skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Sion  E-bost: AnnesSion@gwynedd.llyw.cymru / 01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llinos Medi (Cyngor Sir Ynys Môn) a Emyr Williams (Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri).  

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.     

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 287 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd 22 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar yr  22 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir.  

5.

RHAGOLWG O WARIANT 2022/23 CYD-BWYLLGOR CORFFORDEIG Y GOGLEDD pdf eicon PDF 509 KB

Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC, Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol y Prosiect CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp y CBC i ddarparu rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 22/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23, fel cyflwynwyd yn Atodiad 1.

 

Cytunwyd fod tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp y CBC).   

 

PENDERFYNIAD 

 

Nodwyd a derbyniwyd rhagolwg o wariant y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23, fel cyflwynwyd yn Atodiad 1. Cytunwyd fod tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn adolygiad ariannol o fis Medi 2022. Amlygwyd y prif bwyntiau gan ddangos y gyllideb ac yr amcan o’r sefyllfa tan ddiwedd y flwyddyn. Eglurwyd eu bod yn amcanu tanwariant o £50k ar y pennawd Gweithwyr. Nodwyd fod y gyllideb wedi ei selio ar gyflogi / secondio dau weithwyr yn y maes Trafnidiaeth o Gorffennaf 2022 a 3 gweithiwr yn y maes Cynllunio Strategol o Rhagfyr 2022,nid oes penodiadau wedi eu gwneud hyd yma. Mae Gwasanaeth Cyllid Cyngor Gwynedd hefyd wedi rhoi amcan ar gyfer costau y Cyfarwyddwr Portffolio o Hydref ymlaen, ac fe fydd y Gwasanaeth Cyllid yn gweithio gyda’r Bwrdd Uchelgais dros y misoedd nesaf gyda hyn.  

 

Amlygwyd tanwariant tebygol o £2.5k ar y pennawd Teithio a tanwariant o £45k ar y pennawd cyflenwadau a gwasanaethau. Eglurwyd fod £1k o danwariant ar y pennawd cyflenwadau amrywiol, £4k ar y pennawd ymgysylltu a chyfarfodydd a £40k ar y pennawd ymgynghorwyr allanol.  

 

Mynegwyd fod tanwariant net o £3.5k yn cael ei ragweld ar y pennawd Gwasanaethau Cefnogol. Nodwyd fod gorwariant o £10k ar y costau cyllid gan fod rôl y Swyddog Arweiniol y Prosiect wedi parhau yn hirach na’r hyn â ragwelwyd yn wreiddiol. Amlygwyd £11k o danwariant ar y pennawd Cefnogaeth Gorfforaethol oherwydd lleihad yn y niferoedd o gyfarfodydd ffurfiol.  

 

Esboniwyd fod oediad pellach gyda deddfu i roi statws adran 33 i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig a hyn bellach ddim yn debygol o fewn mewn lle tan y 1af Mawrth 2023. Mynegwyd o ganlyniad i hyn ni fodd modd ad-hawlio TAW ar unrhyw drafodion ariannol sy’n perthyn i’r cyfnod cyn hyn ac yn seiliedig ar yr amcan gorwariant yn ystod y cyfnod hynny, mae amcan y bydd tua £41k o TAW ddim yn gallu cael ei ad-hawlio.  

 

Mynegwyd fod hyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2022/23 yn danwariant o bron i £60k a fydd yn cael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                 Holwyd am gyllideb ac ardoll y CBC ar gyfer 2023/24, gan nodi dylid rhoi ystyriaeth ddwys i holl ardollau 2023/24, gan gynnwys y Cyd-Bwyllgor Corfforedig, oherwydd bod rhagolygon ariannol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn edrych mor wael. Nodwyd y bydd trafodaeth am y gyllideb pan fydd cyllideb yn cael ei chreu. Nodwyd fod yr adroddiad yma am arian eleni ac ei bod yn anodd dod o hyd i arbedion eleni gan fod cyllideb y lleiaf posib ond cydnabuwyd yr angen i drafod cyllideb nesaf.  

