Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn), Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai), Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) a Wendy Boddington (Llywodraeth Cymru).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

 

Datganodd Chris Drew (Prifysgol Bangor) fuddiant personol yn eitem 7 – Cais am Newid Egni a Diweddariad ar y Broses Cyfnewid Prosiect, oherwydd bod yr adroddiad yn ymwneud â chais y Brifysgol i newid Prosiect Egni.

 

Datganodd Paul Bevan (Grŵp Llandrillo Menai) a Maria Hinfelaar (Prifysgol Glyndŵr) fuddiant personol yn eitem 11 – Cronfa Cyflawni’r Portffolio 2023-24 – Ceisiadau i Newid, oherwydd bod yr adroddiad yn crybwyll dyrannu adnoddau penodol i brosiectau Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Glyndŵr, ac oherwydd natur ariannu uniongyrchol yr eitem.

 

Roedd y cynrychiolwyr o’r farn bod y buddiannau yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y trafodaethau ar yr eitemau hynny.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 449 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2022 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 3 pdf eicon PDF 362 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaeth y Bwrdd gytuno i sefydlu Cronfa Cyflawni'r Portffolio ar gyfer 2023-24 a chlustnodi hyd at £7m o'r cyllid a gaiff ei ryddhau yn sgil tynnu prosiectau Bodelwyddan a Llysfasi yn ôl i'r gronfa hon i gefnogi prosiectau aeddfed o fewn y portffolio sy'n gorfod ymdopi â chynnydd mewn costau neu faterion hyfywedd er mwyn gallu symud i gyflawni yn ystod 2023-24 (yn amodol ar benderfyniadau ar wahân gan y Bwrdd).

 

Pwrpas yr adroddiad hwn yw gosod y ceisiadau i newid am gyllid ychwanegol i'w ddarparu drwy'r Gronfa Cyflawni'r Portffolio i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) ac ymhelaethodd y rheolwr rhaglen ar uchafbwyntiau’r rhaglenni unigol.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Bod y Bwrdd yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.
  2. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Holwyd a oedd yna gynllun ar gyfer ymdrin â’r risg sylweddol y gallai staff y Swyddfa Rheoli Portffolio sydd ar gontractau tymor penodol chwilio am gyfleoedd eraill.  Nodwyd bod prinder pobl â sgiliau ar hyn o bryd, a bod cwmnïau mawr yn chwilio am weithlu medrus.

 

Mewn ymateb, nodwyd bod hynny’n risg uchel.  Eglurwyd y buddsoddwyd yn yr adnoddau o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio, a bod y staff presennol yn fedrus iawn yn ymateb i ofynion Trysorlys y DU o ran achosion busnes, sef yr union sgiliau roedd llawer o gwmnïau yn chwilio amdanynt.  Roedd hyn dan drafodaeth gyda holl bartneriaid ariannu Uchelgais Gogledd Cymru, ac roedd yna nifer o opsiynau posib’.  Bwriedid cyflwyno papur i’r Bwrdd yn y dyfodol yn cynnig opsiynau o ran lliniaru ac ymateb i’r risg.

 

Tynnwyd sylw at wall bychan dan y Rhaglen Ynni Carbon Isel, oedd yn nodi bod statws RAG y prosiect Ynni Lleol Blaengar yn wyrdd, er bod y rhesymeg yn cyfeirio at sgôr ambr.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith manwl yn adrodd yn ôl ar berfformiad a risgiau.

 

6.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2022-23 - ADOLYGIAD DIWEDD RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 529 KB

Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grwp) i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2022 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1 i’r adroddiad), sy'n cynnwys defnyddio swm gostyngedig pellach o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

2.       Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).

3.       Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp).

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Nodi a derbyn adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2022 y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 1 i’r adroddiad), sy'n cynnwys defnyddio swm gostyngedig pellach o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru er mwyn gadael sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.
  2. Nodi a derbyn diweddariad cronfeydd wrth gefn y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2).
  3. Cytuno ar broffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 3).

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodi y rhagwelir tanwariant pellach o £127,078 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2022/23.  Defnyddir unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i leihau'r swm a ddefnyddir o’r Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru.

