Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn), Dylan Williams (Cyngor Sir Ynys Môn), Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd), Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Hedd Vaughan Evans (Rheolwr Gweithrediadau) Wendy Boddington (Llywodraeth Cymru) a Jane Richardson (Cadeirydd Grŵp Swyddogion Gweithredol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 354 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2022 fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2022 fel rhai cywir.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 593 KB

Adroddiad gan Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grwp).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r:

·         Adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC

·         Datganiad o Gyfrifon Terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2021/22

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) ac Yvonne Thomas (Archwilio Cymru).

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r:

·            Adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y BUEGC.

·            Datganiad o Gyfrifon Terfynol y BUEGC (ôl archwiliad) am 2021/22.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwynwyd y fersiwn derfynol (ôl-archwiliad) o’r Datganiad o’r Cyfrifon am 2021/22.  Roedd y prif newidiadau ers y fersiwn cyn archwiliad wedi’u hamlinellu yn rhan 16 o’r adroddiad ac Atodiad 3 ‘ISA260’ Archwilio Cymru.

 

Gofynnid i Gadeirydd y Bwrdd, ynghyd â’r Pennaeth Cyllid, ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth, yn electronig (Atodiad 1 i adroddiad Archwilio Cymru) wedi i’r BUEGC gymeradwyo’r uchod.

 

Wedi iddo dderbyn y Llythyr Cynrychiolaeth wedi’i ardystio gan y Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid, byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru (Adrian Crompton) yn cyhoeddi’r dystysgrif ar y cyfrifon.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nododd y Swyddog Cyllid Statudol:-

 

·         Bod paragraff 10 o adroddiad Archwilio Cymru yn nodi eu bod yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y byddai’r Bwrdd Uchelgais wedi rhoi Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

·         Bod Atodiad 3 i adroddiad yr archwilwyr yn tynnu sylw at un cywiriad a wnaed i’r cyfrifon yn ystod yr archwiliad, a bod hynny’n fater technegol yn unig yn ymwneud â phensiynau.

 

Nododd y Swyddog Cyllid Statudol ymhellach y dymunai ddiolch i Yvonne Thomas a’r tîm yn Archwilio Cymru am eu gwaith ar yr archwiliad, ac i Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau) a’r tîm yn Adran Gyllid Cyngor Gwynedd am eu gwaith yn paratoi’r Datganiad o Gyfrifon.

 

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru), i’r cyfarfod, ac fe’i gwahoddwyd i ddweud gair:-

 

Nododd Yvonne Thomas ei bod yn falch o ddweud bod Archwilio Cymru o’r farn bod y cyfrifon yn ddarlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y Bwrdd Uchelgais ar gyfer y flwyddyn ariannol.  Tynnodd sylw at ambell bwynt yn yr adroddiad, sef:-

 

·         Nad oedd archwilwyr byth yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir.  Yn lle hynny, pennid lefel o berthnasedd i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a allai, fel arall, beri i’r sawl sy’n defnyddio’r cyfrifon gael ei gamarwain, ac ar gyfer archwiliad eleni, pennwyd lefel perthnasedd o £57,000.

·         Nad oedd yr archwiliad wedi’i gwblhau ar adeg drafftio’r adroddiad, ond y gellid cadarnhau erbyn hyn bod yr archwiliad wedi’i gwblhau ac nad oedd yna unrhyw faterion ychwanegol wedi eu codi.

·         Bod yr adroddiad yn sôn am effaith Covid ar archwiliad eleni o ran yr amserlen a’r dull archwilio, ac o ystyried gweithio o bell parhaus, bwriedid defnyddio llofnodion electronig ar gyfer cymeradwyo ac ardystio cyfrifon eleni.

·         O ran materion arwyddocaol sy’n codi o’r Archwiliad, ei bod yn bleser adrodd mai man wallau naratif a chyflwyniadol yn unig oedd yn codi o’r archwiliad, ac roedd y ffaith bod cyn lleied o faterion wedi codi yn neges bositif ac yn adlewyrchu’n dda ar y trefniadaeth sydd mewn lle ar gyfer paratoi’r cyfrifon.

