Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

 

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Ll Evans, Selwyn Griffiths, John Brynmor Hughes a Nia Jeffreys (Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 240 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 269 KB

Cyflwynir:

· Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

· Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru;

· Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1).

 

I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd
  • Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2020/21 (ôl-archwiliad)
  • Cadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn electroneg

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2020/21 (ôl-archwiliad), adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwilio Cymru), cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr yn electroneg.

 

Adroddwyd bod mân addasiadau i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2021 ac amlygwyd y canlynol:

·         Nodyn 15 –  Eiddo, Offer a Chyfarpar – gostyngiad o £2.9 miliwn yng ngwerth yr asedau, yn dilyn cywiriad i ffigyrau gwreiddiol y prisiwr

·         addasiad rhwng cyfrifon yn ymwneud yn bennaf â phrisiad 35 o ysgolion o ganlyniad i broblemau mewnbynnu categorïau technegol angen ei gywiro. Nid oedd yr addasiad wedi effeithio gwerth yr asedau ond yn hytrach wedi golygu gostyngiad o £20.7 miliwn yn y ffigyrau ailbrisio ac yr amhariad.

·         Ychwanegu mwy o fanylion am y prif ymrwymiadau cyfalaf sydd yn cynnwys Ysgol y Faenol, Cymerau, Glancegin ac Uned Dementia Hafod Mawddach.

·         Nodyn 19 - Arian a Chyfwerthoedd arian - newid i driniaeth arian cydbwyllgor GwE, sydd bellach yn cael ei ddangos yng nghyfrifon Gwynedd - hyn wedi arwain at leihau'r gorddrafft banc o £5.96 miliwn a chynyddu’r credydwyr tymor byr yn Nodyn 21 o’r un swm. O ganlyniad, goblygiadau ar y prif ddatganiadau sef y Fantolen, Datganiad symudiad mewn reserfau a’r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr.

·         Ychwanegu ffigyrau i’r naratif mewn nodiadau:

o   Nodyn 28 – Gwasanaethau Asiantaeth – ychwanegu manylion am 2 grant addysg (nid yw’n golygu unrhyw addasiadau i’r ffigyrau yn y cyfrifon). £33.4 miliwn Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol a £20 miliwn Grant Datblygu Disgyblion.

o   Nodyn 39 - Ymrwymiadau Dibynnol (‘Contingent Liabilities’) - dim effaith  ar ffigyrau’r datganiad ond yn hytrach yn cynyddu'r ffigwr sydd wedi ei gynnwys yn y frawddeg o £450k.

 

Cadarnhawyd bod archwiliad cyfrifon Harbyrau Gwynedd wedi ei gwblhau ac nad oedd angen eu hail gyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Gwahoddwyd Derwyn Owen (Archwilio Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Nodwyd bod yr archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo.  Manylwyd ar:-

 

·         Effeithiau Covid-19 ar archwiliad eleni

·         Barn Archwilio Arfaethedig

·         Materion arwyddocaol yn codi o’r archwiliad, gan gynnwys camddatganiadau nas cywirwyd a materion arwyddocaol eraill

·         Argymhellion

 

Diolchwyd i’r Cyfrifwyr am eu cydweithrediad a’u gwaith trylwyr. Derbyniwyd yr angen i wirio gwaith priswyr i’r dyfodol.

 

Llongyfarchwyd yr Adran Cyllid ar y gwaith ac am gyflwyno’r wybodaeth mewn modd dealladwy

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd

·         Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2020/21 (ôl-archwiliad)

·         Cadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn electroneg

 

6.

CYLLIDEB REFENIW 2021/22 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2021 pdf eicon PDF 84 KB

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid y Cynghorydd Ioan Thomas yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau’r Cabinet ar 12 Hydref, 2021 a sylwebu fel bo angen.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

 

·         Bod effaith ariannol sylweddol argyfwng covid yn parhau yn 2021/22 gyda chyfuniad o gostau ychwanegol a cholledion incwm (cyfwerth dros £20 miliwn yn 2020/21) gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.

