skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad i'r cyfarfod cysylltwch â ni

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD 2022/23

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Ethol y Cyng. Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd Cydbwyllgor Rhanbarth y Gogledd

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cyng. Dyfrig Siencyn yn Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD 2022/23

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2022/23.

Penderfyniad:

Ethol y Cyng. Marc Pritchard yn Is-gadeirydd Cydbwyllgor Rhanbarth y Gogledd

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cyng. Mark Pritchard yn Is-Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2022/23.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint), Emyr Williams (Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri) ond nodwyd fod Iwan Jones yn dirprwyo ar ei ran, a Dewi Morgan (Swyddog Adran 151). 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ddatganiad o fuddiant personol gan Iwan Evans a Dafydd Gibbard ar gyfer eitem 9: Strwythur y Sefydliad a Staffio.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION Y CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 131 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 14 ac y 28 Ionawr 2022 fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar yr 14eg a’r 28ain o Ionawr 2022 fel rhai cywir.

 

7.

MATERION CYFANSODDIADOL pdf eicon PDF 327 KB

Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC ac Iwan Evans, Swyddog Monitro'r CBC i gyflwyno adroddiad ar faterion cyfansoddiadol y Cyd-Bwyllgor.

Penderfyniad:

 

1.    Cytunwyd i sefydlu Is-Bwyllgor Cynllunio Strategol ac Is-Bwyllgor Trafnidiaeth Strategol a chymeradwywyd yr aelodaeth a’r hawliau pleidleisio canlynol

                     i)        Is-bwyllgor Cynllunio Strategol gyda 7 aelod â phleidlais, un o bob un o'r awdurdodau cyfansoddol (6 Chyngor ac APCE).

                    ii)        Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol gyda 6 aelod â phleidlais, un o bob un o'r 6 Chyngor.

                   iii)        Aelodaeth yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol i gynnwys yr aelod Cabinet perthnasol o bob Cyngor cyfansoddol sy'n dal y portffolio ar gyfer Polisi Cynllunio, a chynrychiolydd APCE.

                   iv)        Aelodaeth yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol gynnwys yr aelod Cabinet perthnasol o bob Cyngor cyfansoddol sy'n dal y portffolio ar gyfer Polisi Trafnidiaeth.

 

2.    Cadarnhawyd yr 22 Gorffennaf fel dyddiad nesaf y Cyd-Bwyllgor a cadarnhawyd y bydd holl gyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor yn cael ei cynnal yn rhithiol am y tro.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor).

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Cytunwyd i sefydlu Is-Bwyllgor Cynllunio Strategol ac Is-Bwyllgor Trafnidiaeth Strategol a chymeradwywyd yr yr aelodaeth a’r hawliau pleidleisio canlynol – 
  1. Is-bwyllgor Cynllunio Strategol gyda 7 aelod â phleidlais, un o bob un o'r awdurdodau cyfansoddol (6 Chyngor ac APCE). 
  1. Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol gyda 6 aelod â phleidlais, un o bob un o'r 6 Chyngor. 
  1. Aelodaeth yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol i gynnwys yr aelod Cabinet perthnasol o bob Cyngor cyfansoddol sy'n dal y portffolio ar gyfer Polisi Cynllunio, a chynrychiolydd APCE. 
  1. Aelodaeth yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol gynnwys yr aelod Cabinet perthnasol o bob Cyngor cyfansoddol sy'n dal y portffolio ar gyfer Polisi Trafnidiaeth. 

 

  1. Cadarnhawyd yr 22 Gorffennaf fel dyddiad nesaf y Cyd-Bwyllgor a cadarnhawyd y bydd holl gyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor yn cael ei cynnal yn rhithiol am y tro. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y penderfyniad sef i sefydlu dau is-bwyllgor ar gyfer Cynllunio Strategol ynghyd â Thrafnidiaeth, ac i ofyn am adroddiad pellach ar Gylch Gorchwyl a Rheolau Sefydlog yr Is-bwyllgorau i’r cyfarfod nesaf. Nodwyd yn ogystal i ohirio sefydlu’r Is-Bwyllgorau Safonau a Llywodraeth ac Archwilio hyd nes y bydd cadarnhad o’r gofynion statudol.

 

Eglurwyd fod y darlun o ran strwythur yr Is-bwyllgorau wedi parhau yr un strwythur ers yr adroddiad safonol a gyflwynwyd i’r chwe Cyngor a’r Parc yn ôl ym mis Rhagfyr 2021. Amlygwyd fod y strwythur yn un ar gyfer y dyfodol ac mai dim ond penderfynu ar sefydlu dau o’r is-bwyllgorau mae’r Cyd-bwyllgor yn y cyfarfod hwn. Mynegwyd drwy wneud hyn fod y Cyd-bwyllgor yn gosod fframwaith ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau cychwynnol.

