Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad dilynwch y linc: https://gwynedd.public-i.tv/core/portal/home

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Catrin Wager.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 MEDI 2021 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021, fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr Adroddiad Blynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr Adroddiad Blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod 2021 wedi bod yn heriol iawn o ran Iechyd, Diogelwch a Llesiant. Amlygwyd gyda’r pandemig, dros nos, fod pob penderfyniad a oedd yn cael ei wneud i sicrhau diogelwch trigolion a staff mewn ymateb i’r pandemig. Amlygwyd y gwaith sydd wedi ei wneud yn ystod y cyfnod megis asesiadau risg, canllawiau a hyfforddiant i staff ynghyd a asesiadau iechyd. Nodwyd fod ychydig o achosion o covid yn y gwaith wedi bod yn ystod 2020/21 ond eglurwyd nad oes modd cadarnhau hyn yn bendant ond fod gofyn i adrodd pan fo sail rhesymol y gallent fod wedi ei ddal yn y gwaith.

 

Eglurwyd fod damweiniau yn parhau er fod y pandemig wedi bod dros y flwyddyn diwethaf. Mynegwyd fod yr adran wedi bod yn edrych ar y cynnydd mewn anafiadau yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff dros y blynyddoedd diwethaf, ac amlygwyd bod straen yn un o’r prif resymau dros absenoldebau o fewn y Cyngor. Eglurwyd fod cwnsela wedi bod ar gael i’r staff yn ôl yr arfer.

 

Nodwyd er y flwyddyn anodd fod gwaith da wedi cael ei wneud i edrych ar ôl iechyd a llesiant staff gan amlygu fod y Cyngor wedi cadw y safon aur yn Fframwaith Ansawdd Iechyd Genedlaethol.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Diolchwyd i staff yr adran am eu gwaith ac eu hymrwymiad llwyr dros y flwyddyn diwethaf.

¾    Amlygwyd fod llawer o waith wedi ei wneud i ddelio a llesiant staff dros y flwyddyn diwethaf a diolchwyd i staff am eu gwaith. Ond holwyd gyda nifer uchel o staff yn parhau i weithio o adref holwyd sut y  byddant yn parhau i ddelio a llesiant staff. Nodwyd fod cynlluniau yn ei lle i adeiladau ar y gwaith da swydd wedi ei wneud.

¾    Nodwyd balchder fod yr adran yn parhau  edrych ar y damweiniau sydd yn digwydd yn benodol yn y maes gwastraff. 

 

 

Awdur: Geraint Owen

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFLOGAETH pdf eicon PDF 727 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad am y tro cyntaf ers 2019. Nodwyd fod y pandemig wedi mynd ar draws yr adroddiad diwethaf ond ei bod yn amserol i’r Cabinet dderbyn adroddiad cyflogaeth. Mynegwyd fod yr adroddiad yn edrych ar broffil y gweithlu ac yn amlygu prif heriau sy’n wynebu’r Cyngor yn y tymor canol a’r tymor hir.

 

Amlygwyd fod sefyllfa’r Cyngor wedi newid ers dechrau’r pandemig, gyda arferion gweithio wedi ei addasu ac oblygiadau hynny. Ychwanegwyd o ganlyniad i weithio adra fod y farchnad recriwtio wedi addasu a bellach fod modd recriwtio o leoliadau ehangach. Eglurwyd fod ystadegau yn arddangos fod proffil oedran y Cyngor wedi codi ac fod hyn yn amlygu’r angen i flaenoriaethu cynllun gweithlu i gynnal gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Tynnwyd sylw at y problemau recriwtio gofalwyr sydd i’w gweld yn yr Adran Oedolion gan nodi ei bod yn broblem sydd i’w gweld yn genedlaethol. Eglurwyd fod y gwasanaeth Adnoddau Dynol yn gweithio gyda’r adran i weld sut y bydd modd gwella’r sefyllfa.

