skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Rob Triggs (Cyngor Gwynedd) a’r Cynghorydd Louise Hughes (Cyngor Gwynedd) yn ogystal â Daniel A Cartwright (Harbwrfeistr Abermaw), Arthur F Jones (Uwch Swyddog Harbyrau) a Mark James (Cymdeithas y Bad Achub).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 260 KB

I gadarnhau cofnodion Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Bermo a gynhaliwyd ar 8fed Tachwedd, 2022.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022, fel rhai cywir.

 

4.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 199 KB

I ystyried

a) adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau

b) adroddiad gan yr Harbwrfeistr   

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod, a nodwyd bod nifer yn mynychu am y tro cyntaf, a chymerwyd y cyfle i bawb gyflwyno eu hunain.  Yn ychwanegol, nodwyd bod nifer i ffwrdd yn sâl a chytunwyd i ddanfon neges i ddymuno gwellhad buan iddynt.

 

Yn sgil absenoldeb salwch yr Uwch Swyddog Harbyrau, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol.  Cymerodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol y cyfle i atgoffa y Pwyllgor bod Barry Davies, y cyn-Reolwr Gwasanaeth Morwrol yn ymddeol ar y 31/3/23 ar ôl 27 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor.  Diolchwyd yn fawr i Barry Davies am ei waith a’i arweiniad. 

 

Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod

Cadarnhawyd bod gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud ar yr angorfeydd ‘trots’ a bod cyflwr yr offer yn dderbyniol.  Mae Contractwr Angori Lleol wedi cadarnhau bod 2 allan o 3 angorfa ymwelwyr wedi eu codi oherwydd eu bod yn sefyll ar fanc tywod ond bod y contractwr wedi cael trafferth gyda chodi yr angoraf agosaf at y bont rheilffordd.

 

Mae y drefn o gofrestru badau pŵer ar-lein yn weithredol erbyn hyn, sydd o gymorth mawr gyda rheoliadau GDPR.  Cadarnhawyd bod y problemau cychwynnol wedi eu datrys a’r drefn yn gyffredinol yn gweithio yn esmwyth.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

Cyfeiriwyd at y Ddeddf Newydd ar gyfer Badau Pŵer sydd yn weithredol o 31/3/23 sef y 'Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023', gan nodi bod angen arweiniad pellach, er bod cyfarfod cychwynnol gyda’r Heddlu wedi cymryd lle.

 

Cadarnhawyd bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn arwain ar y Cod Diogelwch, a bod gwaith gwella wedi ei wneud i sicrhau bod yr Harbwr mor ddiogel â phosib, mewn cydweithrediad a Chapten Matt Forbes, Harbwrfeistr Conwy.

 

Materion Staffio

Adroddwyd bod Kane A Triggs wedi ei benodi yn Harbwrfeistr Cynorthwyol ac fe’i croesawyd i’w gyfarfod cyntaf.  Cadarnhawyd y bwriad i benodi pum swyddog traeth, gyda dau o’r rhain yn cychwyn cyn y Sulgwyn, ac y bydd swyddogion yn parhau gyda y gwaith cynnal a chadw, ond nad oedd bwriad cyflogi rhagor yn yr Harbwr.

 

Gwahoddwyd Aelodau i gynnig sylwadau ar yr uchod, a nodwyd fel a ganlyn :

 

Mae y sustem cofrestru ar-lein yn weithredol ac unrhyw bryderon wedi eu datrys.

 

Mae cais wedi dod i Swyddogion Traeth Tymhorol dderbyn hyfforddiant cymorth cyntaf gwell.  Ymhelaethwyd nad oedd amser i hyfforddi yn ddigonol flwyddyn ddiwethaf, er cyn y cyfnod Covid roedd cymorth cyntaf uwch yn rhan o’r anwytho, ac mae hwn yn rhywbeth sydd wedi llithro, ond bod bwriad trefnu hyfforddiant flwyddyn yma.  Nodwyd bod yr Heddlu a Chymdeithas y Bad Achub hefyd wedi codi yr un pwynt.  Adroddwyd bod cydweithredu da ar y traethau gyda Gwylwyr y Glannau, y Bad Achub a’r Heddlu a bod pawb yn werthfawrogol o’i gilydd.  Atgyfnerthodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned y sylw am y newid mewn Deddfwriaeth ar gyfer Badau Dwr personol, yn enwedig y pryder nad oeddynt yn disgyn i’r categori cychod, a chadarnhaodd eu bod yn parhau i ddisgwyl canllawiau ac y bydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

I ystyried materion ar gais yr Aelodau

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar y 24ain o Hydref, 2023

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 24ain Hydref, 2023

 

Dechreuodd y cyfarfod am 3:00yh a daeth i ben am 4:05yh

 

_____________________________________________

(Cadeirydd)