skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Nia Jeffreys a’r Cyng. Menna Jones.  

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fudiant personol.  

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.   

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.  

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 MEDI A 7 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion ar gyfer y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 27 Medi a 7 Hydref 2022 fel rhai cywir.  

6.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMORPREMIWM TRETH CYNGOR pdf eicon PDF 660 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymell i’r Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022 mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24:

·         Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

·         Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%).

·         Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas     

 

PENDERFYNIAD 

 

Argymell i’r Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022 mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24:  

·       Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).  

·       Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%).  

·       Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gam yn y drefn llywodraethu wrth i’r Cyngor symud ymlaen i wneud penderfyniad ar sut i ymateb i newidiadau deddfwriaethol diweddar o safbwynt y Premiwm Treth Cyngor.  

 

Pwysleisiwyd nad oedd unrhyw benderfyniad ar raddfa’r Premiwm ar ben ei hun yn datrys y broblem y sefyllfa ddifrifol a niferoedd ail gartrefi o fewn ardaloedd yng Ngwynedd. Eglurwyd fod y defnydd o’r broses gynllunio a sicrhau trwyddedu ail gartrefi yn llawer mwy perthnasol. Croesawyd ymateb diwedd Llywodraeth Cymru gan amlygu mai dyfalbarhad wrth lobio a chyflwyno tystiolaeth y Cyngor sydd wedi sicrhau gweithredu.  

 

Esboniwyd fod Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ychwanegu adrannau newydd i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mynegwyd fod y cymalau newydd yn caniatáu i awdurdodau bilio Cymru i godi Treth Cyngor ychwanegol ar ddosbarthiadau penodol o eiddo. Eglurwyd mai’r sefyllfa diofyn yn Neddf 1992 yw rhoi disgownt o 50% i’r eiddo os nad yw’r Cyngor yn gwneud penderfyniad pob blwyddyn i’w ariannu o goffrau’r Cyngor. Mynegwyd fod gan y Cyngor hawl dewisol ers sawl blwyddyn i beidio rhoi disgownt i’r eiddo yma, ac ers 2017 yr hawl i godi premiwm.  

 

Amlygwyd fod y Cyngor wedi codi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2021, ac yna 100% ers 1 Ebrill 2021. Esboniwyd ar yr achlysuron ble cyflwynwyd y Premiwm a’i gynyddu fod gwaith sylweddol wedi ei wneud  i asesu’r sefyllfa ynghyd a chynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ac Asesiad Effaith Cydraddoldeb.  Mynegwyd fod Adrannau 12A a 12B o Ddeddf 1992 wedi eu newid eto yn ddiweddar a bydd y newidiadau yn weithredol o 1af Ebrill 2023. Nodwyd fod y newidiadau hyn wedi eu gwneud yn ei wneud yw cynyddu lefel y Premiwm gall awdurdodau lleol ei godi. Eglurwyd y bydd modd codi hyd at 300%.  

 

Bu i’r Pennaeth Adran dywysu drwy ganlyniadau’r Ymgynghoriad Cyhoeddus. Eglurwyd fod y Cabinet wedi cytuno ddiwedd Medi i gomisiynu Ymgynghoriad  Cyhoeddus i dderbyn barn y cyhoedd ar sut dylai’r Cyngor ymateb i’r ddeddf. Lansiwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dewi A Morgan

7.

MABWYSIADU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.

 

Dirprwyo’r  hawl i Bennaeth Adran Amgylchedd i wneud addasiadau ansylweddol i’r ddogfen cyn ei chyhoeddi.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig 

 

PENDERFYNIAD 

 

Mabwysiadu y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy.   

