skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Annes Sion 

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22

Penderfyniad:

Ethol y Cyng. Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cyng. Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor. 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22

Penderfyniad:

Ethol y Cyng. Mark Pritchard yn Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cyng. Mark Pritchard yn Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Wyn Ellis Jones o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a nodwyd fod y Cyng. Anwen Hughes yn bresennol i ddirprwyo ar ei ran.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol gan Iwan Evans, Dewi A Morgan a Dafydd Gibbard ar gyfer Eitem 6 : Penodi Swyddogion Statudol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

PENODI SWYDDOGION STATUDOL Y CBC pdf eicon PDF 126 KB

I benodi,

 

a)    Prif Weithredwr

b)    Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran 151’)

c)    Swyddog Monitro a Swyddog Priodol

 

 

Penderfyniad:

Penodwyd y Swyddogion Statudol canlynol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, yn weithredol o 14 Ionawr 2022 o leiaf hyd nes y bydd y trefniadau'n cael eu adolygu ym mis Mehefin 2022:

a) Prif Weithredwr – Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd)

b) Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran 151’) – Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd)

c) Swyddog Monitro a Swyddog Priodol – Iwan Evans (Cyngor Gwynedd).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol y Prosiect).

 

PENDERFYNIAD

 

Penodwyd y Swyddogion Statudol canlynol ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, yn weithredol o 14 Ionawr 2022 o leiaf hyd nes y bydd y trefniadau'n cael eu adolygu ym mis Mehefin 2022:

a)    Prif Weithredwr – Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd)

b)    Prif Swyddog Cyllid (‘Swyddog Adran 151’) – Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd)

c)    Swyddog Monitro a Swyddog Priodol – Iwan Evans (Cyngor Gwynedd).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn sefydlu Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac o ganlyniad i hyn mynegwyd fod angen i’r Cyd-Bwyllgor wneud trefniadau priodol yn y cyfarfod cyntaf. Eglurwyd ymysg y trefniadau priodol cyntaf fod rhaid i’r Cyd-Bwyllgor benodi ei Swyddogion Statudol.

 

Eglurwyd fod Rheoliadau Cyd-Bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (rhif 2) (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi tri swyddog statudol yn cynnwys Prif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro. Mynegwyd fod Rheoliadau Sefydlu yn caniatáu hyblygrwydd sut y gall y Cyd-Bwyllgor gyflogi staff, hynny yw gall gael eu cyflogi yn uniongyrchol neu drwy drefniadau gydag awdurdodau cyfansoddiadol. Nodwyd fod Cyngor Gwynedd eisoes yn darparu Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sydd â swyddogaethau gallai drosglwyddo i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn ystod 2022/23. Yn ogystal ategwyd fod Cyngor Gwynedd eisoes yn darparu Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor.

 

Pwysleisiwyd er mwyn i’r Cyd-Bwyllgor symud ymlaen argymhellwyd y dylai swyddogion statudol gael eu darparu gan Gyngor Gwynedd am y tro, tra fod y Cyd-Bwyllgor yn cael ei sefydlu, gan nodi y gellir adolygu’r trefniadau dros dro a cyflwyno adroddiad pellach ar yr opsiynau posib ar gyfer penodi’r swyddogaethau ar sail parhaol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd i Cyngor Gwynedd am gymryd y rôl ar ran y Rhanbarth. 

 

7.

MABWYSIADU RHEOLAU SEFYDLOG A CHYFANSODDIAD CBC pdf eicon PDF 266 KB

I ystyried a mabwysiadu rheolau sefydlog a chyfansoddiad y Cyd-bwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Mabwysiadwyd Rheolau Sefydlog Cychwynnol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig a derbyn y cyfeiriad ynglŷn a sefydlu Cyfansoddiad.

2.    Dirprwywyd hawl i’r Swyddog Monitro i wneud newidiadau golygyddol i’r Rheoliadau Sefydlog ar gyfer eu cyhoeddi gan nodi’r angen i ail ymweld a’r Rheolau Sefydlog unwaith y bydd canllawiau’r Llywodraeth wedi’i cadarnhau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans (Swyddog Monitro).

