Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd) gyda’r Cynghorydd Nia Jeffreys yn dirprwyo;

·         Y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) gyda’r Cynghorydd Gary Pritchard yn dirprwyo;

·         Y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint) gyda’r Cynghorydd David Healey yn dirprwyo;

·         Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai);

·         Yana Williams (Coleg Cambria);

·         Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Bryn Jones yn dirprwyo;

·         Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo;

·         Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda David Fitzsimon yn dirprwyo.

Croesawodd y Cadeirydd y dirprwyon i’r cyfarfod.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Bryn Jones fuddiant personol yn eitem 7 gan fod Prifysgol Bangor yn noddwr y Prosiect Egni.  Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod yr eitem yn ei chyfanrwydd.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 113 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir.

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.  Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi.  Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig.  Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth.  Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

6.

GWAITH TREULIO ANAEROBIG GLANNAU DYFRDWY - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

Elgan Roberts (Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel) i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i’r aelodau ar wahân).

Penderfyniad:

1.    Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Gwaith Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy, yn amodol ar The Circular Economy Developments Limited yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

2.    Bod y Bwrdd yn nodi fod y broses gaffael gychwynnol ar gyfer y prosiect eisoes wedi'i chwblhau ac ar ôl cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol y bwriad yw y bydd Achos Busnes Llawn yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd ym mis Chwefror 2024 am gymeradwyaeth.

3.    Bod y Bwrdd yn nodi fod y model ariannu arfaethedig ar gyfer y prosiect yn 50% grant a 50% benthyciad yn ddarostyngedig i gadarnhad o'r sefyllfa rheoli cymhorthdal wrth gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn, ac yn cymeradwyo mewn egwyddor fod y llog o'r benthyciad, unwaith y bydd cost taliadau benthyca ar gyfer yr elfen benthyciad wedi'i dalu, yn cael ei ddyrannu i gronfa i'w defnyddio i ariannu'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn y blynyddoedd i ddod.

4.    Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro yr Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau ariannu drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

5.    Bod y Bwrdd yn dynodi’r penderfyniad fel mater brys y gellir ei weithredu ar unwaith yn unol â pharagraff 2.9 o’r Protocol Craffu yng Nghytundeb Llywodraethu 2.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Elgan Roberts (Rheolwr Rhaglen Ynni) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau).

PENDERFYNWYD

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Gwaith Treulio Anaerobig Glannau Dyfrdwy.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr eitem.

7.

EGNI - ACHOS BUSNES AMLINELLOL

Elgan Roberts (Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel) i gyflwyno’r adroddiad (sydd wedi’i gylchredeg i’r aelodau ar wahân).

Penderfyniad:

1.    Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Egni, yn amodol ar Brifysgol Bangor yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

2.    Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r strategaeth gaffael a'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol i'w cynnwys gan Brifysgol Bangor yn eu proses gaffael.

3.    Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya  i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, fydd yn sail i’r cyllid a gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Elgan Roberts (Rheolwr Rhaglen Ynni) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau).

PENDERFYNWYD

1.      Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Egni, yn amodol ar Brifysgol Bangor yn ymdrin â'r materion a amlinellir yn yr adroddiad, fel y'u disgrifir yn Adran 7, ac yn argymell i'r Bwrdd Uchelgais fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

2.      Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r strategaeth gaffael a'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol i'w cynnwys gan Brifysgol Bangor yn eu proses gaffael.

3.      Bod y Bwrdd yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya  i gytuno ar delerau drafft yn unol â'r adroddiad hwn fel sail i'r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, fydd yn sail i’r cyllid a gytunir gan y Bwrdd yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd Portffolio i Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Egni.

TRAFODAETH

Trafodwyd yr eitem.

8.

AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod y wasg a'r cyhoedd yn cael eu gwahodd yn ôl i’r cyfarfod.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd.

9.

CYNLLUN GWEITHREDU ADOLYGIAD PORTH (PAR) pdf eicon PDF 253 KB

Alwen Williams (Cyfarwyddwr portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Bod y Bwrdd yn cefnogi'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd gan y Cyfarwyddwr Portffolio a'r amserlenni i'w gweithredu mewn ymateb i argymhellion Adolygiad Porth (PAR) 2023.

2.    Bod y Bwrdd yn nodi y gall fod gofyn i addasu'r cynllun gweithredu yn sgil yr adolygiad Sicrwydd Cynllun Gweithredu (AAP) dilynol ym mis Rhagfyr, ac yn hynny o beth, y byddai'r Cyfarwyddwr Portffolio yn ymgynghori â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ar yr addasiadau hynny.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau).

PENDERFYNWYD

1.      Bod y Bwrdd yn cefnogi'r cynllun gweithredu a ddatblygwyd gan y Cyfarwyddwr Portffolio a'r amserlenni i'w gweithredu mewn ymateb i argymhellion Adolygiad Porth (PAR) 2023.

