skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022-2023

Penderfyniad:

 

Ethol y Cynghorydd Robin Williams (Cyngor Môn) yn Gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

 

 

 

 

Etholwyd y Cynghorydd Robin Williams fel Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am y cyfnod 2022 - 2023

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022-2023

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Dafydd Meurig (Cyngor Gwynedd) yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.

 

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dafydd Meurig fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am y cyfnod 2022 – 2023.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Cyng. June Jones

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 282 KB

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2022 fel rhai cywir.

 

 

7.

CYFRIFION TERFYNOL AR GYFER PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD pdf eicon PDF 205 KB

 

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid, Cyngor Gwynedd 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth:

 

 · Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2020/21

 · Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31 Mawrth 2021

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans (Uwch Rheolwr Cyllid) a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd ar ddatganiad cyfrifon blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd. Gan fod trosiant y Gwasanaeth yn is na £2.5m, fe ystyrir yn gorff Llywodraeth Leol lai o faint, gan hynny mae gofyn cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio Cymru i gwrdd â’r gofynion statudol. Nodwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r Awdurdod Arweiniol sydd a’r cyfrifoldeb o gyflawni’r cyfrifoldeb o gyfrifo, adrodd ac archwilio’r cyfrifon.

 

Amlygwyd fod y drefn o adrodd ar y cyfrifon yn dilyn amserlen dynn - gyda gofyniad fod hynny yn cael ei wneud cyn diwedd mis Mai. Gan ei fod yn flwyddyn etholiad, nid oedd hynny’n bosib. Er bod y cyfrifon wedi cael eu cwblhau, eu hawdurdodi gan y Pennaeth Cyllid ac wedi eu cyflwyno i’r Archwilwyr cyn diwedd Mai, dyma oedd y cyfle cyntaf i’w hadrodd i’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad A sydd yn cynnwys yr adroddiad alldro ac yn egluro sefyllfa derfynol incwm a gwariant refeniw'r Gwasanaeth ar gyfer 2021/22. Amlygwyd fod y gyllideb i’w weld yn y golofn gyntaf gyda’r gwariant yn yr ail, yna mae posib archwilio’r gorwariant neu'r tanwariant yn y drydedd golofn. Nodwyd fod y gwariant am 2021/22, £40,185 yn is na’r gyllideb oedd ar gael, ac felly bu modd lleihau'r cyfraniad gofynnol i Gyngor Gwynedd a Môn i £223,000 yn hytrach na £243,000 fel oedd wedi ei bennu yn y gyllideb, sydd yn lleihad o £20,000 na’r gyllideb wreiddiol.

 

Wrth edrych yn fanylach ar rai o’r penawdau gwariant, y prif bwyntiau i’w nodi yw:

-      Fod yna orwariant ar gyflogau o £10,755 oherwydd y cynnydd chwyddiant o 1.75% a derfynwyd yn hwyr yn y flwyddyn ariannol.

-      Cludiant - y darlun yn 2021/22 yn gyson efo’r darlun 2020/21, gyda sgil effaith Covid yn amlwg o ran lai o deithio a mwy o gyfarfodydd rhithiol.

-      Gwariant bychan hefyd ar gostau rhedeg y Gwasanaeth o’i gymharu efo’r gyllideb.

-      Tan wariant sylweddol yn gysylltiedig hefo’r broses o baratoi’r Cynllun.

-      Targed arbedion o £10,000 sydd yn parhau heb ei wireddu ers rhai blynyddoedd bellach. Angen ystyried ceisio ei ddiddymu o’r arbedion e.e. ar gostau cludiant i gael gwared â’r targed arbedion.

 

Nodwyd fod y cyfrifon eisoes wedi eu hanfon i sylw Archwilwyr Allanol, Swyddfa Archwilio Cymru.  Dim ond os bydd newidiadau yn dilyn yr archwiliad hynny bydd y cyfrifon yn cael ei ail-gyflwyno er sylw’r Pwyllgor i’w cymeradwyo.

 

Gofynnwyd fod y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn derbyn a chymeradwyo’r cyfrifon ar gyfer 2021/22 a bod y Cadeirydd yn arwyddo’r ffurflen electroneg ar dudalen 15 o’r pecyn.

 

Materion a Godwyd

·            Ymddangos fod yna swm aruthrol wrth gefn. Os nad oes angen cymaint o arian wrth gefn, oes posib trosglwyddo’r arian hynny i Adrannau hynny sydd wir ei angen.

·            Gofynnwyd am y tanwariant yn gysylltiedig â’r broses o baratoi’r Cynllun a holwyd os oedd hynny gan fod yna ddisgwyliad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.