skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 189 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2022 fel rhai cywir.

 

5.

LLYWODRAETH CYMRU: LLYTHYR GAN WEINIDOG Y GYMRAEG AC ADDYSG pdf eicon PDF 143 KB

Eitem er gwybodaeth yn unig. Mae’r ddogfen hon wedi ei chyfieithu gan y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y llythyr hwn er gwybodaeth i aelodau’r Pwyllgor gan yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Eglurwyd bod cyn-aelodau’r pwyllgor wedi ysgrifennu at Weinidog Y Gymraeg ac Addysg cyn yr etholiad ym mis Mai 2022 i ddatgan pryder nad oedd Microsoft Teams yn darparu cyfieithu ar y pryd ac roedd rhaid cynnal y cyfarfodydd yn Saesneg.

 

-      Ymhelaethwyd bod y llythyr a yrrwyd gan y cyn-aelodau yn gofyn am gael darpariaeth cyfieithu ar y pryd yn ddi-ofyn ym mhob cyfarfod er mwyn i’r cyfarfodydd gallu cael eu cynnal yn Gymraeg.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r pwyllgor drafod a holi cwestiynau:

 

-      Mynegwyd siomiant ym mhenderfyniad y Llywodraeth i aros dwy flynedd a hanner cyn cynnal ei cyfarfodydd dros Zoom. Nid ydi Microsoft Teams wedi bod yn ymdopi’n dda gyda systemau cyfieithu ar y pryd yn ystod y cyfnod yma ac yn y cyfamser mae cyfieithu ar safon eilradd wedi cael ei ddarparu dros y ffôn wrth i fynychwyr ymuno â’r cyfarfod ar eu cyfrifiaduron. Ychwanegwyd bod rhaid i gyfranwyr hysbysu’r trefnwyr os ydynt yn dymuno siarad Cymraeg. Nodwyd os byddai 10% o fynychwyr y cyfarfod yn gwneud hyn, dyma pryd byddai’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu. Eglurwyd os nad oedd digon o geisiadau i gyfrannu yn Gymraeg, nid oedd dewis ond cyfrannu’n Saesneg.

-      Mewn ymateb i’r pwyntiau hyn, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod Microsoft Teams newydd ddiweddaru ei systemau cyfieithu. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn ei dreialu ar hyn o bryd cyn ei ddefnyddio yn y cyfarfodydd. Cadarnhawyd bod profiad y defnyddiwr yn bwysig iawn ac felly ni fydd Microsoft Teams yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor nes bod ansawdd y gwasanaeth yn cyfateb â beth sy’n cael ei ddarparu gan Zoom.

-      Mewn ymateb i’r pwyntiau hyn, pwysleisiodd yr Ymgynghorydd Iaith nad nid dewis y Llywodraeth ydi gosod gofyniad o 10% o’r mynychwyr wneud cais i siarad drwy gyfrwng y Gymraeg mewn cyfarfodydd cyn cael gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Cadarnhawyd bod hyn yn rhan o safonau ieithyddol ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eu dilyn. O ganlyniad, mynegwyd bod y Llywodraeth yn cydymffurfio â’r safonau.

 

-      Mynegwyd siomiant bod y Llywodraeth ddim yn teimlo eu bod nhw angen mynd gam ymhellach na’r safonau i annog mwy o siaradwyr Cymraeg. Ymholwyd pa mod rhagweithiol ydi’r Llywodraeth i hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau darpariaeth cyfieithu.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd yr Ymgynghorydd Iaith bod agweddau amrywiol i hyrwyddo’r iaith o fewn y llywodraeth. Ymhelaethwyd bod y Llywodraeth yn ddibynnol iawn ar swyddogion i hyrwyddo’r iaith ond nad ydi’r ddarpariaeth yno o hyd i allu gwneud hynny’n effeithiol.

