Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
1. Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r
Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a
Pheirianneg Menter gan adlewyrchu'r ceisiadau newid a gymeradwywyd yn y cam
Achos Busnes Amlinellol ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro, i gytuno
ac ymrwymo i gytundeb ariannu gyda Phrifysgol Wrecsam er mwyn cyflawni'r
prosiect, ar y sail fod Prifysgol Wrecsam yn rhoi sylw i'r materion sy'n
weddill fel y nodir yn adran 7 o'r adroddiad.
2. Bod y Bwrdd yn nodi y bydd
camau diweddarach y prosiect yn amodol ar Brifysgol Wrecsam yn cynhyrchu Achos
Cyfiawnhad Busnes ar gyfer pob cyfnod gwariant.
3. Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r
Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, y Swyddog Adran 151
a'r Swyddog Monitro, awdurdod i gymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes dilynol o
fewn sgôp yr Achos Busnes Llawn ar gyfer cyfnodau diweddarach y prosiect lle
mae gwariant a buddion yn unol â'r Achos Busnes Llawn a gyflwynir.
Dyddiad cyhoeddi: 17/11/2023
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2023 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru