skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw datganaidau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 258 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022, fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2023.

 

Angorfeydd Aberdyfi a Chofrestru Cychod

 

·        Adroddwyd y byddai Aberdyfi Marine Services yn darparu gwasanaeth contractio angorfeydd newydd eleni. Eglurwyd bod y gwasanaeth hwn yn ychwanegol i’r gwasanaeth angori sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan gwmni Underwater Maintenance and Inspections Services, sydd wedi bod yn weithredol yn Harbwr Aberdyfi ers sawl blwyddyn.

·        Cadarnhawyd byddai’r system gofrestru Cychod Pŵer a Chychod Dŵr Personol Cyngor Gwynedd yn parhau i gael ei weinyddu drwy drefniant ar-lein. Ychwanegwyd bydd modd i gwsmeriaid defnyddio system ar-lein er mwyn talu am eu hangorfa.

 

Côd Diogelwch Morol Phorthladdoedd

 

·        Adroddwyd bydd Cod Diogelwch Morol yr harbwr yn cael ei adolygu eleni yn ogystal â datblygu asesiadau risg newydd yn sgil datblygiadau wal cei newydd ar gyfer yr harbwr.

·        Eglurwyd bydd ‘Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023’ yn dod yn weithredol ar 31 Mawrth eleni. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod perchnogion badau dŵr personol yn defnyddio’u peiriannau yn ddiogel. Ymhelaethwyd bod swyddogion yr harbwr yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau dealltwriaeth o brosesau perthnasol yn sgil cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon.

o   Mewn ymateb i ymholiad ar hyfforddiant badau dŵr personol, cadarnhawyd gan Harbwrfeistr Aberdyfi bod hyfforddiant ‘Waterwise Marine’ ar gael ym Mhwllheli a Phorthmadog. Ymhelaethwyd na fyddai badau dŵr personol yn gallu cael eu lansio o’r harbwr os nad oedd yswiriant dilyn arno. Er hyn, cadarnhawyd nad oedd yn ofynnol i berchnogion brofi eu bod wedi hyfforddiant ar sut i’w drin yn gywir.

o   Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod unigolion yn cymryd rhif cofrestru unrhyw badau dŵr personol maent yn gweld yn torri rheolau a’u riportio i staff yr harbwr.

o   Rhoddwyd ystyriaeth i harbyrau ac awdurdodau cyfagos. Nodwyd er nad oes modd atal unigolion rhag lansio eu badau personol tu hwnt i’r harbwr, mae cwch yr harbwr yn teithio rhwng Tywyn ac Aberdyfi er mwyn annog pobl i aros yn saff a rhannu gwybodaeth. Nid oes sicrwydd os oes rheolau llym ar gofrestru badau dŵr personol yng Ngheredigion ar hyn o bryd ond gobeithir parhau i gydweithio gyda’r awdurdod i’w annog i’w fabwysiadu.

o   Soniwyd bod hyfforddiant padl fyrddau ar gael yn y Clwb Hwylio. Er hyn, pwysleisiwyd ei fod yn hawdd iawn i unrhyw unigolyn brynu padl-fwrdd ac felly mae’n rhaid bod yn wyliadwrus o’u defnyddwyr.

 

Materion Staffio

 

·        Croesawyd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i’r cyfarfod a llongyfarchwyd ar ei benodiad diweddar.

·        Adroddwyd nad oedd newidiadau ar faterion staffio yn y cyfnod diwethaf a chadarnhawyd bod yr Harbwrfeistr a’i gymhorthydd wedi ymgymryd â rhaglen o waith cynnal a chadw dros y gaeaf.

 

Materion Ariannol

 

·        Adroddwyd bod gorwariant wedi bod mewn rhai meysydd eleni megis costau staff a chostau’r cwch a cherbydau. Er hyn, mae tanwariant wedi bod  ym meysydd eiddo ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 17 Hydref 2023.

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 17eg o Hydref 2023.