2.      Bod y Bwrdd yn nodi y gall fod gofyn i addasu'r cynllun gweithredu yn sgil yr adolygiad Sicrwydd Cynllun Gweithredu (AAP) dilynol ym mis Rhagfyr, ac yn hynny o beth, y byddai'r Cyfarwyddwr Portffolio yn ymgynghori â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ar yr addasiadau hynny.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

Mae'n ofynnol i Gynllun Twf Gogledd Cymru ymateb i'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad Adolygiad Porth.

TRAFODAETH

Mynegwyd gwrthwynebiad chwyrn i’r sylw yn yr Adolygiad Porth nad oedd y Bwrdd Cyflawni Busnes yn herio’r prosiectau a phwysleisiwyd na ddylid derbyn yr argymhellion yn ddi-gwestiwn fel y ffordd gywir ymlaen.

Holwyd pwy fyddai’n talu am y Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd Uchelgais a pha fath o berson a geisid ar gyfer y rôl, o gofio bod yr arbenigedd yn bodoli eisoes o fewn y bartneriaeth. 

Awgrymwyd bod yr holl fiwrocratiaeth yn dal pethau yn ôl ac y dylem gael mwy o ymreolaeth fel ein bod yn gallu symud ymlaen yn gyflymach.

Croesawyd y ffaith bod modd cynnal cyfarfodydd arbennig ychwanegol o’r Bwrdd os oes angen gwneud penderfyniadau brys.

Nodwyd, er mai Cadeirydd y Bwrdd sydd wedi’i nodi fel perchennog gweithredu’r argymhelliad i benodi Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd, y byddai’n fuddiol petai’r 6 Arweinydd yn rhan o’r drafodaeth ynglŷn â hynny, gan nad yw’n amlwg o’r adroddiad beth fyddai’r opsiynau, ayb.

O ran yr argymhelliad ynglŷn â hyfforddiant o gwmpas caffael cymdeithasol yn y sector gyhoeddus, nodwyd na ddeellid beth oedd ar goll gennym gan fod pawb o amgylch y bwrdd yn hyddysg iawn yn y materion hynny, a holwyd a oedd yna unrhyw beth y gallem fod wedi’i wneud yn wahanol neu’n well.  Nodwyd ymhellach fod y bar wedi’i osod yn uchel o safbwynt gofynion gwerth cymdeithasol, ac roedd yna ofynion o ran sero net hefyd.  Nid mater hawdd fyddai dod o hyd i dendrwyr sy’n cyrraedd y trothwyon hynny i gyd, a holwyd a roddwyd ystyriaeth i hynny fel rhan o’r trafodaethau.

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau, nodwyd:-

·         Er bod Cadeirydd y Bwrdd wedi’i nodi fel perchennog gweithredu’r argymhelliad i benodi Cyfarwyddwr Anweithredol i’r Bwrdd, bod y ddogfen yn amlygu bod y penodiad yn fater i’r Bwrdd cyfan.

·         Bod gan y Bwrdd a’r Swyddfa Rheoli Portffolio fynediad i arbenigedd caffael yn ôl yr angen a bod ein prosesau yn cael eu sgriwtineiddio ar lefel broffesiynol cyn cyrraedd y Bwrdd er mwyn sicrhau bod y prosesau hynny yn cael eu dilyn yn iawn.

·         Nad oeddem yn derbyn yr argymhellion yn ddi-gwestiwn a’n bod yn cymryd ein hamser i ystyried sut orau y byddem, fel Bwrdd, ac fel Tîm, yn dymuno cyfarch y pryderon y tu ôl i rai o’r argymhellion hynny.

·         Bod rhaid cofio bod unrhyw adolygiad allanol o’r math yma yn giplun mewn amser.  Ar adeg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

EGWYDDORION DENU BUDDSODDIAD pdf eicon PDF 230 KB

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.    Bod y Bwrdd yn cefnogi'r egwyddorion sylfaenol fel sail i'r strategaeth fydd yn gosod allan y dull o gyflawni’r amcanion buddsoddi ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

2.    Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y strategaeth fuddsoddi gynhwysfawr, sy’n cynnwys yr egwyddorion sylfaenol a’r cynllun cyflawni, yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn Chwefror 2024.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).

PENDERFYNWYD

1.      Bod y Bwrdd yn cefnogi'r egwyddorion sylfaenol fel sail i'r strategaeth fydd yn gosod allan y dull o gyflawni’r amcanion buddsoddi ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru.

2.      Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y strategaeth fuddsoddi gynhwysfawr, sy’n cynnwys yr egwyddorion sylfaenol a’r cynllun cyflawni, yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd yn Chwefror 2024.

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

I ategu datblygiad y strategaeth fanwl a fydd yn adeiladu ar y sicrwydd o’n huchelgais ar y cyd i gyflawni’r Cynllun Twf gwerth £1bn ar gyfer Gogledd Cymru.

TRAFODAETH

Nododd y Swyddog Monitro, o glywed y cyflwyniad ac o ddeall y byddai yna adroddiad manwl i’r Bwrdd ym mis Chwefror, nad oedd ganddo sylwadau i’w hychwanegu. 

Ategodd y Pennaeth Cyllid y sylw, gan nodi y byddai unrhyw wybodaeth gyllidol yn cael ei hystyried yn nes ymlaen, ac felly nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu ar hyn o bryd.