skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Jason McLellan (Cyngor Sir Ddinbych), Yana Williams (Coleg Cambria), Askar Sheibani (Bwrdd Cyflawni Busnes) a’r Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) fuddiant personol yn eitem 6 oherwydd bod yr adroddiad yn ymwneud â’i secondiad fel Prif Weithredwr Dros Dro y Cyd-bwyllgor Corfforedig.  Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 351 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2023-24 pdf eicon PDF 612 KB

Dewi A Morgan, Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo:-

1.    Cyllideb Refeniw 2023/24 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

2.    Cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a chyfraniadau llog partneriaid.

3.    Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y’i cyflwynir yn Atodiad 2.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya).

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo:-

1.         Cyllideb Refeniw 2023/24 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

2.         Cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a chyfraniadau llog partneriaid.

3.         Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

1.         Er mwyn gweithredu'n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais.

2.         Mae Atodiad 1 i’r adroddiad yn gosod y gyllideb arfaethedig yn ôl pennawd gwariant a'r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn.

3.         Mae Atodiad 2 yn gosod y gyllideb gyfalaf arfaethedig fesul prosiect a'r cyllid cyfalaf cyfatebol ar gyfer y Cynllun Twf o £240m.

4.         Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio i wario arian yn unol â'r gyllideb gymeradwy.

 

6.

CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD (CBC) - YMESTYN SECONDIAD RHAN AMSER CYFARWYDDWR PORTFFOLIO, UCHELGAIS GOGLEDD CYMRU FEL PRIF WEITHREDWR DROS DRO Y CBC pdf eicon PDF 350 KB

Dylan Williams, Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.       Bod y Bwrdd Uchelgais yn cefnogi ymestyn y trefniant i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 30 Medi, 2023 er mwyn parhau i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr ar sail dros dro.

2.       Bod yr holl gyflogaeth a'r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dylan Williams (Prif Weithredwr Arweiniol Cynghorau Gogledd Cymru ar gyfer y Bwrdd Uchelgais).

 

PENDERFYNWYD

 

1.              Bod y Bwrdd Uchelgais yn cefnogi ymestyn y trefniant i ryddhau amser y Cyfarwyddwr Portffolio am ddau ddiwrnod yr wythnos tan 30 Medi, 2023 er mwyn parhau i ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr ar sail dros dro.

2.              Bod yr holl gyflogaeth a'r costau cysylltiedig yn parhau i gael eu hysgwyddo gan CBC y Gogledd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

1.              Mae’r trefniadau a argymhellir yn cyd-fynd gyda phenderfyniad mewn egwyddor y 6 Cyngor i drosglwyddo swyddogaethau Uchelgais Gogledd Cymru i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol.

2.              Drwy gyflawni’r rôl Prif Weithredwr y CBC, bydd Cyfarwyddwr Portffolio yn cynorthwyo rhanbarth y Gogledd i ddatblygu CBC effeithiol, tra bod mewn sefyllfa unigryw i sicrhau bod buddiannau Uchelgais Gogledd Cymru yn cael eu diogelu yn y flwyddyn yma o drawsnewid.

 

TRAFODAETH

 

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol petai’r aelodau hynny o’r Bwrdd nad ydynt yn rhan o lywodraeth leol yn cael eu briffio ar yr hyn sy’n digwydd o ran y Cyd-bwyllgor Corfforedig, a goblygiadau hynny i’r Bwrdd.  Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod pawb yn cael dealltwriaeth o’r hyn sy’n mynd ymlaen, ac y gellid trefnu bod gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda phawb yn y ffordd fwyaf effeithiol.  Nododd y Swyddog Monitro fod y gwaith o greu cynllun ar gyfer y broses yn cychwyn rŵan, ac y byddai yna gyfathrebu gyda’r colegau, ayb, ar hyd y daith.

 

Nodwyd bod ymestyn secondiad y Cyfarwyddwr Portffolio fel Prif Weithredwr Dros Dro y CBC yn gam synhwyrol a phragmatig yn yr amgylchiadau, ond bod angen dod i drefniant mwy parhaol cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib’.

 

7.

YNNI LLEOL BLAENGAR - ACHOS BUSNES AMLINELLOL pdf eicon PDF 586 KB

Elgan Roberts, Rheolwr Prosiect Ynni, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Ynni Lleol Blaengar ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a'r DU o'r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i'r materion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

2.       Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

3.       Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) ychydig eiriau ar y cychwyn.  Nododd:-

 

·         Bod y prosiect cyffrous hwn yn rhan o gais gwreiddiol y Bwrdd, a’i bod yn braf adrodd fod y cynllun wedi aeddfedu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, a’n bod wedi dod â llawer o’n rhanddeiliaid gyda ni ar y siwrnai.

·         Bod hwn yn gynllun er mwyn cefnogi’r rhanbarth cyfan, lle'r oedd yna lefydd gweigion o ran ariannu, cefnogi ynni blaengar yn y gymuned, a chynlluniau mwy uchelgeisiol o bosib’ hefyd.

·         Y gobeithid bod yr aelodau hynny nad ydynt ar yr Bwrdd Rhaglen Ynni yn gallu gweld bod yna weledigaeth yma, bod yna bryniant i mewn gan nifer o bartneriaid, a hefyd bod cyfle yma i wneud gwahaniaeth ar y lefel gymunedol ac ar y lefel ranbarthol.

·         Y derbynnid bod yna rai risgiau ynghlwm â’r prosiect, ond er mwyn gosod uchelgais, bod rhaid cael ychydig o risg hefyd.

 

Yna manylodd Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) ar gyd-destun a hanes y prosiect, gan ddarparu amlinelliad o’r broses sicrwydd, a cyflwynodd Elgan Roberts (Rheolwr Prosiect Ynni) fwy o fanylion ynglŷn â’r prosiect.

 

PENDERFYNWYD

 

1.              Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Ynni Lleol Blaengar ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a'r DU o'r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i'r materion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

2.              Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

3.              Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol (OBC) y prosiect Ynni Lleol Blaengar.

 

TRAFODAETH

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Tîm am y gwaith cefndirol hynod fanwl, a nododd fod hwn yn brosiect cyffrous iawn fydd yn cyffwrdd yn uniongyrchol â’n cymunedau ar draws y Gogledd yn ogystal â bod yn weledol i’n trigolion.

 

Holwyd pam bod yr adroddiad yn cyfeirio at greu 156-193 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru yn gysylltiedig â chyflawni a gweithredu datrysiadau ynni glân, gan i ni nodi’n flaenorol ein dymuniad i greu 2,400 o swyddi newydd drwy’r broses hon.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod y swyddi yn yr Achos Busnes Amlinellol yn seiliedig ar yr hyn a gafodd ei fodelu yn achos busnes y Rhaglen, felly roedd y targedau hynny wedi’u cario ymlaen ac yn cynnwys swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi.

·         Bod y modelu economaidd ar gyfer yr Achos Busnes Amlinellol yn seiliedig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.