skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones  yn eitem 5.4 (C21/0617/16/LL) a 5.5 (C21/0648/11/LL) ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Peter Read (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen (C19/1215/40/EIA)

·         Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (C20/0981/09/LL)

·         Y Cynhgorydd Dafydd Owen (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen (C21/0617/16/LL)

·         Y Cynghorydd Gareth A Roberts (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) yn eitem 5.5 ar y rhaglen (C21/0648/11/LL)

·         Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) yn eitem 5.6 ar y rhaglen (C19/1194/18/LL)

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 274 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 4ydd Hydref 2021 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 4ydd o Hydref 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C19/1215/40/EIA Parc Gwyliau Hafan Y Mor, Pwllheli, LL53 6HX pdf eicon PDF 673 KB

Prif gynllun arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio, mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau:

 

  1. Amserlenni
  2. Yn unol â'r cynlluniau, y dogfennau a'r Datganiad Amgylcheddol a gymeradwywyd.
  3. Deunyddiau.
  4. Draenio
  5. Amseroedd adeiladu.
  6. Tirlunio a chwblhau'r cynigion lliniaru.
  7. Gwarchod coed.
  8. Ymchwiliad archeolegol ym mharseli G a J.
  9. Mesurau lliniaru'r iaith Gymraeg - hysbysebu'r safle, enwau'r datblygiad, arwyddion mewnol.
  10. Parhau i fonitro ymlusgiaid.
  11. Y llwybr arfordir i gael ei wyro yn unol â'r llwybr a ddengys dros gyfnod y gwaith morglawdd ac iddo gael ei adfer ar ôl i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau.
  12. Gosod trapiau saim ar y draeniau dŵr aflan yn y caffi.
  13. Cyflwyno CEMP
  14. Cyflwyno cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer safleoedd gwarchodedig (cynefinoedd)
  15. Defnydd gwyliau yn unig ar y safle, cadw cofrestr, llety ddim i'w ddefnyddio fel llety preswyl parhaol.
  16. Amodau datblygu graddol.
  17. Nifer yr unedau (75 carafán deithiol, 1,323 carafán sefydlog)

 

Er gwybodaeth:  SuDS, cyngor safonol CNC i'r datblygwr.

 

 

Cofnod:

Prif gynllun arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio, mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle (20/10/21)

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais. Gohiriwyd y penderfyniad ym mhwyllgor 4ydd Hydref 2021 er mwyn cynnal ymweliad safle. Eglurwyd bod y cais yn ceisio caniatâd llawn i ddymchwel 56 rhandy, creu seiliau newydd i leoli carafanau sefydlog, llety newydd i'r tîm, caffi traeth newydd gyda theras ac ardal chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, mân ail-alinio i Lwybr Arfordir Cymru yn ogystal â gwaith tirlunio cysylltiedig, draenio, mynediad a seilwaith ym Mharc Gwyliau presennol Hafan y Môr. 

 

b)    Rhannwyd y datblygiad yn barseli:

·      Parsel B - Lleoli 27 o garafanau sefydlog.

·      Parsel E - Lleoli 3 carafán sefydlog a chodi dau adeilad deulawr i ddarparu llety i staff.

·      Parsel F - Dymchwel 4 bloc rhandai (56 rhandy / 272 gofod i ymwelwyr) a lleoli 26 o garafanau sefydlog.

·      Parsel G - Lleoli 80 o garafanau sefydlog.

·      Parsel H - Ailddatblygu cyn safle gwaith trin carthion a chodi caffi unllawr gyda theras yn y blaen a maes parcio

·      Parsel I - Lleoli 18 o garafanau sefydlog.

·      Parsel J - Gwaith amddiffyn yr arfordir sy'n cynnwys gwaith ar 320m o'r arfordir. Mae’r bwriad yn golygu ail-linio'r arfordir i gyfeiriad y tir i greu traethau tywod a graean rhwng pedwar morglawdd cerrig amddiffyn ar siâp cynffon pysgodyn.  Bydd oddeutu 120m o'r gwaith yn cymryd lle'r amddiffynfeydd carreg linellol bresennol. Bydd Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn cael ei ail-alinio.