·         Er llunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer 2021/22 drwy ddileu,  llithro  ac ail broffilio’ cynlluniau arbedion yn Ionawr 2021, bod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai meysydd, gydag oediad o ganlyniad i’r argyfwng yn ffactor amlwg. Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r  Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, tra bod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr

Adran Plant a Theuluoedd. 

·         Bod ceisiadau i adhawlio yn cael eu gwneud yn fisol i Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru

·         Bod y Cabinet wedi derbyn yr holl argymhellion a nodwyd yn adroddiad i’r Cabinet 12-10-21

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Cyllid at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan amlygu’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol.

·         Rhagwelwyd gorwariant o £1.4miliwn yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r gorwariant. Mynegwyd fod covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr adran a bod gwerth £1.3miliwn eisoes wedi ei hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau ychwanegol am y cyfnod.

·         Yn dilyn penderfyniad y Cyngor i ddyrannu £1.8miliwn o arian ychwanegol i’r Adran Plant a Theuluoedd yng nghylch cyllidebu 2021/22 ynghyd â dileu gwerth £1.1miliwn o gynlluniau arbedion, amlygwyd fod y rhagolygon ar hyn o bryd yn addawol iawn i’r adran.

·         Mynegwyd fod problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn parhau yn yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod trafferthion gwireddu arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £673k a bod yr adran wedi wynebu costau ychwanegol yn ymateb i covid. Er hynny, ategwyd bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi digolledu a bod disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn.

·         Yn Gorfforaethol nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynhyrchu treth ychwanegol ac yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod covid yn ymddangos yn cael y bai ar bopeth - a ydym yn edrych ar y darlun yn gywir?  yn hollol sicr bod rheolaeth adrannau ar ben ei gwaith? ac nad yw’r sefyllfa yn gwegian oherwydd gweithio o adre?

·         Beth yw'r risg i’r Llywodraeth wrthod ariannu pellach petai covid yn ymddangos fel esgus o fewn adrannau?

·         Gwynedd yn gyrchfan o drigolion wedi ymddeol ond sydd heb gyfrannu i’r ardal - yn her ddifrifol yn enwedig i gostau Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant?

·         Gorwariant Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Theulueodd ddim yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF 2021/22 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2021 pdf eicon PDF 84 KB

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid y Cynghorydd Ioan Thomas . Prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig (sefyllfa diwedd Awst 2021)

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

 

·         Bod effaith Covid-19 yn parhau ynghyd a chynnydd mewn prisiau nwyddau adeiladu sy’n arwain at diffyg cyflawni rhai cynlluniau - derbyn yr angen i gynnal trafodaethau pellach a blaenoriaethu /oedi rhai prosiectau.

·         Bod dadansoddiad o’r rhaglen gyfalaf o £124.0 miliwn am y tair blynedd nesaf wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

·         Bod y Cabinet wedi derbyn yr holl argymhellion a nodwyd yn adroddiad i’r Cabinet 12-10-21 gan gymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £25.8 miliwn o amryw ffynonellau i ariannu llithriadau o 2020/21 a hefyd y cynnydd o £12.4 miliwn nifer o ffynonellau

 

 

                 Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid

·         Bod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £71.6 miliwn eleni gyda £26.1 miliwn wedi ei ariannu drwy grantiau penodol.

·         Bod argyfwng Covid yn parhau ar y rhaglen Gyfalaf gyda dim ond 16% o’r gyllideb wedi ei wario hyd at ddiwedd Awst, o’i gymharu â 13% dros yr un cyfnod y llynedd a 19% ddwy flynedd yn ôl.

