skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Goronwy Edwards (Cyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy) Simon Glyn a John Brynmor Hughes

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 337 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24 Mehefin 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021 fel rhai cywir.

 

5.

DATGANIAD POLISI LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 178 KB

I ystyried yr adroddiad a mabwysiadu’r polisïau newydd

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad

Cymeradwyo’r Datganiad Polisi Llywodraethu yn ddarostyngedig i gynnwys yr addasiadau canlynol

  • Ychwnaegu paragraff yn amlygu grymoedd wedi’u dirprwyo gan y Cyngor i Bartneriaeth Pensiwn Cymru
  • Addasu brawddeg 4 (Prif gyfrifoldebau’r Pwyllgor) i nodi Gwneud rhai penderfyniadau yng nghyswllt gweinyddu pensiynau, mewn eithriadau e.e., apeliadau
  • Diweddaru cyfrioldebau’r Prif Swyddog Cyllid i amlygu’r trefniant dros dro ar gyfer y cyfnod o 01/01/22
  • Ychwanegu nodyn yn amlygu gofynion hyfforddiant aelodau'r Pwyllgor Pensiynau (fel sydd eisoes wedi ei amlygu ar gyfer aelodau’r Bwrdd Pensiwn)
  • Parhau gyda’r datganiad ‘cydymffurfio’n rhannol’ gan adolygu’r datganiad os daw newid i strywthur y drefn rheolaetheol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu’r gofyn i’r Gronfa gyhoeddi Datganiad Llywodraethu a Chydymffurfio o dan Reoliad 55 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013 (fel y’i diwygiwyd) gan adolygu’r datganiad hwnnw yn barhaus. Bwriad y datganiad yw nodi Strwythur Llywodraethu'r Gronfa, y cynllun dirprwyo, a'r cylch gorchwyl ar gyfer ei Chyrff Llywodraethol, y Pwyllgor Pensiynau a'r Bwrdd Pensiynau Lleol.

 

Amlygwyd bod y datganiad cyfredol mewn grym ers 2008 ac wrth baratoi ar gyfer Prosiect Llywodraethu Da Bwrdd Cynghori’r Cynllun a ddaw i rym Ebrill 2022, nodwyd bod y gwasanaeth wedi bod yn adolygu a diweddaru’r datganiad. Eglurwyd bod y prif newidiadau yn cynnwys darparu mwy o wybodaeth am swyddogaethau a chyfrifoldebau staff y gronfa bensiwn ynghyd a chyflwyno rhan newydd i’r polisi mewn perthynas â rôl a chyfrifoldebau'r Bwrdd Pensiwn. Nodwyd bod y Datganiad wedi ei gyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn Gorffennaf 2021 a bod y Bwrdd wedi cyflwyno sylwadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a chytunwyd bod angen cydymffurfio gyda’r Rheoliadau ac adrodd ar y sefyllfa bresennol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Y dylid cynnwys gwybodaeth am Bartneriaeth Pensiwn Cymru o ystyried eu bod yn gyfrifol am weithgaredd Cronfa Gwynedd

·         Bod angen diweddaru cyfrifoldebau’r Pennaeth Cyllid

·         Bod y gair ‘rhai’ yn y frawddeg ‘gwneud rhai penderfyniadau yng nghyswllt gweinyddu pensiynau’ yn amwys - angen geiriad sydd yn egluro yn well

·         Bod cyfeiriad at hyfforddiant ar gyfer aelodau’r Bwrdd Pensiwn ond dim ar gyfer y Pwyllgor Pensiynau

 

Mewn ymateb i sylw bod y geiriad ‘cydymffurfio yn rhannol’ yn ddatganiad amwys, nodwyd nad oedd y strwythur cyfredol yn caniatáu cydymffurfiaeth lawn. Ategwyd bod Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi ystyried y sefyllfa gan adrodd bod modd ail ymweld a’r strwythur ar drothwy Etholiad 2022 ynghyd a chyflwyno rheoliadau newydd tebygol. Awgrymwyd, cadw’r geriad ‘cydymffurfio yn rhannol’ gan adolygu os daw newid

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad

Cymeradwyo’r Datganiad Polisi Llywodraethu yn ddarostyngedig i gynnwys yr addasiadau canlynol

·         Ychwanegu paragraff yn amlygu grymoedd wedi’u dirprwyo gan y Cyngor i Bartneriaeth Pensiwn Cymru

·         Addasu brawddeg 4 (Prif gyfrifoldebau’r Pwyllgor) i nodi Gwneud rhai penderfyniadau yng nghyswllt gweinyddu pensiynau, mewn eithriadau e.e., apeliadau

·         Diweddaru cyfrifoldebau’r Prif Swyddog Cyllid i amlygu’r trefniant dros dro ar gyfer y cyfnod o 01/01/22

·         Ychwanegu nodyn yn amlygu gofynion hyfforddiant aelodau'r Pwyllgor Pensiynau (fel sydd eisoes wedi ei amlygu ar gyfer aelodau’r Bwrdd Pensiwn)

·         Parhau gyda’r datganiad ‘cydymffurfio’n rhannol’ gan adolygu’r datganiad os daw newid i strwythur y drefn reolaethol

 

 

6.