 

I nodi dileu dau brosiect o'r rhaglen gyfalaf, sy'n gadael £19.7m o'r gyllideb gyfalaf sydd bellach heb ei neilltuo ar gyfer prosiectau. Cymeradwyodd y Bwrdd ar 9 Rhagfyr 2022 i ddyrannu £7m o'r cyllid hwn i Gronfa Cyflawni Portffolio i gefnogi prosiectau aeddfed i symud i gyflawni yn ystod 2023/24 a bydd y gweddill yn cael ei gynnig i brosiectau newydd.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Gan gyfeirio at y tabl yn Atodiad 3 i’r adroddiad, nodwyd bod rhagdybiaeth y bydd arian sylweddol yn cychwyn llifo ar brosiectau heb eu dyrannu yn ystod 2024/25, ac felly bod angen i’r holl broses o gyflwyno cynigion ar gyfer prosiectau amgen ddigwydd yn llawer cyflymach nag mae wedi bod yn digwydd hyd yma.

 

Mewn ymateb, nodwyd mai un o’r prif ystyriaethau o ran prosiectau amgen yw eu gallu i gyflawni.  Ni allai prosiect fod yn un cysyniadol, a byddai’n rhaid iddo fod yn agosáu at fod yn aeddfed ar gyfer buddsoddiad.  Byddai’n rhaid i’r prosiect hefyd ddangos ei fod yn cyfarfod â’r amcanion craidd o greu swyddi newydd o fewn yr economi, yn ogystal â dod â buddsoddiad preifat ymlaen.  Edrychid am brosiectau buddsoddol sy’n gallu cyflawni yn erbyn yr amcanion buddsoddi craidd, a chredid bod hynny wedi’i osod allan yn glir yn y meini prawf y cytunwyd arnynt yn flaenorol ar gyfer prosiectau newydd.

 

7.

CAIS AM NEWID EGNI A DIWEDDARIAD AR Y BROSES CYFNEWID PROSIECT pdf eicon PDF 418 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau a Henry Aron, Rheolwr y Rhaglen Ynni i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Cytuno i'r cais i newid a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor i gadw cam 1 o brosiect Egni o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru a thynnu cam 2 o'r prosiect yn ôl.

2.       Clustnodi'r cyllid a ryddheir o Egni Cam 2 i'r broses newid prosiectau ac ymestyn y sgôp fel y nodir yn yr adroddiad.

3.       Cytuno ar y sgôp a'r gofynion isafswm ar gyfer prosiectau Ynni Carbon Isel newydd fel y nodir yn yr adroddiad.

4.       Cytuno i'r amserlen ddiwygiedig a nodir yn yr adroddiad ar gyfer y broses newid prosiectau gan gynnwys lansiad ffurfiol ym mis Chwefror 2023.

5.       Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y nodir yn yr adroddiad ac ymgymryd â'r holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r dogfennau sydd eu hangen i ddechrau’r broses.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) a Henry Aron (Rheolwr y Rhaglen Ynni).

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cytuno i'r cais i newid a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor i gadw cam 1 o brosiect Egni o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru a thynnu cam 2 o'r prosiect yn ôl.
  2. Clustnodi'r cyllid a ryddheir o Egni Cam 2 i'r broses newid prosiectau ac ymestyn y sgôp fel y nodir yn yr adroddiad.
  3. Cytuno ar y sgôp a'r gofynion isafswm ar gyfer prosiectau Ynni Carbon Isel newydd fel y nodir yn yr adroddiad.
  4. Cytuno i'r amserlen ddiwygiedig a nodir yn yr adroddiad ar gyfer y broses newid prosiectau gan gynnwys lansiad ffurfiol ym mis Chwefror 2023.
  5. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y nodir yn yr adroddiad ac ymgymryd â'r holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r dogfennau sydd eu hangen i ddechrau’r broses.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun Twf a'r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny'n berthnasol, eu hystyried gan y Bwrdd.