·         Y dymunai ddiolch i Sian  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD CYNNYDD AC RISG CHWARTER 2 CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 445 KB

Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.    Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

 

2.    Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) drosolwg o uchafbwyntiau’r adroddiad, a manylodd y Rheolwyr Rhaglen ar y diweddariadau rhaglen, fel a ganlyn:-

 

·         Ynni Carbon Isel - Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni);

·         Digidol – Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol);

·         Tir ac Eiddo - David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo);

·         Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).

 

Yna cyflwynodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) dabl yn tracio’r gwaith o gyflawni prosiectau a chyflwynodd Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) drosolwg o’r prif risgiau.

 

PENDERFYNIAD

1.         Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.         Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Gan gyfeirio at Gytundeb Menter ar y Cyd Parc Bryn Cegin, Bangor (Rhaglen Tir ac Eiddo), gofynnwyd am eglurhad o’r sylw a wnaed yn ystod y cyflwyniad bod y trafodaethau wedi cyrraedd y cam lle’r mae’r risgiau ariannol i’r Bwrdd wedi’u capio.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen, er na ellid cadarnhau nad oes cynnydd mewn costau, na fyddai’r Bwrdd yn gwario uwchlaw’r swm yr oedd wedi’i ddynodi ar gyfer y cynllun, a phetai’r gost yn llai na’r swm a ddynodwyd, yna byddai gan y Bwrdd yr hawl i ail-ddefnyddio’r arian ar gyfer prosiect gwahanol o fewn y Cynllun Twf.

 

Gan gyfeirio at y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter (Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel), gofynnwyd am eglurhad o’r sylw a wnaed yn ystod y cyflwyniad bod amcangyfrif 30-40% o gynnydd yng nghostau sefydlu’r ganolfan.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen fod yna ddau fwlch ariannu, un o fewn y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth a’r llall o fewn y Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel.  O ran bwlch ariannu costau prosiect Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, nodwyd bod y tîm yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn edrych ar dri opsiwn ar hyn o bryd, sef:-

 

·         Lleihau sgôp y prosiect

·         Ceisio sicrhau arian ychwanegol ar gyfer y prosiect

·         Tynnu’r prosiect yn ôl.

 

O ran bwlch ariannu costau sefydlu’r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, nodwyd bod y tîm ym Mhrifysgol Glyndŵr yn datblygu opsiynau hefyd.  Nid oedd yn glir eto beth yn union fyddai’r opsiynau hynny, ond gofynnwyd iddynt gyflawni ymarferiad tebyg i un Grŵp Llandrillo Menai, gan edrych ar newid sgôp y prosiect ac ystyried unrhyw gamau lliniaru eraill posib’ ar gyfer rheoli’r bwlch.  Nodwyd eu bod hefyd yn edrych ar newidiadau i amseriad y prosiect.

 

Nododd cynrychiolydd Prifysgol Glyndŵr ei bod yn anorfod y byddai yna oedi sylweddol gyda phrosiect y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, ond y dymunai gadw meddwl agored o ran y posibilrwydd o gyflwyno’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r

cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a

nodir:-

 

Eitem 8 - gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i

diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson

penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â

defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir

fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol

cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r

adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a

thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif

o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac

yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu

gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd

cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

Eitem 9 – Gan fod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad yn gyfrinachol fel y diffinnir yn adran 100(A)3 Deddf Llywodraeth Leol 1972 gan iddi gael ei darparu gan Adran o’r Llywodraeth ar delerau sy’n gwahardd ei datgelu’n gyhoeddus.

 

Mae’n rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:-

 

Eitem 8 – gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

Eitem 9 – Gan fod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad yn gyfrinachol fel y diffinnir yn Adran 100(A)3 Deddf Llywodraeth Leol 1972 gan iddi gael ei darparu gan Adran o’r Llywodraeth ar delerau sy’n gwahardd ei datgelu’n gyhoeddus.

 

Mae’n rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu.

 

8.

ACHOS BUSNES Y PORFFOLIO 2022

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo diweddariad 2022 Achos Busnes y Portffolio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

 

2.    Nodi er bod Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan wedi cael ei dynnu allan o’r Cynllun Twf, bod y targedau sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn yn parhau i gael eu cofnodi o fewn yr achos busnes, a byddant yn parhau felly nes ceir penderfyniad ar brosiect(au) i gymryd ei le.