 

Trafodwyd y cynlluniau ac amlygwyd y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd mewn ymateb i ail ymgynghori gydag asiantaethau perthnasol. Ystyriwyd bod egwyddor prif agweddau'r datblygiad, oedd yn cynnwys gwaith ar forgloddiau, gosod carafanau sefydlog ychwanegol, darparu llety ychwanegol i staff ac adeiladu caffi, yn parhau yn dderbyniol wedi ystyried yr holl faterion cynllunio, gan gynnwys y polisïau a'r canllawiau lleol a chenedlaethol.

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei fod yn cefnogi’r cais

·         Bod Hafan y Môr yn cynnig cyflogaeth leol - 96% o weithwyr yn lleol (bod canran o weithwyr (oddeutu 4%) o du allan i’r Sir, yn rhan o’r adloniant). Bod Rheolwyr yn derbyn cyflogau cystadleuol a’r gweithwyr tymhorol yn derbyn cyflogau uwch na’r cyflog isaf (minimum wage)

·         Bwriad  y cwmni oedd datblygu a moderneiddio’r safle

·         Bod y gwaith amddiffynfeydd arfordirol i’w groesawu

·         Bydd contractwyr lleol yn cael eu defnyddio i wneud y gwaith - rhai eisoes wedi cysylltu yn pryderu petai’r cais yn cael ei wrthod y byddent yn gorfod rhyddhau gweithwyr

·         Bod 14,000 yn llai o bobl yn defnyddio’r Parc o gymharu â defnydd y Parc yn ei anterth yn y 90au

·         Bod 26 acer o goed wedi eu plannu – rhain erbyn hyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C20/0981/09/LL Tir ger Glan Y Mor Marine Parade, Tywyn , LL36 0DJ pdf eicon PDF 385 KB

Cais i ddileu 3 annedd fforddiadwy a 2 annedd marchnad agored ac adeiladu 4 annedd fforddiadwy a 5 tŷ marchnad agored i ddarparu cynnydd o 4 annedd mewn perthynas gyda caniatâd C06M/0069/09/LL.

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Anne Lloyd Jones a’r Cynghorydd Mike Stevens

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu yn ddarostyngedig i amodau

 

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Llechi naturiol.
  4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.
  5.  Amodau Priffyrdd.
  6. Tirlunio meddal a chaled.
  7. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.
  8. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E.
  9. Cyflwyno manylion i’w gytuno ar gyfer gwaredu carthffosiaeth a dŵr wyneb o’r safle.
  10. Amod i sicrhau arwyddion ac enwau Cymraeg i’r tai.

 

Nodiadau Dwr Cymru, Priffyrdd, SUDS

 

Cofnod:

Cais i ddileu 3 annedd fforddiadwy a 2 annedd marchnad agored ac adeiladu 4 annedd fforddiadwy a 5 ty marchnad agored i ddarparu cynnydd o 4 annedd mewn perthynas gyda caniatad C06M/0069/09/LL.

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn ymwneud ac adeiladu 4 annedd fforddiadwy a 5 marchnad agored yn lle 3 annedd fforddiadwy a 2 annedd marchnad agored a ganiatawyd yn flaenorol o dan ganiatâd rhif C06M/0069/09/LL. Byddai’r bwriad yn cynnwys rhes o 4 teras, rhes o 3 teras a 2 par: yr unedau fforddiadwy yn 3 teras 2 ystafell wely ac 1 teras 3 ystafell wely; y rhai marchnad agored yn 3 teras 3 ystafell wely a 2 par 3 ystafell wely.  Ategywd bod y tai i gyd yn yn rhai deulawr gyda tho llechi ac waliau allanol o fric.  

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y cais yn ymwneud â 5 neu fwy o dai

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac yn ffurfio rhan o safle ehangach sydd wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiad tai yn y CDLL ac oddi fewn i Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Dysynni.  Ceir tai annedd o amgylch y safle. 