 

Dirprwyo’r  hawl i Bennaeth Adran Amgylchedd i wneud addasiadau ansylweddol i’r ddogfen cyn ei chyhoeddi.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Eglurwyd fod Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn amlygu dyletswydd ar y Cyngor i fod yn cyhoeddi ac yn adolygu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Ychwanegwyd fod y cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio fel arf i wella'r rhwydwaith yn ogystal. Mynegwyd fod y Cynllun wedi bod ar dipyn o daith cyn cyrraedd y Cabinet a oedd yn cynnwys Pwyllgor Craffu yn ôl yn 2021, ymgynghoriad cyhoeddus am 3 mis dros gyfnod yr haf cyn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu ym mis Hydref i drafod canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Atebwyd fod man addasiadau wedi ei gwneud i’r Cynllun yn dilyn y Pwyllgor Craffu.  

 

Nodwyd mai gofyn sydd yma i fabwysiadu’r Cynllun ac i roi hawl i’r Pennaeth Adran wneud man addasiadau ieithyddol cyn i’r ddogfen gael ei chyhoeddi.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Diolchwyd am yr adroddiad a codwyd pryder am y newid i roi hawl i farchogaeth ar bob llwybr cyhoeddus. Holwyd am sut y bydd asesiadau risg yn cael ei gwneud yn benodol ar lwybrau sydd ar ochor ffordd. Nodwyd fod yr addasiad wedi ei wneud o ganlyniad i anghysondeb ar draws y sir ac fod gofyn rhesymol wedi bod i gael ei ddefnyddio gan geffylau, eglurwyd y bydd asesiadau risg yn cael eu cynnal a bod yr addasiad yn benodol ar gyfer llwybrau oddi wrth y ffordd fawr.  

·                  Holwyd am y broses o adnabod Llwybrau Llesiant y sir gan nad yw Bala wedi’i gynnwys. Eglurwyd fod amodau penodol i’w gweld sydd yn cael ei gwrio gan Lywodraeth Cymru o ran Llwybrau Llesiant ac yn ffafrio canolfannau ble mae’r boblogaeth yn gweithio yn yr ardal ac angen ffordd amgen o gyrraedd y gwaith. Mynegwyd o ganlyniad fod angen bosib adolygu hyn er mwyn cynnwys cymunedau fwy gwledig.  

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams

8.

GWEDD 4 RHAGLEN FUDDSODDI MEWN PANELI SOLAR pdf eicon PDF 407 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ap Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bwrw  ‘mlaen i fuddsoddi £2.8m yn y pedwerydd wedd o’r cynllun paneli PV cynhyrchu trydan gan arwain at arbediad refeniw blynyddol.

 

Ariannu’r buddsoddiad cyfalaf o gronfeydd y Cyngor gan arwain at arbedion refeniw parhaol yn syth fel cyfraniad i’n cynllun arbedion / toriadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago   

 

PENDERFYNIAD 

 

Bwrw  ‘mlaen i fuddsoddi £2.8m yn y bedwaredd wedd o’r cynllun paneli PV cynhyrchu trydan gan arwain at arbediad refeniw blynyddol.   

 

Ariannu’r buddsoddiad cyfalaf o gronfeydd y Cyngor gan arwain at arbedion refeniw parhaol yn syth fel cyfraniad i’n cynllun arbedion / toriadau.   

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor yn arwain yng Nghymru ac o bosib Prydain am y camau mae’n ei wneud i leihau ôl troed carbon. Eglurwyd fod camau yn cael ei gwneud ar draws y Cyngor i wneud y newidiadau pwysig yma er mwyn edrych ar ôl yr amgylchedd ac yn ogystal er mwyn arbed arian.  

 

Mynegodd y Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol mai dyma bedwaredd wedd y Cynllun Solar sydd wedi bod yn gynllun hynod lwyddiannus. Eglurwyd fod gwedd 3 wedi dod i ben o ganlyniad i newid gan y Llywodraeth ond o ganlyniad i leihad mewn costau paneli solar a chynnydd mewn costau ynni mae hyn wedi arwain at greu gwedd 4. Pwysleisiwyd fod y Cynllun wedi ei sefydlu ar gostau ynni heddiw, ac felly os costau ynni yn parhau i godi mae’n amlygu fod yr achos busnes ar ei gyfer yn aeddfed.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Diolchwyd am yr adroddiad, a holwyd os mai gwedd 4 fydd y cam olaf. Eglurwyd mai dyma fydd y cam olaf o safbwynt adeiladau’r Cyngor ond fod opsiynau pellach yn bodoli yn dilyn hyn megis Ffermydd Solar.    

