skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting / Cyfarfod Rhithiol

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.   

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 217 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd  17 Mehefin fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar yr 17 Mehefin 2022 fel rhai cywir.

 

5.

STRWYTHUR Y SEFYDLIAD A STAFFIO pdf eicon PDF 228 KB

Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr y CBC, a Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC i gyflwyno  adroddiad sy’n ymdrin â phenodi Prif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (y CBC), a gohirio unrhyw symudiad i  gyflogi staff i ymgymryd â'r dyletswyddau Cynllunio a Thrafnidiaeth am y tro.

Penderfyniad:

Cytunwyd i gyflwyno cais i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ryddhau rhan o amser eu Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y Cyd Bwyllgor Corfforedig hyd 31 Mawrth 2023. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Gibbard (Prif weithredwr y CBC) a Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor).

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i gyflwyno cais i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ryddhau rhan o amser eu Cyfarwyddwr Portffolio i gyflawni rôl Prif Weithredwr y Cyd Bwyllgor Corfforedig hyd 31 Mawrth 2023. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad i gyflwyno cais i’r Bwrdd Uchelgais i ryddhau rhan o amser eu Cyfarwyddwr Corfforaethol i gyflawni’r rôl o Brif Weithredwr y Cyd Bwyllgor. Mynegwyd fod tri opsiwn wedi ei ystyried sef creu swydd annibynnol ond eglurwyd nad oedd yr opsiwn hwn yn un synhwyrol. Cynigwyd i benodi un o Prif Weithredwr awdurdod lleol yn ffurfiol fel Prif Weithredwr y CBC, eglurwyd fod hyn yn profi yn anodd i roi yr amser sydd ei angen i wneud y gwaith.

 

Nodwyd mai opsiwn o gyflwyno cais i’r Bwrdd Uchelgais sydd yn cael ei ffafrio gan Brif Weithredwyr y Gogledd, gan y bydd yn debygol y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cael ei ymgorffori’n rhan o’r CBC yn fuan. Mynegwyd yn ogystal i aros am y tro a gohirio sefydlu unrhyw swyddi Cynllunio a Thrafnidiaeth ranbarthol er mwyn rhoi cyfle i Brif Weithredwr dros dro newydd i CBC i ddylanwadu ar y ffordd ymlaen.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾      Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd cefnogaeth i’r adroddiad.

¾     Nodwyd yr angen i roi cyfnod o amser ar gyfer y swydd dros dro a cytunwyd i ychwanegu hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

 

6.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG AR GYFER 2022/23 pdf eicon PDF 265 KB

I gytuno ar ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

Penderfyniad:

Cytunwyd ar y dyddiadau isod ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2022/23

  • 16 Medi (pm)
  • 18 Tachwedd (pm)
  • 13 Ionawr (am)
  • 31 Mawrth (am)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Annes Siôn (Arweinydd Tîm Democratiaeth)

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd ar y dyddiadau isod ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2022/23

·         16 Medi (pm)

·         18 Tachwedd (pm)

·         13 Ionawr (am)

·         31 Mawrth (am)

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y dyddiadau uchod yn cael ei cyflwyno, gan egluro y bydd posibilrwydd o gyfarfodydd ychwanegol os bydd angen yn codi.

 

7.

MABWYSIADU SAFONAU’R GYMRAEG pdf eicon PDF 162 KB

Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, i gyflwyno adroddiad ar fabwyiadu Safonau’r Gymraeg.

Penderfyniad:

  • Cytunwyd i’r Cydbwyllgor fabwysiadu Egwyddorion Iaith dros dro nes y bydd safonau pwrpasol yn cael eu gosod ar y Cydbwyllgor Corfforedig gan Gomisiynydd y Gymraeg
  • Comisiynwyd cefnogaeth asesu effaith ieithyddol a’r gwasanaethau cyfieithu  (cyfarfodydd ac ysgrifenedig) yn ôl yr angen gan Cyngor Gwynedd, fel yr awdurdod sy’n bresennol cefnogi gwaith y Cyd Bwyllgor Corfforedig
  • Comisiynwyd yr adnodd ar gyfer proses gosod Safonau gyda’r Comisiynydd, ynghyd â monitro gweithrediad y Safonau a llunio unrhyw adroddiadau cynnydd yn ôl yr angen gan Cyngor Gwynedd, fel yr awdurdod sy’n bresennol cefnogi gwaith y Cyd Bwyllgor Corfforedig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Gibbard (Prif weithredwr y CBC).

 

PENDERFYNIAD

 

·         Cytunwyd i’r Cydbwyllgor fabwysiadu Egwyddorion Iaith dros dro nes y bydd safonau pwrpasol yn cael eu gosod ar y Cydbwyllgor Corfforedig gan Gomisiynydd y Gymraeg

·         Comisiynwyd cefnogaeth asesu effaith ieithyddol a’r gwasanaethau cyfieithu  (cyfarfodydd ac ysgrifenedig) yn ôl yr angen gan Cyngor Gwynedd, fel yr awdurdod sy’n bresennol cefnogi gwaith y Cyd Bwyllgor Corfforedig

·         Comisiynwyd yr adnodd ar gyfer proses gosod Safonau gyda’r Comisiynydd, ynghyd â monitro gweithrediad y Safonau a llunio unrhyw adroddiadau cynnydd yn ôl yr angen gan Cyngor Gwynedd, fel yr awdurdod sy’n bresennol cefnogi gwaith y Cyd Bwyllgor Corfforedig.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi cywiriad i’r adroddiad gan amlygu nad mabwysiadu safonau iaith mae’r adroddiad hwn ond egwyddorion iaith. Eglurwyd fod yr adroddiad yn gofyn am gefnogaeth y Cydbwyllgor i barhau gyda’r gefnogaeth mae Cyngor Gwynedd yn ei gynnig ar hyn o bryd o ran gwasanaeth cyfieithu ac ar gyfer asesu effaith ieithyddol ynghyd a dechrau’r sgwrs gyda’r Comisiynydd o ran gosod Safonau iaith.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾      Cefnogwyd y newid i’r geiriad a dangoswyd cefnogaeth i’r adroddiad.