 

-      Cytunwyd bod y Llywodraeth angen bod yn cefnogi Swyddogion a Gweinidogion i siarad Cymraeg yn y gweithle. Cadarnhawyd bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ddull cyfoes o allu cynnal cyfarfodydd yn Gymraeg ond mae angen mynd ymhellach i sicrhau dyfodol yr iaith.

 

-      Gofynnwyd sut mae’r safonau iaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 131 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Uwch Swyddog Gweithredol Adran Amgylchedd a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Adroddwyd bod 91.7% o swyddogion yr adran yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd a mynegwyd balchder gan fod hyn yn uwch na chyfartaledd y Cyngor. Cadarnhawyd bod 78.5% o holl swyddogion yr adran wedi cwblhau hunan asesiad o sgiliau iaith ac mae’r adran yn annog y swyddogion sydd yn weddill i’w gwblhau cyn gynted â phosibl.

 

-      Cadarnhawyd bod 14 o swyddogion yr adran ddim yn cyrraedd dynodiad ieithyddol ei swydd ond maent yn cael eu hannog i fynychu amrywiol gyrsiau a hyfforddiant.  Mae’r adran yn annog swyddogion i fanteisio ar gwrs gloywi iaith. Canmolwyd y safle gan ei fod yn adnodd da sy’n rhoi cymorth i swyddogion yn ogystal â’r fforwm iaith. Pwysleisiwyd bod sgyrsiau o hyd yn dechrau yn y Gymraeg ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod pawb yn teimlo’n gyffyrddus i feithrin eu sgiliau a hyder ieithyddol.

 

-      Pwysleisiwyd nad ydi’r ffigyrau hyn yn cynnwys swyddogion y gwasanaethau gwastraff sydd wedi trosglwyddo o’r adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol yn ddiweddar.

 

-      Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth rheolaeth adeiladu wedi llwyddo i annog pobl i sicrhau bod enwau eu tai yn aros yn enwau Cymraeg, neu annog perchnogion i newid enwau eu tai yn ôl i’r Gymraeg gan ddangos pwysigrwydd enwau traddodiadol iddynt. Bu i’r gwasanaeth Cynllunio hefyd hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy ddilyn polisi PS1 sy’n rhoi ystyriaeth fanwl i’r iaith wrth ddelio gyda cheisiadau cynllunio.

 

-      Eglurwyd bod cyfran o waith yr adran yn cael ei allanoli i gontractwyr. Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i warchod yr iaith. Pwysleisiwyd bod gwahoddiadau i dendr yn ogystal â chanllawiau yn cael ei wneud yn y ddwy-ieithog. Nodwyd bod trafferthion yn gallu codi wrth geisio cyfieithu contractau cenedlaethol safonol gan bod ystyr y contractau yn gallu cael ei newid yn hawdd. Er hyn, adroddwyd bod yr adran wedi bod yn llwyddiannus i gael contractau Cymraeg gydag cwmnïau bws drwy teilwra contractau eu hunain.

 

 

-      Manylwyd mai un o brif rwystrau sy’n wynebu’r adran yn ddiweddar ydi diffyg recriwtio. Cadarnhawyd ei fod yn anodd recriwtio swyddogion cymwysedig yn gyffredinol ar draws gwasanaethau’r adran a bod yr her yn dwysau wrth ymdrechu i recriwtio swyddogion cymwysedig sydd hefyd yn meddu a sgiliau ieithyddol digonol.

 

-      Ymhelaethwyd bod yr adran wedi bod yn llwyddiannus i recriwtio hyfforddai proffesiynol yn y gwasanaeth traffig sy’n meddu a sgiliau ieithyddol cryf. Mae’r adran yn parhau i fuddsoddi ynddo er mwyn sicrhau ei fod yn gymwysedig i gyflawni’r rôl yn hyderus. Mynegwyd pryder bod sefyllfaoedd yn codi ble mae’r adran yn buddsoddi mewn pobl a'u bod yn eu colli yn y pendraw i’r sector preifat neu awdurdodau lleol eraill gan fod y cyflog yn uwch yn y lleoliadau hyn. Yn anffodus, mae sawl swyddog o’r adran wedi newid swyddi i leoliadau eraill o herwydd hyn.

