Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 130 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2023, fel rhai cywir.

 

5.

CYFANSODDIAD CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG RHANBARTH Y GOGLEDD pdf eicon PDF 501 KB

Adroddiad i’w gyflwyno gan Iwan G.D. Evans, Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Mabwysiadu y canlynol i’r cynnwys yn y Cyfansoddiad:

 

·       Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig

·       Cylch Gorchwyl Is Bwyllgor Safonau

·       Rheoliadau Cytundebau a Materion Cyfreithiol

·       Rheolau Gweithdrefn Contractau

 

2.    Dirprwyo hawl i’w Swyddog Monitro wneud newidiadau golygyddol i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer eu cyhoeddi.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Mabwysiadu y canlynol i’r cynnwys yn y Cyfansoddiad:

 

·         Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig

·         Cylch Gorchwyl Is Bwyllgor Safonau

·         Rheoliadau Cytundebau a Materion Cyfreithiol

·         Rheolau Gweithdrefn Contractau

 

2.    Dirprwyo hawl i’w Swyddog Monitro wneud newidiadau golygyddol i’r Rheolau Sefydlog ar gyfer eu cyhoeddi.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau bod angen cyhoeddi cyfansoddiad er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Cyd Bwyllgorau Corfforaethol (Cyffredinol) (Cymru) 2022 a Deddf Llywodraeth Leol 2000. Nodwyd bod angen sicrhau holl ddogfennaeth er mwyn sicrhau sylfaen i briodoldeb prosesau.

 

Manyliwyd ar bedair elfen o’r cyfansoddiad sef:

 

Côd Ymddygiad Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig

Cyflwynwyd y Côd ymddygiad statudol heb addasiadau. Cadarnhawyd byddai modd diwygio’r côd hwn yn y dyfodol drwy sefydlu a chynnal Pwyllgor Safonau i’r Cydbwyllgor Corfforedig.

 

Cylch Gorchwyl Is Bwyllgor Safonau

Nodwyd ei fod yn synhwyrol i aelodaeth Is-bwyllgor Safonau’r Cydbwyllgor Corfforedig gael eu hethol o’r aelodau presennol ar bwyllgorau safonau awdurdodau lleol rhanbarth y gogledd a Parc Cenedlaethol Eryri. Eglurwyd byddai hyn yn lleihau baich hyfforddi. Cynigiwyd byddai’r Pwyllgor Safonau yn cynnwys 7 aelod - un o Parc Cenedlaethol Eryri ac un o bob awdurdod lleol sy’n rhan o’r Cyd-Bwyllgor.

 

Rheoliadau Cytundebau a Materion Cyfreithiol

Eglurwyd byddai’r rheoliadau hyn yn cadarnhau sut bydd cytundebau yn cael eu arwyddo a phwy bydd gan yr hawliau i wneud hynny.

 

Rheolau Gweithdrefn Contractau

Awgrymwyd mabwysiadu fframwaith Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd a gellir adolygu’r rheolau er mwyn bod yn benodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn y dyfodol.

 

6.

ADRODDIAD ALLDRO A FFURFLEN FLYNYDDOL 2022/23 pdf eicon PDF 516 KB

Adroddiad i’w gyflwyno gan Dewi A.Morgan, Pennaeth Cyllid y CBC (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y CBC.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

2.    Cael cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r tanwariant yn 2022/23 gael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

3.    Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023. Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Adran 151 a’r Dirprwy Swyddog Adran 151.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Nodi a derbyn gwir wariant ac incwm y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

2.    Cael cymeradwyaeth y Cyd-Bwyllgor Corfforedig i’r tanwariant yn 2022/23 gael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi ar gyfer ariannu costau unwaith ac am byth yn y dyfodol.

3.    Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Swyddogol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig ar gyfer 2022/23 (amodol ar Archwiliad Allanol), yn unol â’r amserlen statudol, sef 31 Mai 2023. Mae wedi’i gwblhau a’i ardystio’n briodol gan Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd fel Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (Atodiad 2).

 

TRAFODAETH

 

Cadarnhawyd bod yr adroddiad alldro yn cadarnhau gwariant a balansau’r Cyd-Bwyllgor yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Eglurwyd bod tanwariant o £238,098 yng nghyllideb y Cyd-Bwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23. Nodwyd bod tanwariant ym mhob agwedd o wariant y Cyd-Bwyllgor gan eithrio Cefnogaeth Gwasanaethau Cyllid a Chyfreithiol (gan gynnwys y Swyddog Monitro).

 

Eglurwyd bod amcangyfrif 2022 o boblogaethau’r awdurdodau lleol wedi eu defnyddio yn hytrach na chanlyniadau’r cyfrifiad gan mai dyna oedd wedi ei gytuno wrth osod y gyllideb wreiddiol.  Eglurwyd fod ffigyrau poblogaeth gwahanol yn cael eu defnyddio ar gyfer Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy i ddyrannu costau’r swyddogaethau cynllunio o’i gymharu â’r holl gostau eraill, gan fod y costau cynllunio yn cael eu dyrannu i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer y boblogaeth sy’n byw o fewn ffiniau’r Parc yn hytrach nag i’r cynghorau.