Bydd mynediad i’r safle oddiar Ffordd Warwig sy’n ffordd ddi-ddosbarth. 

 

Eglurwyd nad oedd yn hollol eglur os byddai cymdeithas tai yn cymryd yr unedau fforddiadwy a gynigiwyd fel rhan o’r cais.  Nodwyd bod trafodaethau gyda Grŵp Cynefin yn cael eu cynnal a’u bod y safle wedi ei drafod gydag Uned Strategol Tai y Cyngor gyda disgwyliad gan benderfyniad Bwrdd Cynefin i symud ymlaen - nid oedd  dim byd ffurfiol fodd bynnag wedi ei gytuno hyd yma. 

 

Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Tywyn ac wedi ei ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDLL ystyriwyd fod y bwriad yn un derbyniol i’w ganiatáu yn ddarostyngedig i gynnwys amodau priodol fydd yn cynnwys amod i gytuno cynllun i ddarparu’r tai fforddiadwy.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Ei bod yn hapus gyda’r argymhelliad

·         Bod gwir alw ac angen am dai yn Tywyn

 

c)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatau’r cais

 

ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod safleoedd adeiladu addas ar gyfer tai fforddiadwy yn brin yn Tywyn

·         Y cais i’w groesawu

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais

 

Amodau:

 

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.            Llechi naturiol.

4.            Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.            Amodau Priffyrdd.

6.            Tirlunio meddal a chaled.

7.            Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy.

8.            Tynnu hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E.

9.            Cyflwyno manylion i’w gytuno ar gyfer gwaredu carthffosiaeth a dŵr wyneb o’r safle.

10.          Amod i sicrhau arwyddion ac enwau Cymraeg i’r tai.

 

Nodiadau Dwr Cymru, Priffyrdd, SUDS

 

8.

Cais Rhif C21/0163/40/LL Tir ger Pont Bodfel, Lon Boduan, Efailnewydd, Pwllheli, LL53 6DW pdf eicon PDF 447 KB

Adeiladu pont newydd, ail-alinio'r A497 a'r dynesiadau ynghyd a gwelliannau i gyffordd bresennol, torri coed a thirlunio newydd

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig  i amodau

 

  1. Amser
  2. Unol a’r cynlluniau
  3. Bioamrywiaeth
  4. Priffyrdd
  5. Cytuno deunyddiau
  6. Archeoleg
  7. Cyflwyno Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol
  8. Tirlunio/Coed
  9. Materion llifogydd

 

Cofnod:

Adeiladu pont newydd, ail-alinio'r A497 a'r dynesiadau ynghyd a gwelliannau i gyffordd bresennol, torri coed a thirlunio eewydd

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn i adeiladu pont gerbydol newydd ac ail linio priffordd yr A497 oherwydd i’r bont wreiddiol ddioddef difrod strwythurol yn Ionawr 2019. Eglurwyd bod yr A497 yn un o’r prif lwybrau rhwng trefi Pwllheli a Nefyn gyda’r bont bresennol yn strwythur rhestredig gradd II ac yn sefyll dros afon Rhyd Hir. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i Ardal Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli gyda safle bywyd gwyllt Gefail y Bont yn ymylu gydag ochr gogleddol y bont bresennol. Ategwyd bod yr ardal i’r de o’r bont, ble lleolir y bont newydd, o fewn dynodiad Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn.

 

Eglurwyd y byddai’r cynllun arfaethedig yn mesur oddeutu 600m o hyd, gan gynnwys cysylltiadau i'r ffordd gerbydau presennol ar y ddwy ochr. Bydd y bont arfaethedig yn fwa concrid wedi ei chladio â gwaith maen lleol. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais ac adroddwyd bod yr elfen llifogydd wedi cael sylw sylweddol

 

