skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Swit 4, Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9XX

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnod:

Penderfynwyd ethol Cyng. David Bithell (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam) yn gadeirydd yr Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cofnod:

Penderfynwyd ethol Cyng. Carolyn Thomas (Cyngor Sir y Fflint) yn is-gadeirydd yr Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Nodwyd ymddiheuriadau gan Huw Percy a Dafydd L Edwards.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys i’w drafod.

 

6.

COFNODION A PHWYNTIAU GWEITHREDU pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod anffurfiol y Grŵp Ymgynghorol Aelodau Cabinet Trafnidiaeth a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2019  (ynghlwm).

Cofnod:

 

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod anffurfiol y Grŵp Ymgynghorol Aelodau Cabinet Trafnidiaeth a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019.

 

7.

PROTOCOL A CHYFRIFOLDEBAU YR IS-GRWP pdf eicon PDF 193 KB

Adroddiad gan Iwan Evans – Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwywyd y Protocol.

 

Penderfynwyd y bydd y Swyddogion, yn ystod y pythefnos nesaf, yn enwebu Swyddog Arweiniol a fydd yn mynychu pwyllgorau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pan mae’r angen yn codi.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwywyd y Protocol.

 

Penderfynwyd y bydd y Swyddogion, yn ystod y pythefnos nesaf, yn enwebu Swyddog Arweiniol a fydd yn mynychu pwyllgorau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pan mae’r angen yn codi.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai amcan yr adroddiad yw gosod trefniadau'r is fwrdd. Mynegwyd fod yr adroddiad yn amlinellu'r prif amcanion a nodwyd aelodaeth yr Is Fwrdd. Nodwyd mai prif newid fydd yw’r drefn pwyllgorau o ran agenda a chyhoeddi’r rhaglen. Pwyslesiwyd y bydd angen cyhoeddi’r rhaglen 5 diwrnod gwaith cyn yr is fwrdd ac y bydd angen i’r adroddiad drafft eu cyflwyno i’r Swyddogion Statudol ar gyfer sylwadau cyn cyhoeddi’r rhaglen. Pwysleiswyd oherwydd natur yr is fwrdd na fydd llawer o sylwadau gan y Swyddogion Statudol, er hyn oherwydd natur y Bwrdd Uchelgais Economaiidd Gogledd Cymru efallai y bydd yn datblygu.

 

Mynegwyd y bydd pleidleisio yn mynd ar sail mwyafrif ac i geisio cael consensws ar draws yr awdurdodau ac o ganlyniad i hyn ni fydd pleidlais bwrw. Ychwanegwyd y bydd Taflenni Penderfyniad yn cael eu cyhoeddi yn nodi penderfyniadau’r Is Fwrdd Cyflawni Busnes.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd sut y bydd y dyddiadau a rhaglen a chofnodion yn cael eu rhannu ar draws yr awdurdodau. Nodwyd y bydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Gwynedd fel yr awdurdod arweiniol, ac yn cael ei rhannu ar wefannau cymdeithasol y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mynegwyd y byddai’r aelodau yn gallu rhannu’r e-bost rhaglen gyda’i chyd-gynghorwyr yn ei awdurdodau.

¾     Trafodwyd enwebu Swyddog Arweiniol, a nodwyd y bydd y Swyddogion yn enwebu swyddog arweiniol i fynychu’r Bwrdd Uchelgais pan mae’r angen yn codi yn ystod y pythefnos nesaf.

 

8.

RHAGLEN A CHYNLLUN GWAITH Y GRWP pdf eicon PDF 53 KB

Adroddiad gan Dafydd Wyn Williams – Pennaeth Adran Amgylchedd yr Awdurdod Lletya (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd enwau isod i arwain ar y gwahanol lifau gwaith a chytunwyd ar y  rhaglen amlinellol ar gyfer y tri chyfarfod nesaf o'r Is-grŵp.

 

Llif gwaith

Swyddogion Arweiniol

Cludiant Cyhoeddus (bysus) i gynnwys Cludiant Addysg

Peter Daniels (Sir Ddinbych), David Hesketh (Wrecsam)

Trafnidiaeth Garbon Isel

Dafydd Williams (Gwynedd), Geraint Edwards (Conwy), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Teithio Llesol

Peter Daniels (Sir Ddinbych), Dafydd Williams (Gwynedd)

Cydbwyllgor Corfforaethol

pawb

Trenau

Darren Williams (Wrecsam), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Cyfyngiadau 20mya a pharcio ar y droedffordd

Huw Percy (Ynys Môn), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Geraint Edwards (Conwy), Huw Percy (Ynys Môn)

Diogelwch Ffyrdd (Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd)

Darren Williams (Wrecsam), Huw Percy (Ynys Môn)

Priffyrdd Strategol (gwelliannau)

Cysylltu ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Wyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd enwau isod i arwain ar y gwahanol ffrydiau gwaith a chytunwyd ar y  rhaglen amlinellol ar gyfer y tri chyfarfod nesaf o'r Is-grŵp.