·                Amlygwyd fod y cynllun hwn yn un sydd yn lleihau carbon ac yn cynorthwyo’r Cyngor gyda cyfarch y bwlch ariannol. Mynegwyd fod gofyn yma i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn y Cyngor i’w ariannu fod bod modd derbyn yr arbedion ariannol o ganlyniad i’r Cynllun yn syth.  

 

Awdur: David Mark Lewis

9.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2021 - HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD (DRAFFT) 2021/22 pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Hunanasesiad Cyngor Gwynedd (Drafft) 2021/22 gan dderbyn argymhellion a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn   

 

PENDERFYNIAD 

 

Cymeradwywyd Hunanasesiad Cyngor Gwynedd (Drafft) 2021/22 gan dderbyn argymhellion a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma’r Hunanasesiad cyntaf i’r Cyngor ei wneud sydd yn edrych yn ôl ar 2021/22. Eglurwyd fod gofyn statudol newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn nodi’r angen i’w greu a’i gyhoeddi yn flynyddol. Ychwanegwyd fod yr hunanasesiad yn tynnu ar dipyn o ffynonellau gwybodaeth a thystiolaeth a bod nifer o’r wybodaeth wedi ei gyhoeddi yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac yn Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol. Pwysleisiwyd er mwyn cadw’r adroddiad yn gryno fod cyfeiriad at y dogfennau yma.  

 

Nodwyd fod y ddeddf yn nodi disgwyliad i gyflwyno drafft o’r Hunanasesiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er mwyn derbyn sylwadau. Mynegwyd fod hyn wedi digwydd wythnos diwethaf ac fod un sylw wedi ei dderbyn sef yr angen i gyfeirio ar yr hyfforddiant sydd ar gael i Gynghorwyd o dan Cynllunio Corfforaethol er mwyn adnabod y gwaith da sy’n digwydd o fewn y Cyngor.    

 

Eglurwyd mai dyma’r tro cyntaf i gyflwyno’r Hunanasesiad ac mae ymdrech wedi ei wneud i’w gadw yn gryno ac yn ddarllenadwy. Esboniwyd fod trefniadau yn parhau i ddatblygu o ran ei baratoi ac fod trefniadau i’r dyfodol i’w gyfuno gyda threfniadau herio perfformiad ac i’w gynnwys yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor.  

 

Ychwanegodd y Swyddog Monitro fod hon yn drefn newydd ac fod gofyn statudol i fynd i ymgynghoriad ar y drefn ond fod hynny i ddod.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·       Mynegwyd fod y bwriad i’w gyfuno â’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn gyfle i ychwanegu haen arall o lywodraethant o fewn y Cyngor. Fod Cynllun y Cyngor yn dangos beth mae’r Cyngor am ei wneud, Adroddiad Perfformiad yn nodi beth sydd wedi ei wneud ac fod hwn fel haen yn y canol yn amlygu pa mor dda mae’r Cyngor wneud gwneud y gwaith.   

 

Awdur: Dewi Wyn Jones

10.

CYNLLUN DEISEBAU pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun Deisebau ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn   

 

PENDERFYNIAD 

 

Cymeradwywyd y Cynllun Deisebau ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu.   

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn i gymeradwyo’r Cynllun Deisebau a'i argymell i’r Cyngor Llawn nesaf i’w fabwysiadu. Eglurwyd fod gofyniad statudol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 i’r Cyngor fod yn mabwysiadu Cynllun Deisebau. Mynegwyd fod y Cynllun yn nodi sut y bydd y Cyngor yn ymdrin â deisebau pan yn eu derbyn.  