Nodwyd bod yr ardal o fewn parth llifogydd C2 ar  fapiau llifogydd cyfredol ac yn nogfen Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd (2004). I’r perwyl hyn, cyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd. Amlygwyd pryder gan Cyfoeth Naturiol Cymru nad oedd yr asesiad wedi arddangos sut y byddai’r risgiau a chanlyniadau hynny yn cael eu rheoli. O ganlyniad, cyflwynwyd asesiad diwygiedig er mwyn dangos y glir y mesurau rheoli’r risg llifogydd. Canfuwyd y byddai peth newid yn nyfnder llifogydd oherwydd natur y tir, ond nodwyd mai newid dibwys fyddai hyn mewn gwirionedd hyd yn oed yn ystod cyfnod eithafol. Awgrymwyd y byddai’r newid mwyaf rhwng y ddwy bont pan fydd disgwyl i ddŵr llifogydd godi’r llethr o boptu’r bont. Ategwyd bod bwriad prynu’r tir yma fel rhan o drefniadau adeiladu’r bont newydd.

 

Wedi ystyried yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd diwygiedig yn ogystal â'r wybodaeth berthnasol ychwanegol a gyflwynwyd, arddangoswyd yn ddigonol na fyddai’r datblygiad yn achosi unrhyw gynnydd mewn risg i fywyd nac unrhyw risg arwyddocaol i eiddo. Nid oedd gan CNC wrthwynebiad i’r cynllun diwygiedig ac felly, ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio â NCT 15 a pholisi ISA 1 o'r CDLl ar y Cyd.

 

O ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol ynghyd a’r holl sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ag yn unol â’r polisïau perthnasol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y datblygiad i’w groesawu

·         Ardal y bont yn beryglus

·         Gobaith cael y bont newydd wedi ei chwblhau erbyn Eisteddfod Dwyfor 2023

 

ch)  Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai’r bont yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C21/0617/16/LL Tir ger Cae Gors, Tregarth, Bangor, LL57 4NE pdf eicon PDF 392 KB

Codi 12 tŷ fforddiadwy, mynedfa newydd ynghyd a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau Cytundeb Cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth llecynnau agored ac i’r amodau isod:-

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Llechi naturiol.
  4. Amodau priffyrdd.
  5. Cynllun plannu coed.
  6. Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth i gynnwys cydymffurfio gyda gofynion yr asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; darparu Cynllun Atal Llygredd; sicrhau bod y safle yn athraidd i ddraenogod a chyflwyno cynllun gwelliannau bioamrywiaeth
  7. Cyfyngu oriau gweithio rhwng 08:00-18:00 Dydd Llun - Dydd Gwener, 08:00-13:00 Dydd Sadwrn a dim o gwbl ar Ddydd Sul a Gŵyl Banc.
  8.  Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ag arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.
  9. Tynnu hawliau datblygu o’r tai fforddiadwy.
  10. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r tai fforddiadwy.
  11.  Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol i gynnwys sŵn, dirgryniad a llwch.
  12. Sicrhau cydymffurfiaeth a Rhif Prydeinig BS 5837:2012.
  13. Amod cyflwyno cynllun draenio dŵr aflan o’r datblygiad.
  14. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai a’r tirlunio caled a meddal.

 

Nodyn: hysbysu’r ymgeisydd o’r angen i gyflwyno cynllun strategaeth draenio gynaliadwy i’w gymeradwyo gan Uned Dwr ac Amgylchedd y Cyngor.

 

Nodyn: cyngor i’r ymgeisydd ystyried llechi lleol

 

Cofnod:

Codi 12 tŷ fforddiadwy, mynedfa newydd ynghyd a gwaith cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais ar gyfer codi 12 tŷ fforddiadwy deulawr ar safle sydd a’i ran helaelth wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Pentref Lleol Tregarth. Roedd y cais yn cynnwys yr elfennau canlynol: -

 

·         Darparu 12 tŷ fforddiadwy ar ffurf: (i) 4 tŷ x 2 ystafell wely 4 person (rhent cymdeithasol); (ii) 4 tŷ x 3 ystafell wely 5 person (rhent cymdeithasol); 1 tŷ x 2 ystafell wely 4 person (rhent canolradd) a 3 tŷ x 3 ystafell wely 5 person (rhent canolradd).