 

Mae’r Cytundeb Twf Terfynol yn nodi sefyllfa'r bwrdd mewn perthynas â phrosiectau amgen posib: "Rhaid i unrhyw brosiectau newydd neu amgen sydd i'w cyflwyno am ystyriaeth, ddangos eu bod yn cyflawni yn erbyn yr achos busnes rhaglen perthnasol ac amcanion yr achos busnes portffolio.  Lle mae'r prosiectau hyn o fewn yr amlen ariannol gytûn bresennol ar gyfer y bartneriaeth, byddai angen i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wneud penderfyniad yn eu cylch."

 

Ym mis Rhagfyr 2022, cytunodd y Bwrdd i'r meini prawf ar gyfer y broses newid prosiectau wreiddiol i'w lansio ar 16 Ionawr.  Penderfynodd y Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Bwrdd Uchelgais i oedi'r broses ar ôl cael gwybod am y cais i newid oedd i'w gyflwyno gan Brifysgol Bangor ynghylch prosiect Egni fyddai â goblygiadau i'r broses hon.

 

Mae'r prosiect Egni gyda Phrifysgol Bangor wedi bod yn adrodd yn goch ers dros 12 mis ac mae wedi bod yn cael ei adolygu gan y Swyddfa Rheoli Portffolio.  Roedd dull dau gam i'r prosiect yn cael ei ystyried gyda'r Brifysgol er mwyn cyflymu'r gwaith o'i gyflawni.

 

Sgôp gwreiddiol prosiect Egni oedd buddsoddi mewn datblygu'r isadeiledd ym Mhrifysgol Bangor a Pharc Gwyddoniaeth Menai, gwella galluedd y Gogledd a'r DU ar gyfer arloesedd mewn ynni carbon isel a meysydd cysylltiedig, gan helpu i greu'r amodau ar gyfer mewnfuddsoddiad newydd a thwf busnes yn y gadwyn gyflenwi ynni carbon isel yn y Gogledd.

 

O ganlyniad i oedi i'r gwaith o ddatblygu'r achos busnes, costau cynyddol a diffyg sicrwydd ynghylch strategaeth ystadau ehangach Prifysgol Bangor, mae'r Swyddfa Rheoli Portffolio wedi bod yn gweithio gyda'r Brifysgol i ddatblygu dull graddol i'r prosiect.  Byddai Cam 1 yn canolbwyntio ar y datblygiad llai ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, gyda Cham 2 yn cynnwys cyfleusterau ehangach campws Prifysgol Bangor.

 

Mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno cais i newid i'r Bwrdd Uchelgais i gadw Cam 1 (datblygiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

PROSIECT HWB HYDROGEN A DATGARBONEIDDIO TRAFNIDIAETH pdf eicon PDF 474 KB

Graham Williams, Rheolwr Prosiect a Henry Aron, Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Cymeradwyo'r broses arfaethedig i benodi noddwr prosiect.

2.       Dirprwyo i Gyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a Swyddog Monitro'r awdurdod i gwblhau'r dogfennau ar gyfer y broses ddethol er mwyn penodi noddwr prosiect a chyflawni'r broses ar ran y Bwrdd.

3.       Nodi, ar ôl cwblhau'r broses ddethol, y gwneir argymhelliad i'r Bwrdd Uchelgais er cymeradwyaeth.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel) a Graham Williams (Rheolwr Prosiect).

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cymeradwyo'r broses arfaethedig i benodi noddwr prosiect.
  2. Dirprwyo i Gyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a Swyddog Monitro'r awdurdod i gwblhau'r dogfennau ar gyfer y broses ddethol er mwyn penodi noddwr prosiect a chyflawni'r broses ar ran y Bwrdd.
  3. Nodi, ar ôl cwblhau'r broses ddethol, y gwneir argymhelliad i'r Bwrdd Uchelgais er cymeradwyaeth.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Pwrpas yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyflawni'r broses o benodi noddwr prosiect i gyflawni'r prosiect.

 

Y ffordd ymlaen y cytunwyd arni ar gyfer y prosiect yw penodi partner (noddwr prosiect) drwy broses ddethol gystadleuol i ddatblygu achos busnes a chyflawni'r prosiect hwb hydrogen.  Dechreuodd hyn gyda Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) i asesu dyhead, capasiti a gallu'r farchnad i gyflawni'r prosiect mewn partneriaeth gydag Uchelgais Gogledd Cymru.