           

Llif gwaith

Swyddogion Arweiniol

Cludiant Cyhoeddus (bysus) i gynnwys Cludiant Addysg

Peter Daniels (Sir Ddinbych), David Hesketh (Wrecsam)

Trafnidiaeth Garbon Isel

Dafydd Williams (Gwynedd), Geraint Edwards (Conwy), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Teithio Llesol

Peter Daniels (Sir Ddinbych), Dafydd Williams (Gwynedd)

Cydbwyllgor Corfforaethol

pawb

Trenau

Darren Williams (Wrecsam), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Cyfyngiadau 20mya a pharcio ar y droedffordd

Huw Percy (Ynys Môn), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Geraint Edwards (Conwy), Huw Percy (Ynys Môn)

Diogelwch Ffyrdd (Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd)

Darren Williams (Wrecsam), Huw Percy (Ynys Môn)

Priffyrdd Strategol (gwelliannau)

Cysylltu ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi yn dilyn y cyfarfod blaenorol fod y Swyddog Arweiniol a Swyddog y Bwrdd Uchelgais wedi bod yn gweithio ar y gwaith cefndirol er mwyn gweithio ar y cyd yn rhanbarthol a rhannu’r llwyth gwaith. Tynnwyd sylw at y tabl a grëwyd sydd yn nodi’r Swyddogion a fydd yn arwain ar y prif ffrydiau gwaith. Esboniwyd mai rôl y swyddog fydd i ddarparu'r adroddiadau a gwybodaeth bellach yn y meysydd yma.

 

Nodwyd yn ystod y 3 cyfarfod nesaf y bydd yr Is-Fwrdd yn ystyried yr holl ffrydiau gwaith ac y bydd yn gyfle i roi cyfeiriad i’r gwaith i’r dyfodol yn cael ei drafod a’i gytuno.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Trafodwyd os oes angen trafod yr eitemau yn lleol ac yn rhanbarthol, gan fod rhai o’r ffrydiau gwaith yn cael effaith ymylol ar fusnes er hyn fod y ffrydiau yn cyfrannu ar faterion eraill.

¾     Mynegwyd fod y rhain yn cyd-fynd  blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Nodwyd ei bod yn syniad cychwyn ar ffrydiau gwaith ac yna ychwanegu neu dynnu ffrydiau gwaith fel mae’r angen.

¾     Pwysleisiwyd fod y Bwrdd Uchelgais yn hapus a’r ffrwd gwaith.

¾     Nodwyd fod y ffrydiau gwaith yn cael ei rhannu rhwng Swyddogion ac y bydd y Swyddogion yn cyfarfod ar wahân i drafod yr adroddiadau yn symud ymlaen. Mynegwyd y bydd ffrydiau gwaith yn datblygu a nodwyd pwysigrwydd i beidio gadael i neb fod o dan bwysau mawr ac i beidio cael eu gorlwytho. Mynegwyd fod angen rhannu’r gwaith yn hafal dros y rhanbarth ac i rannu’r baich a chefnogi ei gilydd.

¾     Pwysleisiwyd o ran y Swyddog sydd yn cyd fynd a’r llif gwaith mai rôl arweiniol fydd hyn ac na fyd angen gwneud y gwaith i gyd.

 

9.

CLUDIANT CYHOEDDUS pdf eicon PDF 312 KB

·         Bysiau - diweddariad

·         Tocynnau Mantais

·         Trafnidiaeth Addysg

·         Adolygiadau Trafnidiaeth Cyhoeddus

 

(ynghlwm)

 

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Prys Jones a Peter Daniels

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r problemau sydd wedi codi o ran y drefn ail ddyrannu tocynnau teithio mantais am ddim sydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2019. Mynegwyd fod y wefan er mwyn ail gofrestru wedi cwympo a phwysleisiwyd fod angen gwneud rhywbeth dros y Gogledd. Er hyn, nodwyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi y bydd mwy o adnoddau i gynorthwyo’r cynghorau ac y bydd y wefan yn ôl ar lein cyn diwedd yr wythnos. Pwysleisiwyd fod llawer o effaith wedi bod ar y cynghorau.