·         Cau’r fynedfa bresennol oddi ar y ffordd sirol dosbarth III (Tal Cae) a chreu mynedfa newydd ymhellach i’r dwyrain.

·         Creu llwybr troed yn nhu blaen y safle a fydd yn cysylltu â’r llwybr troed presennol i’r gorllewin.

·         Lledu’r ffordd gyfochrog i 5.5m i gyfarfod a gofynion mabwysiedig y Cyngor.

·         Gwyro’r cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle i ymylon gorllewinol y safle.

·         Creu coridorau ecolegol.

·         Llecynnau parcio o fewn cwrtil y tai arfaethedig.

·         Codi ffensys o amrywiol dyluniad, uchder a deunydd. 

·          Codi siediau domestig o fewn y gerddi cefn ynghyd a llecynnau storio biniau.

 

Adroddwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle arbennig hwn wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 4, TAI 15 a PS 5 o’r CDLL. Amlygwyd bod polisi TAI 4 y cefnogi tai newydd mewn pentrefi lleol i gwrdd â strategaeth y CDLL drwy ddyraniadau tai a safleoedd addas heb eu dyrannu o fewn y ffin datblygu ar sail y ddarpariaeth ddangosol o fewn y Polisi ei hun. O gnalynaid, bydd y bwriad yn golygu bydd Tregarth yn mynd y tu hwnt i’w lefel twf dangosol ,ond y gellid cefnogi cymeradwyo’r safle hwn yn erbyn darpariaeth gyffredinol (yn seiliedig ar y gyfradd gwblhau hyd yma) o fewn y categori Pentrefi, Clystyrau & Chefn Gwlad agored..

 

Nodwyd bod Polisi TAI 15 yn ceisio darpariaeth briodol o dai fforddiadwy a gyda’r datblygiad arfaethedig yn cynnig cynnydd o 12 fforddiadwy, golygai hyn fod y bwriad yn cyd-fynd â gofynion canran o unedau fforddiadwy o fewn y Polisi. Nodir Polisi PS5 y cefnogir datblygiadau ble gellid dangos ei bod yn gyson ag egwyddorion datblygu cynaliadwy gan gynnwys safleoedd addas oddi fewn i ffiniau datblygu ac y byddai’r elfen o ddatblygu cynaliadwy a hygyrchedd y safle yn un o’r brîf ystyriaethau wrth ddewis safleoedd ar gyfer codi tai o fewn y CDLL gan yr Arolygwr Cynllunio. Gan ystyried bod yr holl dai yn rhai fforddiadwy (yn hytrach na’r 20% sydd angen ei ddarparu) ystyriwyd fod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Yng nghyd-destun materion tai fforddiadwy a chymysgedd tai, cyflwynwyd Datganiad Tai Fforddiadwy gan Adra ynghyd a Datganiad Cymysgedd Tai yn unol â gofynion Polisi TAI8 a TAI15 o’r CDLL ynghyd a’r CCA: Cymysgedd Tai a Tai Fforddiadwy. Ymddengys bod tystiolaeth gadarn ar gael parthed yr angen am dai fforddiadwy ac mai’r angen mwyaf yn ardal Tregarth oedd am unedau 2  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C21/0648/11/LL Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, LL57 2BX pdf eicon PDF 389 KB

Dymchwel adeilad swyddfeydd presennol a chodi 39 fflatiau byw preswyl ar gyfer oedolion hyn 55+ oed ynghyd a gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth A Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Cydymffurfio a’r cynllun parcio.
  4. Cydymffurfio a’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
  5. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth.
  6. Cydymffurfiaeth gydag argymhellion yr Adroddiad Arolwg Ystlumod a’r Asesiad Rhagarweiniol Ecolegol.
  7. Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
  8. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Gwener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
  9. Amod cydymffurfio gyda’r Cynllun Golau a gyflwynwyd gyda’r cais. 
  10. Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno gyda’r ACLL.
  11. Cyfyngu’r defnydd i ddarpar ddeiliaid 55+ oed.