 

Ar 30 Medi 2022, cytunodd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar y camau a ganlyn:

 

·         Cymeradwyo’r camau nesaf ar gyfer y prosiect a’r egwyddorion caffael drafft;

·         Dirprwyo i Gyfarwyddwr y Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, awdurdod i gwblhau manyleb yr ymarferiad caffael yn derfynol ac yna ymgymryd â’r ymarferiad caffael ar ran y Bwrdd.

·         Nodi, ar ôl cwblhau’r broses gaffael, y gwneud argymhelliad i’r Bwrdd er cymeradwyaeth.

 

Mae'r Swyddfa Rheoli Portffolio wedi gweithio gyda thîm o ymgynghorwyr caffael arbenigol o'r ymgynghoriaeth Local Partnerships i ystyried y dull mwyaf priodol o benodi noddwr.

 

Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd a gweithdai i drafod y llwybrau caffael posib ynghyd â'u manteision, eu hanfanteision ac unrhyw gyfyngiadau. Daeth y broses i'r casgliad nad defnyddio caffael cyhoeddus cystadleuol yng nghyd-destun y Rheoliadau Caffael Cyhoeddus fyddai'r dull gorau o benodi noddwr prosiect.

 

O ganlyniad, ystyriwyd bod yr opsiwn o ddefnyddio proses sy'n debyg i 'Broses Newid Prosiectau' yn broses fwy addas i benodi noddwr.  Argymhellwyd y byddai'r broses yn darparu dewis amgen addas i broses gaffael ffurfiol a byddai'n cynorthwyo i gyflymu'r broses, ar yr amod bod y broses yn cael ei gweithredu'n agored ac yn dryloyw ac yn cael ei chyfathrebu'n eang i unrhyw bartïon posib fyddai â diddordeb.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Mewn ymateb i sylw, cytunwyd bod yr amserlen ar gyfer cwblhau’r broses yn heriol, ond y ceisid prysuro hyn ei flaen cyn gynted â phosib’.  Nodwyd bod y digwyddiad briffio wedi’i drefnu’n amodol ar gyfer 18 Ebrill, a byddai’n gyfle i ddysgu gwersi o brosesau cyffelyb, ac hefyd i dderbyn cwestiynau gan y farchnad.  Byddai’n rhaid ystyried ac ymgynghori ymhellach ar y cwestiynau hyn, gan ddiwygio rhyw fymryn ar ein prosesau a’r ddogfennaeth o bosib’.  Pwysleisiwyd hefyd ei bod yn bwysig i’r Bwrdd ddeall y gallai rhai ffactorau allanol fod wedi newid erbyn Haf 2023 a fyddai’n arwain at gyfleoedd newydd i’r holl bartïon drafod cydweithio â sefydliadau eraill, ac roedd y cam Eglurhad a Negodi yn caniatáu amser i ddatrys y posibiliadau y gwyddys amdanynt yn llwyddiannus, gan hefyd ganiatáu i bob parti roi sylw i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN SGILIAU A CHYFLOGAETH GOGLEDD CYMRU 2023-2025 pdf eicon PDF 520 KB

David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhau'r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth rhanbarthol a'r tair blaenoriaeth sydd wedi'u hamlinellu yn y cynllun.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Sian Lloyd Roberts (Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol).

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth rhanbarthol a'r tair blaenoriaeth sydd wedi'u hamlinellu yn y cynllun.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2023-2025 wedi'i ddatblygu fel sylfaen i ddull gweithredu strategol Llywodraeth Cymru i gyflawni darpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn y rhanbarth.

 

Mae wedi'i gynhyrchu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dilyn ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid, darparwyr rhanbarthol a'r diwydiant rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022.

 

Mae angen adrodd i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar y Cynllun.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nodwyd bod y maes sgiliau yn greiddiol i waith y Bwrdd, ac y byddai’r Bwrdd yn falch iawn o gefnogi gwaith y Bartneriaeth Sgiliau.

