Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi), Cynghorydd Louise Hughes, Cynghorydd Eryl Jones-Williams, Cynghorydd Brian Woolley (Cyngor Cymuned Arthog), Mr John Johnson (Cymdeithas Bysgota Abermaw a Bae Ceredigion), Cynghorydd Matthew Harris (Grŵp Gwella Cyrchfannau Abermaw), Mark James (Cymdeithas y Bad Achub) a Llŷr B Jones (Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

COFNODION pdf eicon PDF 311 KB

 

a)    Cadarnhau  cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23ain Mawrth 2021 fel rhai cywir  

 

b)    Materion yn codi

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23ain Mawrth 2021

 

Materion yn codi o’r cofnodion;

 

·         Astudiaeth Dichonoldeb – amlygodd y Swyddog Morwrol y byddai canlyniad yr astudiaeth Dichonoldeb i’r gwaith carthu arfaethedig yn yr Harbwr yn rhoi darlun clir o beth fydd yn bosib i’r dyfodol.

 

·         Gofynion Deddfwriaeth yng nghyd-destun Cynllun Datblygu Harbwr - amlygodd y Swyddog Morwrol bod Harbwr Abermaw wedi ei sefydlu fel Harbwr Bwrdeistrefol o dan y Cyngor yn dilyn gofynion Deddf Cadarnhau Gorchmynion Pier a Harbwr (1930). Nodwyd nad oedd y ddeddfwriaeth yn gorfodi Awdurdod i ddatblygu harbwr ond ei gynnal yn unig. Byddai datblygu Harbwr yn fater dewisol. Yn ychwanegol amlygwyd bod Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn cynnwys gofynion pellach ar Awdurdod yr Harbwr a bod angen sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddf yma cyn ystyried datblygiadau pellach

 

4.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 366 KB

I ystyried yr adroddiadau

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Nodi a derbyn yr adroddiad.
  • Ymateb fel a ganlyn i bapur ymgynghori’r Adran Drafnidiaeth “Strengthening enforcement of the dangerous use of recreational and personal watercraft”:-

 

1.    Bod y pwyllgor hwn yn cefnogi opsiwn 3, sef llunio deddfwriaeth dan adran 112 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003 i ymestyn darpariaethau perthnasol Deddf Llongau Masnach 1995, a rheoliadau perthnasol, i gynnwys badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol.

2.    Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau hyfforddiant i ddefnyddwyr a galw am godi’r terfyn oedran ar gyfer gyrru badau dŵr hamdden a Badau Dwr Personol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

a)      Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021.

Nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau mai braf oedd cyhoeddi blwyddyn lwyddiannus gyda chynnydd yn nifer ymwelwyr a chwsmeriaid yn adlewyrchu llacio graddol cyfyngiadau covid a rhwystrau teithio tramor.

 

Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

 

Angorfeydd

 

Bod 54 o gychod ar angorfeydd blynyddol yn Harbwr Abermaw yn 2021

 

Materion Staffio

 

Canmolwyd yr holl staff (harbwr a traeth) am eu gwasanaeth yn ystod cyfnod prysur a heriol iawn. Adroddwyd eu bod wedi ymddwyn gydag agwedd rhagweithiol a braf oedd gweld cydweithio da a goruchwyliaeth ddiogel dros yr Haf. Nid oedd cwynion wedi eu derbyn. Ategwyd bod sefyllfa staff yr harbwr wedi cael ei ystyried yn fanwl ac y bwriad oedd bod yr Harbwr Feistr Cynorthwyol a’r Cymhorthydd Harbwr yn cael cynnig secondiad i aros ymlaen gyda bwriad o hysbysebu swydd wag yr Harbwrfeistr yn gynnar yn 2022.

 

Yn dilyn adolygiad diweddar iawn y penderfyniad yw bydd yr Harbwr Feistr Cynorthwyol yn cael dyrchafiad i swydd Harbwr Feistr ar Secondiad hyd at y 30 Fedi 2022 a bod cyfnod cyflogaeth a swydd y Cymhorthydd Harbwr hefyd yn cael ei ymestyn hyd at y 30 Fedi 2022 gyda dyrchafiad ar sail Secondiad.