AMSERLEN PRISIANT 2022 pdf eicon PDF 161 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gosod amserlen ar gyfer prisio’r Gronfa Bensiwn fydd yn seiliedig ar yr aelodaeth ar 31 Mawrth 2022 gyda chyfraddau cyfraniadau cyflogwyr newydd yn dod i rym ar y 1af o Ebrill 2022. Pwrpas prisiad yw asesu sefyllfa ariannol y Gronfa, nodi'r rhagdybiaethau ar gyfer chwyddiant ac enillion buddsoddiad yn y dyfodol ac adolygu cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr.

Yn dilyn trafodaeth mewn cyfarfod rhagarweiniol gydag Hymans Robertson penderfynwyd ar y dyddiau arfaethedig. Gyda’r ymarferiad yn un sydd yn cymryd lle dros gyfnod hir, penderfynwyd gosod amserlen. Cyfeiriwyd at y gwahanol gamau sydd angen eu gweithredu gan awgrymu dau ddyddiad o hyfforddiant gydag Hymans fel bod modd i'r Aelodau dderbyn gwybodaeth dechnegol llawn.

Nodwyd bod y cyfnod yn un heriol a phrysur i’r Gwasanaeth Pensiwn gyda gwaith ychwanegol i’w gwblhau o baratoi a chyflwyno gwybodaeth lân a chywir i sicrhau bod canlyniadau’r prisiant mor gywir â phosib i bob cyflogwr. Er hynny ystyriwyd bod yr amserlen yn gyraeddadwy.

Diolchwyd am yr adroddiad

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod gosod amserlen yn crynhoi’r drefn yn effeithiol

·         Bod cynnal hyfforddiant i’w groesawu a bod yr awgrym o gynnal hyfforddiant ar ddiwrnod y prisiad yn ddefnyddiol o ystyried bod y wybodaeth mor dechnegol

·         Diolch i’r staff am eu hagwedd broffesiynol a’r gwaith clodwiw maent yn cyflawni

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid bod bwriad cynnal un sesiwn hyfforddiant yn dilyn cwblhau’r rhagdybiaethau terfynol (Ionawr 2022) a sesiwn ym mis Hydref 2022 wrth gyhoeddi canlyniadau’r cyflogwyr a diweddaru’r Datganiad Strategaeth Cyllido.

PENDERFYNWYD

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

7.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 138 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017 ac erbyn Mawrth 31ain 2021 bod 81% o gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC. Nodwyd bod y perfformiad yn un ‘safonol iawn' gyda nifer o ddatblygiadau ar y gweill sydd yn cynnwys trosglwyddo cyfran Marchnadoedd Datblygol o Fidelity i’r gronfa PPC. Bydd hyn yn dod a chyfanswm pwlio Gwynedd i 83%.

Nodwyd bod y Gronfa yn perfformio’n sylweddol uwch na’r meincnod yn gyson; bod cyfarfodydd Panel Buddsoddi yn gyfle da i holi a herio Rheolwyr; ac er bod sefyllfa covid wedi bod yn argyfyngus ar draws y byd bod marchnadoedd yn perfformio’n gryf.

Camau nesaf yn y broses fydd edrych ar yr opsiynau o gyfuno asedau i’r categori Marchnadoedd Preifat sydd yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth Hymans Robertson gyda thrafodaethau parhaus i benderfynu'r strwythur a’r mecanwaith priodol i fuddsoddi ynddo. Adroddwyd bod cynghorydd apwyntio arbenigol wedi ei apwyntio i gynorthwyo’r PPC i apwyntio rheolwyr buddsoddi addas i reoli’r dyraniad marchnadoedd preifat a bod tendr bellach wedi ei ryddhau i benodi rheolwr addas ar gyfer isadeladwaith a dyled preifat.

Yng nghyd-destun cynrychiolydd aelodau ar y Cyd bwyllgor Llywodraethu, nodwyd bod pob awdurdod cyfansoddiadol ar hyn o bryd yn cyflwyno addasiadau i’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod sydd angen cymeradwyaeth pob Cyngor Llawn - cymeradwywyd yr addasiadau gan Cyngor Gwynedd ar y 7fed o Hydref 2021.

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r holl staff oedd yn gysylltiedig â'r gwaith

Nododd y Cadeirydd fod PPC yn gronfa lwyddiannus ac effeithiol gyda dychweliadau derbyniol iawn. Ategwyd bod sefyllfa cronfa Cymru, o gymharu ag eraill ar draws y DU yn un cryf iawn a bod cydweithio da yn rhan amlwg o’r llwyddiant.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr adroddiad yn nodi perfformiad ‘safonol iawn’ yn y fersiwn Gymraeg, ond yn nodi very satisfactory yn y Saesneg sydd yn ymddangos yn well disgrifiad o’r sefyllfa / perfformiad – angen ail ystyried yr ymadrodd Cymraeg.

·         Bod y trosglwyddiadau hyd yma wedi bod yn galonogol iawn – y trosglwyddiadau sydd yn weddill fydd yn gosod yr heriau mwyaf

PENDERFYNWYD

Derbyn a nodi’r wybodaeth