 

Nodwyd bod dyletswydd cymdeithasol a moesol arnom i helpu’r dros 200,000 o bobl yng Nghymru sy’n anabl i gael mynediad i gyflogaeth, ac y byddai’n dda petai’r Bwrdd a’r Bartneriaeth Sgiliau yn gallu gweithredu ar y cyd o ran hynny.

 

Mewn ymateb, nodwyd y cytunid yn llwyr â’r sylw, a bod yr elfen economaidd yn bwysig hefyd.  Roedd angen hwyluso mynediad i bobl o bob cefndir i fyd gwaith, a’r man cychwyn oedd codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r sefyllfa.  Nodwyd bod gan bobl anabl gyfraniad aruthrol i’w wneud, ac o bosib’ bod Cofid wedi paratoi’r ffordd drwy orfodi pawb i feddwl am gyflogaeth mewn ffordd fwy hyblyg, e.e. gweithio’n rhithiol ayb.  Nodwyd ymhellach bod gan Lywodraeth Cymru bencampwyr anabledd a’u bod yn gwthio’r agenda yma yn ei flaen ar hyn o bryd.  Roedd y tîm yn awyddus i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, a defnyddio’r rhaglen sydd ganddynt er mwyn gwneud yn siŵr bod busnesau a chyflogwyr yn gweithio gyda ni i gael mwy o bobl anabl i’r gweithlu.  Mynegwyd dymuniad i gydweithio gyda’r Bwrdd Cyflawni Busnes yn hyn o beth hefyd er mwyn gwthio’r agenda ymlaen.

 

Croesawyd dyheadau a blaenoriaethau’r adroddiad yn fawr, ac fel partner allweddol i’r Cynllun Twf, mynegwyd dymuniad i’r holl waith, y dyheadau a’r blaenoriaethau hynny fod yn rhan annatod o bopeth mae’r Bwrdd yn wneud, a bod y Bwrdd a’r Bartneriaeth Sgiliau yn cydweithio i wireddu’r blaenoriaethau a’r dyheadau drwy’r holl brosiectau.

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r Bartneriaeth Sgiliau yn falch iawn o’r cyfle i ryngweithio’n agosach gyda’r Bwrdd.  Nodwyd ymhellach bod y Bartneriaeth eisoes yn cydweithio’n agos gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio, ac yn cyfrannu at gyflenwi’r Cynllun Twf.  Gan hynny, roedd yn ddymuniad ganddynt adrodd i’r Bwrdd Uchelgais yn eithaf rheolaidd ar ddatblygiad y cynllun gweithredu ar gyfer y cynllun sgiliau ac i ddarparu diweddariadau.

 

Croesawyd yr amrediad eang o randdeiliaid sy’n rhan o’r cynllun, e.e. o’r maes addysg, undebau llafur, cyrff rhanbarthol ayb.

 

Cyfeiriwyd at fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), fydd yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio’r sectorau addysg bellach, addysg uwch, addysg i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan fod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad yn gyfrinachol fel y diffinnir yn adran 100(A)3 Deddf Llywodraeth Leol 1972 gan iddi gael ei darparu gan Adran o’r Llywodraeth ar delerau sy’n gwahardd ei datgelu’n gyhoeddus.

 

Mae’n rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan fod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad yn gyfrinachol fel y diffinnir yn Adran 100(A)3 Deddf Llywodraeth Leol 1972 gan iddi gael ei darparu gan Adran o’r Llywodraeth ar delerau sy’n gwahardd ei datgelu’n gyhoeddus.

 

Mae’n rhaid gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei datgelu.

 

11.

CRONFA CYFLAWNI'R PORTFFOLIO 2023-24 - CEISIADAU I NEWID

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.    Bod y Bwrdd yn cytuno i'r cais i newid ar gyfer Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych a chlustnodi uchafswm o £3.0m ychwanegol dros dro i'r prosiect rhag ofn na fydd y cais Ffyniant Bro yn llwyddiannus ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân o Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Llawn.  Ni fydd unrhyw gyllid pellach i'r prosiect yn cael ei ddarparu drwy'r Cynllun Twf, bydd angen i unrhyw gynnydd ychwanegol mewn cost gael ei ysgwyddo gan Ariannwr y Prosiect.

