 2022 i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol fel archwilydd allanol ac i gyflawni eu rhwymedigaethau dan y Cod Ymarfer Archwilio.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi gan mai eleni yw’r tro cyntaf i’w Bwrdd Uchelgais fod yn cyflwyno datganiadau ariannol llawn, credir ei bod yn briodol i’r Bwrdd Uchelgais dderbyn cynllun archwilio unigol yn hytrach nac wedi ei gyflwyno o fewn cynllun Cyngor Gwynedd. Amlygwyd risg arwyddocaol y gallai rheolwyr wrthwneud rheolaethau’n bresennol ym mhob endid, gan egluro fod y risg hwn i’w gweld ym mhob cynllun archwilio. Nodwyd gan fod y Cyd-bwyllgor wedi paratoi datganiadau ariannol llawn am tro cyntaf eleni, ei bod yn risg y bydd y datganiadau yn fwy tueddol o gynnwys camddatganiadau perthnasol.

Tynnwyd sylw at Raglen Archwilio gan y tîm perfformiad sydd wedi ei gynnwys yn ogystal. Derbyniwyd diweddariad am y tabl aelodau staff gan fod y Rheolwr Archwilio Perfformiad bellach wedi gadael y sefydliad, ac eglurwyd y byddant yn hysbysu’r adran pan unigolyn wedi ei benodi.

Esboniwyd fod y cynllun yn nodi fod Archwilio Cymru yn gobeithio cwblhau y gwaith erbyn Gorffennaf / Awst ond eu bod yn trafod ar draws yr holl awdurdodau i wthio y dyddiad hwn yn ei flaen i fis Medi / Hydref.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd am y gwaith a cadarnhawyd fod y codiad mewn ffioedd o 3.7% i’w gweld ar draws holl ffioedd Archwilio Cymru. 

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:-

Eitem 9 - gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Eitem 10 – Gan fod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad yn gyfrinachol fel y diffinnir yn adran 100(A)3 Deddf Llywodraeth Leol 1972 gan iddi gael ei darparu gan Adran o’r Llywodraeth ar delerau sy’n gwahardd ei datgelu’n gyhoeddus.

Mae’n rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu.

Cofnod:

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:-

9.

PROSIECT YR YCHYDIG % OLAF - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

Adroddiad i’w gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Cysylltu'r Ychydig % Olaf yn amodol  ar gymeradwyaeth  Llywodraeth  Cymru a  Llywodraeth  y  DU  i'r  broses  sicrwydd  a gynhaliwyd, â bod y  Swyddfa  Rheoli  Portffolio  yn  mynd  i'r  afael  â'r  materion  a  nodir  yn  yr adroddiad, fel y nodir yn Adran 7 yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn y cadarnhad o ganlyniad Adolygiad Cyhoeddus yr Adolygiad o'r Farchnad Agored (OMR) a chwblhau'r broses gaffael.

Nodwyd bod y nifer bresennol o eiddo gwyn sydd i'w targedu o fewn yr OBC yn rhai dros dro tra'n aros am ganlyniad yr Adolygiad Cyhoeddus ac y bydd y dull caffael terfynol yn cael ei gadarnhau yn dilyn canlyniad yr Adolygiad Cyhoeddus a'r Ymgysylltu â'r Farchnad.

Dirprwyo’r Cyfarwyddwr  Portffolio mewn  ymgynghoriad  â'r  Cadeirydd  a'r  Is-gadeirydd i gymeradwyo’r dull  caffael  gan  ymgorffori  canfyddiadau'r  Adolygiad Cyhoeddus  a'r  Ymgysylltu â'r  Farchnad a chymeradwyaeth derfynol o’r fanyleb gaffael  a'r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn dechrau caffael.

Nodwyd y cytunir ar y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect yn ystod y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro yr Awdurdod Lletyai gytuno ar delerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Elen Edwards (Uwch Swyddog Cyfrifol y Prosiect), Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Ddigidol) a Kirrie Roberts (Rheolwr Prosiect)

PENDERFYNIAD

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Cysylltu'r Ychydig % Olaf yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r broses sicrwydd a gynhaliwyd, â bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn mynd i'r afael â'r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y nodir yn Adran 7 yn gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn y cadarnhad o ganlyniad Adolygiad Cyhoeddus yr Adolygiad o'r Farchnad Agored (OMR) a chwblhau'r broses gaffael.

Nodwyd bod y nifer bresennol o eiddo gwyn sydd i'w targedu o fewn yr OBC yn rhai dros dro tra'n aros am ganlyniad yr Adolygiad Cyhoeddus ac y bydd y dull caffael terfynol yn cael ei gadarnhau yn dilyn canlyniad yr Adolygiad Cyhoeddus a'r Ymgysylltu â'r Farchnad.

Dirprwyo’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd i gymeradwyo’r dull caffael gan ymgorffori canfyddiadau'r Adolygiad Cyhoeddus a'r Ymgysylltu â'r Farchnad a chymeradwyaeth derfynol o’r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn dechrau caffael.

Nodwyd y cytunir ar y trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect yn ystod y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro yr Awdurdod Lletyai gytuno ar delerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Mae angen cefnogaeth y Bwrdd Uchelgais i’r Achos Busnes Amlinellol (OBC) ar gyfer y prosiect Ychydig % Olaf er mwyn symud y cynllun yn ei blaen.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr adroddiad.

10.

CYTUNDEB MENTER AR Y CYD ARFAETHEDIG AR GYFER CYFLENWI EIDDO AT DDIBENION CYFLOGAETH YNG NGWYNEDD

Adroddiad i’w gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig.

Penderfyniad:

Cefnogwyd yr egwyddor o fynd i Gytundeb Menter ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu unedau cyflogaeth ymlaen llaw ar Blot C3 Parc Bryn Cegin fel y dangosir ar y cynllun ystâd amgaeedig (Atodiad A). 

Dirprwywyd y gwaith o negodi Cytundeb Menter ar y Cyd yn unol â'r adroddiad hwn i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a gofyn i fersiwn terfynol ddod yn ôl i'r Bwrdd am gymeradwyaeth. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau).

PENDERFYNIAD

Cefnogwyd yr egwyddor o fynd i Gytundeb Menter ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu unedau cyflogaeth ymlaen llaw ar Blot C3 Parc Bryn Cegin fel y dangosir ar y cynllun ystâd amgaeedig (Atodiad A).

Dirprwywyd y gwaith o negodi Cytundeb Menter ar y Cyd yn unol â'r adroddiad hwn i'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a gofyn i fersiwn terfynol ddod yn ôl i'r Bwrdd am gymeradwyaeth.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Er mwyn galluogi’r prosiect fwrw ymlaen i’w wedd nesaf mae angen sicrhau Cytundeb Menter ar y Cyd er mwyn egluro rolau’r naill barti a’r llall. Eglurwyd fod cytundeb drafft wedi’i ddatblygu a bydd yn amodol ar adolygiad, negodi chytundeb terfynol gan y naill barti a’r llall.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr adroddiad.