 

-      Esboniwyd bod yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN PRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL pdf eicon PDF 267 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cynorthwyol Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Adroddwyd bod 94.5% o swyddogion yr adran yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd. Yn anffodus, dim ond 39% o’r adran sydd wedi cwblhau’r holiadur. Gan mai dyma yw’r gyfradd leiaf o holl adrannau’r Cyngor, mae’n anodd dweud faint o bobl sydd yn cyrraedd eu dynodiad iaith.

 

-      Ymhelaethwyd bod ystyriaeth wedi cael ei roi i fynediad at yr holiadur a bod nifer o staff rheng flaen yr adran wedi methu cwblhau’r adroddiad gan nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur. Trafodwyd gyda’r Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg i geisio symleiddio’r holiadur ar lein yn ogystal â gyrru copi caled o’r holiadur gyda llythyr o eglurhad gan bennaeth yr adran ond yn anffodus nid yw’r mwyafrif o swyddogion wedi ei gwblhau, gan mai cynnydd o 14% sydd i’w weld yn nifer yr ymatebion i flwyddyn ddiwethaf.

 

-      Trafodwyd gyda swyddogion i dderbyn adborth pan nad oedden nhw eisiau cwblhau’r holiadur a bu sawl rheswm o eglurhad:

§  Roedd rhai yn credu ei fod yn broses ddiwerth.

§  Roedd rhai yn poeni am eu dyfodol mewn cyflogaeth os nad oedden nhw’n cyrraedd y dynodiad iaith.

 

-      Mynegwyd bwriad i weithio ar y cyd gyda’r Adran Amgylchedd i geisio cael mwy o adborth i’r holiadur hwn, gan gadarnhau bod gweithwyr casglu gwastraff bellach wedi trosglwyddo i’r adran honno.

 

-      Eglurwyd bod recriwtio swyddogion proffesiynol a rheng flaen wedi bod yn rhwystr yn y cyfnod diwethaf. Mae hyn wedi bod yn broblem benodol gyda gweithwyr gwasanaeth casglu sbwriel a glanhau strydoedd yn ardal Meirionnydd. Er bod y dynodiad iaith yn sylfaenol yn y rolau yma, mae’r adran wedi gorfod pwyso a mesur pwysigrwydd cyflogi gweithwyr gyda sgiliau Cymraeg, gyda darparu gwasanaeth o safon.

 

-      Adroddwyd bod yr adran wedi bod yn llwyddiannus yn penodi swyddog sydd wedi datblygu ei hyder a sgiliau ieithyddol. Bu i’r ymgeisydd gyflwyno ei gais yn y Gymraeg ac ers hynny wedi cael ei benodi yn amodol ei fod yn mynychu cwrs iaith yn Nant Gwrtheyrn. Roedd y swyddog yn awyddus iawn i fynychu a bellach yn cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig  yn safonol iawn ac yn hyderus ei natur.

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:

-      Mynegwyd pryder nad oedd rhai o dermau technegol yr adran yn cael eu cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Mae prosesau cyfieithu yn effeithiol iawn yng Nghymru ac felly holiwyd os oes modd ail ymweld a’r mater hwn.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth Cynorthwyol Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod amryw o gamau allanoli gwaith yn digwydd yn ddwyieithog ond yn aml iawn mae amodau yn cael eu cynnwys yn uniaith Saesneg oherwydd bod ystyr yn gallu amrywio’n hawdd wrth gael ei gyfieithu. Mae hyn yn golygu bod y mwyafrif o’r dogfennau yn cynnwys yr iaith Gymraeg ond bod rhai mannau sydd yn defnyddio Saesneg yn unig.

