skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Craig ab Iago.

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol ar gyfer Eitem 8 gan y Pennaeth Cyllid am fod ei wraig yn brif lyfrgellydd mewn awdurdod lleol arall. Nid oedd y buddiant hwn yn un oedd yn rhagfarnu felly ni adawodd y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 CHWEFROR pdf eicon PDF 480 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023 fel rhai cywir.

 

6.

CYNLLUN FFORDD GWYNEDD 2023-28 pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd mabwysiadu’r Cynllun am y pum mlynedd nesaf (Atodiad 1) sydd yn adeiladu ar ddatblygiad y diwylliant gwaith o fewn y Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.     

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd mabwysiadu’r Cynllun am y pum mlynedd nesaf (Atodiad 1) sydd yn adeiladu ar ddatblygiad y diwylliant gwaith o fewn y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro mai “Ffordd Gwynedd” yw cyfeiriad at y ffordd o weithio sydd wedi ei fabwysiadu oddi fewn i’r Cyngor er mwyn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth. Nodwyd ei fod yn weithredol bellach ers 2015 pan mabwysiadwyd y Cynllun yn wreiddiol a bod y Prif Weithredwr blaenorol wedi bod yn bencampwr Ffordd Gwynedd. Ychwanegwyd bod y Prif Weithredwr presennol hefyd yn dymuno datblygu Ffordd Gwynedd ymhellach.

 

Nodwyd ei bod yn daith i geisio gwireddu’r diwylliant hwn a cydnabuwyd bod y cyfnod Cofid wedi arafu’r cynnydd a wnaed. Diolchwyd i’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Geraint Owen, am eu harweiniad a’u brwdfrydedd.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod yr adolygiad diweddaraf o Gynllun Ffordd Gwynedd wedi ei gynnal yn 2019 ble cymeradwywyd y Cynllun presennol. Credwyd ei bod yn amserol i ddiweddaru, addasu a gwella’r Cynllun.

 

Adroddwyd bod Adrannau’r Cyngor wedi cynnal hunanasesiad o’u cynnydd fel sail i’r adolygiad diweddaraf a bod yr hunanasesiadau yma wedi cael eu herio gan weithgor o aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Nodwyd bod y casgliadau a’r argymhellion wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref 2022.

 

I gloi, cyflwynwyd Cynllun arfaethedig ar gyfer y pum mlynedd nesaf sydd yn crynhoi'r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma ac yn adnabod y prif faterion ar gyfer y cyfnod 2023-28. Mynegwyd bod 9 is-ffrwd gwaith wedi eu cyflwyno yn y Cynllun sydd i’w gweld yn atodiad 1 o’r Adroddiad.

 

Cyfleodd y Prif Weithredwr ei ddiolchiadau i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am arwain ar y gwaith yma yn ogystal â’r gweithgor. Ychwanegwyd bod y Cynllun yn adlewyrchu ar wersi a rhwystrau’r gorffennol gan barhau efo’r egwyddor sylfaenol o geisio dod o hyd i ffyrdd gwell o ddarparu'r hyn mae pobl Gwynedd ei angen. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Gofynnwyd sut mae’r Cynllun hwn yn cyd-fynd â chydraddoldeb ac yn sicrhau tegwch i bobl Gwynedd sydd yn ganolog i ddiwylliant y Cyngor.

¾   Mewn ymateb nodwyd bod popeth sydd wedi ei gynnwys yng Nghynllun Ffordd Gwynedd wedi ei ystyried yng nghyd-destun cydraddoldeb. Nodwyd mai un o flaenoriaethau gwella penodol y Cyngor yw Merched Mewn Arweinyddiaeth sydd yn rhan bwysig o’r Cynllun hwn. Nodwyd bod cydraddoldeb ac Iaith yn prif ffrydio trwy holl weithgaredd y Cynllun ac yn rhan o ddiwylliant y Cyngor sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd. Mynegwyd balchder o allu cefnogi a hyrwyddo hyn.

¾   Mynegodd un o’r Aelodau Cabinet ei fod wedi bod yn rhan o weithgor nifer o flynyddoedd yn ôl oedd yn edrych ar Ffordd Gwynedd a'i fod yn credu’n gryf yn y ffordd yma o weithio. Ategwyd bod angen edrych ar bopeth drwy lygaid pobl Gwynedd.

