skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn gadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn gadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd June Jones yn Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd June Jones yn is-gadeirydd ar gyfer 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd June Jones (Cyngor Gwynedd) a’r Dr John Jones-Morris (Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 219 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2022, fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)     Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod o fis Mawrth 2022 i fis Medi, 2022.

 

Codwyd materion o dan y penawdau isod:-

 

Cyflwyniad

 

Gan gyfeirio at Gyfansoddiad y Pwyllgor Harbwr, a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad, ac sy’n rhestru aelodaeth y pwyllgor, mynegodd y Rheolwr Morwrol ei bryder bod cyn lleied o gynrychiolwyr gwahanol fuddiannau defnyddwyr yr harbwr yn mynychu’r cyfarfodydd, a nododd ei fwriad i gysylltu â’r cynrychiolwyr hynny i amlygu pwysigrwydd sicrhau mewnbwn eu haelodau, neu ddirprwyon iddynt, er mwyn cael trawsdoriad o sylwadau yn y cyfarfodydd.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Nododd y Cadeirydd fod Cyngor Tref Porthmadog wedi derbyn llythyr yn ddiweddar yn cwyno fod Badau Dŵr Personol yn dod yn rhy agos i’r lan ym Mae Samson, a holodd a fyddai’n bosib’ i’r staff morwrol gael gair gyda’r sawl sy’n gyfrifol.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol:-

 

·         Bod y Gwasanaeth yn rhannu’r pryderon hynny, a bod y staff morwrol wedi delio gyda damweiniau angheuol yn ymwneud â Badau Dŵr Personol, a chychod pŵer hefyd dros y blynyddoedd a fu.

·         Bod y Gwasanaeth yn ceisio gwella rheolaeth dros hyn yn yr ardal yma o’r harbwr, yn enwedig dros dymor yr haf, ond bod y digwyddiad dan sylw wedi digwydd ar yr 2il o Hydref, ddeuddydd ar ôl i’r staff morwrol orffen gweithio ar y traethau am y tymor.

·         Bod tystiolaeth ffotograffig ar gael o’r digwyddiad, ac y byddai’r Gwasanaeth yn cael gair gyda pherchennog y bad a perchennog y cwmni sy’n darparu hyfforddiant.

·         Bod nifer y cwynion ynglŷn a Badau Dŵr Personol a cychod pŵer yn lleihau’n gyffredinol, oedd yn dangos bod rheolaeth y Gwasanaeth o’r sefyllfa, ac ymddygiad pobl, yn gwella.

·         Os na all y cyhoedd neu staff dynnu sylw gyrrwr bad sy’n gyrru’n anghyfrifol neu’n rhy agos at y lan, bod gan y Cyngor system gofrestru mewn lle fel bod modd adnabod y perchennog yn weddol gyflym.  Cytunid nad oedd bob amser yn hawdd gweld y rhif cofrestru, ond roedd y gyrrwr yn siŵr o ddod i’r lan yn rhywle.

·         Bod Robert Owen, fel cynrychiolydd y diwydiant yma ar y pwyllgor, yn rhagweithiol yn hybu defnydd cyfrifol a da o’r badau.

·         Bod PWC Gwynedd wedi cynnal digwyddiad y ‘Black Rock Blast’ i hyrwyddo ymddygiad cyfrifol a diogel o Fadau Dŵr Personol.  Hefyd, roedd y Cyngor yn rhannu tystiolaeth o ymddygiad anghyfrifol gyda PWC Gwynedd fel bod modd iddynt ei roi ar eu safle we. 

·         Ei bod yn anodd plismona ar hyd a lled yr arfordir, ac er bod gan y Gwasanaeth gwch yn Harbwr Porthmadog, nid oedd modd ei gael allan bob tro.  Fodd bynnag, ceisid gwella ar hynny ar gyfer y flwyddyn nesaf.

·         Bod Cynghorau Môn a Chonwy wedi mabwysiadu system cofrestru badau fel sydd yn bodoli yng Ngwynedd ers blynyddoedd, a byddai’n dda  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ETHOL SYLWEDYDDION

I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol –

 

a)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi

b)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw

c)    Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli

 

Penderfyniad:

Gan bod cyn lleied o aelodau’n bresennol yn y cyfarfod hwn, gohirio ethol sylwedydd i wasanaethu ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Aberdyfi, Abermaw a Phwllheli am y tro, a chysylltu â’r holl aelodau mor fuan â phosib’ i wahodd unrhyw rai sydd â diddordeb i roi eu henwau ymlaen.

 

Cofnod:

Gwahoddwyd y pwyllgor i ethol sylwedydd i dderbyn gwybodaeth, neu fynychu cyfarfodydd y 3 phwyllgor harbwr arall.

 

PENDERFYNWYD gan fod cyn lleied o aelodau’n bresennol yn y cyfarfod hwn, gohirio ethol sylwedydd i wasanaethu ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbyrau Aberdyfi, Abermaw a Phwllheli am y tro, a chysylltu â’r holl aelodau mor fuan â phosib’ i wahodd unrhyw rai sydd â diddordeb i roi eu henwau ymlaen.

 

9.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 7 Mawrth, 2023.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 7 Mawrth, 2023.