2.    Bod y Bwrdd yn cytuno i'r cais i newid ar gyfer Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon a chlustnodi uchafswm o £1.97m ychwanegol dros dro i'r prosiect yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân o Achos Busnes Llawn. Ni fydd unrhyw gyllid pellach i'r prosiect yn cael ei ddarparu drwy'r Cynllun Twf, bydd angen i unrhyw gynnydd ychwanegol mewn cost gael ei ysgwyddo gan Ariannwr y Prosiect.

3.    Bod y Bwrdd yn cytuno i'r cais i newid ar gyfer y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter a chlustnodi uchafswm o £1.7m ychwanegol dros dro i'r prosiect yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân o Achos Busnes Llawn. Ni fydd unrhyw gyllid pellach i'r prosiect yn cael ei ddarparu drwy'r Cynllun Twf, bydd angen i unrhyw gynnydd ychwanegol mewn cost gael ei ysgwyddo gan Ariannwr y Prosiect.

4.    Bod y Bwrdd yn clustnodi'r £225,000 sy'n weddill o'r Gronfa Cyflawni'r Portffolio i'r prosiect Ychydig % Olaf yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân o gais i newid yn y dyfodol ac Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau).

 

PENDERFYNWYD

 

1.    Bod y Bwrdd yn cytuno i'r cais i newid ar gyfer Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych a chlustnodi uchafswm o £3.0m ychwanegol dros dro i'r prosiect rhag ofn na fydd y cais Ffyniant Bro yn llwyddiannus ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân o Achos Busnes Amlinellol ac Achos Busnes Llawn.  Ni fydd unrhyw gyllid pellach i'r prosiect yn cael ei ddarparu drwy'r Cynllun Twf, bydd angen i unrhyw gynnydd ychwanegol mewn cost gael ei ysgwyddo gan Ariannwr y Prosiect.

2.    Bod y Bwrdd yn cytuno i'r cais i newid ar gyfer Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon a chlustnodi uchafswm o £1.97m ychwanegol dros dro i'r prosiect yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân o Achos Busnes Llawn. Ni fydd unrhyw gyllid pellach i'r prosiect yn cael ei ddarparu drwy'r Cynllun Twf, bydd angen i unrhyw gynnydd ychwanegol mewn cost gael ei ysgwyddo gan Ariannwr y Prosiect.

3.    Bod y Bwrdd yn cytuno i'r cais i newid ar gyfer y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter a chlustnodi uchafswm o £1.7m ychwanegol dros dro i'r prosiect yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân o Achos Busnes Llawn. Ni fydd unrhyw gyllid pellach i'r prosiect yn cael ei ddarparu drwy'r Cynllun Twf, bydd angen i unrhyw gynnydd ychwanegol mewn cost gael ei ysgwyddo gan Ariannwr y Prosiect.

4.    Bod y Bwrdd yn clustnodi'r £225,000 sy'n weddill o'r Gronfa Cyflawni'r Portffolio i'r prosiect Ychydig % Olaf yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân o gais i newid yn y dyfodol ac Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaeth y Bwrdd gytuno i sefydlu Cronfa Cyflawni'r Portffolio ar gyfer 2023-24 a chlustnodi hyd at £7m o'r cyllid a gaiff ei ryddhau yn sgil tynnu prosiectau Bodelwyddan a Llysfasi yn ôl i'r gronfa hon i gefnogi prosiectau aeddfed o fewn y portffolio sy'n gorfod ymdopi â chynnydd mewn costau neu faterion hyfywedd er mwyn gallu symud i gyflawni yn ystod 2023-24 (yn amodol ar benderfyniadau ar wahân gan y Bwrdd).

 

Pwrpas yr adroddiad hwn yw gosod y ceisiadau i newid am gyllid ychwanegol i'w ddarparu drwy'r Gronfa Cyflawni'r Portffolio i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Trafodwyd yr adroddiad.