¾   Croesawyd edrych ar brosesau byr a gwneud gwelliannau iddynt.

¾   Holwyd am weithio’n drawsadrannol neu gyda phartneriaid allanol gan wneud sylw y gall hyn fod yn drwsgl o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol

7.

PROSIECT ADDYSG ÔL-16 ARFON pdf eicon PDF 361 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatawyd i waith pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gael ei wneud er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon sy’n deillio o’r ymgysylltu anffurfiol a gynhaliwyd ar addysg ôl-16 yn Arfon yn nhymor yr Hydref 2020.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Caniatawyd i waith pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gael ei wneud er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon sy’n deillio o’r ymgysylltu anffurfiol a gynhaliwyd ar addysg ôl-16 yn Arfon yn nhymor yr Hydref 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn am ganiatâd y Cabinet i wneud gwaith pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon.

 

Gofynnwyd i ail afael yn y trafodaethau a gynhaliwyd yn nhymor yr Hydref, 2020 a’u cwmpasu i themâu. Nodwyd y byddai profiadau’r pandemig yn debygol o lywio rhai ymgynghoriadau a bellach bod ystyriaethau newydd i’w cysidro o ystyried bod cyfnod wedi bod ers y trafodaethau gwreiddiol. Cynigiwyd i ail afael yn y gwaith er mwyn dod i gasgliad i fedru cynnig yr addysg a’r profiadau gorau i bobl ifanc y Sir.

 

Ychwanegodd bod y mater hwn wedi bod dan ystyriaeth ers tro. Adroddwyd bod ymgynghori da wedi digwydd efo’r Ysgolion cyn y pandemig ond bod cyfnod y pandemig wedi newid pethau e.e. drwy ddarganfod ffyrdd gwahanol o addysgu. Credwyd ei bod yn amserol ail afael yn y trafodaethau a rhoi cyfeiriad i Ysgolion y Sir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd o’r ymgynghori oedd yn nodi bod teithio’n bell yn cael effaith negyddol ar addysg dysgwyr ôl-16 yn ogystal â’r amgylchedd. Gofynnwyd a yw pethau wedi newid ers y cyfnod Cofid ac os yw pob opsiwn yn parhau i gael eu hystyried.

¾   Mewn ymateb nodwyd bod y darlun wedi newid ers y pandemig e.e. bod y dysgu o bell a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn wedi ehangu ar bosibiliadau. Cadarnhawyd y bydd pob opsiwn yn cael ystyriaeth ond tybiwyd mai rhywbeth yn y canol o ran cryfhau’r gyfundrefn fyddai pobl yn dymuno ei weld.

¾   Mynegwyd bod y Cabinet wedi unioni un peth trwy ddiddymu’r tocyn teithio ôl-16. Bellach credwyd bod y dewis wedi ei ehangu i’r plant a’r bobl ifanc drwy eu galluogi i roi ystyriaeth i ddarpariaethau sydd fwy priodol i’w hanghenion yn hytrach na’u cyfyngu i leoliad penodol.

¾   Gofynnwyd a oedd cynlluniau i edrych ar y ddarpariaeth Addysg ôl-16 yn Nwyfor a Meirionnydd. Adroddwyd nad oes darpariaeth chweched dosbarth yn bodoli yn y rhannau hyn o’r Sir a bod llawer o ganlyniad yn teithio o Ddwyfor i ardal Arfon. Credwyd bod angen edrych ar y ddarpariaeth ar draws y Sir.

¾   Mewn ymateb nodwyd mai’r cam cyntaf yw edrych ar ardal Arfon gan mai yno mae’r chweched dosbarth yn bodoli. Adroddwyd bod bwriad yn y dyfodol i edrych yn ehangach ar draws y Sir er mwyn cyrraedd y nod o unioni’r gyfundrefn ar draws Gwynedd. 

¾   Croesawyd ail edrych ar y ddarpariaeth a credwyd bod edrych ar y syniadau i gyd yn berthnasol. Holwyd os bydd ystyriaethau i ddemograffeg gan fod llai o gyllid i’r Ysgolion cynradd.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Garem Jackson, Pennaeth Addysg

8.