 

Nodwyd fod deiseb yn ffordd y gall unigolion, grŵp cymunedol a sefydliadau godi materion sy’n peri pryder iddynt a rhoi cyfle i Gynghorwyr ystyried yr angen am newid. Ychwanegwyd fod y cynllun yn gosod camau ar sut i gyflwyno deiseb a’r hyn y gellir ei ddisgwyl fel ymateb a’r camau fydd yn cael ei wneud gan y Cyngor. Pwysleisiwyd fod rhai achosion megis ail strwythuro ysgolion yn dilyn gofynion cyfreithiol a statudol am ymgynghori a chyfnodau ymateb statudol a ni fydd deiseb yn cael ei dderbyn tu allan i’r trefniadau hyn.  

 

Amlygwyd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth wedi trafod y Cynllun wythnos diwethaf, a derbyniwyd sylwadau ac mae man addasiadau wedi eu gwneud i’r Cynllun yn dilyn y trafodaethau yma. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Holwyd os yn derbyn y ddeiseb bod modd cael ei drafod gan Aelod Cabinet, y Cabinet neu Cyngor Llawn a holwyd pwy sy’n dewis lefel y penderfyniad. Eglurwyd ei fod yn ddibynnol ar natur y ddeiseb ac ei fod yn dilyn trywydd synhwyrol.  

·                  Cwestiynwyd os yw’r cynllun yn wahanol i beth sydd yn digwydd yn bresennol Eglurwyd fod y Cynllun hwn yn ffurfioli'r trefniadau ac yn codi ymwybyddiaeth trigolion.  

·                  Nodwyd fod yn braf gweld y Cabinet yn gallu ymlacio wrth drafod gofynion y Ddeddf ac fod hyn o ganlyniad i drefniadau llywodraethu cadarn iawn sydd i’w weld mewn nifer o dimau sydd yn gweithio yn y cefndir ar draws y Cyngor 

 

Awdur: Annes Sion

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2021/22 pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a nodi  y gwaith a'r cynnydd a wnaed yn 2021/2022 yn y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan    

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyn yr adroddiad a nodi'r gwaith a'r cynnydd a wnaed yn 2021/2022 yn y meysydd gwaith sy'n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hon yn adroddiad Blynyddol ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Esboniwyd fod yr adroddiad yn amlygu gwaith y bwrdd ar gyfer 2021/22 ac wedi ei lunio a’i ysgrifennu i fodloni canllawiau’r Llywodraeth. Eglurwyd fod y bwrdd wedi ei sefydlu yn ôl yn 2014, er mwyn cydymffurfio a rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015.  

 

Tynnodd y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol sylw at y prif bwyntiau a’r gwaith allweddol sydd yn cael ei wneud yn y rhanbarth. Eglurwyd mai rôl y Bwrdd yw i ddod a phartneriaid at ei gilydd er mwyn integreiddio gwasanaethau pan yn bosib. Mynegwyd fod y system lywodraethu yn un gymhleth ond mai’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw’r prif fwrdd ac mae’n gyfrifol am rhoi cyfeiriad clir i weithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ynghyd a sicrhau fod gwaith yn cael ei gyflawni. Esboniwyd fod y bwrdd yn adrodd i Fwrdd Arweinwyr y Gogledd.  

 

Amlygwyd fod 2 brif raglen i’w gweld yn gan y Bwrdd yn 2021/22 sef Cronfa Gofal Integredig a Rhaglen Trawsnewid. Eglurwyd fod y gronfa Gofal Integredig wedi ei sefydlu yn ôl yn 2014, ac wedi galluogi’r rhanbarth i weithio gyda’i gilydd i gynorthwyo pobl hyn ag anghenion cymhleth, plant ag anghenion cymhleth, gofalwyr a phlant mewn gofal neu mewn peryg o fynd i ofal. Nodwyd fod y rhaglen Trawsnewid wedi ei sefydlu yn Ebrill 2018 gyda’r pwrpas o wella gwasanaethau a oedd i gychwyn yn gynllun 3 blynedd, ond y bu iddo ymestyn o ganlyniad i’r pandemig 