·         Bod £9.1m o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2021/22 i 2022/23 a 2023/24 ac amlygwyd y prif gynlluniau a oedd yn cynnwys Ysgolion Ganrif 21, Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol a Chynlluniau Rheoli Carbon y Cyngor

 

Tynnwyd sylw at restr grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi eu denu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys grant o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, Grant Targedu Buddsoddiad i gynllun Nyth ym Mangor a Grantiau Llywodraeth Cymru i’r Maes Gofal Plant.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Bod yr adrannau yn amlwg yn chwilio am bob cymorth ariannol posib

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â risg o golli grant Ewrop yng nghyd-destun Ffordd Osgoi Llanbedr nodwyd bod cais cynllunio yn ei le ar gyfer y prosiect gydag arian wedi ei ymrwymo ar ei gyfer. Ategwyd bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i’r mater ac yn ail adolygu’r agenda fel bo modd gwarchod arian Ewrop - bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn yr wythnosau nesaf.

 

Mewn ymateb i sylw nad oes gwelliant amlwg yng  ngwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus er yn derbyn grantiau, nodwyd bod y grantiau yn daladwy ar gyfer datblygu isadeiledd ac nid ar gyfer y gwasanaeth yn uniongyrchol

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor



8.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 83 KB

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau cyffredinol sy’n deillio o’r llithriadau, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau’r Cabinet ar 12 Hydref, 2021 a sylwebu fel bo angen.

 

Eglurodd bod adrannau wedi canolbwyntio ac ymateb i argyfwng covid ers Ebrill 2020  gan flaenoriaethu diogelwch trigolion Gwynedd - hyn felly wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Cyllid:

·         Ers 2015/16 fod gwerth £35m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu rhwng 2015/16 – 2021/22. Nodwyd bellach fod dros £32.7miliwn o arbedion wedi ei gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod.

·         Ym mis Ionawr eleni, adolygwyd y cynlluniau arbedion i asesu pa gynlluniau hanesyddol oedd bellach yn anghyraeddadwy, a lluniwyd rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 yn dilyn cymryd camau i ddileu, llithro ac ail broffilio’r cynlluniau arbedion.

·         O gynlluniau arbedion 2021/22 fod 42% eisoes wedi ei gwireddu gyda 22% bellach ar drac i gyflawni’n amserol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

·         Bod gwireddu gwerth £32.7m o arbedion ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol. Mynegwyd, er bod oediad ar rai cynlluniau arbedion gwerth £1m eu bod yn symud yn eu blaen ond bod angen trafod risgiau i gyflawni gwerth £0.9m o gynlluniau.

 

Adroddwyd bod y Cabinet wedi derbyn yr holl argymhellion ynghyd a’r wybodaeth am y cynnydd i wireddu cynlluniau arbedion 2021/22, 2020/21 a blynyddoedd blaenorol (gan nodi fod effaith Covid wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion). Ategwyd, gyda’r Cyngor wedi blaenoriaethu ymateb i’r argyfwng, ni fu modd parhau gyda’r trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros ran o gyfnod yr argyfwng.

 

Fel ymateb i gais gan y Cabinet i gynnal adolygiad ar y cynlluniau arbedion sydd heb eu gwireddu ynghyd a sicrhau fod modd cyflawni  cynlluniau i’r dyfodol neu/a chwilio am gynlluniau amgen, nodwyd bod trafodaethau gyda’r adrannau bellach wedi eu trefnu.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelod:

·         Bod yr adroddiad yn galonogol er bod rhai meysydd gwan

·         Bod yr arbedion yn ganran fach iawn o gyllideb yr adrannau - awgrym i gynnwys gwybodaeth cyllideb v % arbedion i’r dyfodol

 

                PENDERFYNIAD:

·         Derbyn yr adroddiad

·         Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion

 

9.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 508 KB

Derbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2021 hyd 30 Medi 2021. Amlygwyd bod 10 o archwiliadau’r cynllun wedi eu cwblhau ynghyd a 4 oedd wedi llithro o gynllun 2020/21.

 

Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro - nid oedd unrhyw fater yn codi

 

               Diolchwyd am yr adroddiad

 

               PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

10.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2021/22 pdf eicon PDF 522 KB

Derbyn diweddariad ar y cynnydd yn erbyn cynllun archwilio mewnol 2021/22

 

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn cynllun archwilio 2021/22

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22. Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd bod 18.87%, allan o’r 53 archwiliad unigol sydd yn y cynllun, bod 10 wedi ei ryddhau yn derfynol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnal ymchwiliadau o dan ganllawiau covid, nodwyd nad  oedd modd i’r gwasanaeth gynnal ymweliadau cartrefi preswyl , ysgolion ayyb ac mai anodd yw derbyn dogfennau sydd ddim ar ffurf electroneg - hyn yn rhwystr os yn archwiliad hanesyddol. Ategwyd nad oedd defnyddio Teams yn ffordd effeithiol o holi unigolion os yw’r mater yn un cynhennus neu sensitif.

 

Diolchodd y Pennaeth Cyllid i’r Rheolwr Archwilio am ei gwaith gan amlygu bod staff y Gwasanaeth Archwilio hefyd yn cynorthwyo / trosglwyddo i adrannau eraill

 

  PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn cynllun archwilio 2021/22

 

11.

TROSOLWG O'R PROSIECT PRENTISIAETHAU pdf eicon PDF 290 KB

Cyflwyno trosolwg o’r Prosiect Prentisiaethau gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau

Gwahoddir y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i ystyried y wybodaeth a  gyflwynir

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cais am ddiweddariad o’r gwaith Prentisiaethau ar y Cyd gyda chwmnïau a chontractwyr lleol wedi iddo ddatblygu

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn cyflwyno trosolwg o’r Prosiect Prentisiaethau gan amlygu llwyddiannau , sialensiau a datblygiadau i’r dyfodol. Atgoffwyd yr Aelodau  bod y Cabinet (22/01/19) wedi ymrwymo i wariant o £300,00 o Gronfa Cynllun y Cyngor i sefydlu  Cynllun Prentisiaethau i gyflogi hyd at 20 prentis newydd yn 2019. Adroddwyd bod y cynllun bellach wedi ei gynnwys fel maes blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor 2018 -2023 gyda sgôp prosiect y Cynllun Prentisiaethau wedi ei ehangu a’i ail-enwi yn Cynllunio’r Gweithlu.

 

Ers dechrau’r cynllun yn 2019, mae 30 wedi eu recriwtio gyda 10 o brentisiaethau 2019/20 wedi derbyn swydd yn y Cyngor. Ategwyd bod bwriad i  hysbysebu 7 swydd arall erbyn diwedd y flwyddyn gan ddod ar cyfanswm i 37. Yng nghyfarfod y Cabinet Mai 2021, cymeradwywyd cais am £600,00 ychwanegol dros dair blynedd gan anelu i gynnig o leiaf 20 prentisiaeth y flwyddyn dros gyfnod yr ariannu. Bydd hyn yn caniatáu darparu cefnogaeth a’r weinyddiaeth angenrheidiol ar gyfer y cynllun ynghyd a datblygu’r cynllun i weithio mwy gyda busnesau bach, contractwyr lleol a mentrau cymdeithasol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Llongyfarchwyd yr adran ar y gwaith ac o yrru cynllun llwyddiannus yn ei flaen

·         Bod y maes yn un cyffrous gyda datblygiadau diddorol i’r dyfodol

·         Cais am wybodaeth yn amlygu'r rhai sydd wedi gadael i weithio mewn sefydliadau eraill - hyn hefyd yn dangos gwerth i’r cynllun

 

  Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae’r cynllun yn sicrhau bod prentis newydd yn teimlo fel rhan o dîm /adran oherwydd gofynion gweithio o adre, nodwyd bod cefnogaeth ddwys wythnosol ar gyfer yr unigolyn gan y Tîm Dysgu a Datblygu ynghyd a chefnogaeth gan Reolwyr yr adrannau perthnasol i sicrhau nad yw’r prentis yn teimlo’n ymylol.