CYNGOR GWYNEDD YN AWDURDOD ARWEINIOL AR GYFER LMS CYMRU (SYSTEM RHEOLI LLYFRGELL) pdf eicon PDF 212 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatawyd i Gyngor Gwynedd weithredu fel yr Awdurdod Arweiniol ar gyfer LMS Cymru sy’n golygu:

 

·        Bod Uned Caffael Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r broses gaffael ar gyfer LMS newydd sy’n golygu caffael system ar fframwaith nid yn unig i Gonsortiwm Llyfrgelloedd gogledd Cymru ond i Awdurdodau Llyfrgell Cymru sy’n awyddus i fod yn aelodau o Gonsortiwm LMS Cymru am gyfnod y cytundeb a fydd yn para am 7 mlynedd o 2023/2024.

·        Bod y trefniant LMS Cymru yn seiliedig ar Gytundeb Consortiwm a fydd yn ymrwymo pob aelod i dalu eu cyfran lawn o’r costau, ac unrhyw gostau potensial megis costau diswyddo, am hyd y cytundeb consortiwm newydd.

·        Fel rhan o’r Cytundeb Consortiwm, i gyflogi Uned Cefnogaeth LMS wedi ei staffio gan 3 swyddog llawn amser (lleoliad niwtral) am hyd y cytundeb.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Caniatawyd i Gyngor Gwynedd weithredu fel yr Awdurdod Arweiniol ar gyfer LMS Cymru sy’n golygu:

 

  • Bod Uned Caffael Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r broses gaffael ar gyfer LMS newydd sy’n golygu caffael system ar fframwaith nid yn unig i Gonsortiwm Llyfrgelloedd gogledd Cymru ond i Awdurdodau Llyfrgell Cymru sy’n awyddus i fod yn aelodau o Gonsortiwm LMS Cymru am gyfnod y cytundeb a fydd yn para am 7 mlynedd o 2023/2024.
  • Bod y trefniant LMS Cymru yn seiliedig ar Gytundeb Consortiwm a fydd yn ymrwymo pob aelod i dalu eu cyfran lawn o’r costau, ac unrhyw gostau potensial megis costau diswyddo, am hyd y cytundeb consortiwm newydd.
  • Fel rhan o’r Cytundeb Consortiwm, i gyflogi Uned Cefnogaeth LMS wedi ei staffio gan 3 swyddog llawn amser (lleoliad niwtral) am hyd y cytundeb.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ategu bod y Cyngor yn gofyn i gael gweithredu mewn rôl arweiniol unwaith eto ond y tro hwn ar draws Gymru. Mynegwyd balchder yng ngwaith y Pennaeth Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd a’u bod yn barod i arwain ar y gwaith LMS Cymru.

 

Nododd y Pennaeth Economi a Chymuned bod cydweithio agos wedi bod yn digwydd efo Llyfrgelloedd ar draws Gogledd Cymru yn ogystal â gwaith o gynllunio system newydd. Cadarnhawyd y byddai yn fwy effeithiol i bob un Sir weithio oddi ar un system.

 

Ategwyd bod yr Adran yn gofyn am yr hawl i roi eu hunain ymlaen yn ffurfiol i fod yn gorff arweiniol ar gyfer LMS Cymru ac o ganlyniad yn gofyn am drefn ffurfiol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Mynegwyd ei bod yn braf gweld Cyngor Gwynedd yn arwain unwaith eto gan gadarnhau y bydd y system newydd yn cael ei gweithredu ar draws Cymru gyfan.

¾   Tybiwyd o ran adnoddau bod gweddill yr Awdurdodau Lleol ar draws Cymru yn cyfrannu.

¾   Cadarnhawyd bod hyn yn gywir; er na fydd yn golygu arian ychwanegol i Gyngor Gwynedd ni fydd costau ychwanegol i’r Cyngor ychwaith. Ychwanegwyd y bydd y drefn newydd yn fwy effeithiol yn y pen draw i Awdurdodau Lleol.

¾   Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi ei bod yn dda i weld Cyngor Gwynedd yn flaengar ar draws Cymru.

¾   Anfonwyd dymuniadau gorau’r Cabinet tuag at y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd.

 

Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd

9.

LLYFRGELLOEDD LLAWN BYWYD - CYNLLUN LLYFRGELLOEDD GWYNEDD 2023-2028 pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd – Llyfrgelloedd Llawn Bywyd 2023-2028.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Cynllun Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd – Llyfrgelloedd Llawn Bywyd 2023-2028.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser ei gyflwyno ac argymhellwyd i bawb ddarllen y strategaeth glir sydd yn dangos gwaith a rolau'r Llyfrgelloedd. Ategwyd bod y Llyfrgelloedd yn chwarae rhan bwysig ym mywydau plant y Sir ac adlewyrchwyd ar y ddarpariaeth i blant. Ychwanegwyd, yn dilyn ymweliad diweddar i Lyfrgell Porthmadog, bod darpariaethau ehangach yn bodoli oddi fewn i’r Llyfrgelloedd fel gemau a darpariaethau Technolegol a’i bod yn braf gweld y Cynllun yn ei wirionedd.

 

Cyfeiriwyd at yr ystadegau yn y Cynllun Llyfrgell 2023-28 gan adrodd bod bron i 30,000 o bobl yn aelodau o Lyfrgelloedd Gwynedd. Dosbarthwyd dros 1,500 o becynnau nwyddau mislif ail-ddefnyddiadwy am ddim drwy’r llyfrgelloedd; credwyd bod hyn yn dangos y gwahaniaeth o ran llesiant i fywydau pobl Gwynedd sy’n cael ei gyflawni gan y Llyfrgelloedd.

 

Adroddwyd ar y sylwadau gafodd eu derbyn gan ddefnyddwyr gwasanaeth sydd wedi eu cynnwys ar dudalennau 5 a 6 o’r Cynllun Llyfrgell 2023-28, sydd yn dangos pwysigrwydd y gwasanaeth i bobl Gwynedd. Nodwyd bod y Llyfrgelloedd yn esblygu ac yn newid drwy fenthyg nwyddau ac yn darparu cyngor i drigolion y Sir. Mynegwyd balchder yn y strategaeth sydd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn datblygu ac yn darparu er lles pobl Gwynedd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Economi a Chymuned ei bod yn ofynnol ar y Cyngor o dan Safonau Llyfrgell Gyhoeddus Cymru i fod yn cyhoeddi Cynllun ar gyfer Llyfrgelloedd. Adroddwyd bod strategaeth Mwy na Llyfrau yn arfer bodoli ond bod y Cynllun hwn yn mynd gam ymhellach ac yn torri’r myth o Lyfrgelloedd fel llefydd distaw. Nodwyd bod y Cynllun yn dangos bod Llyfrgelloedd yn lefydd llawn bywyd ac yn amlygu’r datblygiadau diweddar a’r amrywiaeth o fewn y Llyfrgelloedd. Pwysleisiwyd bod darllen yn parhau i fod yn bwysig yn y Cynllun yn ogystal â materion iechyd a lles, yr Iaith Gymraeg, derbyn gwybodaeth a’r elfen ddigidol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Credwyd bod llawer yn gweld y Llyfrgelloedd fel man cysurus a chynnes i fynd yn ystod y cyfnodau o dywydd oer yn ogystal â lle i gymdeithasu a darllen.

¾   Croesawyd yr adroddiad. Gwnaethpwyd sylw bod y gair “Llyfrgell” bellach ddim yn cyfleu’r ddarpariaeth, y bwrlwm na’r brwdfrydedd sy’n bodoli o’u cwmpas.

¾   Holiwyd os yw’r Llyfrgelloedd yng Ngwynedd yn darparu adnoddau PECS, adnodd gweledol ar gyfer plant awtistig neu sydd efo anghenion dysgu ychwanegol.

¾   Cadarnhawyd bod gwasanaeth argraffu ar gael yn y Llyfrgelloedd ond byddai’n rhaid gwirio ynghylch yr adnoddau PECS ac y byddai’r Adran yn adrodd yn ôl i’r Aelod Cabinet.

¾   Broliwyd gwaith y Pennaeth Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd gan nodi eu bod yn esiampl o weithredu egwyddorion Ffordd Gwynedd ac wedi gwthio’r gwasanaeth Llyfrgelloedd yn ei flaen. Dymunwyd eu llongyfarch ar y gwaith.

 

Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd

10.

RHAGLEN CEFNOGI LLESIANT POBL pdf eicon PDF 247 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.1. Cymeradwywyd i orffen sefydlu Hybiau Cefnogi Pobl yn yr 13 ardal adfywio.