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

Cofnod:

Dymchwel adeilad swyddfeydd presennol a chodi 39 fflatiau byw preswyl ar gyfer oedolion hyn 55+ oed ynghyd a gwaith cysylltiedig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd  ar gyfer dymchwel adeilad presennol (swyddfeydd segur a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru) a chodi adeilad newydd fyddai’n darparu 39 o fflatiau preswyl i bobl dros 55 oed. Roedd y cais yn cynnwys yr elfennau canlynol: -

 

·         Darparu 39 fflat sy’n cynnwys 18 fflat un llofft a 21 fflat dwy lofft a chynigir pob fflat fel uned fforddiadwy.

·         Darparu 31 llecyn parcio gyda 6 ohonynt yn llecynnau anabl a 6 ohonynt yn cael eu gwasanaethu gan bwyntiau gwefru cerbydau trydan.

·         Defnyddio’r fynedfa bresennol oddi ar Ffordd Penrhos trwy Llys Adda fel y trefniant presennol. Lleolir y mannau parcio i’r de ac i’r gorllewin o fewn safle’r cais.

·         Codi adeilad sy’n amrywio o 3 llawr yn y gogledd (yn wynebu Ffordd Penrhos) i 4 llawr yn y de gan ystyried rhedfa’r tir oddi fewn y safle ei hun. Gosodir yr adeilad newydd ar ffurf sy’n adlewyrchu’r llythyren “I” gydag edrychiadau allanol wedi eu torri i fyny drwy ddefnyddio agoriadau niferus ac amrywiol (rhai gyda balconïau math Juliet), deunyddiau amrywiol (e.e. gwaith bric glan, rendr wedi ei baentio, ffenestri a drysau lliw llwyd paneli sy’n adlewyrchu gwaith coedyn fertigol a system to las-llechi) ynghyd a waliau cilannog eu ffurf.

·         Tirlunio i gynnwys tirlunio meddal gyda nifer o’r coed presennol yn cael eu cadw ynghyd a gwaith plannu ychwanegol i liniaru colli rhai o’r coed, cloddiau/gwyros, prysglwyn ynghyd a thirlunio caled i gynnwys llwybrau troed a nodwedd bensaernïol ar ffurf ffynnon dwr sffêr ger y brif fynedfa.

·         Llecynnau amwynder cymunedol o amgylch yr adeilad gan fod yr adeilad ei hun wedi ei leoli mwy neu lai yng nghanol y safle.

·         Gosod paneli solar ar y to.

 

Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Bangor fel y’i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017(CDLL) ond nad oedd dynodiad defnydd penodol ar ei gyfer. Amlygwyd  bod y safle wedi ei gynnwys o fewn Gorchymyn Gwarchod Coed cyf. 3/TPO/A85 sydd hefyd yn cynnwys Stad Llys Adda i’r de o safle’r cais.

 

Amlygwyd bod nifer helaeth o ddogfennau wedi eu cyflwyno i gefnogi’r cais.

 

Eglurwyd bod yr egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei selio ym Mholisi PCYFF1, TAI1, TAI15, PS5 a PS17 o’r CDLL. Adnabyddi’r Bangor fel Canolfan Gwasanaeth Trefol ym Mholisi TAI1 gyda’r polisi yn cefnogi datblygiadau tai er mwyn cwrdd â Strategaeth y CDLL (Polisi PS17) drwy ddynodiadau tai a safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu wedi ei selio ar y ddarpariaeth ddangosol a gynhwysir o fewn y CDLL ei hun. Golyga hyn fod Bangor, trwy gwblhau'r banc tir presennol,  yn cyrraedd ei lefel twf dangosol o 969 uned ac mewn amgylchiadau o’r fath bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r unedau sydd wedi eu cwblhau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C19/1194/18/LL Capel Ebeneser Stryd Fawr, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3HU pdf eicon PDF 368 KB

Addasu'r capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a llecynnau parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd i geisio mwy o wybodaeth a thystiolaeth ynglŷn â’r canlynol:

  1. Cadarnhad bydd y fynwent yn cael ei gwarchod a sut.
  2. Derbyn mwy o fanylion draenio tir a sicrhad na fydd y cylfat yn achosi problemau ar y safle nac yn lleol.
  3. Cadarnhad am yr angen am fflatiau yn Deiniolen a  faint o enwau sydd ar y rhestr aros?
  4. Sut mae’n bwriadu sicrhau y bydd y datblygiad yn cael ei feddiannu gan bobl leol?