 

Mynegwyd fod lles staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn holl bwysig ac fod y cynllun wedi parhau drwy gyfnod y pandemig. Wrth edrych i’r dyfodol nodwyd fod y trefniadau i weithio o adra yma i aros mewn rhyw ffordd, ac y bydd angen meddwl sut addasu trefniadau gwaith yn y tymor hir. Mynegwyd fod manteision o weithio o adref ond fod angen parhau i sicrhau fod anghenion trigolion yn flaenoriaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾     Ychwanegodd y Pennaeth Adran fod y flwyddyn diwethaf pur wahanol . Amlygwyd fod lefel salwch wedi gostwng ac fod lefel trosiant staff yn ogystal wedi gostwng. Eglurwyd er hyn fod y lefel yn raddol godi ac fod angen i’r Cyngor barhau i gynllunio gweithlu i gadw a recriwtio staff.

¾    Pwysleisiwyd fod pwysau sylweddol ar y gweithlu ac fod pryderon am barhad gwasanaeth yn genedlaethol Mewn ymateb i gwestiwn am sefyllfa’r Cyngor nodwyd fod cynnydd mewn pwysau gwaith ac fod effaith trosiant staff i’w gweld mewn rhai meysydd yn benodol ac fod risg o golli mwy o staff.

¾    Tynnwyd sylw at recriwtio gofalwyr ac ei fod yn sefyllfa bryderus gan fod unigolion yn cael ei gorfodi i aros yn yr Ysbyty am gyfnod hir o amser cyn cael dod adref oherwydd prinder gofalwyr. Nodwyd fod y gweithlu sydd yn gwbl allweddol i’r sir ac fod angen amlygu i’r cyhoedd fod y swyddi rhain yr un mor bwysig ar maes iechyd.

Awdur: Geraint Owen

8.

YSGOL ABERSOCH pdf eicon PDF 462 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNWYD

 

Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fynegi fod yr adroddiad hwn yn benllanw proses sydd wedi cymryd rhai blynyddoedd. Amlygwyd fod 2 flynedd wedi bod ers i’r Cabinet gytuno i fynd i drafodaeth gyda’r corf llywodraethol.  Eglurwyd mai niferoedd isel, cyson a bregus yr ysgol yw sail y pryderon sydd wedi arwain at yr adroddiad hwn. Eglurwyd heddiw mai pwrpas yr adroddiad yw i’r Cabinet ystyried y gwrthwynebiadau sydd wedi ei derbyn cyn penderfynu os y bydd angen cau’r ysgol a darparu lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach.

 

Pwysleisiwyd nad yw’r penderfyniad sydd yn cael ei drafod yn un hawdd ac amlygwyd ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i pawb sydd ynghlwm ar ysgol ac diolchwyd i bawb sydd wedi cyfrannu i’r drafodaeth. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet wedi derbyn cais i ymweld a’r ysgol ond ei fod wedi mynychu’r ysgol o’r blaen fel rhan o’r trafodaethau cychwynnol ac nid yr adeilad sydd tu o’r i’r argymhelliad ond yr heriau sydd yn wynebu’r ysgol. Cyfeiriwyd at rhai gwrthwynebiadau a oedd yn cwestiynu penderfyniadau y Cyngor ac os oes gwrandawiad teg wedi ei gynnig. Pwysleisiwyd nad oes dim sail i’r pryderon yma ac fod pwyso a mesur gwrthrychol wedi ei wneud cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

 

Rhoddodd y Pennaeth Adran hanes yr eitem. Mynegwyd fod penderfyniad wedi ei wneud ar y Rhybudd Statudol i gau yr ysgol ym mis Mehefin 2021 ond fod y drafodaeth wedi cychwyn ôl ym Medi 2019. Eglurwyd fod tri cyfarfod gyda’r corff llywodraethol wedi eu cynnal rhwng Hydref a Ionawr 2020 a oedd yn trafod yr opsiynau posib i’r ysgol. Ym Medi 2020, bu i’r Cabinet benderfynu ymgymryd a phroses ymgynghori statudol ar y cynnig i gau Ysol Abersoch. Cadarnhawyd y penderfyniad ar y 3 Tachwedd yn dilyn i’r penderfyniad gwreiddiol gael ei alw i mewn a’i gyfeirio yn ôl i’r Cabinet gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.