 

Pwysleisiwyd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd newid i’r oedran y bydd pobl yn gallu ymgeisio am y Tocynnau Teithio Mantais am ddim ac o ganlyniad fod nifer uwch o bobl wedi ymgeisio cyn i’r oedran newid. Mynegwyd fod problemau wedi codi ar lein ac yn nad yw pawb yn ymwybodol o’r newid. Nodwyd fod y sefyllfa yn un anodd gan fod Trefniadaeth i Gymru ar-lein a bod ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio at eu cynghorau lleol er mwyn cael cymorth i fynd ar-lein. Gan fod y wefan wedi cwympo mae ffurflenni papur ar gael dros dro. Mynegwyd fod gan y cynghorau capasiti i gynorthwyo i raddau o ran os wedi colli eu tocynnau neu ag anableddau ond fod ail ymgeisio am y tocynnau a niferoedd llawer uwch. Nodwyd sut mae gwahanol awdurdodau wedi delio a’r mater.

 

Pwysleisiwyd fod y mater hwn yn un sydd yn datblygu, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi y bydd adnoddau ychwanegol yn cael ei gynnig dros dro. Nodwyd y bydd yr Is-grŵp yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn nodi fod pryder am y mater yn y tymor hir o ran tocynnau teithio. Penderfynwyd fod angen holi Llywodraeth Cymru am gynllun tymor hir a beth fydd effaith hyn ar Lywodraeth Leol, os bydd popeth yn ei le erbyn amser diwedd mis Rhagfyr ac os yw’r ddeddf cydraddoldeb wedi ei ystyried.

 

Newidiadau i’r Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus

 

Nodwyd ym mis Ionawr y bydd ofyniad Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael ei ymestyn i bob coets sydd yn codi pryderon gan nad oes gan lawer o goets fynediad i gadeiriau olwyn. Holwyd os bydd yn effeithio trafnidiaeth ysgolion a nodwyd na fydd oni bai fod awdurdodau yn codi ffi am gael trafnidiaeth. Mynegwyd fod pob awdurdod am gael ei daro efallai ddim yn ariannol ond yn wleidyddol.

 

Mynegwyd mai’r prif fater yw nad oes digon o gerbydau ar gael  gyda’r mynediad fydd ei angen. Nodwyd beth oedd rhai awdurdodau yn ei wneud ond pwysleisiwyd y bydd yn codi problemau. Esboniwyd i raddau fod dau opsiwn i dalu am gerbydau newydd neu i beidio codi ffi ond mynegwyd fod effaith os yn gwneud yr ail elfen. Trafodwyd efallai yn ei fod yn syniad i anfon llythyr ar y Gweinidog i gael cyfnod trosiannol er mwyn rhoi cyfle i’r awdurdodau i weithio ac i weld sut mae am effeithio rhai ysgolion sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

RHAGLEN DATGARBONEIDDIO

·         Arolwg Gwefru EV [SP Energy]

·         Prosiect Peilot Bysiau Gwyrdd - diweddariad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Iwan Prys Jones

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Arolwg Gwefru gan SP Energy gan nodi eu bod yn gobeithio y bydd modd iddynt ddod i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi diweddariad.

O ran datgarboneiddio mynegwyd y byddai’n syniad da i’r 6 rhanbarth ddod ar ei gilydd i drefnu Uwch Gynhadledd ar hyn y flwyddyn nesaf, ac y buasai yn cefnogi gwaith y Bwrdd Uchelgais. Os yn ymuno a’i gilydd yn rhanbarthol i’r drefnu mynegwyd y byddai cefnogaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru.

 

Ychwanegwyd y byddai llawer o gyfleoedd ac ei fod yn gyfle i weithio gyda’i gilydd. Mynegwyd mai’r brif broblem yw trafnidiaeth. Ategwyd fod angen chwyldro a mynegwyd fod cynnal Uwchgynhadledd am roi datganiad clir i’r cyhoedd. Nodwyd fod angen mynd a’r cynnig i’r Bwrdd Uchelgais i gael yr Uwchgynhadledd a fydd yn trafod Ynni, Hwb / Cwmni Ynni Rhanbarthol ynghyd a Thrafnidiaeth.

 

O ran prosiect Peilot Bysiau Gwyrdd nodwyd y cynlluniau peilot gan nodi eu bod yn gobeithio rhannu’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf i gael trafodaeth bellach.

 

11.

DIWEDDARIAD FFRYDIAU GWAITH

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad o ran ffrydiau gwaith a oedd yn cynnwys ardaloedd 20mya a pharcio ar balmentydd, gan nodi y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno.

 

O ran Ymgyrch Growth Track 360 - Diweddariad mynegwyd fod Arriva wedi ailedrych ar gostau'r parthau amrywiol, a nodwyd y bydd angen mwy o esboniadau dros y parthau ac ymatebiad o ran ticedi integredig. Nodwyd fod angen i aelod o staff Arriva ddod i’r Is-grŵp i drafod y mater.