Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Rhun ap Gareth (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy) a  Dewi Morgan (Swyddog Adran 151).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant ar gyfer eitem 5 gan Dafydd L. Edwards gan mai ei brif swydd yw Cyfarwyddwr y Gronfa Bensiwn yng Nghyngor Gwynedd. Nid oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu felly ni adawodd y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2022 fel rhai cywir.

Nodwyd fel cywirdeb bod Emyr Williams (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) wedi ei gynnwys yn bresennol ac fel ymddiheuriad yn y cofnod. Cadarnhawyd nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod 7 Hydref ac wedi ymddiheuro.

 

5.

PENSIYNAU: AWDURDOD GWEINYDDU'R CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL (CPLlL) AR GYFER CBC Y GOGLEDD pdf eicon PDF 225 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC i gyflwyno’r adroddiad.   

 

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr adroddiad oedd yn cadarnhau fod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi dewis i ddefnyddio Cronfa Bensiwn Gwynedd, ac felly bydd Cyngor Gwynedd yn awdurdod gweinyddol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC)  

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr adroddiad oedd yn cadarnhau fod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi dewis i ddefnyddio Cronfa Bensiwn Gwynedd, ac felly bydd Cyngor Gwynedd yn awdurdod gweinyddol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad ar ddethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gan nodi bod gofyniad i adrodd i Lywodraeth Cymru erbyn 22 Rhagfyr, 2022 i gadarnhau pa Awdurdod gweinyddol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer CBC Gogledd Cymru.

 

Adroddwyd bod dau Gynllun union yr un fath wedi eu hystyried sef Cronfa Bensiwn Clwyd (Cyngor Sir y Fflint) a Chronfa Bensiwn Gwynedd (Cyngor Gwynedd). Penderfynwyd ei bod yn gwneud synnwyr i enwebu Cynllun Pensiwn Cyngor Gwynedd, gan fod gweithwyr presennol Uchelgais Gogledd Cymru yn aelodau o Gronfa Bensiwn Gwynedd, a gallai’r trefniadau hynny drosglwyddo i’r CBC yn y dyfodol, felly byddai cynnal yr un trefniadau pensiwn yn rhesymegol. Cadarnhawyd hyn i Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr, 2022. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn cadarnhau’r penderfyniad ac er gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd parodrwydd i gefnogi’r argymhelliad.

¾     Nid oedd unrhyw sylwadau pellach.

 

6.

CYLLIDEB 2023/24 CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AC ARDOLL AR AWDURDODAU CYFANSODDOL pdf eicon PDF 779 KB

Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC, Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol y Prosiect CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp y CBC i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu opsiwn B gyda chyfanswm £764,820 ar gyfer Cyllideb 2023/24 Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac i gymeradwyo’r ardoll berthnasol ar yr awdurdodau cyfansoddol, fel y’i nodwyd o dan Opsiwn B.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L. Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cydbwyllgor).

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd mabwysiadu opsiwn B gyda chyfanswm £764,820 ar gyfer Cyllideb 2023/24 Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd, ac i gymeradwyo’r ardoll berthnasol ar yr awdurdodau cyfansoddol, fel y’i nodwyd o dan Opsiwn B.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig gymeradwyo ei gyllideb erbyn diwedd Ionawr, 2023. Eglurwyd bod dau opsiwn wedi eu llunio ar gyfer gwahanol lefelau o weithrediad tuag at gyflawni’r swyddogaeth Cynllunio a Thrafnidiaeth a galluogi’r Cyd-bwyllgor i weinyddu yn briodol.

 

Nodwyd bod Opsiwn A yn adlewyrchu dyheadau swyddogion proffesiynol Trafnidiaeth a Chynllunio i gyflawni’r ddau gynllun strategol. Ychwanegwyd mewn sefyllfa ddelfrydol byddai Opsiwn A yn cael ei argymell ar gyfer cyllideb y CBC ar gyfer 2023/24, ond yng nghyd-destun y pwysau ariannol ar sawl awdurdod eleni, cyflwynwyd opsiwn B fel cyllideb isafswm realistig a dyma yw’r argymhelliad.

 

Ychwanegwyd bod opsiwn B yn adlewyrchu penderfyniadau blaenorol y Cyd-bwyllgor o ran tybiaeth o lefel adnoddau. Nodwyd bod amcangyfrifon 2022/23 yn cynnwys tybiaeth o gyflogi swyddogion Trafnidiaeth am 9 mis a swyddogion Cynllunio am 4 mis, tra byddai cyllideb 2023/24 yn cynnwys effaith blwyddyn lawn o gyflogi'r uchod am 12 mis llawn. Ategwyd bod yr opsiwn hwn yn cynnwys amcangyfrif o rôl y Prif Swyddog am ddau ddiwrnod yr wythnos ynghyd a chost swyddogaethau corfforaethol i gefnogi’r Is-bwyllgor Cynllunio a’r Is-bwyllgor Trafnidiaeth.

