skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes ac Elin Hywel: Cynghorydd John Pughe (Aelod Lleol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelod canlynol ei  fod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Rhys Tudur (nad oedd yn Aelod i’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C21/1038/41/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 28ain o Dachwedd 2022 a Rhagfyr 19eg 2022 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

6.

Cais Rhif C21/1038/41/LL Ty'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX pdf eicon PDF 427 KB

Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol, i sefydlu safle carafanau teithiol i 19 uned, ymestyn adeilad presennol i greu bloc toiledau a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nhŷ’n Lôn, Afonwen. Byddai’r unedau teithiol wedi eu lleoli o amgylch terfynau’r cae i’r gogledd orllewin o’r eiddo.

 

Eglurwyd bod Datganiad Cynllunio a datganiad cryno am sut roddwyd ystyriaeth i’r Iaith Gymraeg wedi eu cyflwyno gyda’r cais gwreiddiol ynghyd ag Asesiad Ecolegol Cychwynnol, Arolwg Botanegol ac Arolwg Moch Daear a Chynllun mesurau lliniaru bywyd gwyllt yn ddiweddarach. Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn gofyn am floc toiledau newydd, ond fe gyflwynwyd cynlluniau diwygiedig (12 Rhagfyr 2022) yn dangos bwriad i ymestyn adeilad modurdy presennol ar y safle i greu bloc toiledau/cyfleusterau yn eu lle. 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio gan fod safle’r cais yn fwy na 0.5 hectar o faint.

 

Nodwyd mai Polisi TWR 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) oedd y polisi perthnasol ar gyfer caniatáu datblygiadau ar gyfer carafanau teithiol. Eglurwyd bod y polisi yn gosod cyfres o feini prawf a chyfeiriwyd at faen prawf 1 sy’n datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad; wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol. 

 

Adroddwyd y byddai’r bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn cae gwastad sydd â choed aeddfed ar y terfynau ac felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus. Ategwyd bod bwriad i atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy blannu gwrych newydd o goed cynhenid fel ffin orllewinol newydd i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nid yw’r safle o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y dirwedd. Mae’r bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o safbwynt gofod a chyfleusterau ac felly derbyniwyd fod y datblygiad yn un safonol.

 

Nodwyd bod ail faen prawf Polisi TWR 5 yn gofyn osgoi gormodedd o leiniau caled. Yn yr achos hwn ni ddangosir unrhyw leiniau caled i’r carafanau – y trac graean sydd yn arwain i fyny’r cae o’r fynedfa yw’r unig lain caled ac ystyriwyd y gall y trac ymdoddi’n rhwydd i’r dirwedd. Gan na ddangosir lleiniau caled, ystyriwyd y byddai’n addas gosod amod bod unrhyw leiniau caled yn cael ei gyfyngu i leiniau’r carafanau yn unig.

 

Yng nghyd-destun y trydydd maen prawf sy’n gofyn sicrhau mai unedau teithiol yn unig fyddai’n defnyddio’r safle, amlygwyd y gellid rheoli hynny drwy amod cynllunio priodol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, ar sail pellter a natur guddiedig y cae, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol nac achosi aflonyddwch ar unrhyw drigolion cyfagos. Ystyriwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C21/0493/09/AC PV Parc Solar yn Morfa Camp Sandilands, Tywyn, LL36 9BH pdf eicon PDF 471 KB

Diwygio a dileu amodau ar ganiatâd cynllunio C15/0662/09/LL

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.            Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif 1137/28, 1137/30-03, 1137/24, 1137/30-1, 1137/02B, 1137/05, 1137/07 V2, 1137/23/1137/25-2, 1137/29 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.

2.            Dylid gorffen defnyddio’r tir at ddibenion cynhyrchu trydan fel y caniateir yma 35 mlynedd neu’n gynharach o ddyddiad cynhyrchu egni y paneli solar, neu o fewn 6 mis i orffen defnyddio unrhyw baneli solar at ddibenion cynhyrchu trydan (oni bai iddynt gael eu hamnewid o fewn y cyfnod hwnnw) pa un bynnag yw’r cynharaf, ac fe ddylid gwneud hynny yn unol â chynllun gwaith a fydd eisoes wedi ei gyflwyno a’i gytuno’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a bydd hwnnw’n cynnwys rhaglen weithredu.  Cwblheir y cynllun gwaith yn unol â’r manylion a gytunir a bydd y rhain yn cynnwys-

1.    Datganiad dull ar gyfer dad-gomisiynu a datgymalu’r holl gyfarpar ar y safle;

2.    Manylion unrhyw eitemau sydd am eu gadael ar y safle;

3.    Datganiad dull ar gyfer adfer y tir i amaethyddiaeth;

4.    Amserlenni ar gyfer digomisiynu, gwaredu ac adfer y tir;

5.    Datganiad dull ar gyfer gwaredu / ailgylchu priodol cyfarpar / strwythurau segur;

6.    Darpariaeth ar gyfer adolygu’r cynllun fel bo angen.

 

 

3.            Rhaid gweithredu’r Asesiad Risg Bioddiogelwch dyddiedig 9 Rhagfyr 2015 trwy gydol oes y datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

4.            Os y bwriedir gosod system oleuo ar y safle ar unrhyw adeg bydd gofyn cyflwyno a chytuno yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol fanylion y system oleuo hynny gan dangos math, union leoliad, lefel goleuedd a’r modd o ddiogelu rhag llygredd neu gorlif golau.  Rhaid fydd gosod y system oleuo yn unol gyda’r manylion gytunwyd.

5.            Rhaid i’r datblygiad gael ei weithredu’n llwyr unol gyda’r Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecolegol (v5) dyddiedig 10 Mawrth 2021, Adroddiad Monitro Ehedydd cyf S_MSF_V4 dyddiedig 9 Mawrth 2021 a’r Cynllun Tirlunio rhif 1137/29 drwy gydol oes y datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

6.            Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad gweithredol gymryd lle yn ystod unrhyw waith yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma o fewn 3 medr naill ochr i linell ganol y pibelli cyflenwad sy’n croesi’r safle.

7.            Rhaid i’r datblygiad gael ei weithredu mewn cydymffurfiaeth lwyr gyda’r Datganiad Dull Cynllun Adeiladu ac Asesiad Risg gan Corylus dyddiedig Rhagfyr 2015 er diogelu cyflwr strwythurol y ddwy bibell cyflenwad sy’n croesi’r safle.  Ni chaniateir cario allan unrhyw ddatblygiad pellach yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma hyd nes y bydd y mesurau diogelu wedi cael eu gweithredu a’u cwblhau

 

Cofnod:

Diwygio a dileu amodau ar ganiatâd cynllunio C15/0662/09/LL

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio a dileu amodau ar fferm solar yn Nhywyn. Nodwyd bod y caniatâd wedi ei weithredu a’r fferm yn ei lle, ond bod bwriad diwygio amodau i adlewyrchu ceisiadau cynllunio mwy diweddar.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud yn bennaf gyda diwygio strategaeth lliniaru ehedydd a gytunwyd o dan amod 14 o gais C15/0662/09/LL. Nodwyd bod yr hyn a gytunwyd fel rhan o’r amod yn clustnodi cae i’r gogledd o’r safle solar ar gyfer yr ehedydd, ond fel rhan o’r cais dan sylw mae’r datblygwr am wella’r amodau o fewn y safle er budd yr ehedydd yn hytrach na defnyddio’r cae nodedig.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod y safle dros 0.5 hectar.

 

Adroddwyd, gan fod y cais yn ymwneud a diddymu amodau a osodwyd am resymau cynllunio dilys bod rhaid edrych os yw’r amodau dan sylw’n berthnasol mwyach dan y canllawiau cenedlaethol mewn perthynas ag amodau cynllunio sydd wedi’u cynnwys yng Nghylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014: Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu. Fe restrai’r cylchlythyr chwe phrawf ar gyfer dilysrwydd amodau cynllunio a bod hi’n angenrheidiol ystyried os yw’r amodau yn cyd-fynd â’r profion isod:

     Eu bod yn hanfodol.

     Eu bod yn berthnasol i gynllunio.

     Eu bod yn berthnasol i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu.

     Y gellir eu gorfodi.

     Eu bod yn fanwl.

     Eu bod yn rhesymol ym mhob agwedd arall.

 

Amlygwyd nad oedd rheswm dros addasu rhai o’r amodau gwreiddiol ond bod gofyn i’r datblygwr barhau i gydymffurfio a hwy. Gwnaed cais i ddileu amod 13: Cyflwyno a chytuno manylion system goleuo’r safle gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Fel rhan o gais C15/1368/09/AC, nodwyd nad oedd bwriad gosod unrhyw oleuadau fel rhan o’r datblygiad a gyda’r gwaith o ddatblygu’r fferm solar wedi ei gwblhau bellach, amlygwyd nad oedd goleuadau wedi eu gosod ar y safle.  Fodd bynnag, petai angen gosod goleuadau ar y safle yn y dyfodol yna nid yw pob math o olau angen caniatâd cynllunio.  Ystyriwyd y gall gosod goleuadau gael effaith posibl ar fwynderau, gweledol a thrigolion lleol, ynghyd a bioamrywiaeth ac felly ystyriwyd y byddai’n briodol diwygio’r amod yn hytrach na’i dileu.  Awgrymwyd gosod amod fyddai yn nodi os bwriedir gosod system oleuo ar safle’r fferm solar bydd rhaid cyflwyno a chytuno'r manylion hynny gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol.  Byddai hyn yn cadw rheolaeth dros unrhyw oleuadau posibl allai gael eu rhoi ar y safle ac ystyrir y byddai amod o’r fath yn rhesymol. 

 

Prif ystyriaeth y cais oedd amod 14 Cyn cychwyn gwaith angen cyflwyno a chytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol gynllun tirlunio a phlannu.  Eglurwyd, fel rhan o gais C15/1368/09/AC, cyflwynwyd a chytunwyd ar Gynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg ynghyd a chynllun tirweddu oedd yn cynnwys bwriad i glustnodi cae i’r gogledd o’r fferm solar fel dôl gwair ar gyfer ehedydd, i blannu eithin a helygen ac i reoli’r tir o fewn y fferm  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.