 

-      Trafodwyd nifer o materion sy’n gysylltiedig â dynodiadau iaith. Roedd rhai o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN CYLLID pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Gyllid, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Adroddwyd bod y mwyafrif helaeth o staff yr adran wedi cwblhau’r hunan asesiad sgiliau iaith ddiweddar. Dengys y canlyniadau bod 216 o’r gweithlu yn cyrraedd dynodiad swydd, gyda 2 aelod o staff yn methu i’w gyrraedd. Nodwyd bod 96% o staff wedi llenwi’r hunan asesiad a bod y 4% sydd heb ei gwblhau, heb wneud hynny gan eu bod yn newydd i’w rôl. Cadarnhawyd bod y 4% yma yn gyfwerth â 11 aelod o staff.

 

-      Ymhelaethwyd bod pob ymdrech wedi ei wneud er mwyn sicrhau bod y 2 aelod o staff nad oedd yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd yn cael eu hannog a chefnogi i fynd ar gyrsiau hyfforddi i fagu eu hyder. Cadarnhawyd bod y swyddogion yn yr achosion hyn wedi mynychu cyrsiau ond yn parhau i fod ychydig yn ddihyder yn eu sgiliau iaith ac wedi marcio eu hunain yn llym wrth lenwi’r asesiad.

 

-      Manylwyd nad ydi’r adran wedi bod yn llwyddiannus yn hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd o’r gwaith. Mae’r adran yn cysylltu yn rheolaidd gyda cwmnïau technegol arbenigol yn ogystal â darparwyr technoleg gwybodaeth. Mae llawer o’r cwmnïau hyn yn dod o’r Unol Daliaethau fel rheol ac er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gychwyn trafodaeth yn Gymraeg, mae’r adran yn bod yn realistig i ystyried pryd gall gyrru dogfennau Cymraeg bod yn effeithiol neu’n rhwystrol. Er hyn, sicrhawyd nad ydi’r ffaith bod cysylltiadau gyda ychydig o’r cwmnïau hyn yn digwydd yn Saesneg ddim yn atal yr adran rhag darparu gwasanaeth Cymraeg o’r radd flaenaf i staff a thrigolion Gwynedd.

 

-      Pwysleisiwyd bod y rhan fwyaf o ddogfennau yn cael eu cynnal yn ddwyieithog neu yn Gymraeg. Mae gwaith hanfodol wedi cael ei gyflawni i sicrhau bod holl dermau technegol yr adran wedi cael eu Cyfieithu ac felly mae gan bobl Gwynedd yr opsiwn i lenwi unrhyw ffurflen megis, ffurflenni trethi neu geisiadau am fudd-daliadau yn ogystal â darllen adroddiadau, yn y Gymraeg os ydynt yn dymuno.

 

-      Diweddarwyd bod y gwasanaeth technoleg gwybodaeth bellach wedi diweddaru meddalwedd Windows holl gyfrifiaduron y defnyddwyr yn y Cyngor i fod yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith diofyn y cyfrifiadur yn hytrach na Saesneg. Mae hyn wedi cael ei annog yn y gorffennol ond yn ddiweddar mae’r newid hwn wedi bod yn orfodol ar holl ddyfeisiau’r Cyngor.

 

-      Esboniwyd bod yr adran wedi datblygu darpariaeth Dysgu Ddigidol ers mis Ebrill eleni. Bu i hyn gymryd lle yn dilyn y broses o ddirwyn cwmni Cynnal i ben a mewnoli’r gefnogaeth roeddent yn ei ddarparu. Fel rhan o’r gefnogaeth honno mae’r adran yn gyfrifol am ddarparu gliniadur i holl athrawon y sir ac yn y broses o ddarparu gliniaduron i holl ddisgyblion blynyddoedd 7 i 11 o fewn ysgolion Gwynedd. Cadarnhawyd bydd y rhain hefyd yn defnyddio Cymraeg fel iaith y cyfrifiadur.