 

  Mewn ymateb i sylw bod argyfwng staff proffesiynol mewn dwy adran o’r Cyngor ac nad oedd cynlluniau prentis wedi eu cynnwys ar gyfer yr adrannau hyn, nodwyd nad oedd cynlluniau hyfforddiant a chymwysterau proffesiynol ar gael ar gyfer pob maes prentisiaethol, ond bod y Cynllun Rheolwyr ac Arbenigwyr Yfory yn cyfarch y maes cyfreithiol a'r maes eiddo. Ategwyd bod trafodaethau yn parhau ynglŷn â ‘llenwi bylchau’ yn y meysydd yma i’r dyfodol.

 

  Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a dulliau rhannu gwybodaeth a’r broses recriwtio, nodwyd bod canran helaeth o’r gwaith hysbysebu yn cael ei wneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol, Gyrfa Cymru, Ysgolion a Cholegau. Ategwyd bod cofnod o’r unigolion hynny sydd wedi dangos diddordeb yn cael ei gadw ar restr sydd gydag oddeutu 500 enw – bydd rhain yn derbyn gwybodaeth fel mae cyfleoedd yn codi

 

  Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phrinder gofalwyr ac a oes modd denu gofalwyr drwy’r cynllun prentisiaethau, nodwyd  bod nifer uchel yn dangos diddordeb yn y maes gofal. Ategwyd bod y broses penodi yn cael ei gwneud ar y cyd rhwng tîm canolog a rheolwyr gwasanaeth.

 

  Mewn ymateb i sylw ynglŷn â datblygu prentisiaethau ar y cyd gyda chwmnïau preifat, nodwyd yr angen i sicrhau sylfaen gadarn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

CADW'R BUDD YN LLEOL pdf eicon PDF 287 KB

Cyflwyno adroddiad yn dilyn cais y Pwyllgor Archwilio i dderbyn diweddariad ar gynnydd un o’r prosiectau blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor sef Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol.

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed yn y prosiect sy’n cael ei gydnabod fel un o brosiectau blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor
  • Cais am ddiweddariad wrth i’r ffrwd gwaith Caffael Arloesol - Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol dderbyn mwy o gytundebau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn rhoi diweddariad ar gynnydd prosiect blaenoriaeth Cynllun Y Cyngor sef Cadw’r Budd yn Lleol sydd yn ceisio sicrhau bod busnesau lleol yn gallu cystadlu ac ennill cytundebau fel bod cymaint o wariant y Cyngor yn aros yng Ngwynedd er budd yr economi leol. Amlygwyd bod heriau megis Brexit a deddfau perthnasol yn cyfyngu rhai agweddau o’r broses caffael ond bod y Cyngor yn ceisio gwneud pob dim posib er mwyn cynyddu’r gyfradd cadw’r budd yn lleol.

 

Amlygwyd mai un dull gwaith newydd sydd yn cael ei dreialu yng Ngwynedd yw caffael arloesol. Nod y dull yw cyflwyno methodoleg asesu tendrau newydd fydd yn galluogi cynnwys cymal Buddiant Cymdeithasol i Wynedd fel sail i asesu’r tendrau. Y bwriad yw y bydd yr elfen buddiant cymdeithasol yn golygu bod gan gwmnïau lleol cyfle i arddangos eu cyfraniad i’r economi leol o dderbyn cytundeb gan y Cyngor. Nodwyd mai un cytundeb sydd wedi ei osod hyd yma o ddefnyddio’r fethodoleg a hynny oherwydd gwrthdaro rhwng yr awydd o gadw’r budd yn lleol a gofynion y Ddeddf Caffael. Er hynny, ystyriwyd bod yr un cytundeb yma yn dangos potential o ddefnydd y fethedoleg ac y byddai modd cyflwyno diweddariad i’r pwyllgor fel y bydd mwy o gytundebau yn cael eu gosod.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Llongyfarchwyd yr adran ar y cynllun