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Mabwysiadwyd Rheolau Sefydlog Cychwynnol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig a derbyn y cyfeiriad ynglŷn a sefydlu Cyfansoddiad.
  2. Dirprwywyd hawl i’r Swyddog Monitro i wneud newidiadau golygyddol i’r Rheoliadau Sefydlog ar gyfer eu cyhoeddi gan nodi’r angen i ail ymweld â’r Rheolau Sefydlog unwaith y bydd canllawiau’r Llywodraeth wedi’i cadarnhau.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Rheoliadau Cyd-Bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyd-Bwyllgor wneud Rheoliadau Sefydlog er mwyn rheoleiddio ei weithrediadau a busnes. Gan gynnwys Rheoliadau sefydlu’r Cyd-Bwyllgor ar y 1af Ebrill 2021, nodwyd eisoes fod tri set o reoliadau llywodraethu wedi dod i rym. Ychwanegwyd fod 2 set o Reoliadau Cyffredinol wedi mabwysiadu gyda ymgynghoriad ar Reoliadau (3ydd) ychwanegol  wedi cau cyn y Nadolig. Mynegwyd fod disgwyliad y bydd y Rheoliadau ychwanegol yn dod i rym yn y Gwanwyn. Eglurwyd felly fod sefydlu trefniadau cyfansoddiadau yn gorfod ymateb a datblygu gyda cefndir o sefyllfa gyfreithiol sydd yn parhau i esblygu.

 

Tywyswyd drwy’r Rheolau Sefydlog gan amlygu fod yr Aelodaeth yn cynnwys 6 Arweinydd Cynghorau Cyfansoddiadau sydd â hawl gweithredu holl swyddogaethau, Cynrychiolydd o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd â hawl gweithredu ar faterion sy’n ymwneud â’r Swyddogaeth Cynllun Datblygu Strategol yn unig, ynghyd ag Aelodau Cyfetholedig a benodir gan y Cyd-Bwyllgor fydd â hawl gweithredu yn unol â’r gytundeb penodi. Eglurwyd o ran y cyfarfodydd y bydd  y cyfarfodydd yn agored a bydd modd i’r wasg a’r cyhoedd gael mynediad, ychwanegwyd y bydd angen creu calendr cyfarfodydd. Amlygwyd fod angen 5 aelod fod yn bresennol er mwyn cael cworwm ac y bydd rhaid i’r aelodau ddynodi eilydd.

 

Eglurwyd o ran y drefn pleidleisio y bydd yn dilyn trefn mwyafrif syml, ond y bydd angen pleidlais unfrydol ar gyfer pennu cyfraniadau at y gyllideb a newid y trefniadau pleidleisio. Nodwyd yn ogystal na fydd pleidlais fwrw oni bai ar faterion Cynllun Datblygu Strategol. Eglurwyd y bydd datganiadau o’r penderfyniadau yn cael ei cyhoeddi ond na fyddent yn ddarostyngedig i alw i mewn. Ond nodwyd y disgwylir rheoliadau ar y trefniadau trosolwg a chraffu gael eu cyhoeddi a olygai y gallai hyn newid.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd sut y bydd y Cyd-Bwyllgor yn creu Is-Bwyllgorau. Nodwyd y bydd yn benderfyniad y Cyd-Bwyllgor ac y bydd angen creu Cylch Gorchwyl i’r Is-Bwyllgor ynghyd a hawliau dirprwyedig.

¾     Mynegwyd fod cael trefn craffu yn holl bwysig ac fod angen cael trefniadau cadarn a mecanwaith er mwyn datblygu. Pwysleisiwyd y bydd y Rheolau Sefydlog yn parhau i esblygu dros amser.

¾     Pwysleisiwyd mai Rheolau Sefydlog cychwynnol a gyflwynwyd i’r Cyd-Bwyllgor ac eglurwyd y byddant yn dod yn ôl i’r Cyd-Bwyllgor am ystyriaeth bellach yn dilyn unrhyw addasiadau ac unrhyw ddyblygiadau unwaith y bydd canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru.

 

8.

BLAEN RAGLEN WAITH Y CBC pdf eicon PDF 76 KB

I ystyried a chymeradwyo blaen raglen waith Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Blaen Raglen Waith y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd.



 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edward (Swyddog Arweiniol y Prosiect).

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd Blaen Raglen Waith y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Flaen Raglen yn rybudd o beth fydd yn cael ei drafod dros y misoedd nesaf. Nodwyd y bydd angen i’r cyfarfod nesaf, yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, gymeradwyo ei gyllideb am 2022/23 erbyn 31 Ionawr 2022. Eglurwyd fod y nifer o eitemau i’w trafod dros y misoedd nesaf ac y bydd addasiadau i’r Flaen Raglen wrth i amser fynd yn ei blaen.