 

3.    Nodi fod prosiect Fferm Sero Net Llysfasi wedi cael ei dynnu allan o’r Cynllun Twf gan Goleg Cambria ac y bydd yr Achos Fusnes yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  Hefyd, bod prosiect (Egni) yn parhau i gael ei adolygu a bod y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect wedi’i chynnwys yn yr achos busnes gan aros am gwblhau’r adolygiad a phenderfyniad y Bwrdd.

 

4.    Gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno’r holl ddogfennaeth ofynnol a’r ffurflen gais i newid i Lywodraethau Cymru a’r DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol a dirprwyo hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog a151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad y trosglwyddiad arian ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu’r llall.

 

5.    Nodi argymhellion yr Adroddiad Sicrwydd Portffolio (PAR) a gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i roi sylw i’r argymhellion

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).

 

PENDERFYNIAD

1.         Cymeradwyo diweddariad 2022 Achos Busnes y Portffolio a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

2.         Nodi er bod Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan wedi cael ei dynnu allan o’r Cynllun Twf, bod y targedau sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn yn parhau i gael eu cofnodi o fewn yr achos busnes, a byddant yn parhau felly nes ceir penderfyniad ar brosiect(au) i gymryd ei le.

3.         Nodi fod prosiect Fferm Sero Net Llysfasi wedi cael ei dynnu allan o’r Cynllun Twf gan Goleg Cambria ac y bydd yr Achos Fusnes yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  Hefyd, bod prosiect (Egni) yn parhau i gael ei adolygu a bod y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect wedi’i chynnwys yn yr achos busnes gan aros am gwblhau’r adolygiad a phenderfyniad y Bwrdd.

4.         Gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio gyflwyno’r holl ddogfennaeth ofynnol a’r ffurflen gais i newid i Lywodraethau Cymru a’r DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol a dirprwyo hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Swyddog Monitro a’r Swyddog a151 i negodi gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar amseriad y trosglwyddiad arian ac i wneud unrhyw fân addasiadau ar gais y naill lywodraeth neu’r llall.

5.         Nodi argymhellion yr Adroddiad Sicrwydd Portffolio (PAR) a gofyn i’r Cyfarwyddwr Portffolio ddatblygu cynllun gweithredu i roi sylw i’r argymhellion.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’n ofynnol dan Gytundeb Terfynol y Cynllun Twf bod Achos Busnes y Portffolio yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o’r broses dyfarnu cyllid flynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

9.

PROSIECT PARC BRYN CEGIN

David Mathews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo i gyflwyno’r adroddiad.  

Penderfyniad:

 

1.    Cytuno i fynd i Gytundeb Menter ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu unedau cyflogaeth ymlaen llaw ar Blot C3 Parc Bryn Cegin fel a ddangosir ar y cynllun ystâd a gynhwyswyd yn Atodiad A i’r adroddiad a gylchredwyd i aelodau’r Bwrdd.

 

2.    Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddog Monitro i gytuno yn derfynol ar y telerau a chwblhau’r Cytundeb Menter ar y Cyd yn unol â’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo).

 

PENDERFYNIAD

1.         Cytuno i fynd i Gytundeb Menter ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu unedau cyflogaeth ymlaen llaw ar Blot C3 Parc Bryn Cegin fel a ddangosir ar y cynllun ystâd a gynhwyswyd yn Atodiad A i’r adroddiad a gylchredwyd i aelodau’r Bwrdd.

2.         Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddog Monitro i gytuno yn derfynol ar y telerau a chwblhau’r Cytundeb Menter ar y Cyd yn unol â’r adroddiad.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yn ei gyfarfod ar y 15fed o Orffennaf, 2022, roedd y Bwrdd wedi gofyn am adroddiad pellach ar y Cytundeb Menter ar y Cyd.  Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad ar y trafodaethau, yn gofyn am gadarnhau y bwriad a dirprwyo hawl i gytuno ar y telerau yn derfynol a chwblhau y cytundeb yn unol â’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Trafodwyd yr adroddiad.