·         Caffael arloesol i’w groesawu - y prosiect yn debygol o gefnogi elusennau gyda nifer o gwmnïau yn barod i gynnig buddiannau lleol

·         Y prosiect yn gosod strwythur a rhoi hwbi  fentrau lleol

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sicrhau gwaith / cytundebau lleol / defnydd deunyddiau lleol i gyflawni gweledigaeth yr Adran Tai ac Eiddo i ddarparu  1,500 o gartrefi fforddiadwy i bobl Gwynedd dros y chwe blynedd nesaf, nodwyd bod cyfleoedd aruthrol o ganlyniad i’r Cynllun Tai a bod Tîm Categori yr Adran yn cydweithio gyda’r Uned Caffael i sicrhau bod pob elfen yn rhan o’r cytundebau. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â defnyddio cynhyrchwyr lleol, nodwyd bod modd edrych ar yr ôl troed carbon, yr iaith Gymraeg a diweithdra ar gyfer yr elfen yma, ond yn sicr yn amlygu’r math o botensial sydd angen i’w gryfhau i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed yn y prosiect sy’n cael ei gydnabod fel un o brosiectau blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor

·         Cais am ddiweddariad wrth i’r ffrwd gwaith Caffael Arloesol - Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol dderbyn mwy o gytundebau

 

13.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 116 KB

Sicrhau bod y Pwyllgor Archwilio yn fodlon bod y camau gweithredu grëwyd mewn ymateb i argymhellion adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Derbyn bod angen trefniadau a phrosesau llywodraethu priodol o fewn y Cyngor i sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu
  • Sicrhau bod y mater yn cael sylw gan y Pwyllgorau a’r Swyddogion Craffu

 

Cofnod:

                 Croesawyd Alan Hughes (AH), Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr eitem yn un i’w ystyried fel rôl llywodraethu ac nid fel rôl craffu gyda chais i’r Pwyllgor fod yn fodlon bod trefniadau priodol yn ei lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o archwiliadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu.

 

Nodwyd bod y gwaith o ymateb i'r rhan fwyaf o gynigion gwella yn waith parhaus a bod y Grŵp Llywodraethu sydd yn cael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr yn rhoi sylw i’r cynigion gwella ac i’r cynnydd o’r argymhellion. Adroddodd AH bod Archwilio Cymru bellach yn cyflwyno adroddiadau chwarterol fel modd o grynhoi’r archwiliadau sydd ar waith yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw bod amryw o’r casgliadau yn nodi ‘gwell defnydd o ddata’ a bod hyn i raddau yn fater cyffredinol, nodwyd bod Ffordd Gwynedd yn rhan bwysig o’r gwaith  a bod camau i wella defnydd data dros y 18 mis diwethaf wedi eu gweithredu e.e., drwy sefydlu dashfyrddau. Derbyniwyd bod angen datblygu’r gwaith a gwneud gwell defnydd o’r data gan ei gasglu a’i ddehongli i sicrhau gwybodaeth gadarn. Ategwyd bod y Grŵp Llywodraethu yn cadw trosolwg rheolaidd ar waith yr adrannau

 

Derbyniwyd y sylw y dylai Penaethiaid weithredu ar y sylwadau a bod yr adroddiad yn derbyn sylw gan y Pwyllgorau Craffu perthnasol a’r swyddogion Craffu

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Derbyn bod angen trefniadau a phrosesau llywodraethu priodol o fewn y Cyngor i sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu

·         Sicrhau bod y mater yn cael sylw gan y Pwyllgorau a’r Swyddogion Craffu