 

Materion Ariannol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyllid yr Harbwr amlygodd y Swyddog Morwrol y byddai crynodeb bras o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol yn cael ei rannu gyda’r aelodau yn yr wythnosau nesaf. Ategwyd bod gwariant oddeutu £6k pellach i’w wario ar faterion cynnal a chadw, ond bod y lefel incwm eleni wedi cyrraedd y targed. O ran ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer Harbwr Abermaw ynghyd a ffioedd lansio ar gyfer Cychod Pŵer a Cychod Dŵr Personol ar gyfer tymor 2022/23, nodwyd bod y Gwasanaeth yn bwriadu addasu’r ffioedd yn unol â chyfradd chwyddiant. Nodwyd hefyd yr angen i ystyried costau ynni. Nid oedd y Gwasanaeth wedi derbyn cadarnhad o’r cyfraddau y dylid eu gweithredu - awgrymwyd y byddai’r wybodaeth ar gael cyn y Nadolig. Swyddog Morwrol i gylchredeg crynodeb bras o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa ariannol gyfredol gyda’r aelodau

 

Astudiaeth Dichonolrwydd Carthu

 

Adroddwyd y bydd angen carthu cyfaint o 70,000m3 os dymunir cael y dyfnder priodol oddi fewn ardal fychan gyferbyn a cei yr harbwr. Atgoffwyd yr Aelodau bod bid ariannol gyda chefnogaeth Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG) wedi galluogi’r Cyngor i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd gyda £10k ychwanegol i’r £35k ar gyfer cynllun samplo natur y llaid. Adroddwyd y bydd dadansoddiad a chanlyniadau’r cynllun yn pennu’r opsiynau posib gydag adroddiad drafft i’w ryddhau ddiwedd mis Tachwedd. Diolchwyd i Peter Appleton a gwaith FLAG am eu cefnogaeth.  Swyddog Morwrol i gylchredeg yr adroddiad drafft i’r Aelodau. Aelodau i ystyried yr adroddiad drafft a chyflwyno adborth /sylwadau / cwestiynau i’r Swyddog Morwrol gynnig i’r arbenigwyr,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion ar gais yr Aelodau

Cofnod:

Clwb Hwylio  Meirionydd

 

Amlygwyd bod cynrychiolydd y Clwb, Mrs Wendy Ponsford yn gadael yr ardal ac felly bydd angen i’r Clwb hwylio enwebu rhywun yn ei lle. Adroddwyd bod Mrs Ponsford wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor ers blynyddoedd a’i chyfraniad  bob amser yn frwdfrydig a gwerthfawrogol. Dymunwyd y gorau iddi yn ei chartref newydd. Swyddog Morwrol i anfon neges ar ran y Pwyllgor yn diolch i Mrs Wendy Ponsford am ei gwasanaeth.

 

Nododd Mr John Smith y byddai’n adrodd ar weithgareddau’r Clwb hyd nes bydd cynrychiolydd wedi ei gadarnhau yn ffurfiol.

 

Bwîs ar y traethau

 

Adroddwyd nad oedd yn ymarferol gosod bwîs i atal cychod pŵer ddod yn agos i’r traeth gan y byddai’r bwîs eu hunain yn  symud gyda’r llanw ac yn dod at y lan. Nodwyd yn y gorffennol bod hyd at 40 o fwîs wedi eu gosod ond nifer wedi eu colli. Gellid dadleu y byddai modd gosod bwîs cryfach / trymach ond bod angen cwch arbenigol i wneud y gwaith

 

Awgrymwyd wrth i berchnogion gofrestru y gellid eu hannog i gadw oddeutu 100m o’r traeth. Os na fydd cydymffurfiaeth, yna dylid nodi rhif cofrestru a dilyn i fyny.

 

Nofio Awyr agored

 

Bod cynnydd yn y diddordeb o gael adnodd nofio awyr agored yn yr Harbwr - awgrym gan y Clwb Hwylio i greu parth gwahardd cychod dŵr fel bod modd creu ardal i nofio drwy’r flwyddyn. Cynigiwyd cynnal trafodaethau lleol i geisio treialu’r fenter gan bwysleisio petai bwîs yn cael eu defnyddio, byddai rhaid eu gosod heb ragfarn ac y dylai nofwyr gymryd cyfrifoldeb a gwisgo yn addas

 

Motor Cross 2021

 

Adroddwyd bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiannus ond sylw wedi ei wneud am yr amseriad. Swyddog Morwrol i ysgrifennu at y trefnwyr gan awgrymu dyddiad ar gyfer 2022. Y dyddiad i’w gylchredeg gydag Aelodau’r Pwyllgor a Chyngor Tref Abermaw am sylwadau cyn cadarnhau.

 

Tywod ger y compownd

 

Cais i ystyried pris ar gyfer y gwaith - awgrym i gynnal cyfarfod yn lleol i drafod

 

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nodi bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal 22ain Mawrth 2022 

Cofnod:

22 Mawrth 2022.