 

Esboniwyd fod y ddwy raglen wedi dod i ben yn 2021/22 ac fod rhaglen newydd bellach ers Ebrill 2022, sef Cronfa Integreiddio Rhanbarthol. O ganlyniad mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o waith y ddwy brif raglen ynghyd a prif bwyntiau a godwyd o’r gwerthusiad a oedd yn cynnwys y cyfleoedd i ddatblygu cynlluniau a gwella perthynas rhwng partneriaid. Mynegwyd fod arian wedi bod yn broblem gan fod y gyllideb wedi bod am flwyddyn unig ac felly yn ei gwneud yn anodd i gynllunio ymhellach.  

 

Mynegwyd fod y tîm wedi bod yn gweithio yn ogystal ar greu Asesiad Anghenion Poblogaeth a oedd yn cynorthwyo’r rhanbarth i ddatblygu blaenoriaethau ac i awdurdodau lleol allu cynllunio yn lleol. Nodwyd i’r dyfodol fod y Pwyllgor yn awyddus i adeiladu ar waith eleni ac i gynllunio ar gyfer y 5 i 10 mlynedd nesaf.  

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad hwn yn edrych yn benodol ar ddiwedd cyfnod Morwena Edwards yn ei swydd. Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu ei fod yn faes llawer ehangach na gofal yn unig gydag elfennau i’w gweld yn y maes Tai ac Addysg. Amlygwyd fod dylanwad y Bwrdd yn holl bwysig wrth symud ymlaen.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Nodwyd balchder  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Dylan Owen

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 396 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

amlinellu beth sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol. Mynegwyd balchder fod yna gynnydd wedi ei wneud er gwaethaf yr heriau oedd yn wynebu’r adran a’r mwyafrif o’r rhain o ganlyniad i anawsterau capasiti o fewn yr adran. Diolchwyd I'r adran am eu hymroddiad i'r maes a’r unigolion maent yn ei gefnogi, ac ar y cyfan ei fod yn fodlon a pherfformiad yr adran.  

 

Nodwyd fod nifer o’r materion sydd wedi eu codi yn yr adroddiad perfformiad hefyd wedi eu hamlygu fel rhan o’r archwiliad diweddar a gafwyd gan Arolygaeth Gofal Cymru. Eglurwyd y bydd adroddiad pellach am yr archwiliad yn dod i'r Pwyllgor Craffu Gofal cyn hir.  

 

Tywyswyd drwy brosiectau Cynllun y Cyngor a oedd yn cynnwys safle Penrhos sydd yn gynllun ar y cyd gyda’r Adran Dai ac Eiddo ynghyd â’r cynnydd mewn gwlâu dementia yn y sir a’r pryder am unedau gwag o ganlyniad i ddiffyg staffio. Amlygwyd mai un o brif anawsterau yr adran yw recriwtio a chadw staff ac esboniwyd fod hyn yn fater sydd yn cael ei drafod yn gorfforaethol o fewn y Cyngor ynghyd ac yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  

 

O ran perfformiad yr adran nodwyd fod camau breision wedi eu gwneud i sicrhau mesurau cywir. Tynnwyd sylw at nifer ar y rhestrau am ofal cartref gan nodi fod yn nifer yn parhau i gynyddu ac fod hyn o ganlyniad i ddiffyg capasiti o ran staffio. Esboniwyd fod yr adroddiad diwethaf yn amlygu rhwystredigaeth gyda mesurydd yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl gan fod staff y timau integredig yn parhau i ddefnyddio ffeiliau papur. Mynegwyd fod gwaith wedi ei wneud i ddod o hyd i fesurydd dros dro i'r gwasanaeth hwn.  