 

Amlygwyd prif heriau sydd yn wynebu’r ysgol a arweiniwyd at yr adolygiad. Eglurwyd fod nifer y disgyblion wedi gostwng yn gyson ers 2016 a bellach mewn sefyllfa fregus. Mynegwyd fod yr ysgol o ganlyniad i hyn yn wynebu pwysau cyllidebol gynyddol. Amlygwyd fod yn holl blant yn cael ei dysgu mewn un ystafell ddosbarth, ynghyd a fod 21 plentyn o fewn y dalgylch yn mynychu ysgol arall gyda 5 disgybl yn mynychu’r ysgol o tu hwnt i’r dalgylch.  Nodwyd fod cost fesul disgybl yn Ysgol Abersoch yn £17,404 sydd yn llawer uwch nac yr ychydig dros £4000 sydd i’w gweld ar draws y sir. Pwysleisiwyd trwy gydol y cyfnod fod Egwyddorion Addysg i Bwrpas ynghyd a Strategaeth Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd wedi bod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Gwern ap Rhisiart

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 784 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser cyflwyno adroddiad perfformiad yr adran. Tynnwyd sylw at adroddiad thematig Estyn ar waith yr Awdurdod drwy gydol yn adroddiad, gan bwysleisio fod yr rhoi golwg annibynnol ar waith yr adran. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn positif tu hwnt.

 

Eglurwyd fod yr adran wedi cadarnhau arbedion ar gyfer 2021/22 ond fod yr adran wedi tanwario £100k ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21. Nodwyd fod adolygiad cychwynnol yn rhagweld tanwariant gan yr Adran erbyn diwedd y flwyddyn sydd yn gyfuniad o danwariant ar nifer o benawdau sydd yn cael ei leihau gan orwariant ar benawdau megis Cludiant. </AI8>

 

Diolchwyd i’r adran am eu Gwaith caled a nododd yr aelod Cabinet ei fod yn gwbl hapus gyda’r gwaith mae’r adran wedi ei wneud mewn cyfnod anodd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾                 Diolchwyd am y Cameo’s o adroddiad Estyn drwy’r adroddiad gan ei fod yn   rhoi blas o’r cynlluniau ac yn cael ei weld drwy lygad y dinesydd.

¾                 Nodwyd balchder fod ysgolion Newydd wedi ei  adeiladu neu cael cyfleusterau gwell yn benodol ym Mangor ac yng Nghricieth, ac fod hyn yn amlygu y buddsoddiad y Cyngor i’w hysgolion.

¾                 Diolchwyd i staff am y cyfathrebu cyson ar gefnogaeth sydd wedi bod yn yr adran ond yn yr ysgolion yn ogystal.

 

Awdur: Debbie Anne Williams Jones

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi diolch i’r saff am weithio mor galed yn y cyfnod anodd. Diolchwyr i’r aelod Craffu am eu mewnbwn i’r drafodaeth herio perfformiad. Tynnwyd sylw at brosiectau yng Nghynllun y Cyngor gan nodi fod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Llywodraeth am drosglwyddiad unedau gwyliau o’r Dreth Cyngor i Drethu Busnes. Eglurwyd y bydd y Adran yn cydlynu ymateb y Cyngor.

 

O ran cyflawni Arbedion nodwyd yn gyffredinol fod y cynlluniau yn gwneud yn dda ond mynegwyd fod pryderon am y dyfodol o ran arbedion. Pwysleisiwyd fod adroddiad pellach yn dod i’r Cabinet ddechrau Hydref.