 

Mynegwyd y byddai cost Opsiwn B hefyd yn llai nac Opsiwn A am ei fod yn rhagdybio defnydd un tro o gronfeydd wrth gefn gwerth £80,000, sef amcangyfrif o danwariant blwyddyn ariannol 2022/23. Yn ogystal, nodwyd yr angen i godi ardoll ar wahân ar gyfer swyddogaethau Cynllunio, a swyddogaethau eraill. Nodwyd y byddai Awdurdod Parc Eryri yn cyfrannu at gost yr elfen Cynllunio yn unig. Awgrymwyd dosrannu’r ardoll rhwng yr Awdurdodau cyfansoddol ar sail y boblogaeth berthnasol i’r maes gwaith. Nodwyd bod y symiau ardoll ar gyfer yr Awdurdodau unigol wedi eu manylu ym mhwnt 2.2 o’r adroddiad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd cefnogaeth i gefnogi Opsiwn B.

¾     Gwnaethpwyd sylw bod angen trafodaethau pellach ar feysydd Cynllunio, Economi a Thrafnidiaeth efo’r Prif Weithredwyr er mwyn cynllunio ar gyfer y ffordd ymlaen yng nghyd-destun y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Roedd awydd i drafod trefniadau'r Is-bwyllgorau gan sicrhau cyfarfodydd buan. Gofynnwyd i drefnu cyfarfod efo’r Arweinyddion a’r Prif Weithredwyr cyn gynted a bo modd i drafod yr uchod.

¾     Eglurwyd ei bod yn debygol y bydd cyfarfod blynyddol o'r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael ei gynnal ym mis Mai ble bydd Cadeirydd yn cael ei benodi am y flwyddyn Bwyllgorau 2023/24.

 

7.

DATGANIAD CYFRIFON CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 497 KB

Dewi A Morgan, Prif Swyddog Cyllid y CBC a Sian Pugh, Cyfrifydd Grŵp y CBC i gyflwyno’r datganiad Cyfrifon statudol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Datganiad Cyfrifon Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2021/22 a rhoddwyd grym i’r Cadeirydd arwyddo’r datganiad yn Atodiad 1, cyn iddo gael ei gyflwyno i Archwilio Cymru.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp y CBC).

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Datganiad Cyfrifon Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2021/22 a rhoddwyd grym i’r Cadeirydd arwyddo’r datganiad yn Atodiad 1, cyn iddo gael ei gyflwyno i Archwilio Cymru.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod wedi dod yn amlwg yn ddiweddar bod angen datganiad blynyddol ffurfiol am  y flwyddyn ariannol 2021/22, er nad oedd unrhyw drafodion ar gyfer CBC y Gogledd. Nodwyd, fel mater o ffurfioldeb, yr adroddiad oedd yn cadarnhau nad oedd unrhyw drafodion yn y flwyddyn ariannol 2021/22, a’r datganiad blynyddol oedd yn Atodiad 1 er cymeradwyaeth y Cydbwyllgor, er mwyn cydymffurfio â’r gofynion statudol perthnasol.

 

 

8.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG AR GYFER 2023/24 pdf eicon PDF 196 KB

I gytuno ar ddyddiadau arfaethedig ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

Penderfyniad:

Cytunwyd ar y dyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24 ac addasiad i ddyddiad y cyfarfod Mawrth 2023. 

 

Yn ogystal cytunwyd i Brif Weithredwr y CBC drefnu cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr i drafod y ffordd ymlaen gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cadeirydd.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd ar y dyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24 ac addasiad i ddyddiad y cyfarfod Mawrth 2023. 

 

Yn ogystal cytunwyd i Brif Weithredwr y CBC drefnu cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr i drafod y ffordd ymlaen gyda Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn nodi dyddiadau cyfarfodydd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24. Eglurwyd y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y prynhawn er mwyn osgoi gwrthdaro â chyfarfodydd CLlLC. Cyfeiriwyd yn ogystal at addasu dyddiad y cyfarfod nesaf o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mis Mawrth 2023.

 

Nid oedd unrhyw sylwadau pellach a derbyniwyd yr adroddiad i bennu’r dyddiadau a nodwyd.

 

Cyfeiriwyd yn ôl ar y sylw gafodd ei dderbyn dan eitem 6 a cytunwyd i drefnu’r cyfarfod anffurfiol efo Arweinyddion a Prif Weithredwyr; bydd Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn trefnu.