 

-      Eglurwyd bod ychydig o newid wedi bod i ddefnyddwyr allanol gan fod banc Barclays wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

DIWEDDARIAD PROSIECT BLAENORIAETH DYNODIADAU IAITH pdf eicon PDF 154 KB

I roi diweddariad ar y prosiect i’r Aelodau.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-          Adroddwyd ar hanes y prosiect dynodiadau iaith gan  gadarnhau ei fod yn deillio o drafodaethau’r Pwyllgor Iaith yn 2015 cyn i safonau ieithyddol newydd ddod i rym yn 2016. Yn sgil y prosiect, mae gan y Cyngor well dealltwriaeth o’r gwahanol sgiliau ieithyddol sydd gan y gweithlu ac yn gallu cynnig cefnogaeth fwy addas i feithrin sgiliau ieithyddol y staff.

 

-          Cadarnhawyd bod y prosiect hefyd wedi cael ei ddatblygu i roi dynodiadau iaith ar wahanol swyddi’r Cyngor. Bydd gan swyddogion fwy o ymwybyddiaeth o’r lefel sgil angenrheidiol i gwblhau’r gwaith yn effeithiol oherwydd hyn.

 

-          Eglurwyd bod y prosiect wedi bod yn flaenllaw er mwyn sefydlu system iaith fewnol sy’n cadw’r wybodaeth am sgiliau iaith staff ac er mwyn sefydlu proses i rannu gwybodaeth am gyrsiau, rhannu adborth a llwyddiannau gyda’r gwahanol adrannau. Hefyd fel rhan o’r prosiect, datblygwyd safle iaith mewnol. Dangoswyd gwahanol rannau o’r safle iaith hwn i’r aelodau.

 

-          Rhoddwyd sylw i’r cwestiynau a godwyd yn ystod y trafodaethau blaenorol a nodwyd y wybodaeth isod:

o   Esboniwyd bod y broses o gasglu gwybodaeth drwy’r holiadur hunan asesu yn amrywiol. Nodwyd bod rhai pobl yn hapus i’w lenwi ar lein ac eraill yn dymuno derbyn copi papur. Eglurwyd bod y rheolwr yn darparu’r wybodaeth ar gyfer y prosiect mewn sefyllfaoedd ble nad oes gan weithwyr fynediad agos at gyfrifiadur, neu eu bod nhw yn weithwyr rheng flaen. Y bwriad ydi i’r wybodaeth gael ei gasglu yn y dull mwyaf syml i’r gweithwyr er mwyn i bawb gael cyfle i’w lenwi. Eglurwyd hefyd bod swyddogion y prosiect yn deall bod rhai pobl yn amheus o lenwi holiaduron a bod sgiliau iaith yn gallu bod yn fater sensitif i lawer.

o   Tybiwyd bod nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg yn uwch mewn rhai adrannau nag beth sydd yn cael ei nodi yn y canfyddiadau. Nodwyd bod rhai pobl yn gallu siarad Cymraeg ond ddim yn cyrraedd y dynodiad iaith ac felly ddim yn cael eu cynnwys mewn rhai ffigyrau. Cadarnhawyd mai dyma oedd prif nod yr holiadur er mwyn sicrhau dealltwriaeth o’r gwahanol lefelau sgil sydd yn bodoli mewn gwahanol dimau er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth berthnasol ar gael i swyddogion.

 

-          Dangoswyd copi o’r holiadur fel esiampl i’r aelodau.

 

-          Nodwyd bod y prosiect ffurfiol yn dod i ben yn y misoedd nesaf. Cadarnhawyd bod y broses o gasglu gwybodaeth am sgiliau iaith staff yn parhau i ddigwydd, ond bod prif ffocws y swyddogion yn symud i sicrhau bod staff yn cael y gefnogaeth i ddatblygu eu sgiliau iaith.

 

-          Prosiect ffurfiol yn dod i ben yn y misoedd nesaf. Cefnogi staff a chasglu holiadau yn dal i ddigwydd ond ffocws yn symud i gefnogaeth staff.

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r pwyllgor holi cwestiynau:

-      Holiwyd os ydi’r hunanasesiad ieithyddol yn cael ei gwblhau o fewn yr adran Addysg, gan ei fod yn broses sydd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.