 

Mynegwyd fod Covid yn parhau i effeithio a’r drefniadau’r Adran gyda cyfraddau casglu ardrethu annomestig yn is na’r blynyddoedd blaenorol ond fod y sefyllfa yn gwella. Nodwyd er fod gwerth dyledion amrywiol wedi gostwng mae’r lefel yn parhau’n uchel. Pwysleisiwyd fod uwch swyddogion yn ceisio datrys y dyledion ac mae angen ystyrid ffodd amgen i symud ymlaen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

Diolchwyd i’r adran am eu Gwaith dros y cyfnod anodd yn sicrhau fod grantiau yn cael ei dyrannu yn amserol i unigolion a busnesau.

Awdur: Dafydd L Edwards

11.

STRATEGAETH CYLLIDEB 2022/23 pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

i.                Cymeradwywyd y drefn ac amserlen ar gyfer llunio Cyllideb 2022/23.

ii.                Nodwyd os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2022/23, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a cronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr, a pwyllo cyn adnabod unrhyw arbedion ychwanegol fydd angen yn ystod haf 2022.

iii.                Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad fel Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, tra’n nodi, yn y cyd-destun cyfredol, fod cynllunio ariannol yn hynod heriol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

                  i.         Cymeradwywyd y drefn ac amserlen ar gyfer llunio Cyllideb 2022/23.

                 ii.        Nodwyd os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb 2022/23, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a cronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr, a pwyllo cyn adnabod unrhyw arbedion ychwanegol fydd angen yn ystod haf 2022.

                iii.        Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad fel Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, tra’n nodi, yn y cyd-destun cyfredol, fod cynllunio ariannol yn hynod heriol

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu dros y blynyddoedd fod y Cyngor wedi bod yn ddarbodus ac o ganlyniad mewn sefyllfa well na nifer o awdurdodau eraill  Eglurwyd fod yr adroddiad yn rhoi amlinelliad o’r drefn blynyddol i lunio cyllideb ynghyd a Cynllun Ariannol Tymor Canolig. 

 

Mynegwyd y bydd sawl cais eleni am adnoddau ychwanegol o ganlyniad i bwysau ychwanegol ar adrannau ac y bydd proses bidiau yn cael ei gyflwyno i’r aelodau Cabinet. Atgoffwyd mai Grant Llywodraeth Cymru yw prif ffynhonnell ariannol y Cyngor ac y byddant yn cyflwyno eu setliad drafft yn ystod mis Rhagfyr cyn cyflwyno’r setliad yn nechrau Mawrth. Eglurwyd fod yr amserlen yn un hynod heriol ac fod ansicrwydd ariannol o ganlyniad i’r pandemig.

 

Tywysodd y Pennaeth Adran drwy’r adroddiad gan nodi fod y cyfrifwyr wedi dechrau paratoi amcangyfrifon o wariant yn yr adrannau ar gyfer 2022/23. Pwysleisiwyd y bydd bidiau yn cael ei cyflwyno i’r Cabinet dros y misoedd nesaf er mwyn cyfarch y pwysau ychwanegol fydd ar adrannau.

 

Nodwyd fod yr amserlen yn heriol tu hwnt mewn cyfnod ble mae Covid yn parhau, ond fod sefyllfa gyllidol gadarn y Cyngor a chronfeydd wrth gefn iach yn golygu fod modd cymryd mwy o risg. Tynnwyd sylw at yr heriau a fydd yn wynebu’r Cyngor a oedd yn cynnwys adferiad Covid, cynnydd mewn cyflogau, ynghyd â chynnydd mewn chwyddiant. Eglurwyd fod y setliad wedi cynnwys chwyddiant y llynedd, ond nad oedd hyn yn bendant am eleni.

 

Tynnwyd sylw at rhagdybiaethau sydd wedi ei creu sydd yn amlygu tri senario posib. Pwysleisiwyd ei bod yn anodd proffwydo i’r dyfodol, ond ei bod yn bosib y bydd angen cynllunio ar gyfer rhaglen arbedion yn y dyfodol. Mynegwyd os y bydd bwlch ariannol y flwyddyn nesaf, y buasai modd i'r Cyngor bontio’r bwlch yn 2022/23.

 

Awdur: Dafydd L Edwards