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro mai hwn yw’r tro cyntaf i’r Cyd-Bwyllgor gytuno ar y fframwaith ar gyfer is-bwyllgorau ynghyd a’r aelodaeth. 

 

Eglurwyd fod sefyllfa’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn eitem i’w drafod yn ystod tymor yr hydref. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾      Diolchwyd am y gwaith a cefnogwyd y cynnig a wnaethpwyd.

¾     Mynegwyd cefnogaeth i’r cyfarfodydd barhau yn rhithiol ar hyn o bryd.

 

 

8.

DATGANIAD POLISI TÂL 2022/23 pdf eicon PDF 141 KB

Geraint Owen, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd i gyflwyno datganiad polisi tâl y Cyd-Bwyllgor.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i fabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen (Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd).

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i fabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2022/23.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn hunan eglurhaol. Mynegwyd ei bod yn ddyletswydd i’r Cyd-Bwyllgor fod yn mabwysiadu polisi tal yn flynyddol. Eglurwyd mai polisi tâl Cyngor Gwynedd sydd wedi’i fabwysiadu ar gyfer cyflogi staff “Uchelgais Gogledd Cymru” ac fod adroddiad arall ar y rhaglen yn argymell ymestyn y trefniadau presennol i Cyngor Gwynedd ddarparu gwasanaethau cefnogol i’r Cydbwyllgor am gyfnod dros-dro, am y rheswm hyn cynigwyd defnyddio addasiad o bolisi tâl Cyngor Gwynedd ar gyfer 2022/23.

 

9.

STRWYTHUR Y SEFYDLIAD A STAFFIO pdf eicon PDF 235 KB

Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC i gyflwyno adroddiad sydd yn ymdrin ag (ail)benodi swyddogion statudol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), darparu gwasanaethau cefnogol craidd a'r trefniadau i gyflogi staff i ymgymryd â'r dyletswyddau Cynllunio a Thrafnidiaeth.

Penderfyniad:

Cytunwyd i ail-benodi Dafydd Gibbard yn Brif Weithredwr y Cyd-Bwyllgor ar sail dros dro hyn nes y bydd y swydd yn cael ei hadolygu eto.

 

Cytunwyd i ail-benodi Dewi Morgan yn Brif Swyddog Cyllid a Iwan Evans yn Swyddog Morntiro a Swyddog Priodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor.

 

Cytunwyd i barhau gyda’r trefniadau sydd yn bodoli yn barod i Gyngor Gwynedd darparu gwasanaeth cefnogdol i’r Cyd-Bwyllgor, o leiaf hyd at ddyddiad trosglwyddo’r Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-Bwyllgor, neu pan fydd Partneriaid i “GA2” y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i fodel amgen.

 

Mabwysiadwyd Amodau a Thelerau cyflogaeth Cyngor Gwynedd i ddechau, yn wrthredol o ddyddiad yr adroddiad hwn fel ei delerau ac amodau cyflogaeth i’r staff.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor).

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i ail-benodi Dafydd Gibbard yn Brif Weithredwr y Cyd-Bwyllgor ar sail dros dro hyn nes y bydd y swydd yn cael ei hadolygu eto.  

 

Cytunwyd i ail-benodi Dewi Morgan yn Brif Swyddog Cyllid a Iwan Evans yn Swyddog Monitro a Swyddog Priodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor.  

 

Cytunwyd i barhau gyda’r trefniadau sydd yn bodoli yn barod i Gyngor Gwynedd darparu gwasanaeth cefnogol i’r Cyd-Bwyllgor, o leiaf hyd at ddyddiad trosglwyddo’r Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-Bwyllgor, neu pan fydd Partneriaid i “GA2” y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i fodel amgen.  

 

Mabwysiadwyd Amodau a Thelerau cyflogaeth Cyngor Gwynedd i ddechau, yn weithredol o ddyddiad yr adroddiad hwn fel ei delerau ac amodau cyflogaeth i’r staff. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi er fod yr adroddiad yn argymell penderfynu ar dair swydd Cynllunio ynghyd â dwy swydd Trafnidiaeth eglurwyd fod angen trafodaeth pellach cyn gwneud penderfyniad ar y swyddi yma ac felly tynnwyd rhan berthnasol o’r argymhellion yn ôl i’w trafod y cyfarfod nesaf.

 

O ganlyniad nodwyd mai gofyn mae’r adroddiad i ail benodi swyddogion Gwynedd ar sail dros dro sef y Brif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro a Swyddog Priodoldeb ynghyd â darparu gwasanaethau cefnogol i’r Cydbwyllgor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾      Cefnogwyd y cynnig i dynnu yn ôl yr argymhellion swyddi.

¾     Diolchwyd i staff Gwynedd am gymryd y rôl i arwain ar gwaith o sefydlu’r Cydbwyllgor, gan fod maint yn y gwaith yn sylweddol er mwyn creu corff biwrocrataidd.