 

O ran y sefyllfa ariannol, nodwyd fod rhagolygon ariannol fel rhan o adolygiad diwedd Awst yn rhagamcanu gorwariant o £1.9miliwn gan yr Adran erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Eglurwyd fod yr adran yn cyflwyno bidiau er mwyn gallu parhau gyda gwasanaethau statudol neu newidiadau deddfwriaethol. Mynegwyd fod yr adran ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd i gyflawni rhai gwasanaethau mewn ffordd wahanol a drwy hyn cyflawni arbedion.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Nodwyd fod heriau staffio i'w gweld ar draws y Cyngor a hynny oherwydd methu recriwtio ac nid oherwydd diffyg ariannol. Pwysleisiwyd nad oes ateb hawdd i'r broblem ac fod hyn o ganlyniad i benderfyniadau ar lefel Brydeinig. Eglurwyd fod yr adran yn edrych ar beth mae siroedd eraill yn ei wneud er mwyn sicrhau gwasanaethau a gwneud defnydd gorau o’r gefnogaeth sydd ar gael.  

·                Eglurwyd fod £1.9miliwn o orwariant yn cael ei ragweld ac fod £1m arall o arbedion nad ydynt wedi eu cwblhau yn ogystal â hynny, heb edrych ar arbedion y flwyddyn nesaf. Nodwyd fod cyfarfod gyda’r adran yn cael ei gynnal yn fuan i edrych ar y sefyllfa hynod heriol yma.  

·                Nodwyd fod pryder am allu’r adran i fesur perfformiad ond fod mesurau bellach yn cael eu datblygu. Eglurwyd fod peth ffordd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

Awdur: Aled Davies

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 318 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ar waith yr adran gan amlinellu beth sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol. Diolchwyd i staff yr adran am eu hymroddiad i blant a phobl ifanc yn sir.  

 

Eglurwyd fod prosiectau blaenoriaeth yn parhau i symud yn eu blaen er fod staff wedi eu dargyfeirio i gefnogi unigolion o’r Wcrain. Eglurwyd fod y blaenoriaethau yn cyd-fynd a prif risgiau’r adran a nodwyd fod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn y prosiectau hyn. Tywyswyd drwy’r prosiectau a oedd yn cynnwys nodi fod Strategaeth Cadw Teuluoedd gyda’i Gilydd wedi derbyn cadarnhad o ran ei ariannu ac yn gallu symud ymlaen gyda’r gwaith. Mynegwyd fod yr adran wedi llwyddo i recriwtio i swyddi yn y tîm cyfeiriadau er mwyn ymateb i'r cynnydd sydd wedi bod mewn galwadau a rhestrau aros.   

 

O ran y Cynllun Cefnogi Pobl nodwyd fod gwaith yn parhau ond bellach yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw. Amlygwyd gwaith y Cynllun a oedd yn cynnwys, ymestyn y rhwydwaith hybiau a chyfres o ddigwyddiadau galw heibio.  

 

Nodwyd fod capasiti gweithlu yn broblem o fewn yr adran hon yn ogystal, ac fod gwaith diweddar wedi ei wneud gydag ymgynghorydd annibynnol ond nad oedd canlyniad i'w gweld eto. Eglurwyd fod newid wedi bod yn natur yr achosion sydd yn cyrraedd yr adran gydag anghenion plant yn dwysáu ac o ganlyniad angen pecynnau gofal fwy cymhleth.  

 

Eglurwyd fod rhagolygon yn amlygu y fod yr adran yn debygol o orwario o oddeutu £88,000. Mynegwyd fod yr adran wedi rhoi cais am dros £1m o fidiau  er mwyn cwrdd â phwysau ychwanegol ac i gyflawni cynlluniau blaenoriaeth.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Holwyd o ran y Cynllun Cefnogi Pobl beth yw’r ymateb sydd wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Eglurwyd ei fod wedi bod yn amrywiol gyda llawer yn gwerthfawrogi'r cymorth sydd ar gael.  

 

Awdur: Marian Parry Hughes