·                Holwyd pam fod yr arian yn cael ei neilltuo i gronfa wrth gefn ac eglurwyd mai dim ond un cronfa  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHEOLAU SEFYDLOG A CHYFANSODDIAD pdf eicon PDF 351 KB

Iwan G D Evans, Swyddog Monitro i gyflwyno’r adroddiad. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cytunwyd i fabwysiadu

a)    Rheolau Sefydlog ar gyfer Is Bwyllgorau

b)    Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is Bwyllgorau canlynol;

·         Trafnidiaeth Strategol

·         Cynllunio Strategol

·         Llywodraethu ac Archwilio.

 

2.    Dirprwyo hawl i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Monitro i gwblhau cytundebau cyfethol gyda aelodau yr Is Bwyllgorau Trafnidiaeth a Chynllunio Strategol a threfnu drwy'r Swyddog Priodol i alw cyfarfod cychwynnol o’r Is Bwyllgorau.

 

3.    Cytuno ar yr egwyddorion penodi aelodau i’r Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac awdurdodi y Prif Weithredwr i gynnal proses ceisio datganiadau o ddiddordeb gan adrodd i gyfarfod Rhagfyr y CBC ar gyfer penodi.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan G Evans (Swyddog Monitro).  

 

PENDERFYNIAD 

 

1.     Cytunwyd i fabwysiadu 

a.     Rheolau Sefydlog ar gyfer Is Bwyllgorau  

b.     Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is Bwyllgorau canlynol;  

·       Trafnidiaeth Strategol  

·       Cynllunio Strategol  

·       Llywodraethu ac Archwilio.  

2.     Dirprwyo hawl i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Monitro i gwblhau cytundebau cyfethol gyda aelodau yr Is Bwyllgorau Trafnidiaeth a Chynllunio Strategol a threfnu drwy'r Swyddog Priodol i alw cyfarfod cychwynnol o’r Is Bwyllgorau.  

 

3.     Cytuno ar yr egwyddorion penodi aelodau i’r Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac awdurdodi y Prif Weithredwr i gynnal proses ceisio datganiadau o ddiddordeb gan adrodd i gyfarfod Rhagfyr y CBC ar gyfer penodi. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd yn ôl ym mis Mehefin.  Eglurwyd fod haner cyntaf yr adroddiad yn nodi mabwysiadu y Rheolau Sefydlog a Cylch Gorchwyl ar gyfer yr Is-Bwyllgorau. Eglurwyd  mai dim ond tri o’r is-bwyllgorau sydd yn cael ei amlygu yma gan fod y Swyddog Statudol yn parhau i ddisgwyl y rheoliadau ar gyfer y Pwyllgor Safonau. Nodwyd yn ogystal ei bod yn gyn-amserol i drafod y Bwrdd Uchelgais.  

 

Mynegwyd fod ail agwedd y penderfyniad am cyfethol i’r Is-Bwyllgorau. Nodwyd yn unol ar ddeddf fod angen creu a cwblhau cytundebau cyfethol gyda aelodau’r Is-Bwyllgorau Trefniadaeth a Chynllunio Statudol er mwyn eu hymrwymo i fod yn aelodau cyn galw cyfarfod. Amlygwyd yr angen i sefydlu calendr is-bwyllgorau Trafnidiaeth Strategol a Chynllunio  Strategol 

 

