skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Jason McLellan (Cyngor Sir Ddinbych), Ian B. Roberts (Cyngor Sir y Fflint) ac Annwen Hughes (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant ar gyfer eitem 5 gan Alwen Williams, Prif Weithredwr y CBC. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 250 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2023, fel rhai cywir.

5.

YMESTYN CYFNOD SECONDIAD I RÔL PRIF WEITHREDWR DROS DRO Y CBC pdf eicon PDF 224 KB

Ymestyn cyfnod penodiad Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru yn Brif Weithredwr rhan-amser Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd, ar sail secondiad, hyd at ddiwedd Medi, 2023.

Penderfyniad:

Cytunwyd i ymestyn cyfnod secondiad rhan-amser Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru i rôl Prif Weithredwr Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd hyd at ddiwedd Medi, 2023.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd).

PENDERFYNIAD

Cytunwyd i ymestyn cyfnod secondiad rhan-amser Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru i rôl Prif Weithredwr Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd hyd at ddiwedd Medi, 2023.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ategu’r bwriad o ymgorffori Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru i fod yn rhan o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol agos. Eglurwyd y gellir cychwyn ar y camau perthnasol er mwyn symud staff drosodd drwy’r broses TUPE yn fuan. Nodwyd bod prosesau i’w dilyn yn ymwneud â’r maes cyflogaeth sydd wedi arafu’r cynnydd ond y nod yw symud drosodd cyn gynted ag y bo modd ac i symud tuag at benodiad parhaol. Ychwanegwyd bod cynllun mewn lle ar gyfer gwireddu hyn.

Ategwyd y penderfyniad a geisir sef i ymestyn cyfnod secondiad rhan-amser y Prif Weithredwr Cydbwyllgor Corfforedig dros dro tan ddiwedd mis Medi 2023. 

6.

ADNODDAU I SWYDDOGAETHAU STATUDOL pdf eicon PDF 254 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr dros dro y CBC i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyniwyd cymeradwyaeth ar gyfer model cyflawni'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) ar gyfer swyddogaethau statudol.

Cymeradwywyd y strwythur staffio cychwynnol a nodir yn Atodiad 2 o’r adroddiad.

Cytunwyd i ddirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr dros dro y CBC, mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd, ac yn unol â Datganiad Polisi Tâl y Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac mewn perthynas â’r swyddi Cynllunio a Thrafnidiaeth i:

·       Gwblhau'r Swydd Ddisgrifiadau angenrheidiol ar gyfer y swyddi

·       Gadarnhau'r raddfa gyflog sydd wedi'i harfarnu

·       Hysbysebu a recriwtio i'r swyddi

Cymeradwywyd trosglwyddo'r gyllideb staffio trafnidiaeth sy'n weddill sy'n cyfateb i 1 x Swyddog Trafnidiaeth FTE a gymeradwywyd ym mis Ionawr i gostau sy'n gysylltiedig â gofynion ymgynghorol y broses Cynllunio Trafnidiaeth Ranbarthol.

Cytunwyd i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig dderbyn papur yn y dyfodol i argymell opsiwn a ffafrir er mwyn cyflawni swyddogaeth 'Llesiant Economaidd', a fydd yn cynnwys yr opsiwn i drosglwyddo staff sy'n gysylltiedig â Swyddfa Portffolio gyfredol Uchelgais Gogledd Cymru.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC).

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer model cyflawni’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer swyddogaethau statudol, ‘dyletswyddau ar unwaith’ â nodwyd yn y ddeddfwriaeth.

Nodwyd bod y model arfaethedig wedi ei amlinellu yn Atodiad 2 yn cynnwys capasiti Rheoli Strategol i oruchwylio’r rhaglen waith yn ogystal ag arbenigwyr proffesiynol yn y maes Trafnidiaeth a Chynllunio.

Eglurwyd, yn nhermau Trafnidiaeth, y dylai’r Cyd-bwyllgor Corfforedig baratoi a chyflwyno Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol fyddai yn nodi gweledigaethau, blaenoriaethau ac yr amcanion ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth. Nodwyd y dylai’r Cynllun ystyried polisïau a strategaethau Cenedlaethol yn ogystal ag anghenion lleol. Rhagwelwyd y byddai’r Cynllun yn cymryd oddeutu 18 mis i’w gwblhau cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu  cymeradwyaeth gyda’r bwriad o’i weithredu yn 2025.

O ran Cynllunio, nodwyd bod y Cynllun Datblygu Strategol yn gynllun mwy hirdymor. Eglurwyd y bydd yn gosod gweledigaeth, amcanion a pholisïau ar gyfer defnyddio tiroedd ac adeiladau mewn ardal neu ranbarth penodol. Rhagwelwyd y bydd y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Strategol Rhanbarthol yn cymryd o leiaf 5 mlynedd. Ychwanegwyd bod y Gwerthusiad Opsiynau sydd wedi ei nodi yn Atodiad 1 yn ceisio pennu’r ffordd ymlaen.

Nodwyd bod y goblygiadau ariannol eisoes wedi eu cyfarch ers y cyfarfod 13 Ionawr 2023 o’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ble cymeradwywyd y gyllideb oedd ei angen ar gyfer recriwtio. Ategwyd bod yr argymhelliad i recriwtio’n uniongyrchol i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi ei gynllunio a’i ystyried o fewn y cyllidebau sydd wedi eu cymeradwyo.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd am y cyflwyniad a mynegwyd parodrwydd i gefnogi’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.

7.

DATGANIAD POLISI TÂL 2023-24 pdf eicon PDF 218 KB

I fabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i fabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24.  

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Prif Weithredwr y CBC).

PENDERFYNIAD

Cytunwyd i fabwysiadu datganiad polisi tâl Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2023/24.  

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig fabwysiadu datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2023/24. Eglurwyd ei bod yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod cyhoeddus i fabwysiadu datganiad polisi tâl yn flynyddol. Nodwyd bod y Polisi Tâl ar gyfer 2023/24 ynghlwm â’r adroddiad ac yn hawdd i’w ddeall; ychwanegwyd mai mater technegol yw’r eitem hon.