 

Bod yr Aelod Lleol yn rhan o’r trafodaethau

 

Cofnod:

Addasu'r capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a llecynnau parcio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer addasu'r ysgoldy a chapel segur i 7 fflat breswyl ar safle wedi ei leoli gyferbyn a'r Stryd Fawr yn Deiniolen. Nodwyd bod ei ddefnydd fel capel/festri wedi dod i ben Ionawr 2013, ac er wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Pentref Gwasanaethol Deiniolen, nid oedd wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd arbennig. Rhannwyd y cais i sawl elfen oedd yn cynnwys:

·         Darparu 4 fflat 2 lofft o fewn y cyn-gapel ar ddau lawr a darparu 1 fflat 2 lofft a 2 fflat 1 llofft o fewn y cyn-festri gyda'r fflat 1 llofft yn uned fforddiadwy i'w rhentu

·         .Darparu 9 llecyn parcio yn nhu blaen y festri.

·         Darparu storfa finiau/ail-gylchu gyferbyn a'r llecynnau parcio.

·         Creu mynediad newydd (gan ddisodli'r fynedfa bresennol) ar gyfer cerbydau oddi ar y ffordd sirol dosbarth III cyfagos (Stryd Fawr).

·         Ymgymryd â chynllun plannu coed.

 

Amlygwyd bod nifer o ddogfennau wedi eu cyflwyno i gefnogi’r cais.

 

Adroddwyd bod yr egwyddor o ddarparu unedau preswyl ar y safle arbennig hwn wedi ei selio ym Mholisi PCYFF 1, TAI 3, TAI 15, PS 17 ac ISA 2. Eglurwyd bod Polisi TAI 3 yn datgan o fewn y Pentrefi Gwasanaeth bydd tai i gwrdd â Strategaeth y Cynllun yn cael eu sicrhau drwy'r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu. Fodd bynnag, gan fod Deiniolen wedi gweld ei lefel twf disgwyliedig ar safleoedd ar hap trwy unedau wedi eu cwblhau yn y cyfnod 2011 i 2021 a chwblhau’r banc tir presennol, roedd angen i’r ymgeisydd ddangos bod y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. I’r perwyl hyn, cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth berthnasol ac o ganlyniad gellid cyfiawnhau’r angen lleol ar gyfer y math o unedau preswyl a gynigiwyd o fewn y cais cyfredol.

 

Eglurwyd bod rhan 2 meini prawf i - iii o Bolisi ISA 2 yn datgan bydd rhagdybiaeth i wrthsefyll colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol presennol oni bai:-

i.          y gall datblygwr ddarparu cyfleuster addas yn ei le ar y safle neu oddi ar y safle a bod mynediad rhwydd a hwylus trwy ddull ar wahân i gar, neu

ii.         y gellid dangos bod y cyfleuster yn amhriodol neu'n ormod i'r hyn sydd ei angen, neu

iii.         mewn perthynas â chyfleuster sy'n cael ei redeg yn fasnachol bod tystiolaeth nad yw'r bwriad mwyach yn hyfyw'n ariannol; na ellid disgwyl yn rhesymol iddo ddod yn hyfyw'n ariannol; na ellid sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall a bod tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata'r cyfleuster sydd wedi bod yn aflwyddiannus.

 

Mewn ymateb adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan bod yr adeilad wedi bod ar y farchnad ers Ionawr, 2013 a heb ei werthu hyd Hydref, 2018 sy’n dangos nad oedd llawer o ddiddordeb o fewn y farchnad ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.