Nodwyd fod y rheoliadau yn nodi’r angen i’r Cyd-Bwyllgor fod yn creu Is-Fwrdd Llywodraethu ac Archwilio. Eglurwyd yr angen i symud ymlaen i’w sefydlu ac fod yr aelodaeth fel Awdurdodau Lleol yn 1 traean yn aelodau lleyg ac dwy ran o dair yn Cynghorwyd. Mynegwyd o ran argymhelliad y gweithdrefn fod yr aelodaeth yn dod o blith pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio y Cynghorau gan ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb o blith yr aelodau lleyg. Esboniwyd y bydd angen i’r enwebiadau fod yn gynrychiolaeth ar draws y rhanbarth gyda balans o sgiliau. Credai’r Swyddog Monitro mai dyma’r ffordd mwyaf pragmataidd o sicrhau’r aelodaeth.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Nodwyd fod niferoedd ar gyfer Pwyllgor Archwilio yn 9 aelod, 6 wedi ei ethol a 3 aelod lleyg a beth oedd y drefn ar gyfer hyn Eglurwyd fy bydd angen gofyn am enwebiadau ar gyfer yr aelodau lleyg a bydd angen proses dewis drwy’r Cyd-Bwyllgor gan sicrhau traws doriad a balans.   

 

7.

SECONDIAD I RÔL PRIF WEITHREDWR Y CBC pdf eicon PDF 77 KB

Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr y CBC a Dafydd Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC i gyflwyno’r adroddiad.  

Penderfyniad:

Cytunwyd i benodi Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser y CBC, ar sail secondiad dros dro, hyd nes caiff y swydd ei hadolygu eto gan y CBC cyn diwedd y flwyddyn ariannol 2022/23.

 

Dirprwyo’r grym i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd gadarnhau trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Gibbard (Prif weithredwr y CBC). 

 

PENDERFYNIAD 

 

Cytunwyd i benodi Alwen Williams yn Brif Weithredwr rhan-amser y CBC, ar sail secondiad dros dro, hyd nes caiff y swydd ei hadolygu eto gan y CBC cyn diwedd y flwyddyn ariannol 2022/23.  

 

Dirprwyo’r grym i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd gadarnhau trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr eitem hon wedi ei thrafod yn ôl ym mis Gorffennaf, pan gytunwyd i wneud cais i’r Bwrdd Uchelgais i ryddhau Alwen Williams i fod yn Brif Weithredwr rhan-amser tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod yr eitem wedi ei thrafod yn y Bwrdd Uchelgais wythnos diwethaf ac wedi cefnogi’r cais i’w secondio ar sail rhan amser gan ryddhau ei hamser am ddau ddiwrnod yr wythnos.  

 

Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn cadarnhau penodiad Alwen Williams gan egluro y bydd papur am y swydd i’r dyfodol yn cael ei gyflwyno i’r Cyd-Bwyllgor yn fuan.   

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                 Nodwyd o ran geiriad y penderfyniad fod angen ei addasu i nodi fod y swydd yn cael ei hadolygu cyn diwedd y flwyddyn ariannol gan roedd y geriad gwreiddiol yn awgrymu na fyddai trafodaeth tan ddiwedd Mawrth 2023.  

·                Holwyd pam fod angen dirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd i gadarnhau’r trefniadau ffurfiol ar gyfer y secondiad, oni ddylai’r penderfyniad ar y secondiad ddod yn ôl at y Cyd-Bwyllgor. Eglurwyd mai’r elfen Adnoddau Dynol yn unig sydd yn cael ei wneud i sicrhau cyflogaeth, gan mai Cyngor Gwynedd fel corff arweiniol yw’r cyflogwr cyfreithiol. Pwysleisiwyd mai dim ond awdurdodi elfen weinyddol o gyflogaeth mae’r Prif Weithredwr i gadarnhau fod Alwen Williams yn cael ei phenodi, a nid yw’n ymrwymo’r Cyd-Bwyllgor heibio mis Mawrth 2023 

·                Mynegwyd fod penderfyniad hwn yn trio dod o hyd i ddatrysiad i broblem ac ei fod yn ateb pragmatiadd i allu symud ymlaen a dechrau ar y gwaith.  

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 12:00pm a daeth i ben am 12:35pm. 

 

 

 

 

___________________________________

CADEIRYDD