 

1.2. Caniatawyd comisiynu Gwasanaeth Cefnogi Llesiant Pobl i roi help llaw i drigolion gyda’u hanghenion llesiant yn yr hwb a’r ardal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

1.1. Cymeradwywyd i orffen sefydlu Hybiau Cefnogi Pobl yn yr 13 ardal adfywio.

 

1.2. Caniatawyd comisiynu Gwasanaeth Cefnogi Llesiant Pobl i roi help llaw i drigolion gyda’u hanghenion llesiant yn yr hwb a’r ardal.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teulu yn allweddol i’r gwaith yma ac y byddai yn egluro mwy am yr hybiau a'r gwaith sy’n digwydd. Nodwyd bod y Rhaglen Cefnogi Llesiant Pobl yn esiampl o waith traws adrannol ar draws y Cyngor am ei fod wedi deillio o waith sawl gwasanaeth yn ogystal ag asiantaethau neu fudiadau allanol fel Cyngor ar Bopeth. 

 

Darparwyd crynodeb o waith a siwrne'r Rhaglen Cefnogi Llesiant Pobl gan y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teulu. Adroddwyd bod yr adroddiad hwn yn cyfeirio yn benodol at y rhwydwaith o hybiau sydd wedi eu lleoli mewn Cymunedau. Eglurwyd bod yr hybiau yn ceisio dod a gwasanaethau’r Cyngor a’i bartneriaid yn agosach at drigolion Gwynedd. Nodwyd erbyn hyn bod 11 o’r hybiau yn weithredol ar draws y Sir a bod nifer fawr o’r anghenion sy’n dod drwy ddrysau’r hybiau yn ymwneud â’r argyfwng costau byw yn ogystal â materion budd-daliadau, treth cyngor, mynediad i dalebau tanwydd a chyngor ar ddigartrefedd.

 

Ategwyd nad yw pawb yn ymwneud â’r hybiau a bod gwaith i’w wneud gyda rhai o’r trigolion er mwyn eu cynorthwyo i ail gysylltu efo’r rhwydweithiau yn lleol. Ychwanegwyd bod awydd i symud ymlaen i gomisiynu’r gwasanaeth newydd a gorffen y gwaith o sefydlu’r Hybiau Cefnogi Pobl yn yr 13 ardal adfywio er mwy cyd-fynd â’r fframwaith adfywio. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Credwyd bod yr hybiau yn hynod boblogaidd, rhoddwyd enghraifft o bobl yn ciwio yn Nolgellau i weld y Swyddog Ynni. Teimlwyd ei bod yn rhwydd cael mynediad at y gwasanaeth a canmolwyd y gwaith sydd wedi digwydd ar sefydlu’r hybiau cymunedol.

¾   Credwyd bod yr hybiau yn gwneud mynediad at wasanaethau’r Cyngor yn rhwyddach gan sicrhau bod pobl yn y gymuned yn cael y wybodaeth a’r gefnogaeth maent ei angen.

¾   Diolchwyd am yr adroddiad gan groesawu’r Rhaglen, yn enwedig o ystyried yr heriau sydd yn wynebu trigolion yn y gymuned yn sgil yr argyfwng costau byw.

¾   Broliwyd y cyfeiriad at gefnogi grwpiau cymunedol i sefydlu Hybiau Cefnogi Pobl a’r ymwybyddiaeth leol sydd ynghlwm a hyn, croesawyd ymestyn y math yma o ddarpariaeth.

¾   Gwnaethpwyd sylw ei bod yn bwysig cofio am y plant a’r bobl ifanc yn y cymunedau a cheisio eu denu a’u cynnwys gan gofio am eu hanghenion. Credwyd y gallai’r Hybiau helpu efo darparu rhywle i’r plant a’r bobl ifanc gyfarfod ar ôl Ysgol.

¾   Mynegwyd balchder yn y cyd-weithio gyda rhanddeiliaid eraill a bod hyn yn gam ymlaen. Tynnwyd sylw at frolio diweddar gan asiantaeth allanol ar waith yr Adran Gyllid yn benodol yn ymwneud â’r gwaith Treth Cyngor a’n cydweithio efo trigolion y Sir. Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid a’r Swyddogion am eu gwaith. Ategwyd bod y ganmoliaeth i’r Adran Gyllid yn uchel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Catrin Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd